Datganiad i'r wasg

SLC yn gwahodd myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn gofyn i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig yng Nghymru i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr.

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn gofyn i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig yng Nghymru i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr.

Gall myfyrwyr rhan-amser ymgeisio am gyllid i dalu eu ffioedd dysgu ac efallai y bydd rhai myfyrwyr hefyd yn gallu ymgeisio am Fenthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda’u costau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) nad oes rhaid iddynt ei dalu’n ôl.

Gall myfyrwyr ôl-raddedig ymgeisio naill ai am gyllid Meistr Ôl-raddedig neu Fenthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig i’w helpu gyda’u ffioedd dysgu a chostau byw.

Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Gweithrediadau SLC: “Mae’n bleser i mi gael cyhoeddi bod y gwasanaethau ymgeisio ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig bellach ar agor. Fel pob tro, ein cyngor yw ymgeisio’n gynnar i sicrhau bod cyllid yn ei le cyn dechrau’r tymor.”

Y ffordd hawsaf i ymgeisio ar gyfer cyllid rhan-amser neu ôl-raddedig yw ar-lein ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk a gall myfyrwyr wneud hynny nawr hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi ei gadarnhau ar eu cwrs. Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau. Does dim angen i fyfyrwyr gysylltu â SLC yn ystod y cyfnod hwn i wirio statws eu cais. Fe gysylltir â nhw os bydd angen unrhyw wybodaeth atodol.

I helpu myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig gyda’u cais am gyllid, mae SLC wedi cynhyrchu’r ffeithiau allweddol canlynol:

Ffeithiau allweddol am Gyllid i Fyfyrwyr Rhan-amser

  • Gallwch ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallwch hefyd gael GDLlC nad oes rhaid i chi ei ad-dalu.
  • Nid yw myfyrwyr rhan-amser sy’n dysgu o bell yn gymwys i dderbyn Benthyciadau Cynhaliaeth oni bai na allant fynychu eu cwrs yn bersonol oherwydd anabledd.
  • Mae eich hawl i gyllid i fyfyrwyr yn seiliedig ar eich dwyster astudio – nid incwm eich cartref. Fyddai incwm eich cartref ddim ond yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o Fenthyciad Cynhaliaeth a faint o GDLlC sy’n llunio’ch hawl.
  • Mae angen i chi ailymgeisio am gyllid ar gyfer pob blwyddyn o’ch cwrs.
  • Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad y mis Ebrill wedi i chi orffen neu adael eich cwrs, neu’r mis Ebrill bedair blynedd wedi cychwyn eich cwrs (hyd yn oed os ydych chi’n dal i astudio), pa bynnag un sy’n dod gyntaf. Dim ond 9% o’r hyn fyddwch chi’n ennill dros y trothwy ad-daliad fyddwch chi’n ad-dalu, sef £27,295 y flwyddyn ar hyn o bryd.
  • Gwyliwch ein ffilm fer am ragor o wybodaeth ar gyllid rhan-amser.

https://www.youtube.com/watch?v=rjK2dG8Lfnw

Ffeithiau allweddol am gyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig

  • Mae cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig yn gyfuniad o fenthyciadau a grantiau. Mae faint o grant a benthyciad allwch chi ei gael wedi ei bennu gan incwm eich aelwyd.
  • Mae gan bob myfyriwr cymwys hawl i grant o £1000 neu fwy nad oes rhaid ei dalu’n ôl.
  • Does dim ond angen i chi ymgeisio am gyllid gradd meistr ôl-raddedig unwaith, hyd yn oed os yw eich cwrs yn hirach na blwyddyn. Bydd eich cyllid yn cael ei ddyrannu’n gyfartal dros bob blwyddyn astudio.
  • Byddwch yn dechrau ad-dalu eich cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig yn y mis Ebrill wedi i chi orffen eich cwrs, ond dim ond os yw eich incwm dros y trothwy ad-dalu. Dim ond 6% o’r hyn fyddwch chi’n ennill dros y trothwy ad-daliad fyddwch chi’n ad-dalu, sef £21,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Os oes gennych chi fenthyciadau myfyriwr, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd.
  • Efallai y bydd help ychwanegol ar gael os oes gennych anabledd.
  • Gwyliwch ein ffilm fer i gael gwybod mwy am gyllid Meistr Ôl-raddedig.

https://www.youtube.com/watch?v=5M81hca9Pn8

Ffeithiau allweddol am y Benthyciad Gradd Doethuriaeth Ôl-raddedig

  • Gallwch gael cyllid i helpu gyda ffioedd cwrs a chostau byw.
  • Nid yw Benthyciadau Doethuriaeth Ôl-raddedig yn seiliedig ar incwm eich cartref.
  • Does dim ond angen i chi ymgeisio am Fenthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig unwaith, hyd yn oed os yw eich cwrs yn hirach na blwyddyn. Bydd eich cyllid yn cael ei ddyrannu’n gyfartal dros bob blwyddyn astudio.
  • Byddwch yn dechrau ad-dalu eich Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig yn y mis Ebrill wedi i chi orffen, ond dim ond os yw eich incwm dros y trothwy ad-dalu. Dim ond 6% o’r hyn fyddwch chi’n ennill dros y trothwy ad-daliad fyddwch chi’n ad-dalu, sef £21,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Os oes gennych chi fenthyciadau myfyriwr, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd.
  • Efallai y bydd help ychwanegol ar gael os oes gennych anabledd.
  • Gwyliwch ein ffilm fer i gael gwybod mwy am Gyllid Doethuriaeth Ôl-raddedig.

https://www.youtube.com/watch?v=xs18MKjLOLY

Gall myfyrwyr ôl-raddedig a rhan-amser hefyd gadw’n gyfredol ynghylch yr holl wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Cyhoeddwyd ar 1 July 2021