Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Rhagfyr 2026
Mae’r agenda a’r papurau wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr 2026.
Close-up of printed documents. / Llun agos o ddogfenau wedi'u hargraffu.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Norwich a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Yr Athro Susan Jebb.
Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9am ddydd Mercher 9 Rhagfyr ac ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno’n bersonol. Ewch ati i gofrestru ar-lein.
Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
-
SPS gan gynnwys diweddariad ar y gwasanaeth awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad
-
adroddiad blynyddol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
-
y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’
-
adroddiad Cyfathrebu Blynyddol
-
adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon
Gallwch ddarllen yr agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd
Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Cofrestrwch ar-lein os hoffech ddod i’r cyfarfod yn bersonol.
Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:
-
Ffôn: 01772 767731
-
E-bost: fsaboardmeetings@onetwo.agency
Gallwch hefyd gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB
Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar bapurau a gyhoeddwyd i’w trafod yn ei gyfarfodydd.
Gallwch chi gyflwyno cwestiwn gan ddefnyddio’r ffurflen hon hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd.
Sylwch fod cyfyngiad o 350 o eiriau ar y ffurflen i sicrhau bod eich cwestiwn yn gryno, er mwyn i ni allu mynd i’r afael ag ef yn llawn.
Bydd cwestiynau a ddaw i law yn y fformat hwn yn cael eu cyhoeddi y diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd.
Byddwn yn anelu at anfon ateb atoch trwy e-bost o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd, a bydd ymatebion hefyd yn cael eu cyhoeddi.
Ar gyfer cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â’r un o’r papurau sydd ar yr agenda, neu ar gyfer gohebiaeth sy’n hirach nag y mae’r ffurflen ar-lein yn ei ganiatáu, anfonwch e-bost i correspondence@food.gov.uk a byddwn yn anelu at ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Sylwch na fydd y cwestiynau hyn na’u hatebion yn cael eu cyhoeddi fel arfer.