Diweddariad ar Uwch Dîm PecynUK
Cynnwys y Cyflwyniad: Rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Prif Swyddog Gweithredol a Phrif Swyddog Strategaeth parhaol PecynUK.

Jeremy Blake, Chief Executive Officer and Esther Carter, Chief Strategy Officer
Ar ran pedair gwlad y Deyrnas Unedig, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Prif Swyddog Gweithredol a Phrif Swyddog Strategaeth wedi’u penodi i PecynUK, sef gweinyddwr y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith. Mae’r rhain yn rolau pwysig sy’n arwain y broses o roi’r diwygiad sylfaenol yma ar waith a byddant yn chwarae rhan ganolog yn arweinyddiaeth PecynUK, gan sicrhau ei fod yn gweithredu’n deg, yn rhoi gwerth am arian ac yn cyflawni’n nodau amgylcheddol ac economaidd cyffredin. Gan weithio ledled y Deyrnas Unedig, byddant yn arwain y gwaith o weithredu a gwella’r cynllun yn barhaus, gan gynnwys ffurfio perthynas bwysig â’r Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr arfaethedig a chyda llywodraeth leol wrth inni gydweithio i ddarparu gwasanaethau casglu ac ailgylchu pecynwaith effeithlon ac effeithiol.
Gan adeiladu ar y profiad pwysig a gwerthfawr yn y diwydiant a gyflwynwyd gan Margaret Bates (Pennaeth dros dro PecynUK), rydym wedi gwneud ymgais benodol i recriwtio ymgeiswyr sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y gadwyn werth pecynwaith a chyda’r gadwyn werth pecynwaith. Rydym yn falch bod y ddau sydd wedi’u penodi yn dod â chyfoeth o brofiad o’r fath, gan gyflawni’n hymrwymiad i ddod â chynhyrchwyr i mewn i arweinyddiaeth y cynllun lle bynnag y bo modd. Penodwyd y ddau yn dilyn ymgyrch recriwtio agored, allanol.
Prif Swyddog Gweithredol – Jeremy Blake
Mae gan Jeremy gefndir amrywiol, gan ddechrau mewn gwyddoniaeth fforensig. Arweiniodd ei ddiddordeb mewn datrys problemau drwy ddefnyddio gwyddoniaeth iddo symud i’r diwydiant ailgylchu, gan arbenigo mewn polymerau ond gyda chyfnodau mewn gwydr, metel a phapur. Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn arwain gweithrediadau ailgylchu plastig a phapur yr ailgylchwr mwyaf yn y Deyrnas Unedig ar y pryd, symudodd i fod yn Brif Swyddog Gweithredu cwmni ailgylchu datblygedig, Enval. Yna ymunodd ag un o’r trawsnewidwyr pecynwaith plastig byd-eang mwyaf, Berry Global (Amcor bellach), lle bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr eu busnes ailgylchu plastig anhyblyg. Roedd y rôl hon yn cynnwys cyfrifoldeb dros adeiladu a gweithredu eu safle ailgylchu diweddaraf sy’n darparu llwybr cylchol ar gyfer polypropylen wedi’i gasglu wrth ymyl y palmant yn ôl i becynwaith o ansawdd uchel. Yn fwyaf diweddar, mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Economi Cylchol Amcor ac mae’n sbarduno rheolaeth effeithiol ar eu cynhyrchion trwy gydol eu cylch bywyd ledled y byd. Mae hyn yn cyfuno’r wybodaeth y mae wedi’i hennill ym mron pob rhan o economi cylchol pecynwaith a’i angerdd dros newid amgylcheddol cadarnhaol. Mae Jeremy hefyd yn gweithredu mewn capasiti cynghori i lawer o grwpiau i sbarduno datblygiad yr Economi Cylchol.
Wrth fyfyrio ar benodiad Jeremy (Jez), mae Margaret yn dweud, “Dwi’n falch iawn mai Jez Blake fydd Prif Swyddog Gweithredol parhaol PecynUK. Dwi’n nabod ac yn edmygu Jez ers tro byd. Mae’n dod ag ymrwymiad i’r Economi Cylchol, ynghyd â gwybodaeth ac arweinyddiaeth sector gwych. Mae’n wych fy mod i’n gallu pasio’r tîm rhagorol yn PecynUK i rywun rwy’n ei nabod ac yn ymddiried ynddo.”
Prif Swyddog Strategaeth – Esther Carter
Mae Esther yn arweinydd cynaliadwyedd gydag arbenigedd dwfn mewn sbarduno newid mewn systemau ar draws y sectorau pecynwaith, ailgylchu a nwyddau defnyddwyr. Mae wedi cydweithio â llawer o’r brandiau a’r busnesau sydd wrth wraidd diwygio EPR, megis P&G, Mars, Amcor a Dow, i roi atebion ymarferol sy’n gwneud cylcholrwydd yn realiti. Yn fwyaf diweddar, bu Esther yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Byd-eang yn Delterra, gan arwain eu rhaglen flaenllaw “Rethinking Recycling” yn America Ladin a De-ddwyrain Asia. Yn y rôl hon, bu’n arwain timau byd-eang, amlddisgyblaeth ac yn gweithio mewn partneriaeth agos â llywodraethau, awdurdodau lleol, brandiau rhyngwladol a sefydliadau rhynglywodraethol i adeiladu systemau gwastraff mwy effeithiol a chynhwysol.
Cyn hynny, bu Esther yn Uwch Reolwr yn McKinsey & Company, lle bu’n cynghori sefydliadau byd-eang blaenllaw yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ar gyflawni strategaethau a chynaliadwyedd. Roedd ganddi hefyd rolau dadansoddol yn Tesco a chyda P&G, gan roi sylfaen gadarn iddi mewn gwneud penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan ddata, a phrofiad uniongyrchol o fewn y gadwyn werth manwerthu ac FMCG.
Bydd Jeremy ac Esther yn ymuno â’r tîm ar ddechrau mis Medi.
Byddant yn gweithio ochr yn ochr â Phrif Swyddog Gweithredu PecynUK, sy’n gyfrifol am systemau digidol, gwasanaethau a chyllid y cynllun. Mae’r rôl hon yn cael ei gwneud gan Angela Murphy dros dro ac mae wedi’i hysbysebu’n allanol. Rydym yn yr un modd yn annog ymgeiswyr sydd â phrofiad uniongyrchol o’r gadwyn werth pecynwaith.
Hoffem hefyd dalu teyrnged i rôl bwysig a pharhaus Margaret Bates wrth ffurfio PecynUK. Mae Margaret ar secondiad o OPRL – cwmni nid-er-elw sy’n darparu labeli ailgylchu ac ail-lenwi ar gyfer pecynwaith defnyddwyr ac yn helpu busnesau i leihau gwastraff – ac mae ei gwybodaeth a’i harbenigedd wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer sefydlu PecynUK. Bydd Margaret yn gweithio gyda Jeremy i sicrhau cyfnod pontio llyfn a chyflawn.
Hoffem groesawu Jeremy ac Esther i PecynUK a diolch i Margaret ac Angela am eu gwaith helaeth a pharhaus i sefydlu PecynUK ac ysgogi’r Cynllun pEPR.