Arbenigwyr Diwydiant wedi’u Dewis i Ymuno â Grwpiau Cynghori Allweddol pEPR
Mae PecynUK yn falch o gyhoeddi’r aelodau a benodwyd i dri o’i grwpiau cynghori allweddol.

Mae PecynUK yn falch o gyhoeddi’r aelodau a benodwyd i dri o’i grwpiau cynghori allweddol.
Mae PecynUK, Gweinyddwr y Cynllun ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith (pEPR), yn falch o gyhoeddi’r arbenigwyr diwydiant a benodwyd i dri o’i grwpiau cynghori allweddol:
- Pwyllgor Cynghori Technegol Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd
- Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd
- Grŵp Cynghori Cyfathrebu a Newid Ymddygiad
Bydd y grwpiau cynghori gwirfoddol yma, ochr yn ochr â Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun, yn helpu i ddatblygu a chyflawni’r cynllun pEPR yn barhaus, gan chwarae rhan bwysig wrth lunio diwygiadau gwastraff pecynwaith y Deyrnas Unedig.
Er nad ydyn nhw’n gyrff sy’n gwneud penderfyniadau, mae aelodaeth pob grŵp yn dod ag ystod amrywiol a gwerthfawr o arbenigedd mewn gweithredu ac mewn polisi o’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd eu dirnadaeth nhw ar y cyd yn ffynhonnell ddibynadwy a chredadwy ar gyfer cyngor i lywio prosesau penderfynu tîm arweinwyr PecynUK.
Mae PecynUK wedi ymrwymo i weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r gadwyn werth pecynwaith i’w helpu i lywio’i waith ac mae’n croesawu pob un o’r ymgeiswyr llwyddiannus a’u cyfraniadau yn y dyfodol.
Diolch i’r holl ymgeiswyr
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd PecynUK alwad am fynegi diddordeb i ymuno â’r tri grŵp cynghori yma, gyda’r ceisiadau’n cau ar 24 Mawrth 2025. Yn dilyn proses ddethol helaeth a theg, oedd yn cynnwys aelodau annibynnol o’r diwydiant ar y panel, hoffai PecynUK ddiolch yn ddiffuant i bawb a gyflwynodd geisiadau am eu diddordeb, eu hamser a’u hamynedd.
Pwyllgor Cynghori Technegol Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM TAC)
Bydd RAM TAC yn darparu cyngor technegol ar gynaliadwyedd pecynwaith ac yn helpu i ddatblygu fersiynau olynol o’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd. Mae hyn yn cynnwys canllawiau sy’n adlewyrchu ailgylchadwyedd ac amrediad o seiliau asesu. Bydd y pwyllgor yn sicrhau bod PecynUK yn cael cyngor cyfredol ar ailgylchadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol perthnasol eraill, megis tueddiadau ac arloesiadau sy’n dod i’r amlwg. Bydd y grŵp hefyd yn asesu ymholiadau technegol ynglŷn â deunyddiau pecynwaith ac yn rhoi gwybod i PecynUK am ganlyniad eu hasesiad.
Yr aelodau a benodwyd:
- Denise Mathieson,
- Emma Wilkinson (Cadeirydd)
- Fiona Dobson
- Gary Weaver
- Greg Paradowski
- James Beard
- Lorna Eddy
- Louis Driver
- Madeleine Prince
- Mark Sayers
- Peter Ettridge
- Richard Hudson
- Ross Lakhdari
- Severine Mongauze
- Siobhan Parks.
I gryfhau ehangder technegol y pwyllgor ymhellach, penodwyd deg aelod gwadd i’r RAM TAC hefyd, bob un wedi’i ddewis ar sail ei arbenigedd mewn deunyddiau pecynwaith penodol. Bydd yr unigolion hyn yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd neu drafodaethau lle gall eu gwybodaeth arbenigol ategu gwaith y pwyllgor a gwella cadernid y fethodoleg.
Yr aelodau gwadd:
- Brian Lodge
- Ciara Dempsey
- Dimitra Rappou
- Jason Galley
- Mandy Kelly
- Martin Hyde
- Nick Kirk
- Nicola Jones
- Paul East
- Skye Oudemans.
Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd (E&E TAC)
Bydd yr E&E TAC yn gwasanaethu fel pwyllgor technegol annibynnol sy’n cynnig awgrymiadau a mewnwelediadau ar yr arferion gorau yn yr awdurdodau lleol ac mewn rheoli gwastraff ledled y Deyrnas Unedig. Bydd ei aelodau’n darparu argymhellion i gefnogi awdurdodau lleol sy’n gweithredu mewn amgylchiadau amrywiol ac yn helpu i sicrhau bod y cynllun pEPR yn cael ei gyflwyno’n effeithlon ac yn effeithiol.
Yr aelodau a benodwyd:
- Andrew Cassells
- Andrew Wilkinson
- Cathy Cook
- Colin Clark
- Ian Dudding
- Jade-Ashlee Cox-Rawling
- James Ward
- John Coates
- Jon Hastings
- Katy Fulton
- Lee Marshall
- Nigel Wheeler
- Stephen Cole
- Stuart Hayward-Higham
- Stuart Murray
- Y cadeirydd i’w gadarnhau.
Grŵp Cynghori Cyfathrebu a Newid Ymddygiad (CBCAG)
Bydd y CBCAG yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol o’r gadwyn werth, cynrychiolaeth o’r pedair gwlad a gwybodaeth fanwl am newid ymddygiad. Bydd yn tynnu ar ystod eang o brofiad i lywio Pwyllgor Gweithredol PecynUK ar gyfathrebu effeithiol a strategaethau newid ymddygiad, gan helpu i gyflawni mentrau a nodau newid ymddygiad y cynllun pEPR.
Yr aelodau a benodwyd:
- Ali Moore
- Andrew Pankhurst
- Anna Scott
- Barbara Herridge
- Charles Newman
- David Hall
- Derek Robertson
- Gareth Morton
- Jane Martin
- Joanna Gavins
- Paul Vanston
- Rachel Jay
- Ruth Dixon
- Seb Munden
- Vanessa Gibbin
Cyfnod aelodaeth
Bydd pob grŵp cynghori yn cyfarfod bob chwarter.
Mae cyfnodau aelodaeth o un, dwy neu dair blynedd wedi’u dyrannu ar hap er mwyn caniatáu i’r aelodaeth gael ei hadnewyddu’n rheolaidd tra bydd parhad yn cael ei gynnal hefyd. Gan hynny, bydd yna gyfleoedd i ail-wneud cais am aelodaeth o’r grwpiau cynghori yma yn flynyddol.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â PackUK.governance@defra.gov.uk