Paratoi ar gyfer Anfonebau Blwyddyn 1 pEPR: Gwybodaeth Allweddol i’r Cynhyrchwyr Atebol
Camau a chanllawiau hanfodol ar gael bellach i helpu cynhyrchwyr i baratoi ar gyfer anfonebau a thaliadau.

Ym mis Hydref 2025, bydd y cynhyrchwyr sy’n atebol o dan gynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hanfonebau cyntaf am y flwyddyn asesu 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. Bydd cyfran cynhyrchydd o’r costau gwaredu yn cael ei chyfrifo ar sail y data pecynwaith a gyflwynwyd ganddyn nhw ar gyfer 2024. I helpu’r cynhyrchwyr i fodloni’r gofynion ynglŷn â pEPR, mae’r camau allweddol a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i baratoi ar gyfer y broses anfonebu a thalu wedi’u hamlinellu isod.
PecynUK, fel Gweinyddwr y Cynllun pEPR sy’n darparu ar ran pedair gwlad y Deyrnas Unedig, sy’n gyfrifol am osod cyfraddau ffioedd EPR ar gyfer deunyddiau pecynwaith cartref, anfonebu a chasglu ffioedd oddi wrth y cynhyrchwyr atebol, a rhoi taliadau i’r awdurdodau lleol i dalu costau rheoli gwastraff pecynwaith cartref.
Trosolwg o’r Broses Dalu: Beth i’w Ddisgwyl
Bydd y cynhyrchwyr atebol yn cael eu hanfoneb flynyddol - y cyfeirir ato hefyd fel Hysbysiad Atebolrwydd (NoL) - ym mis Hydref 2025.
Bydd maint eich atebolrwydd yn cael ei seilio ar y data rydych chi wedi’i gyflwyno, ac yn cael ei gyfrifo ar sail y data a gyflwynwyd gan yr holl gynhyrchwyr hysbys adeg rhoi’r anfoneb. Gall y ffioedd gael eu newid ar ôl ailgyfrifiad ar ddiwedd y flwyddyn pan fydd data ychwanegol wedi’i gyflwyno. Nid pob cynhyrchydd fydd yn cael anfoneb wedi’i diweddaru ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd addasiadau’n gymwys i gynhyrchwyr sy’n ailgyflwyno’u data yn unig a phan fydd yr ailgyflwyniadau yna yn arwain at newidiadau sylweddol yn rhwymedigaeth y cynhyrchydd.
Cyrchu’ch Anfoneb (Hysbysiad Atebolrwydd)
Bydd yr Hysbysiad Atebolrwydd (anfoneb) ar gael drwy’r system Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD) ym mis Hydref 2025.
Ar ôl i’r anfoneb gael ei rhoi, bydd PecynUK yn hysbysu’r Prif Gysylltiadau a’r Defnyddwyr a Gymeradwywyd gan ddweud wrthyn nhw am sut i gyrchu eu hanfoneb. Defnyddwyr a gymeradwywyd yw’r rhai sy’n sefydlu’r cyfrif RPD ac sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol drosto.
Dim ond defnyddwyr RPD a gaiff weinyddu’r cyfrif, lawrlwytho’r anfoneb, a gweld taliadau’r gorffennol. Os oes yna bersonél yn yr adran gyllid a chyfrifon y bydd arnyn nhw angen mynediad ond nad ydyn nhw eisoes yn ddefnyddwyr RPD, bydd angen i Ddefnyddiwr a Gymeradwywyd eu hychwanegu at y cyfrif neu lawrlwytho’r dogfennau perthnasol a’u hanfon ymlaen.
Sylwch mai dim ond gyda’r Prif Gysylltiadau a’r Defnyddwyr a Gymeradwywyd a restrir ar y ffeil RPD y caniateir i’r tîm gwasanaeth cwsmeriaid drafod manylion y cyfrif ac ymholiadau ynglŷn â thalu a hynny am fod system dilysu ar waith i adnabod y galwr.
O ran defnyddwyr sydd heb fewngofnodi i’r system RPD yn ddiweddar, argymhellir eich bod yn mewngofnodi cyn mis Hydref i wirio’ch manylion. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi oedi wrth gyrchu’ch cyfrif.
O ran is-gwmnïau sy’n rhan o gofrestriad grŵp, y cwmni daliannol fydd yn cael yr anfoneb ac sy’n gyfrifol am dalu ar ran ei is-gwmnïau. Bydd is-gwmnïau sydd wedi cofrestru’n annibynnol yn atebol am eu ffioedd eu hunain.
Bydd PecynUK yn darparu rhagor o gyfarwyddiadau manwl am y broses ar-lein erbyn diwedd mis Medi.
Opsiynau a Gofynion Talu
Pan fyddwch chi’n cael yr hysbysiad bod eich anfoneb yn barod, mae’n rhaid naill ai ei thalu’n llawn 50 diwrnod o’r dyddiad y rhoddir yr anfoneb ar y tudalen cyntaf NEU cewch ddewis talu yn unol â’r cynllun talu mewn pedwar rhandaliad y mae’n rhaid ichi ei alluogi eich hunan naill ai drwy sefydlu cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol neu drwy ddewis cynllun talu i’w dalu. Gall methu gwneud hynny arwain at daliadau cosb ac achos cyfreithiol i adennill y ddyled yma. Bydd gordaliadau’n cael eu cadw ar gyfrif ac yn mynd tuag at ffioedd yn y dyfodol.
Gellir gwneud taliad gydag un o’r dulliau canlynol:
- Debyd Uniongyrchol – i’w sefydlu trwy Stripe
- Trosglwyddiad banc – bydd pob cynhyrchydd yn cael rhif cyfrif Stripe rhithwir unigryw (VBAN) i dalu’n uniongyrchol iddo
- Cerdyn credyd – talu â cherdyn drwy ddefnyddio Stripe
- Archeb sefydlog – i’w sefydlu a’i dalu trwy gyfrif banc busnes
Sylwch: Does dim modd derbyn taliadau SWIFT gan nad yw Stripe wedi’i ffurfweddu ar gyfer y dull yma.
Mae taliadau’n cael eu rheoli gan Stripe, Darparwr Gwasanaethau Talu a reoleiddir yn fyd-eang ac sy’n prosesu taliadau electronig yn ddiogel ar ran Defra a PecynUK. Pan fyddwch chi’n gwneud taliad, mae’r arian yn cael ei dderbyn a’i brosesu i ddechrau gan Stripe cyn cael ei drosglwyddo i gyfrifon Defra.
Amodau Dyled Statudol
Gan fod Hysbysiadau Atebolrwydd pEPR yn cael eu rhoi o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith a Phecynwaith) 2024 a’u dosbarthu fel dyled statudol neu reoleiddiol, mae hyn yn golygu:
- Nad yw PecynUK yn cael ei ddosbarthu fel cyflenwr neu werthwr
- Na fydd ffioedd cosb am daliad hwyr yn cael eu gohirio
- Na fydd unrhyw orchymyn prynu yn cael ei ddarparu nac yn cael ei ddyfynnu ar anfonebau
- Na fydd rhifau TAW yn cael eu dyfynnu, gan fod PecynUK yn gorff llywodraeth
- Na chaniateir gohirio taliadau yn sgil defnyddio porth cyflenwyr neu geisiadau am archebion prynu, dogfennau fframwaith cyflenwyr, neu ddogfennau atal gwyngalchu arian
Taliadau hwyr
Os byddwch yn talu’n hwyr, efallai y byddwch yn atebol i dalu cosb ariannol amrywiol, sef (p’un bynnag yw’r uchaf):
- 20% o’ch ffioedd gwaredu a gweinyddu rydych chi heb eu talu; neu
- 5% o’ch trosiant yn y Deyrnas Unedig os ydych wedi cofrestru fel un sefydliad / 2% o drosiant eich grŵp yn y Deyrnas Unedig os ydych chi wedi cofrestru fel grŵp.
Y dadansoddiad costau welwch chi ar yr anfoneb
Mae’r ffioedd sylfaenol diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith. Mae eu cynnwys nhw yn y ffioedd sylfaenol sydd wedi’u cyhoeddi yn ei gwneud hi’n haws i’r cynhyrchwyr atebol gyfrifo’u ffioedd cyn cael eu hanfoneb. Bydd eich anfoneb yn dangos y costau hyn wedi’u rhestru ar wahân er mwyn tryloywder. Dyma’r costau ychwanegol:
- Costau gweinyddu’r cynllun
- Costau gwaredu gwybodaeth gyhoeddus
- Darpariaeth amhariad ar gyfer dyled ddrwg
Costau gweinyddu’r cynllun
Mae PecynUK yn cyfrifo’ch cyfran chi o gostau gweinyddu’r cynllun drwy rannu cyfanswm y swm ar gyfer Blwyddyn Asesu 2025-26 ar draws yr holl gynhyrchwyr atebol yn yr un gyfran ag y dyrennir y ffioedd gwaredu ar draws y cynhyrchwyr atebol yn y flwyddyn honno, yn unol â rheoliad 65.
Costau gwaredu gwybodaeth gyhoeddus
Y costau y mae PecynUK yn disgwyl eu hysgwyddo bob blwyddyn i ddarparu gwybodaeth gyhoeddus am y rhain:
- ailddefnyddio pecynwaith
- sut mae gwastraff pecynwaith yn cael ei reoli
- sut i atal sbwriel pecynwaith
Mae PecynUK yn cyfrifo’ch cyfran chi o gostau gwaredu gwybodaeth gyhoeddus drwy rannu cyfanswm y swm ar gyfer Blwyddyn Asesu 2025-26 ar draws yr holl gynhyrchwyr atebol yn yr un gyfran ag y dyrennir tunelledd gwastraff pecynwaith ar draws y cynhyrchwyr atebol yn y flwyddyn honno, yn unol â rheoliad 63.
Darpariaeth amhariad ar gyfer dyled ddrwg
Mae’r ffi amhariad yn swm ychwanegol sy’n cael ei ychwanegu at ffioedd y cynhyrchwyr atebol i adlewyrchu amcangyfrif o swm y ffioedd na fydd PecynUK yn gallu eu casglu mewn perthynas â Hysbysiad Atebolrwydd Blwyddyn 1. Mae’r ganran yn cael ei diweddaru bob blwyddyn, yn unol â rheoliad 66, gan ystyried lefel wirioneddol y ddyled sydd heb ei thalu.
Ailgyfrifo
Gall PecynUK ail-gyfrifo’ch ffioedd dyledus os yw’n debygol bod yna wahaniaeth sylweddol o’r cyfrifiad gwreiddiol.
Gall hyn ddigwydd:
- os caiff PecynUK wybodaeth newydd neu ychwanegol
- os bydd PecynUK yn canfod gwall yn y cyfrifiad gwreiddiol
- os yw’n debygol y bydd cyfanswm y ffioedd gwaredu neu ffioedd gweinyddu’r cynllun a gesglir yn wahanol i’r costau cyffredinol
- os oes angen hynny yn sgil canlyniad cwyn neu apêl gan gynhyrchydd neu awdurdod lleol
- os yw’n rhesymol i PecynUK gredu bod gwahaniaeth sylweddol yn debygol am unrhyw reswm arall
Gellir ailgyfrifo:
- unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn asesu, ‘ailgyfrifiad interim’
- ar ôl diwedd y flwyddyn asesu, ‘ailgyfrifiad diwedd blwyddyn’
Gall PecynUK benderfynu a ddylid cynnal ailgyfrifiad a pha bryd, oni bai bod angen ailgyfrifo yn sgil penderfyniad apêl.
Os bydd newidiadau sylweddol yn eich lefel atebolrwydd, bydd PecynUK yn anfon hysbysiad diwygiedig yn esbonio’r swm newydd a sut y cafodd ei gyfrifo. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Pennod 5 o’r Rheoliadau.
Help gydag ymholiadau am ffioedd
Os ydych chi’n meddwl efallai na fyddwch chi’n gallu talu neu os hoffech newid cynllun talu, cysylltwch â’r ddesg gymorth.
Fel cynhyrchydd sy’n atebol i dalu ffi waredu neu gostau gweinyddu’r cynllun ar gyfer blwyddyn asesu, byddwch yn gallu dadlau yn erbyn eich ffi os ydych chi’n credu:
- nad ydych yn atebol i dalu ffi waredu neu ffi weinyddu
- bod y swm rydych chi wedi’ch asesu i’w dalu wedi’i gamgyfrifo
I ddadlau yn erbyn eich ffi, rhaid ichi wneud cwyn yn gyntaf. Gallwch wneud hyn yn y gwasanaeth drwy godi cwyn neu gysylltu â’r ddesg gymorth. Os na chaiff eich cwyn ei chadarnhau, mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan reoliad 105.
Rhestr Wirio wrth Baratoi
- Gofalwch fod manylion cysylltu’r cyfrif RPD a’r cyfeiriadau ebost yn gyfredol
- Ychwanegwch bersonél cyllid sydd angen mynediad er mwyn gweinyddu taliadau i’r cyfrif
- Adolygwch dunelledd 2024 a gyflwynwyd a chyfrifwch amcangyfrif o’r ffioedd gan ddefnyddio’r cyfraddau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer y deunyddiau
- Paratowch brosesau mewnol ar gyfer talu dyled statudol heb ddogfennau traddodiadol cyflenwyr
Rhagor o Gymorth a Gwybodaeth Gysylltu
Ar gyfer pob ymholiad, gan gynnwys ceisiadau am newid cynllun talu neu fformatau cyfathrebu amgen, cysylltwch â desg gymorth Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr drwy’r sianeli isod.
Ffôn: 0300 060 0002 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4.30pm)
Ebost: EPRCustomerService@defra.gov.uk
Gwerthfawrogir cydweithrediad y cynhyrchwyr wrth sicrhau bod taliadau a data’n cael eu cyflwyno’n brydlon ac yn gywir. Mae PecynUK wedi ymrwymo i ddarparu system sy’n cynnig gwerth am arian ac yn cefnogi gwasanaethau ailgylchu a gwaredu effeithlon yr un pryd, ac mae’r cyflwyniadau hyn yn hanfodol er mwyn i’r cynllun weithredu’n effeithiol.
Paratowch yn unol â hynny a chysylltwch â’r ddesg gymorth gydag unrhyw gwestiynau cyn i’r gwaith anfonebu ddechrau ym mis Hydref.