Skip to main content
Stori newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Medi 2026

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2026, sy’n cael ei gynnal yn Abertawe, wedi’u cyhoeddi.

Close-up of printed documents. / Llun agos o ddogfenau wedi'u hargraffu.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Yr Athro Susan Jebb.

Bydd yn dechrau am 9am, ddydd Mercher 16 Medi, ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno. Ewch ati i gofrestru os hoffech ddod i’r cyfarfod, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein. 

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:

  • SPS 
  • CBD
  • Perfformiad blynyddol awdurdodau lleol 
  • Y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’
  • Gostyngiadau wrth godi tâl ar safleoedd cig 
  • Diweddariad blynyddol ar Wyddoniaeth yr ASB

  • Adroddiad gan Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru 

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan.

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd 

Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Ewch ati i gofrestru os hoffech am ddod i’r cyfarfod. 

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni: 

Gallwch hefyd gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.

Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB 

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar bapurau a gyhoeddwyd i’w trafod yn ei gyfarfodydd. 

Gallwch gyflwyno’ch cwestiynau hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd gan ddefnyddio’r ffurflen hon.  Sylwch fod cyfyngiad o 350 o eiriau ar y ffurflen i sicrhau bod eich cwestiwn yn gryno, er mwyn i ni allu mynd i’r afael ag ef yn llawn. 

Bydd cwestiynau a ddaw i law yn y fformat hwn yn cael eu cyhoeddi y diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd. 

Byddwn yn anelu at anfon ateb atoch trwy e-bost o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd, a bydd ymatebion hefyd yn cael eu cyhoeddi. 

Ar gyfer cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â’r un o’r papurau sydd ar yr agenda, neu ar gyfer gohebiaeth sy’n hirach nag y mae’r ffurflen ar-lein yn ei ganiatáu, anfonwch e-bost i correspondence@food.gov.uk a byddwn yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.  Sylwch na fydd y cwestiynau hyn na’u hatebion yn cael eu cyhoeddi fel arfer.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Medi 2026