Datganiad i'r wasg

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn galw ar fyfyrwyr i baratoi ar gyfer taliad

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn galw ar fyfyrwyr i baratoi ar gyfer taliad

Yn yr wythnosau i ddod, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dosbarthu oddeutu £2filiwn o gyllid cynhaliaeth i tua 1 miliwn o fyfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig – yn eu cefnogi i gael mynediad at gyfleoedd mewn addysg uwch a phellach.

Gyda’r flwyddyn academaidd nesaf ar fin cychwyn, mae SLC yn annog myfyrwyr i fod yn barod ar gyfer y taliad cyntaf trwy ddilyn ein hawgrymau da.

  1. Cofrestrwch yn eich coleg neu brifysgol – gyda rhai prifysgolion neu golegau, gall myfyrwyr gofrestru o flaen llaw i dderbyn taliadau ar ddiwrnod swyddogol cyntaf eu cwrs. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr ddilyn y canllawiau cofrestru a ddarparwyd gan eu darparwr addysg. Nes bydd myfyrwyr yn cofrestru, ni fyddant yn derbyn unrhyw daliad a gall gymryd tri i bum niwrnod i daliadau gyrraedd cyfrif myfyriwr unwaith y bydd wedi cofrestru. Dylai myfyrwyr sicrhau bod ganddynt arian i dalu am unrhyw gostau cychwynnol.

  2. Peidiwch â phoeni os ydych chi’n mynd i fod yn astudio ar-lein i gychwyn oherwydd y pandemig COVID-19 – bydd rhai myfyrwyr yn astudio gartref yn hytrach nag mewn dosbarthiadau. Byddant yn dal i gael eu talu fel arfer ar yr amod eu bod wedi cofrestru ar gyfer eu cwrs. Gweler awgrym 1.

  3. Dywedwch wrthym os yw’ch trefniadau byw yn ystod y tymor wedi newid – Os yw myfyrwyr wedi newid eu cynlluniau o ran ble byddant yn byw yn ystod y tymor – er enghraifft, byddant yn byw gyda rhieni yn hytrach na symud i ffwrdd – rhaid iddynt ddiweddaru eu cais yn eu cyfrif ar-lein. Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr oedd yn bwriadu astudio dramor ond a fydd nawr yn dysgu ar-lein. Gallai methiant i wneud hyn achosi i’r myfyriwr dderbyn gordaliadau. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ad-dalu unrhyw gyllid sydd wedi ei ordalu a gallai effeithio ar eu cyllid mewn blynyddoedd i ddod.

  4. Gwiriwch gyda’ch darparwr i sicrhau nad yw dyddiad cychwyn eich cwrs wedi newid – Mae eich taliad Benthyciad Cynhaliaeth yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn eich cwrs, felly os bydd hynny’n newid bydd dyddiad eich taliad cyntaf yn newid hefyd. Os oes amheuon gennych, gwiriwch gyda’ch prifysgol neu goleg.

  5. Sicrhewch eich bod wedi darparu manylion banc cyfredol – yn aml pan fydd myfyriwr yn mynd i’r coleg neu brifysgol bydd yn agor cyfrif banc newydd. Mae’n bwysig bod y myfyriwr yn diweddaru ei gyfrif cyllid i fyfyrwyr ar-lein gyda’r manylion newydd i sicrhau bod ei arian yn mynd i’r man cywir.

  6. Darparwch unrhyw dystiolaeth y gofynnwyd amdani cyn gynted â phosibl – efallai y gofynnir i rieni, gofalwyr a phartneriaid i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ariannol hefyd. Dylent wneud hyn trwy eu cyfrif ar-lein eu hunain y gellir ei sefydlu ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Mae modd lanlwytho’r rhan fwyaf o dystiolaeth ar-lein trwy wasanaeth lanlwytho digidol newydd SLC sydd hefyd ar gael trwy eu cyfrif ar-lein.

  7. Gwiriwch statws eich taliadau. Gall myfyrwyr weld eu hamserlen taliadau a gwirio statws eu taliadau trwy eu cyfrifon ar-lein. Cymrwch olwg ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/taliad i weld esboniad o beth mae pob un o’r statysau taliadau yn ei olygu.

  8. Dywedwch wrthym os yw incwm eich rhiant, gofalwr neu bartner wedi newid. Os yw myfyriwr wedi gwneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm y cartref, byddai wedi gorfod darparu manylion ar gyfer blwyddyn dreth 2018-19. Os yw incwm blynyddol y cartref wedi gostwng o fwy na 15%, gall wneud cais i ddefnyddio ei incwm a amcangyfrifir ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol yn hytrach. Dysgwch fwy am gefnogi cais eich plentyn neu bartnerwww.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/rhieni-a-phartneriaid/sut-mae-incwm-cartref-yn-effeithio-ar-gais

  9. Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os ydych chi’n bwriadu atal neu dynnu allan o’ch astudiaethau Os bydd myfyriwr yn bwriadu gadael neu atal ei gwrs, mae’n bwysig ystyried yr effaith ar eu hanghenion cyllid. Dylai siarad gyda’i brifysgol neu goleg a rhoi gwybod i SLC am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl. Cewch ragor o wybodaeth yma www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/gordaliadau-grant-a-benthyciad

Gallwn helpu gydag ymholiadau trwy gyfryngau cymdeithasol, felly dilynwch Gyllid Myfyrwyr Cymru ar Twitter @SF_Wales a Facebook www.facebook.com/SFWales

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau SLC Derek Ross: “Mae hyn yn gyfnod prysur i fyfyrwyr wrth iddynt baratoi i gychwyn neu ddychwelyd i’w prifysgol neu goleg. Rydyn ni’n gwneud popeth posibl i sicrhau bod y broses taliadau mor esmwyth â phosibl i fyfyrwyr, a gallant wneud eu rhan trwy ddilyn ein cyngor. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd gan rai myfyrwyr newidiadau i’w gwneud i’w cwrs, prifysgol neu goleg o hyd, ac mae’n allweddol eu bod yn diweddaru eu gwybodaeth ar-lein cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau’r tymor.

“Mae ein canolfannau cyswllt ar agor yn ddyddiol ac mae yna hefyd lawer o wybodaeth ar gael ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/taliad ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i helpu myfyrwyr, a’u rhieni a phartneriaid, i baratoi ar gyfer taliad yn yr hydref.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar 0141 306 2120 / press_office@slc.co.uk

Cyhoeddwyd ar 1 September 2020