Skip to main content
Stori newyddion

Paratoi ar gyfer Taliad

Popeth sydd angen i chi ei wybod am eich taliad cyllid myfyrwyr gan Jackie Currie, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cwsmer

Mae mis Medi yn amser cyffrous o’r flwyddyn wrth i chi a miloedd o fyfyrwyr baratoi i gymryd y cam nesaf yn eich addysg, boed hynny’n ddechrau’r brifysgol am y tro cyntaf neu’n dychwelyd am flwyddyn arall o astudio.

Mae’n garreg filltir fawr, sy’n dod â chyfleoedd newydd, profiadau ac annibyniaeth. Gwyddom fod derbyn eich taliad cyllid i fyfyrwyr yn rhan bwysig o baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd o’ch blaen, ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn eu cyllid cyn gynted â phosibl.

Y mis hwn, disgwylir i ni dalu £2.6biliwn mewn cymorth cynhaliaeth i 1.1m o fyfyrwyr ar hyd a lled Cymru, gan helpu i reoli costau byw wrth i’r flwyddyn academaidd newydd ddechrau. Bydd taliadau ffioedd dysgu yn dilyn fis Hydref, yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch prifysgol ar eich rhan.

Felly, wrth i’ch dyddiad talu nesáu, dyma rai cynghorion syml i’ch helpu i baratoi.

Cofiwch, dim ond ar ôl i chi gofrestru, a’ch prifysgol gadarnhau hyn i ni, y gellir gwneud taliadau. * Os fyddwch yn cofrestru ar ddyddiad disgwyliedig y taliad, neu reit o’i flaen, bydd y dyddiad hwn yn newid. Ond peidiwch â phoeni, cadwch lygad ar eich cyfrif ar-lein a byddwn yn ail drefnu dyddiad eich taliad cyn gynted ag y clywn gan eich prifysgol. * Rhywbeth pwysig - gwiriwch fod eich manylion banc yn gywir ac yn gyfredol yn eich cyfrif ar-lein! * Cadwch lygad am y neges destun a yrrwn i’ch hysbysu fod eich taliad ar y ffordd. Gwiriwch statws eich taliad unrhyw bryd drwy’ch cyfrif ar-lein. *Gall ein canolfannau cyswllt fod yn brysur yr adeg hon o’r flwyddyn, felly gwiriwch eich cyfrif ar-lein, neu edrychwch ar y cwestiynau cyffredin, cyn cysylltu. * Cymerwch olwg ar ein gwefannau a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am gwestiynau cyffredin, fideos a mwy. Dilynwch Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook, @SF_Wales neu Instagram

P’un a ydych yn symud oddi cartref, yn cymudo i’r campws neu’n dychwelyd am flwyddyn arall o astudio, dymunwn y gorau i chi ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd o’ch blaen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Medi 2026