Diweddariadau a Fersiynau Swyddogaethau ar gyfer Porth Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD)
Mae’r ffenestri diweddaraf i gofrestru ar gyfer RPD a chyflwyno gwybodaeth iddo wedi agor ac mae gwell swyddogaethau a chanllawiau ar gyfer y porth digidol wedi'u rhyddhau cyn y dyddiadau cau allweddol.

I helpu’r cynhyrchwyr sydd o dan rwymedigaeth i gyflwyno data a chydymffurfio â’r gofynion, mae nifer o ddiweddariadau arwyddocaol a swyddogaethau newydd yng ngwasanaeth digidol yr EPR dros becynwaith yn fyw erbyn hyn ac ar gael i’w defnyddio trwy’r porth Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD).
Beth mae hyn yn ei olygu i’r cynhyrchwyr
Mae’r diweddariadau hyn yn darparu offer gwell i’r cynhyrchwyr i fodloni gofynion rheoleiddio, paratoi ar gyfer y cyflwyniadau data sydd i ddod, a sicrhau dealltwriaeth a goruchwyliaeth gliriach ar eu rhwymedigaethau o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.
Mae porth digidol gwell yr RDP yn cynnig llwyfan canolog a symlach i’r cynhyrchwyr i reoli pob agwedd ar eu cydymffurfiaeth â gofynion pEPR.
Mae’n ofynnol i bob cynhyrchydd sydd o dan rwymedigaeth (gan gynnwys marchnadoedd ar-lein a chynlluniau cydymffurfio sy’n gweithredu ar eu rhan) greu cyfrif ar RPD, cofrestru eu sefydliad a chyflwyno data pecynwaith gan ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau a ddiffinnir fel bach a mawr o dan reoliadau pEPR. Mae canllawiau ar ddosbarthu sefydliadau bach a mawr ar gael ar GOV.UK.
Amserlenni ar gyfer rhoi gwybod a dyddiadau allweddol
Mae’r amserlenni ar gyfer rhoi gwybod am ddata i gynhyrchwyr bach a mawr yn amrywio. Rhaid i gynhyrchwyr mawr gyflwyno’u data pecynwaith nhw ar gyfer hanner cyntaf 2025 (1 Ionawr i 30 Mehefin) erbyn 1 Hydref 2025. Does dim gofyn i gynhyrchwyr bach gofrestru a chyflwyno data erbyn 1 Hydref, ond mae’n rhaid iddyn nhw gyflwyno’u data pecynwaith ar gyfer blwyddyn lawn 2025 (1 Ionawr i 31 Rhagfyr) erbyn 1 Ebrill 2026.
Diweddariadau newydd i borth yr RPD
Mae’r diweddariadau diweddaraf yn cyflwyno sawl nodwedd allweddol sydd wedi’u bwriadu i wella defnyddioldeb a rheoli cydymffurfiaeth:
-
Ffenestr Cyflwyno Data Hanner Cyntaf 2025 yn agored. Mae’n ofynnol i gynhyrchwyr mawr sydd o dan rwymedigaeth o dan y cynllun pEPR gyflwyno’u data pecynwaith nhw ar gyfer hanner cyntaf 2025 (1 Ionawr i 30 Mehefin). Rhaid i’r data ar gyfer y cyfnod adrodd hwn gael ei gyflwyno erbyn 1 Hydref 2025.
-
Gallu Cofrestru 2026. Mae cofrestru ar gyfer blwyddyn gydymffurfio 2026 bellach yn agored i gynhyrchwyr ac unrhyw gynlluniau cydymffurfio sy’n gweithredu ar eu rhan i’w galluogi i baratoi’n gynnar ar gyfer rhwymedigaethau yn y dyfodol i roi gwybod am ddata.
-
Modiwl Is-gwmnïau wedi’i ddiweddaru. Erbyn hyn, mae sefydliadau sydd â strwythurau corfforaethol cymhleth yn gallu rheoli’r broses o roi gwybod am ddata ar draws nifer o endidau yn fwy effeithiol drwy ddefnyddio’r modiwl is-gwmnïau gwell.
- Cyflwyno Data Asesiadau Ailgylchadwyedd. Erbyn hyn mae’r cynhyrchwyr yn gallu cyflwyno data asesiadau ailgylchadwyedd yn uniongyrchol drwy’r porth, gan symleiddio’r broses asesu ac adrodd ac ategu’r gofynion a amlinellir yn y Datganiad o’r Sefyllfa Reoleiddiol a gyhoeddwyd gan y rheoleiddwyr amgylcheddol.
- Codau ymuno/ymadael newydd. Mae’r codau hyn (01-17) wedi disodli’r system A-Q yn y ffeil gofrestru, gan wneud newidiadau cofrestru ar ganol y flwyddyn yn haws i’w hadrodd.
- Cofrestrau cyhoeddus. Mae modd cyrchu’r rhain i chwilio am gynhyrchwyr a chynlluniau cydymffurfio cofrestredig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/guidance/find-large-producers-on-the-report-packaging-data-service. Sylwch: dyw’r gofrestr sancsiynau sifil ddim ar gael eto a chaiff ei chyhoeddi maes o law.
-
Rhwymedigaethau ailgylchu. Mae’r gyfrifiannell rhwymedigaethau ailgylchu ar gyfer blwyddyn berthnasol 2025 bellach ar gael i’w gweld. Argymhellir y dylai’r defnyddwyr wirio’u cyfrifiadau gan ddefnyddio’r canllawiau a ddyroddir gan y rheoleiddwyr.
-
Canllawiau ac adnoddau ategol. Mae’r canllawiau a’r adnoddau dysgu canlynol ar gael ar GOV.UK i alluogi’r cynhyrchwyr i lywio’n llwyddiannus drwy’r rhwymedigaethau ynglŷn â rhoi gwybod am ddata o dan pEPR, proses gyflwyno RPD a’r porth diwygiedig:
- Mae modd gweld fideo cyfarwyddyd hefyd i arwain y defnyddwyr trwy gasglu, uwchlwytho a chyflwyno data
Y Camau Nesaf
Anogir pob cynhyrchydd sydd o dan rwymedigaeth i ymgyfarwyddo â nodweddion swyddogaethau newydd y porth gwell a dechrau paratoi cyflwyniadau data hanner cyntaf 2025 ymhell cyn y dyddiad cau, sef 1 Hydref.
Mae arlwy a gwelliannau diweddaraf gwasanaeth digidol EPR, ochr yn ochr ag agor y ffenestri diweddaraf i roi gwybod am ddata a chofrestru, yn eiliad allweddol arall wrth roi pEPR ar waith a symud y diwydiant at brosesau rheoleiddio newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun ar waith.
Mae PecynUK yn benderfynol o hyd o ddarparu system sy’n gost-effeithiol, yn helpu ailgylchu a gwaredu effeithlon, ac yn hybu arferion pecynwaith cynaliadwy. Gan hynny, mae cydymffurfiaeth y cynhyrchwyr wrth ddarparu cyflwyniadau data amserol a chywir yn hanfodol i gyflawni hyn.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am roi gwybod am ddata a chofrestru ar GOV.UK.