Cynllun Cyfradd Unffurf TAW
Os bydd eich amgylchiadau’n newid
Mae’n rhaid i chi adael y cynllun os yw’r canlynol yn berthnasol:
- nid ydych bellach yn gymwys i fod yn rhan ohono
- ar ddiwrnod pen-blwydd eich busnes yn ymuno, roedd eich trosiant yn ystod y 12 mis diwethaf yn fwy na £230,000 (gan gynnwys TAW) – neu rydych yn disgwyl iddo fod yn y 12 mis nesaf
- rydych yn disgwyl i gyfanswm eich incwm fod yn fwy na £230,000 (gan gynnwys TAW) yn ystod y 30 diwrnod nesaf