Pecyn Cymorth Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM)
Mae PecynUK wedi cyhoeddi pecyn o ddeunyddiau cymorth i helpu’r cynhyrchwyr i gwblhau eu hasesiadau RAM.

Mae PecynUK wedi cyhoeddi pecyn cymorth Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM), sydd wedi’i fwriadu i helpu’r cynhyrchwyr ymhellach i gwblhau eu hasesiadau RAM.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys yr adnoddau canlynol:
-
Nodiadau cyfarwyddyd un-tudalen ar RAM ar gyfer deunyddiau
-
Canllawiau Atodol RAM
Mae’r pecyn cymorth wedi’i gyhoeddi fel ymateb uniongyrchol i adborth gwerthfawr gan y diwydiant, ar ôl i’r cynhyrchwyr dynnu sylw at yr angen am gymorth amserol ac ymarferol i hwyluso adroddiadau RAM cywir yn 2025.
Nodiadau cyfarwyddyd un-tudalen ar RAM ar gyfer deunyddiau
Mae nodiadau cyfarwyddyd un-tudalen yn gyfres o gardiau ar ffurf ffeithluniau sy’n crynhoi pob un o’r categorïau deunydd a’u graddfeydd coch, melyn a gwyrdd.
Rydyn ni’n deall y gall dogfennau cyfarwyddyd mawr fod yn anodd i’w prosesu, felly mae’r adnodd yma wedi’i greu i roi gwybodaeth allweddol allan o’r canllawiau RAM mewn ffordd hwylus gan helpu’r cynhyrchwyr i fynd i’r afael â’u hasesiadau RAM yn fwy hyderus.
Mae’r canllawiau un tudalen wedi’u marcio’n glir yn ôl math o ddeunydd, felly gall y cynhyrchwyr sgrolio drwodd yn hawdd i’r graffeg sy’n berthnasol i’w pecynwaith nhw.
Gallwch weld y cardiau ffeithluniau trwy’r tudalen gwe canlynol.
Mae fersiwn o’r graffeg sy’n addas i bobl liwddall ar gael hefyd, i sicrhau ei bod ar gael i bob defnyddiwr.
Canllawiau Atodol RAM
Mae’r Canllawiau Atodol wedi’u bwriadu i helpu’r cynhyrchwyr i gwblhau eu hasesiadau RAM trwy roi gwybodaeth ychwanegol ar elfennau penodol o’r RAM, ynghyd â manylebau technegol ac enghreifftiau ymarferol.
Maen nhw’n ymdrin â manylion am y categorïau o ddeunyddiau yn yr RAM a’r Camau Ailgylchadwyedd, yn ogystal â gwybodaeth am brofion, cydymffurfiaeth, egwyddorion cyffredinol a sut i’w cymhwyso.
Mae’r Canllawiau Atodol bellach ar gael ar GOV.UK
Rhagor o ddiweddariadau ar RAM
Yn ddiweddar, mae PecynUK wedi gwneud newidiadau yn y cylch diweddaru RAM er mwyn helpu’r cynhyrchwyr i lywio drwy’r canllawiau:
-
Cylch Diweddaru - Mae cylch diweddaru’r RAM wedi’i symud o fis Hydref i fis Gorffennaf bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu y bydd y diweddariad nesaf ar RAM yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2026 a bydd yn berthnasol i becynwaith a gyflenwir yn 2027.
-
Confensiwn Enwi - Mae confensiwn enwi’r RAM yn newid i fod yn gyson â’r flwyddyn y mae’r fethodoleg yn gymwys iddi. Felly, bydd yr RAM nesaf yn cael ei alw’n RAM 2027.
-
‘Cyfnod segur’ ar newidiadau ar gyfer 2025 a 2026 - O ganlyniad i’r cylch diweddaru newydd, bydd yna gyfnod segur heb newidiadau ar gyfer blynyddoedd adrodd 2025 a 2026. Bydd hyn yn rhoi amserau arwain hirach i’r diwydiant ddeall a chyflwyno adroddiadau yn erbyn gofynion v1.1. Bydd hefyd yn caniatáu adolygiad cynhwysfawr o v1.1 ac yn caniatáu ymgorffori adborth o brofion y diwydiant, yn ogystal â diweddariadau mewn polisïau a rheoliadau.
-
Newidiadau RAM yn y dyfodol - Bydd PecynUK yn cyhoeddi Map Ffordd o newidiadau RAM yn y dyfodol ym mis Hydref i roi mwy o sicrwydd i fusnesau.