Stori newyddion

Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) v1.1

Diweddariad gan PecynUK – Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) v1.1 Nawr ar gael ar Gov.uk

Mae fersiwn wedi’i diweddaru o Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith (pEPR), y cyfeirir ati fel v1.1, wedi cael eu cyhoeddi ar GOV.UK

Mae RAM v1.1 wedi’i greu yn sgil adborth gan y diwydiant ar RAM v1, a gyhoeddwyd ar 23 Rhagfyr 2024. 

Symleiddio wedi’i lywio gan y gadwyn werth 

Cynhaliodd PecynUK sbrint symleiddio RAM ym mis Chwefror 2025. Nod y sbrint oedd lleihau cymhlethdod y RAM a chynyddu’r tebygolrwydd y gallai cynhyrchwyr gwblhau asesiadau RAM yn llawn yn 2025. 

Roedd y sbrint yn cynnwys casglu adborth ar fersiwn gyntaf y RAM a chynnig dulliau symleiddio, sydd wedi’u hymgorffori yn y v1.1 sydd newydd ei ryddhau. 

Cafodd y sbrint dderbyniad cadarnhaol gan y diwydiant. Cyfrannodd ystod eang o randdeiliaid amryw o sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer cynnwys v1.1, gan gynnwys adborth wedi’i dargedu gan fanwerthwyr a brandiau sydd â phortffolios mawr a chymhleth o gynhyrchion. 

Cafodd yr awgrymiadau eu croesgyfeirio yn erbyn safonau’r diwydiant a gofynnwyd am adborth technegol gan gymdeithasau deunyddiau’r diwydiant er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb. 

Ar 8 Ebrill 2025, anfonodd PecynUK ddrafft technegol terfynol o RAM v1.1 at gynhyrchwyr pecynwaith. Nod y drafft technegol oedd rhoi cymaint â phosibl o amser ymlaen llaw i’r rhanddeiliaid, gan sicrhau eu bod yn gallu rhoi’r canllawiau ar waith yn 2025. 

Beth mae hyn yn ei olygu

Bydd methodoleg y RAM yn galluogi cynhyrchwyr pecynwaith mawr i asesu ailgylchadwyedd eu pecynwaith cartref a llunio allbwn coch/melyn/gwyrdd a fydd yn llywio lefel y modiwleiddio ar gyfer y ffioedd sy’n daladwy am y deunydd hwnnw o ail flwyddyn pEPR ymlaen. 

Mae’n ofynnol i gynhyrchwyr ddefnyddio’r fethodoleg ar gyfer pecynwaith cartref a roddir ar y farchnad o 1 Ionawr 2025 ymlaen, a’r dyddiad cau cyntaf ar gyfer adroddiadau yw 1 Hydref 2025. 

Dim ond cynhyrchwyr mawr (sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel ‘sefydliadau mawr’) sy’n gorfod rhoi eu data asesu ailgylchadwyedd. Rhagor o wybodaeth am gynhyrchwyr bach a mawr.  

Dim ond os ydych chi’n gyfrifol am becynwaith cartref y mae angen ichi gasglu data asesu ailgylchadwyedd a rhoi gwybod amdano. 

Ymunwch â fforwm rhanddeiliaid yr Economi Cylchol 

Yn fforwm rhanddeiliaid mis Mai, byddwn yn rhoi cyflwyniad ar RAM v1.1. Bydd cyfle hefyd i’r rhanddeiliaid ofyn cwestiynau manwl a rhoi adborth. 

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 6 Mai 2025 

  • Amser: 2:30pm - 4pm

  • Cofrestru: Cofrestrwch ar gyfer y fforwm ar Microsoft Teams Live  

Cyfeiriwch unrhyw gwestiynau am RAM v1.1 at EPRCustomerService@defra.gov.uk

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Ebrill 2025