Mae ffioedd EPR dros becynwaith wedi'u gadarnhau ac nawr ar gael
Mae PackUK wedi cadarnhau a cyhoeddi y ffioedd gwaredu gwastraff EPR dros becynwaith ar gyfer 2026/27
Heddiw, 25 Tachwedd 2026 mae PecynUK wedi cyhoeddi’r ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) 2026/27.
Am y tro cyntaf, bydd cynhyrchwyr yn talu ffioedd wedi’u modiwleiddio (Gwyrdd, Melyn, neu Goch), ar sail ailgylchadwyedd y pecynwaith y maen nhw’n ei roi ar y farchnad, yn unol â’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM).
Nod y dull modiwleiddio yw creu cymhelliant i ddylunio pecynwaith cynaliadwy drwy gysylltu ffioedd â graddfeydd ailgylchadwyedd:
-
Bydd pecynwaith â sgôr wyrdd (a all gael ei ailgylchu’n eang) yn arwain at ffioedd is
-
Bydd pecynwaith â sgôr goch (anodd ei ailgylchu) yn arwain at ffioedd uwch
-
Ffioedd melyn yw’r llinell sylfaen ar gyfer deunyddiau heb eu modiwleiddio
Mae’r cynhyrchwyr yn gallu gweld yn glir faint y gallan nhw ei arbed drwy ddefnyddio pecynwaith sy’n fwy ailgylchadwy, gan fod modiwleiddio’n gwobrwyo dewisiadau dylunio cylchol, arloesedd mewn pecynwaith a gwell canlyniadau amgylcheddol.
Nod y tryloywder yma yw ategu penderfyniadau buddsoddi gwybodus ac annog y cynhyrchwyr i symud i ffwrdd o ddeunyddiau anodd eu hailgylchu dros amser.
Cynllun yr EPR dros becynwaith yw conglfaen diwygiadau pecynwaith y Deyrnas Unedig. Mae dros £2 biliwn eisoes wedi’i ddarparu i awdurdodau lleol y Deyrnas Unedig drwy’r cynllun er mwyn gwella gwasanaethau casglu ac ailgylchu gwastraff cartref, gan roi budd uniongyrchol i ardaloedd lleol.
Wrth i’r cynllun aeddfedu, mae PecynUK yn disgwyl gweld data o ansawdd gynyddol uchel a thystiolaeth dda gan y cynhyrchwyr. I helpu’r cynhyrchwyr ymhellach gyda gwaith cynllunio, cyflwynwyd dyddiad cau pendant ar gyfer ailgyflwyno data er mwyn rhoi pwynt clir lle defnyddir data i bennu’r ffioedd. Bydd hyn yn rhoi mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd ynglŷn â’r ffioedd, gan helpu busnesau i gynllunio’n hyderus.
Bydd y cynhyrchwyr sy’n atebol o dan yr EPR am dalu ffioedd pecynwaith yn cael gwybod gan dîm Gwasanaeth Cwsmeriaid PecynUK pan fydd eu Hysbysiad Atebolrwydd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth am y ffioedd sydd wedi’u cadarnhau, ewch i: Ffioedd wedi’u cadarnhau 2026 i 2027: Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig ar gyfer Pecynwaith - GOV.UK