Stori newyddion

SLC yn lansio gwasanaeth ymgeisio ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig

Gwahodd myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr

Mae myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr, wrth i’r gwasanaeth ymgeisio lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 23/24.

Talodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) dros 1.5 miliwn o fyfyrwyr dros £22bn mewn benthyciadau cynhaliaeth, grantiau a ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf a gwblhawyd (21/22). Wrth i fyfyrwyr ddechrau paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, y neges gan SLC yw cyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl, fel y bydd eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau’r tymor.

Gall myfyrwyr ôl-raddedig wneud cais am Fenthyciad Meistr Ôl-raddedig a grant neu Fenthyciad Doethurol Ôl-raddedig yn dibynnu ar y math o gymhwyster y byddant yn astudio ar ei gyfer. Nid oes angen i ddarpar fyfyrwyr gael lle wedi’i gadarnhau ar gwrs mewn prifysgol neu goleg i wneud eu cais, oherwydd gellir diweddaru manylion y cwrs wrth i fanylion y cwrs gael eu cadarnhau.

Dywedodd Jackie Currie, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gweithrediadau SLC: “Mae penderfynu astudio ymlaen i addysg ôl-raddedig yn benderfyniad mawr i bob darpar fyfyriwr ac mae llawer i’w drefnu a’i reoli cyn i’w cwrs ddechrau. Bydd llawer o fyfyrwyr sy’n dilyn astudiaethau ôl-raddedig eisoes yn gyfarwydd â sut i wneud cais am gyllid myfyrwyr a fy neges iddynt yw gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu ceisiadau cyllid i mewn cyn gynted â phosibl. Mae hynny’n golygu y gallwn sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer cam nesaf eu taith academaidd.” Uchafswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer cwrs meistr yw £18,880 sy’n cynnwys benthyciad o £11,885 a grant o £6,885. Gall y myfyrwyr hynny sy’n astudio cymhwyster Doethurol ôl-raddedig wneud cais am fenthyciad o £23,395.

Mae hawliau benthyciad yn dibynnu ar amgylchiadau myfyrwyr unigol, oherwydd gall cyrsiau ôl-raddedig amrywio o ran hyd a gellir eu hastudio’n rhan amser hefyd. Os yw’r cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd y benthyciad yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws pob blwyddyn o’ch cwrs.

Gall darpar fyfyrwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn: - https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-ol-raddedig/meistr/ - https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-ol-raddedig/doethurol/

Yn wahanol i fenthyciadau ar gyfer addysg uwch, dim ond unwaith y mae angen i fyfyrwyr ôl-raddedig wneud cais am gyllid myfyrwyr ac nid oes angen iddynt gyflwyno cais am bob blwyddyn o’u cwrs.

Esboniad o gyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig

Esbonio Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig

Cyhoeddwyd ar 27 April 2023