Dirymu awdurdodiad un cynnyrch bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.
Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yw’r awdurdod annibynnol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn yr Alban a bydd yn ystyried y sefyllfa ar gyfer yr Alban ar wahân.
Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pwnc yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r cynnig i ddirymu awdurdodiad ar gyfer y cynnyrch bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig sy’n cael ei ystyried yn yr ymgynghoriad hwn.
Os bydd yr awdurdodiad yn cael ei ddirymu, bydd y gofrestr o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig ar gyfer Prydain Fawr yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r dirymiad.
Diben yr ymgynghoriad
Wrth ymgynghori, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y cynnig i ddirymu’r awdurdodiad dan sylw. Mae croeso i randdeiliaid ddefnyddio’r cyfle hwn i wneud sylwadau neu dynnu sylw at unrhyw ffactorau ychwanegol a ddylai gael sylw gweinidogion cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn rhoi’r wybodaeth gefndirol, y manylion a’r cwestiynau rydym yn gwahodd eich ymatebion iddynt. Mae’n darparu dolenni i’r argymhellion rheoli risg a’r asesiad diogelwch. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn i’w gweld o dan yr isbennawd ‘Dogfennau’ isod.
Sut i ymateb
Dylech gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol:
E-bost: RPconsultations@food.gov.uk Enw: Y Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig Isadran/Cangen: Awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad
Os byddwch yn ymateb drwy e-bost, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych chi wedi eich lleoli.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Rydym yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd o fewn tua thri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, a darparu dolen iddo o’r dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau.
Gwybodaeth bellach
Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch fanylion at RPconsultations@food.gov.uk a byddwn yn ystyried eich cais.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth EF. Mae’r effeithiau posib mewn perthynas â’n cynigion wedi’u trafod yn y ddogfen ymgynghori. Os nad oes asesiad o’r effaith wedi’i ddarparu, byddwn yn nodi’r rheswm dros hynny yn y ddogfen ymgynghori.
Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Y Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig