Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael ei gynnal heddiw
Mae cyfarfod mis Medi 2026 Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael ei gynnal heddiw (Dydd Mercher, 16 Medi 2026) am 9am yn Abertawe.
Close-up of printed documents. / Llun agos o ddogfenau wedi'u hargraffu.
Mae Cadeirydd yr ASB, yr Athro Susan Jebb, yn cadeirio’r cyfarfod.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Diweddariad ar raglen Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) yr ASB
- Ceisiadau bwyd newydd CBD: argymhellion i weinidogion ar yr awdurdodiadau cyntaf
- Perfformiad blynyddol awdurdodau lleol
- Y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’
- Gostyngiadau wrth godi tâl ar safleoedd cig
- Diweddariad blynyddol ar Wyddoniaeth yr ASB
- Adroddiad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
Gallwch ddarllen yr agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2026 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i fod yno’n bersonol.
Os nad ydych wedi cofrestru eto, mae dal i fod amser i gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01772 767731
- E-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Cwestiynau i’r Bwrdd
Gallwch weld y cwestiynau sydd wedi dod i law’r ASB cyn y cyfarfod.