Stori newyddion

Galw ar gynrychiolwyr y gadwyn gwerth pecynwaith i ymuno â Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun (SASG) pEPR

Mae PecynUK bellach yn croesawu datganiadau o ddiddordeb ar gyfer penodi aelodau i Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun tan 12 Medi.

Mae PackUK wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb (EOI) i ymuno â Grŵp Llywio’r Gweinyddwr Cynllun. Bydd ceisiadau bellach yn cau ar 12 Medi.

Mae PackUK, Gweinyddwr y Cynllun ar gyfer Cyfrifoldebau Estynedig Cynhyrchwyr am Becynwaith (pEPR), wedi ymrwymo i weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r gadwyn gwerth pecynwaith i’w arwain yn ei waith.

Mae Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi’r berthynas waith agos hon ac mae’n dod â gweithwyr proffesiynol medrus o bob rhan o’r gadwyn gwerth pecynwaith at ei gilydd sy’n frwd dros ailgylchu a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae’r Grŵp Llywio yn darparu safbwyntiau ac argymhellion gwerthfawr i Bwyllgor Gweithredol Gweinyddu’r Cynllun ar swyddogaethau gweithredol Gweinyddu’r Cynllun, gan ei gefnogi i wneud y canlynol:

  • darparu system sy’n creu’r manteision amgylcheddol mwyaf drwy rannu gwybodaeth a chydweithio
  • sicrhau bod y system gasglu a phecynnu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl

Mae’r argymhellion hyn yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o lunio PackUK wrth iddo dyfu a datblygu. Er nad yw’r grŵp yn ymwneud yn uniongyrchol â gwneud penderfyniadau, mae’n ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth sy’n cynnwys aelodau a fydd â chyfoeth o arbenigedd gweithredol a pholisi o amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Mae datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rôl Aelod o’r Grŵp Llywio bellach ar agor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach yn croesawu datganiadau o ddiddordeb ar gyfer penodi aelodau i Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun.

Mae’r rôl wirfoddol hon yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at un o ddiwygiadau amgylcheddol mwyaf arwyddocaol ein hoes: gan wneud cyfraniad uniongyrchol at gyflawni datgarboneiddio a sero net yn y DU erbyn 2050.

Fel aelod, byddwch yn darparu adborth, argymhellion a chyngor technegol gwerthfawr a fydd yn cyfrannu at gynllun pEPR cyntaf y DU, sy’n garreg filltir allweddol yn y broses o bontio i economi gylchol.

Sylwch fod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am seddi dewisol wedi’i ymestyn erbyn hyn tan 12 Medi.

Rhaid i ymgeiswyr allu dangos amrywiaeth o sgiliau, profiad a gwybodaeth o bob rhan o’r gadwyn gwerth a byddant yn destun proses ymgeisio gystadleuol deg ac agored.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i ymgeisio ar gael isod.

Manylion am y grŵp llywio

Yn unol â’r arferion gorau yn rhyngwladol ar gyfer Cynlluniau Cyfrifoldebau Estynedig Cynhyrchwyr, bydd y Grŵp Llywio yn cael ei arwain gan gynhyrchwyr. Dyma gynnwys y seddi yn y Grŵp Llywio:

Bydd y Grŵp Llywio yn cynnwys 10 unigolyn o sefydliadau cynhyrchu a chynrychiolwyr y gymdeithas fasnach (1 sedd ddynodedig ar gyfer y sector bwyd ac 1 sedd ddynodedig ar gyfer gweithgynhyrchu pecynwaith) ac 11 aelod arall, yn cynrychioli Awdurdodau Lleol ym mhob un o’r pedair gwlad, cyrff rheoli gwastraff, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, cynlluniau cydymffurfio, a chadeirydd annibynnol.

Sut mae gwneud cais

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dogfennau canlynol:

Mae’r dyddiad cau i Gynrychiolwyr Sefydliadau Cynhyrchwyr a Chymdeithasau Masnach, Cynlluniau Cydymffurfio, Sefydliadau Rheoli Masnach, ac NGOs wneud cais wedi’i ymestyn tan ganol dydd ar 12 medi 2025.

I wneud cais am y rôl wirfoddol hon, dylid dychwelyd eich CV a’ch datganiad ategol i SASteeringgroup@defra.gov.uk , gan nodi ‘Aelod o Grŵp Llywio Gweinyddu’r Cynllun’ yn y blwch pwnc.

Mae gofyn i bob ymgeisydd gyflwyno’r canlynol hefyd:

  • Ffurflen Gwybodaeth am Amrywiaeth a Gwrthdaro rhwng Buddiannau
  • CV dwy ochr A4 yn unig, yn amlinellu eich profiad, unrhyw gymwysterau proffesiynol a hanes cyflogaeth.
  • Datganiad ategol yn dangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol, gan roi enghreifftiau penodol (dim mwy na 750 gair).

Nodwch yn yr e-bost pa sedd ar y Grŵp Llywio rydych chi’n gwneud cais amdani (er enghraifft, Cynhyrchydd, Corff Rheoli Gwastraff, Corff Anllywodraethol Amgylcheddol, Cynllun Cydymffurfio).

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, anfonwch neges i SASteeringgroup@defra.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Awst 2025 show all updates
  1. The deadline for applications for members of the steering groups has been extended to 12 September 2025.

  2. Added translation