Astudiaeth achos

Hyb trafnidiaeth newydd ym Mhorth yn cael £3.5 miliwn o gyllid

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro wedi dyfarnu £3.5 miliwn i gefnogi hyb trafnidiaeth newydd ym Mhorth, Rhondda Cynon Taf. Bydd yr hyb newydd yn gyfnewidfa bysiau a threnau integredig, wedi’i lleoli yn yr orsaf drenau.

Manteision yr hyb trafnidiaeth newydd i Borth

Bydd yn gwella:

  • cysylltiadau rhwng gwasanaethau bws a thrên
  • profiad teithwyr
  • amserau teithio

Mae’r hyb newydd wedi’i ddylunio i ddarparu teithio di-dor rhwng bysiau a threnau.

Bydd nodweddion yn cynnwys:

  • uwchraddio’r rhwydwaith teithio llesol lleol
  • mannau gwefru cerbydau trydan
  • storfeydd beiciau
  • safle tacsis

Llinell amser yr hyb trafnidiaeth

Dechreuwyd gwaith adeiladu ar yr hyb yn y gwanwyn 2022 a disgwylir iddo bara tua blwyddyn. Bydd yn agor cyn i drenau cyflym ddechrau rhedeg yn gyson. O 2024 ymlaen, bydd y trenau hyn yn rhedeg pedair gwaith yr awr ym Morth trwy Fetro De Cymru.

Rhagor o adfywio ym Mhorth

Bydd y gyfnewidfa newydd yn gweithredu fel angor ar gyfer rhagor o adfywio yn y dref.

Bydd yn denu buddsoddiad a datblygiad i ganol y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Cyngor Rhondda Cynon Taf:

Bydd yr hyb trafnidiaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol ym Mhorth, sydd wedi’i lleoli’n strategol fel porth i Rondda Fach a Fawr. Mae gan y cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adfywio canol y dref yn ehangach, y mae’r cynllun hwn yn ganolbwynt iddynt, ac rydym wedi llwyddo i sicrhau £3.5m o gyllid o’r Gronfa Ffyniant Bro i gyfrannu at hyn.

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023