Stori newyddion

Cyhoeddiadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio

Ffioedd sylfaenol 2025, datganiad polisi modiwleiddio ffioedd, datganiad sefyllfa rheoleiddiol a strategaeth dros dro bellach ar gael.

Mewn cam sylweddol ymlaen i ddiwydiant, ar 27 Mehefin 2025 rhyddhaodd PackUK sawl cyhoeddiad sy’n ganolog i gyflawni cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio (pEPR) y DU:

Ffioedd Sylfaenol 2025 wedi’u Cadarnhau

Mae PackUK wedi cyhoeddi ffioedd sylfaenol 2025 ar gyfer y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio (pEPR), gan roi sicrwydd hanfodol i gynhyrchwyr cyn yr anfonebau cyntaf ym mis Hydref 2025.

Yn dilyn tri o ffioedd enghreifftiol blaenorol a amcangyfrifwyd, mae’r ffioedd sylfaenol hyn sydd wedi’u cadarnhau yn garreg filltir bwysig wrth weithredu’r trawsnewid hwn yn economi cylchol y DU.

Mae bron pob un o’r ffioedd wedi gostwng o’i gymharu â’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, gyda gwydr i lawr 20 y cant. Mae’r gostyngiadau yn deillio o lefelau uchel o gydymffurfiaeth gan y diwydiant â rhwymedigaethau adrodd a gwaith helaeth ar draws y rheoleiddwyr a PackUK i sicrhau a dilysu’r data a ddarparwyd. Mae ffioedd sylfaenol 2025 yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio adroddiadau ar dunelli o ddeunydd gan gynhyrchwyr ar gyfer 2024 a chostau rheoli gwastraff awdurdodau lleol. Mae’r fethodoleg wedi’i phrofi’n drylwyr gyda rhanddeiliaid gan gynnwys cynhyrchwyr, cynlluniau cydymffurfio, ac awdurdodau lleol.

Ochr yn ochr â’r ffioedd sylfaenol a gadarnhawyd, mae PackUK hefyd wedi cyhoeddi’r Datganiad Polisi Modiwleiddio sy’n amlinellu sut y bydd ffioedd yn cael eu haddasu o 2026 ymlaen i ysgogi’r defnydd o ddeunydd pacio mwy ailgylchadwy.

Mae’r cynllun pEPR yn gonglfaen ar gyfer gwneud newidiadau i ddeunydd pacio’r DU. Mae arweinwyr cwmnïau rheoli gwastraff mwyaf y DU wedi dweud y bydd hyn yn cefnogi 25,000 o swyddi, yn denu buddsoddiad o fwy na £10 biliwn mewn capasiti ailgylchu dros y degawd nesaf ac yn ariannu gwelliannau i wasanaethau ailgylchu cartrefi ledled y DU.

Mae canllawiau pellach ar wefan gov.uk i gynhyrchwyr sy’n egluro sut y bydd y ffioedd hyn yn effeithio ar eu busnesau.

Datganiad Polisi Modiwleiddio Ffioedd

Mae PackUK wedi cyhoeddi ei Ddatganiad Polisi Modiwleiddio Ffioedd Cynhyrchwyr cyntaf  ar gyfer y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio (pEPR). Mae’r polisi hwn yn gam pwysig ymlaen i gymell cwmnïau i ddefnyddio deunydd pacio amgylcheddol gynaliadwy ledled y DU.

Mae’r polisi modiwleiddio newydd yn sefydlu fframwaith tair blynedd clir a fydd yn addasu ffioedd cynhyrchwyr yn seiliedig ar asesiadau o ailgylchadwyedd yn unol â Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM). Gan ddechrau o flwyddyn ariannol 2026 i 2027, bydd y polisi yn cymhwyso ffactorau modiwleiddio cynyddol o 1.2x, 1.6x, a 2.0x dros flynyddoedd yn olynol.

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol:

  • bydd cynhyrchwyr deunydd pacio Gwyrdd RAM (mwyaf ailgylchadwy) yn elwa o ffioedd sy’n gostwng yn raddol
  • bydd cynhyrchwyr deunydd pacio Coch RAM (lleiaf ailgylchadwy) yn talu ffioedd cynyddol uwch
  • bydd darpariaethau arbennig yn berthnasol ar gyfer deunydd pacio meddygol lle mae gofynion rheoleiddiol yn cyfyngu ar opsiynau ailgylchadwyedd

Mae’r dull hwn yn cynnal cyfanswm y refeniw a gynhyrchir gan ffioedd pEPR gan greu cymhellion ariannol ystyrlon i gynhyrchwyr newid i opsiynau pacio mwy ailgylchadwy. Trwy osod cynllun tair blynedd, mae’r polisi yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar ddiwydiant i wneud penderfyniadau buddsoddi ar sail gwybodaeth a newidiadau gweithredol.

Mae’r polisi modiwleiddio yn cefnogi’n uniongyrchol yr egwyddorion craidd sy’n sail i’r cynllun pEPR - ‘y llygrwr sy’n talu’, cywiro yn y ffynhonnell, ac atal. Mae’n sicrhau bod cynhyrchwyr sy’n creu deunydd pacio sy’n llai cynaliadwy o safbwynt yr amgylchedd yn ysgwyddo cyfrifoldeb ariannol priodol, gan wobrwyo’r rhai sy’n gwneud dewisiadau cadarnhaol.

Mae PackUK wedi ymrwymo i ymchwil bellach i gynnwys ffactorau cynaliadwyedd amgylcheddol ychwanegol mewn diweddariadau polisi yn y dyfodol, gan barhau i hybu arloesedd a gwelliant wrth ddylunio deunydd pacio ledled y DU.

Datganiad Sefyllfa Rheoleiddiol

Mewn ymateb i adborth gan y diwydiant ynglŷn â’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen i fodloni eu rhwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd 2025, mae rheoleiddwyr amgylcheddol y pedair gwlad wedi cyhoeddi Datganiad Sefyllfa Rheoleiddiol (Penderfyniad Rheoleiddio yng Nghymru) sy’n rhoi hyblygrwydd ychwanegol i gynhyrchwyr yn ystod y trawsnewid hwn.

Nod hyn yw lleddfu’r baich wrth gynnal yr ymrwymiad i gyflwyno ffioedd pEPR wedi’u modiwleiddio o flwyddyn asesu 2026 i 2027. Er bod yn rhaid i gynhyrchwyr barhau i gyflwyno adroddiadau am dunelli o ddeunydd ar gyfer hanner cyntaf 2025 gan gynnwys plastigau ystwyth ac anystwyth ar wahân, gellir canfod eu rhwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd ar gyfer y cyfnod hwn o ddata ail-hanner.

Mae’r datganiad polisi modiwleiddio cychwynnol yn cwmpasu’r tair blynedd o flwyddyn asesu 2026 i 2027 hyd at 2028 i 2029. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y drefn modiwleiddio ffioedd yn seiliedig i ddechrau ar ailgylchadwyedd yn unig trwy’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM).

Yn dilyn hyn ac yn unol â’r gofyniad i adolygu’r drefn fodiwleiddio ar ôl tair blynedd, bydd PackUK yn ymchwilio i sut y gallai modiwleiddio ymgorffori ffactorau cynaliadwyedd ychwanegol, gyda’r posibilrwydd o gynnwys y rhain yn y drefn fodiwleiddio ar ôl y cyfnod hwn.

Strategaeth dros dro PackUK

Wrth sefydlu’r cynllun pEPR, mae’n ofynnol i PackUK, fel Gweinyddwr y Cynllun, gyhoeddi strategaeth sy’n bodloni’r gofynion a nodir ym Mharagraff 11 o Atodlen 7 i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.

Mae hon yn strategaeth dros dro, sydd wedi’i chymeradwyo gan swyddogion o’r pedair cenedl a gweinidogion llywodraethau datganoledig ar yr un pryd i gael eu sêl bendith.

Bydd strategaeth hirdymor yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn 2025 i gynnwys:

  • strwythurau a threfniadau tymor hir (Prif Weithredwr a Phrif Swyddog Strategaeth i’w penodi’n fuan)
  • datblygiadau i amcanion polisi ledled y DU dros y misoedd nesaf e.e. gwaith ynghylch ailddefnyddio, Fframwaith Canlyniadau Llywodraeth Leol ar gyfer Lloegr
  • y bwriad i benodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr erbyn mis Mawrth 2026.

Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn a amlinellir uchod yn gonglfaen ar gyfer cynlluniau deunydd pacio ehangach y llywodraeth, sydd gyda’i gilydd yn anelu at gefnogi 25,000 o swyddi ac ysgogi mwy na £10 biliwn o fuddsoddiad mewn seilwaith ailgylchu dros y degawd nesaf.

Diweddariadau ychwanegol ar pEPR

Ar 27 Mehefin 2025, anfonodd pedair  llywodraeth y Deyrnas Unedig lythyr at y rhanddeiliaid allweddol yn amlinellu’r diweddariadau polisi pwysig ynghylch dylunio a chyflawni cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith (pEPR).

Rhoddodd y llythyr ddiweddariadau ar y pynciau canlynol:

  • pecynwaith defnydd deuol - diffinio cartref
  • ailddefnyddio pecynwaith
  • sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr
  • asesiadau ailgylchadwyedd
  • lefelu’r cae chwarae ar gyfer ailbroseswyr domestig
  • effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr Awdurdodau Lleol

Mae PecynUK wedi cyhoeddi’r llythyr er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu am y datblygiadau diweddaraf yn y cynllun pEPR.

Diweddariad ar ddiwygiadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Mae’r diweddariadau polisi hyn, ochr yn ochr â’r cyhoeddiadau a grynhoir uchod, yn nodi cam allweddol wrth roi pEPR ar waith ac yn dangos gwerth y dull cydweithredol a gymerwyd wrth lunio’i ddatblygiad. Mae PecynUK yn dal i groesawu ymgysylltiad y rhanddeiliaid a’r diwydiant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Awst 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation of additional pEPR updates and the letter to make sure all stakeholders are informed of the latest developments in the pEPR scheme.

  2. Added a summary of policy updates from the 27 June 2025 letter sent by the 4 UK governments to key stakeholders about the extended producer responsibility (pEPR) scheme, and published the letter.

  3. Added Welsh translation.

  4. First published.