Penodi aelodau grwpiau cynghori PecynUK a chadarnhau’r Cadeiryddion
Yn ddiweddar, mae PecynUK wedi penodi aelodau i Grŵp Llywio Gweinyddwyr y Cynllun, gan gwblhau’r penodiadau i bob un o'i bedwar grŵp cynghori allweddol.
Mae Cadeiryddion annibynnol hefyd wedi’u dewis ac wedi’u penodi erbyn hyn i bob un o’r pedwar grŵp.
Bydd y grwpiau cynghori gwirfoddol yma yn helpu i ddatblygu a chyflawni cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR) yn barhaus. Maen nhw’n chwarae rhan bwysig wrth lunio diwygiadau gwastraff pecynwaith y Deyrnas Unedig. Dyma’r grwpiau:
- Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun
- Pwyllgor Cynghori Technegol Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd
- Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd
- Grŵp Cynghori Cyfathrebu a Newid Ymddygiad
Er nad cyrff sy’n gwneud penderfyniadau yw’r rhain, mae aelodaeth pob grŵp yn dod ag ystod amrywiol a gwerthfawr o arbenigedd gweithredol ac arbenigedd polisi o’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd eu cyd-ddirnadaeth yn ffynhonnell cyngor dibynadwy a chredadwy at lywio prosesau penderfynu PecynUK.
Mae PecynUK wedi ymrwymo i weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r gadwyn gwerth pecynwaith i’w helpu i’w arwain yn ei waith, ac mae’n croesawu pob un o’r ymgeiswyr llwyddiannus a’u cyfraniadau yn y dyfodol.
Mae aelodaeth lawn pob grŵp i’w gweld drwy ddilyn y ddolen yma: Ein llywodraethiant - PecynUK - GOV.UK
Diolch i’r holl ymgeiswyr ar gyfer Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun
Dros yr haf, cyhoeddodd PecynUK alwad am fynegi diddordeb i gadeirio’r Grŵp Llywio ac ymaelodi ag e. Yn sgil proses ddethol helaeth a theg, oedd yn cynnwys aelodau panel annibynnol o’r diwydiant, hoffai PecynUK ddiolch yn ddiffuant i bawb a gyflwynodd geisiadau am eu diddordeb, eu hamser a’u hamynedd.
Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun
Mae Grŵp Llywio Gweinyddwyr y Cynllun yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r berthynas waith agos yma ac yn dod â gweithwyr proffesiynol medrus o bob rhan o gadwyn gwerth pecynwaith ynghyd sy’n angerddol am ailgylchu a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae’n disodli Grŵp Llywio Interim Gweinyddwr y Cynllun, a fu’n cyfarfod tan fis Mehefin 2025.
Mae’r Grŵp Llywio yn darparu safbwyntiau ac argymhellion gwerthfawr i Bwyllgor Gwaith Gweinyddwr y Cynllun (SA ExCo) ynghylch swyddogaethau gweithredol Gweinyddwr y Cynllun, gan ei helpu i wneud y canlynol:
-
darparu system sy’n creu’r manteision amgylcheddol mwyaf posibl trwy rannu gwybodaeth a chydweithio; a
-
darparu’r effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mwyaf posibl yn y system casglu a phecynnu
Aelodau penodedig
Heblaw cynrychiolwyr yr awdurdod lleol, mae pob unigolyn yn cael ei benodi fel unigolyn, yn hytrach nag ar ran busnesau neu sefydliadau.
Cynrychiolwyr sefydliadau cynhyrchwyr a chymdeithasau masnach: Alison Bramfitt, Cat Hay, Gareth Callan, James Bull, John Ryan, Kevin Laughton, Paul Vanston, Steve Carpenter
Cynlluniau cydymffurfio: Robbie Staniforth
Sefydliadau rheoli gwastraff: Emma Beal, Stuart Hayward-Higham
Sefydliadau anllywodraethol: Claire Shrewsbury, Paula Chin
Cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol: Andrew Cassells (Gogledd Iwerddon), Craig Mitchell (Cymru), Silke Isbrand (Yr Alban), Steve Palfrey (Lloegr)
Penodwyd Sebastian Munden yn Gadeirydd y Grŵp Llywio.
Penodwyd James Bull yn Ddirprwy Gadeirydd y Grŵp Llywio
Cadeiryddion y grwpiau cynghori technegol
Mae Emma Wilkinson wedi’i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynghori Technegol Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM TAC).
Mae Cathy Cook wedi’i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd (E&E TAC).
Mae Paul Vanston wedi’i ethol yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Newid Cyfathrebu ac Ymddygiad (CBCAG).
Tymor aelodaeth
Bydd pob grŵp cynghori yn cyfarfod bob chwarter.
Mae tymor aelodaeth o un, dwy neu dair blynedd wedi’u dyrannu ar hap am y flwyddyn gyntaf, er mwyn caniatáu i’r swyddi gael eu hadnewyddu’n rheolaidd a chadw parhad yr un pryd. Gan hynny, bydd cyfleoedd i ail-wneud cais am aelodaeth o’r grwpiau cynghori hyn yn flynyddol. Penodir am dymor o dair blynedd bob tro yn y dyfodol.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â packuk.governance@defra.gov.uk.