Stori newyddion

Ymgeisiwch nawr am gyllid i fyfyrwyr wrth i'r gwasanaeth ymgeisio lansio ar gyfer 2022 i 2023

Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr.

Apply now

Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr, wrth i’r gwasanaeth ymgeisio agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn disgwyl i oddeutu 1.5 miliwn o fyfyrwyr amser llawn, israddedig ymgeisio am gyllid eleni a’r cyngor yw i baratoi ceisiadau’n gynnar.

Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad a Grant Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw.

Trwy ymgeisio cyn y dyddiad cau (27 Mai 2022 ar gyfer myfyrwyr newydd ac 17 Mehefin 2022 ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd) gall myfyrwyr sicrhau bod ganddynt gyllid yn ei le ar gyfer cychwyn y tymor. Hyd yn oed os nad ydynt yn siŵr pa gwrs y byddant yn ei astudio neu pa brifysgol y byddant yn ei mynychu, mae SLC yn dal i annog myfyrwyr i ymgeisio nawr.

Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau. Gall myfyrwyr wirio statws eu cais ar-lein a gweld rhestr ‘tasgau i’w cwblhau’ gydag unrhyw weithredoedd syn weddill y mae angen iddynt ei wneud.

Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Gweithrediadau SLC:

“Mae SLC yn bodoli i alluogi cyfle i fyfyrwyr i fuddsoddi yn eu dyfodol trwy fynediad i addysg bellach ac addysg uwch. Rydyn ni eisiau i fyfyrwyr gael y cychwyn gorau posibl i’w taith addysg uwch trwy sicrhau bod eu cyllid yn ei le yn barod ar ddechrau’r tymor. Dyna pam ein bod yn eu hannog i ymgeisio nawr am eu cyllid i fyfyrwyr.

“Rydyn ni eisiau ei gwneud mor hawdd â phosibl i fyfyrwyr gael mynediad i gyllid i fyfyrwyr ac i’w cefnogi mae yna adnoddau ar gael ar-lein ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr/. Gallant hefyd ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) ar Facebook a Twitter i gael yr holl wybodaeth cyllid i fyfyrwyr diweddaraf.”

I helpu myfyrwyr i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr, rydyn ni wedi darparu’r awgrymau isod:

  • Ymgeisio Nawr

    Ymgeisiwch mor fuan â phosibl i sicrhau bod eich cyllid yn ei le cyn i’ch astudiaethau gychwyn. Y dyddiad cau i ymgeisio yw 27 Mai ar gyfer myfyrwyr newydd ac 17 Mehefin ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd. Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pa gwrs fyddwch chi’n ei astudio, mae’n dal yn bosibl i chi ymgeisio nawr yn defnyddio eich dewis cyntaf a diweddaru eich cais yn hwyrach os oes angen. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod gennych eich arian pan fyddwch yn cychwyn eich cwrs.

  • Peidiwch â’n ffonio ni – byddwn ni’n cysylltu â chi!

    Cofiwch y gall gymryd hyd at 6 i 8 wythnos i ni brosesu cais. Does dim angen cysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn i wirio statws eich cais. Byddwn yn cysylltu â chi os byddwn angen unrhyw beth arall. Gall ymgeiswyr wirio statws eu cais ar-lein a gweld rhestr ‘tasgau i’w cwblhau’ gydag unrhyw weithredoedd syn weddill y mae angen iddynt ei wneud.

  • Chwiliwch am yr ateb ar-lein gyntaf

    Manteisiwch ar yr wybodaeth ar adnoddau sydd ar gael ar-lein ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr – mae’r adnoddau hyn yn cael eu diweddaru’n barhaus i ymateb i anghenion myfyrwyr a’u rheini a phartneriaid wrth iddynt symud trwy’r cylch ymgeisio. Dylai myfyrwyr ddilyn CMC ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter) i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

  • Gall myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad a Grant Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Ewch i wefan CMC i weld beth sydd ar gael. Gwyliwch y ffilm Darganfod Cyllid i Fyfyrwyr i gael gwybod mwy.

Yn mynd i brifysgol neu goleg yn 2022 i 2023? Gwyliwch ein ffilm i gael gwybod sut mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr!

  • Cadwch eich dogfennau pwysig wrth law

    Cadwch eich rhif Yswiriant Gwladol, manylion pasbort y Deyrnas Unedig a manylion banc wrth law cyn i chi gychwyn eich cais gan y byddwch angen yr wybodaeth yma pan fyddwch chi’n ymgeisio.

  • Darparu eich tystiolaeth ategol ar-lein

    Cofiwch gyflwyno unrhyw dystiolaeth y gofynnir i chi ddarparu. Gellir cyflwyno’r holl dystiolaeth ar wahân i rai mathau o dystiolaeth hunaniaeth neu breswylio yn ddigidol trwy’ch cyfrif ar-lein.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych chi wedi astudio o’r blaen

    Os ydych chi wedi astudio o’r blaen, gallai effeithio ar eich cymhwyster – hyd yn oed os oedd eich cwrs blaenorol wedi ei hunangyllido. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch cais yn fuan er mwyn cadarnhau eich hawl.

  • Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cefnogaeth ychwanegol

    Efallai bod yna rai amgylchiadau ble gallwch gael mynediad i arian ychwanegol, er enghraifft os oes gennych chi anabledd, neu blant. Darganfyddwch fwy: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr

  • Dilynwch Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) ar gyfryngau cymdeithasol.

    Gall myfyrwyr gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyllid i fyfyrwyr trwy ddilyn CMC ar Facebook a Twitter.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2022