Datganiad i'r wasg

SLC yn lansio gwasanaeth rhan-amser ac ôl-raddedig yng Nghymru

Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) wedi lansio ei wasanaeth ymgeisio ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a rhan-amser ar gyfer y flwyddyn academaidd 22/23.

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) wedi lansio ei wasanaeth ymgeisio ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a rhan-amser ar gyfer y flwyddyn academaidd 22/23.

A’r neges i fyfyrwyr yw cael eu ceisiadau i mewn yn gynnar er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau’r tymor.

Gall myfyrwyr Gradd Meistr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser yng Nghymru wneud cais am gyfuniad o fenthyciadau a grantiau i helpu gyda’u cwrs a’u costau byw. Gall myfyrwyr Doethuriaeth Ôl-raddedig ymgeisio am gymorth gyda’u ffioedd dysgu a chostau byw. Gallant wneud cais ar-lein nawr, hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau ar gwrs.

Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau SLC: “Mae SLC yn bodoli i gefnogi pobl i fuddsoddi yn eu dyfodol trwy addysg bellach ac uwch trwy ddarparu gwasanaethau ariannol i fyfyrwyr y gellir ymddiried ynddynt, sy’n dryloyw, yn hyblyg ac yn hygyrch. Mae’n garreg filltir bwysig yn ein sefydliad wrth i ni lansio’r gwasanaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser ac ôl-raddedig. Gwyddom y bydd llawer o fyfyrwyr wedi bod yn aros i hyn ddigwydd ac rydym am annog myfyrwyr i gael eu ceisiadau’n gynnar fel y gallant ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd gyda chyllid yn ei le.”

Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig ymgeisio yw ar-lein ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr/ Gall ceisiadau gymryd chwech i wyth wythnos i’w prosesu ac fe gysylltir â myfyrwyr os bydd angen unrhyw wybodaeth atodol.

Ychwanegodd Chris:

“Rydym yn gwybod y bydd y misoedd nesaf yn gyfnod cyffrous ond prysur i fyfyrwyr, wrth iddynt baratoi ar gyfer tymor yr Hydref. P’un a ydynt yn bwriadu astudio’n rhan-amser, neu’n cychwyn ar gwrs ôl-raddedig, bydd gwneud cais am gyllid myfyrwyr nawr yn rhoi’r blaen iddynt wrth iddynt ddechrau dod yn drefnus ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae’n gyflym ac yn hawdd i’w wneud ac ar ôl iddynt gyflwyno eu cais gallant ymlacio – byddwn yn cysylltu â nhw os oes unrhyw beth arall sydd ei angen arnom.”

I helpu myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig gyda’u ceisiadau am gyllid, mae SLC wedi cynhyrchu’r ffeithiau allweddol canlynol:

Ffeithiau allweddol am Gyllid i Fyfyrwyr Rhan-amser

  • Gall myfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais am gyfuniad o fenthyciadau a grantiau i helpu gyda’u cwrs a’u costau byw. Nid yw myfyrwyr rhan-amser sy’n dysgu o bell yn gymwys i dderbyn Benthyciadau Cynhaliaeth oni bai na allant fynychu eu cwrs yn bersonol oherwydd anabledd.
  • Mae eich hawl i gyllid i fyfyrwyr yn seiliedig ar eich dwyster astudio – nid incwm eich cartref. Fyddai incwm eich cartref ddim ond yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r gyfradd o faint o Fenthyciad Cynhaliaeth a faint o grant sy’n llunio’ch hawl.
  • Mae angen i chi ailymgeisio am gyllid ar gyfer pob blwyddyn o’ch cwrs.
  • Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad y mis Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs, neu’r mis Ebrill bedair blynedd wedi cychwyn eich cwrs (hyd yn oed os ydych chi’n dal i astudio), pa bynnag un sy’n dod gyntaf. Rydych yn ad-dalu 9% o’r hyn rydych yn ei ennill dros y trothwy ad-dalu.
  • Gwyliwch ein ffilm fer am ragor o wybodaeth ar gyllid rhan-amser.

https://youtu.be/b_g6eXqc0L0

Ffeithiau allweddol am gyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig * Mae cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig yn gyfuniad o fenthyciadau a grantiau. Mae faint o grant a benthyciad allwch chi ei gael wedi ei bennu gan incwm eich aelwyd. * Mae gan bob myfyriwr cymwys hawl i grant o £1000 neu fwy nad oes rhaid ei dalu’n ôl. * Does dim ond angen i chi ymgeisio am gyllid gradd meistr ôl-raddedig unwaith, hyd yn oed os yw eich cwrs yn hirach na blwyddyn. Bydd eich cyllid yn cael ei ddyrannu’n gyfartal dros bob blwyddyn astudio. * Byddwch yn dechrau ad-dalu eich cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig yn y mis Ebrill wedi i chi orffen eich cwrs, ond dim ond os yw eich incwm dros y trothwy ad-dalu. Rydych yn ad-dalu 6% o’r hyn rydych yn ei ennill dros y trothwy ad-dalu. Os oes gennych chi fenthyciadau myfyriwr, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd. * Efallai y bydd help ychwanegol ar gael os oes gennych anabledd. * Gwyliwch ein ffilm fer i gael gwybod mwy am gyllid Meistr Ôl-raddedig.

https://youtu.be/DtN_d3HAoDA

Ffeithiau allweddol am y Benthyciad Gradd Doethuriaeth Ôl-raddedig * Gallwch gael cyllid i helpu gyda ffioedd cwrs a chostau byw, * Nid yw Benthyciadau Doethuriaeth Ôl-raddedig yn seiliedig ar incwm eich cartref. * Does dim ond angen i chi ymgeisio am Fenthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig unwaith, hyd yn oed os yw eich cwrs yn hirach na blwyddyn. Bydd eich cyllid yn cael ei ddyrannu’n gyfartal dros bob blwyddyn astudio. * Byddwch yn dechrau ad-dalu eich Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig yn y mis Ebrill wedi i chi orffen, ond dim ond os yw eich incwm dros y trothwy ad-dalu. Dim ond 6% o’r hyn fyddwch chi’n ennill dros y trothwy ad-daliad fyddwch chi’n ad-dalu, sef £21,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Os oes gennych chi fenthyciadau myfyriwr, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd. * Efallai y bydd help ychwanegol ar gael os oes gennych anabledd. * Gwyliwch ein ffilm fer i gael gwybod mwy am Gyllid Doethuriaeth Ôl-raddedig.

https://youtu.be/ZFNRNGerpT8

Gall myfyrwyr ôl-raddedig a rhan-amser hefyd gadw’n gyfredol ynghylch yr holl wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook and Twitter.

Cyhoeddwyd ar 12 May 2022