Datganiad i'r wasg

Gwahodd myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn yng Nghymru i ymuno â rhestrau postio CMC

Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn gofyn i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig yng Nghymru i ddechrau cynllunio eu cyllid myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Bydd y gwasanaeth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig yn agos yn yr haf, ond gall myfyrwyr gofrestru nawr i restrau postio rhan-amser ac ôl-raddedig Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) i dderbyn e-bost pan fydd y gwasanaethau yn agor.

Mae SLC yn cynghori myfyrwyr i wneud cais mor gynnar â phosibl am eu cyllid myfyrwyr, hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau ar eu cwrs. Mae hyn yn helpu sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau’r tymor. Gall myfyrwyr rhan-amser a Meistri ôl-raddedig yng Nghymru ymgeisio am gyfuniad o fenthyciadau a grantiau i helpu gyda chostau eu cwrs a chostau byw. Gall myfyrwyr Doethuriaeth Ôl-raddedig ymgeisio am gymorth gyda’u ffioedd dysgu a chostau byw.

Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Gweithrediadau SLC:

“Mae SLC wedi ymrwymo i alluogi cyfle trwy fynediad i addysg uwch ac addysg bellach, ac rydym am gefnogi cymaint o fyfyrwyr â phosibl i wneud cais am gyllid myfyrwyr yn gynnar, er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau’r tymor.

“Trwy gofrestru ar gyfer y rhestrau postio, gall myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig fod yn hyderus na fyddant yn colli cychwyn y cyfnod ymgeisio.”

I helpu myfyrwyr gael y newyddion cyllid myfyrwyr a’r wybodaeth ddiweddaraf, mae awgrymau da SLC yn cynnwys:

Gall myfyrwyr Israddedig amser llawn ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr//

Cyhoeddwyd ar 1 April 2022