Stori newyddion

Chwalu’r chwedlau am gyllid i fyfyrwyr

Chwalu’r chwedlau am gyllid i fyfyrwyr

Os oes posibiliad y byddwch yn dewis lle ar gwrs addysg uwch trwy’r system Glirio eleni, mae’n amser i chi gael y ffeithiau ar sut i gael trefn ar eich cyllid i fyfyrwyr hefyd.

Ar ddiwrnod canlyniadau, efallai y bydd gennych chi raddau annisgwyl ac yn ystod y cyfnod prysur hwn, efallai y byddwch yn clywed rhai chwedlau ynghylch ymgeisio am, neu newid eich cais, ar gyfer cyllid i fyfyrwyr.

Rydym eisiau sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth a chefnogaeth gywir fyddwch chi angen i’ch helpu i gael trefn ar eich cyllid i fyfyrwyr os byddwch yn derbyn lle ar gwrs trwy’r System Glirio. Bydd ein chwalwr chwedlau yn rhoi’r ffeithiau rydych eu hangen i chi gael trefn ar eich cyllid i fyfyrwyr mor hawdd â phosibl.

Chwedl: Os bydda i’n cael lle trwy’r system Glirio, mae’n rhy hwyr i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr.

CHWALWYD: Nac ydi, ond os nad ydych chi wedi ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr eto, mae angen i chi wneud hynny ar frys. Gallai gymryd hyd at chwe wythnos i ni brosesu eich cais. Efallai na fyddwch chi’n cael eich arian i gyd erbyn dechrau’ch cwrs, ond bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ceisio sicrhau bod gennych chi o leiaf rywfaint o arian mor agos at adeg ddechrau’ch cwrs â phosibl.

Chwedl: Os ydw i eisoes wedi ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ac mae fy nghwrs yn newid trwy’r system Glirio, does dim rhaid i mi wneud unrhyw beth.

CHWALWYD: Os ydych chi eisoes wedi ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ond eisiau newid eich cwrs, prifysgol neu goleg, mae angen i chi ddiweddaru manylion eich cwrs i sicrhau eich bod yn derbyn eich cyllid i fyfyrwyr ar ddechrau’r tymor.

Y ffordd hawsaf i ddiweddaru manylion cwrs yw mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein a dewis ‘Newid eich cais’: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Chwedl: Mae angen i mi anfon fy mhasbort ac amodau a thelerau wedi llofnodi i dderbyn fy nghyllid i fyfyrwyr.

CHWALWYD: Os oes gennych chi Basbort y Deyrnas Unedig o fewn dyddiad, gallwch ddarparu eich manylion Pasbort ar eich ffurflen gais ar-lein a fydd yn cael ei wirio’n awtomatig gyda Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’r Llywodraeth. Pan fydd eich cais wedi ei brosesu, gallwch hyd yn oed dderbyn yr amodau a thelerau yn defnyddio e-Lofnod digidol.

Chwedl: Mae’n cymryd hydoedd i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr oherwydd bod angen i fy rhieni neu bartner anfon ffurflenni papur a thystiolaeth.

CHWALWYD: Os yw’ch rhieni neu bartner yn darparu gwybodaeth ariannol i gefnogi eich cais, gallant wneud hyn ar-lein a byddwn yn dilysu eu gwybodaeth gyda HMRC. Os gofynnir i chi anfon rhywfaint o waith papur atodol i gefnogi eich cais, gellir lanlwytho hyn o’ch cyfrif yn defnyddio gwasanaeth lanlwytho tystiolaeth ddigidol newydd.

Chwedl: Does yna ddim gwybodaeth ar gael ar gyllid i fyfyrwyr a’r System Glirio.

CHWALWYD: Mae yna amrywiaeth o wybodaeth a chanllawiau ar gael ar: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Gallwch hefyd wylio rhestr chwarae Clirio CMC ar YouTube

Mae arbenigwyr Cyllid Myfyrwyr Cymru yma i helpu dydd Llun i ddydd Gwener o 9am-5pm a dydd Sadwrn:

Cyhoeddwyd ar 13 August 2020