Astudiaeth achos

£17.7m ar gyfer Cwm Nedd

Bydd £17.7 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei ddefnyddio gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i sefydlu Cwm Nedd fel prif gyrchfan i ymwelwyr.

Bydd y cyllid yn cefnogi datblygu cyrchfannau allweddol yng Nghwm Nedd. Bydd yn helpu i gyflwyno dau brosiect mawr.

Parc Gwledig Ystâd y Gnoll

Mae Ystâd y Gnoll yn enwog am ei harddwch naturiol. Bydd cyllid yn gwella apêl y parc fel cyrchfan i ymwelwyr.

Mae’r gwelliannau’n cynnwys:

  • agor mynediad at nodweddion treftadaeth pwysig gan gynnwys seleri a rhaeadrau Plas y Gnoll
  • moderneiddio’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi
  • cyfleusterau parcio gwell a phwyntiau gwefru trydan
  • Llwybrau cerdded a seiclo gwell ar gyfer y safle Woodland Trust cyfagos

Darganfyddwch fwy am Ystâd y Gnoll

Bro’r Sgydau Pontneddfechan

Bro’r Sgydau yw un o ardaloedd harddaf a mwyaf poblogaidd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc y Fforest Fawr. Ar hyn o bryd, mae’r ardal yn ei chael hi’n anodd darparu ar gyfer ymwelwyr ar adegau prysur. Bydd cynlluniau ar gyfer y cyllid yn gwella seilwaith i ymwelwyr ac yn lleihau pwysau ar y pentref.

Mae hyn yn cynnwys:

  • creu adeilad hwb i ymwelwyr gyda thoiledau cyhoeddus, fferm a siop
  • llety hundy i ymwelwyr
  • chyfleusterau parcio parhaol i goetsis a bysiau mini a chyfleusterau gwefru i gerbydau trydanol
  • gwelliannau i fynedfa’r pentref gyda sgwâr y pentref

Bydd y prosiect yn caniatáu i’r ardal ddarparu ar gyfer ymwelwyr presennol yn ystod oriau prysur a denu ymwelwyr newydd.

Darganfyddwch fwy am Bro’r Sgydau

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023