Canllawiau

Cais i ostwng taliadau ar gyfrif

Defnyddiwch y ffurflen SA303 er mwyn gwneud cais i ostwng eich taliadau Hunanasesiad ar gyfrif.

Gallwch wneud cais i ostwng y swm y gofynnwyd i chi ei dalu os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’ch elw busnes neu incwm arall yn gostwng
  • mae’r rhyddhad treth sydd gennych hawl iddo’n codi
  • mae’r dreth a ddidynnwyd wrth y ffynhonnell yn fwy na’r flwyddyn dreth flaenorol

I wneud cais, gallwch naill ai:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen bost ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post at CThEF

Mae’n rhaid i chi wneud cais erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.  Er enghraifft, erbyn 31 Ionawr 2025 ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Gwneud cais am ostyngiad

Er mwyn llenwi’r ffurflen, bydd angen enw a chyfeiriad eich swyddfa CThEF (gallwch ddod o hyd i’r manylion hyn ar frig eich datganiad) ac un o’r canlynol:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
  • cyfeirnod y cyflogwr

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Gwneud cais ar-lein

Os na allwch wneud cais ar-lein

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

  1. Llenwch ffurflen SA303.

  1. Argraffwch y ffurflen hon, a’i hanfon at CThEF drwy’r post.

Apelio yn erbyn cosb

Gallwch wirio pryd a sut i apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad gan ddefnyddio’r offeryn ar-lein.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Dod o hyd i ragor o wybodaeth i’ch helpu gyda deall eich bil treth Hunanasesiad.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad treth, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i apelio yn ei erbyn.

Cyhoeddwyd ar 9 May 2024