Astudiaeth achos

Hwb £11 miliwn i economi Cymru trwy uwchraddio’r A4119

Bydd dros £11 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwelliannau.

Mae rhan o’r A4119 yn ne Cymru yn dioddef oherwydd gormod o geir a thagfeydd. Bydd dros £11 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi gwelliannau a fydd o fudd i:

  • gerddwyr
  • modurwyr
  • beicwyr
Image showing an overview of stretch of the Road A4119 route in South Wales.

Uwchraddio’r A4119 i ehangu cysylltiadau rhanbarthol

Mae’r A4119 yn gyswllt allweddol i’r M4 a Chymoedd Rhondda. Bydd rhan o’r ffordd yn cael ei newid yn ffordd ddeuol rhwng:

  • cylchfan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • cylchfan Coed-elái

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac aelod y cabinet dros Seilwaith a Buddsoddiad:

Mae’r cynllun deuoli’n flaenoriaeth fuddsoddi i wella cysylltedd lleol â rhanbarth strategol Porth Rhondda yn sylweddol, trwy wella llif traffig yn yr ardal gymudo brysur hon. Bydd yn datgloi safle’r hen bwll glo, Parc Coed-Elái, lle mae uned fusnes fodern newydd y Cyngor wedi’i lleoli, a bydd y safle ehangach yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun hefyd yn gwella’r ddarpariaeth teithio llesol i’r gymuned leol yng Nghoed-elái.

Image showing an overview of Rhondda Gateway region roundabout and traffic flow in commuter area.

Gwelliannau i gefnogi teithio cynaliadwy

Bydd beicwyr a cherddwyr yn elwa hefyd.

Bydd:

  • llwybr newydd ar hyd gorllewin y ffordd gerbydau, o Gylchfan Coed-elái i Barc Busnes Llantrisant
  • pont newydd i’r de o gylchfan Coed-elái i annog cymudwyr i ddewis cerdded neu feicio

Disgwylir i’r gwaith helpu i greu miloedd o swyddi newydd trwy wella mynediad i:

  • safleoedd datblygu allweddol
  • Caerdydd

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023