Policy paper

Serious and organised crime strategy (accessible version)

Published 25 April 2019

Strategaeth Troseddau Difrifol a Threfnedig

Tachwedd 2018

Cm 9718

Cyflwynir i’r Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref trwy Orchymyn Ei Mawrhydi

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Cartref

Troseddau difrifol a threfnedig yw’r bygythiad diogelwch cenedlaethol mwyaf marwol mae’r DU yn ei wynebu, ac mae’n peri i’n heconomi a’n cymunedau ddirywio’n barhaus. Mae troseddwyr difrifol a threfnedig sy’n gweithredu yn y DU yn camfanteisio’n rhywiol ar blant ac yn targedu’r rhai hynny sy’n fwyaf agored i niwed yn ddidostur, gan ddinistrio bywydau ac yn difetha cymunedau. Mae eu gweithgareddau’n costio o leiaf £37 biliwn bob blwyddyn i ni. Gallant fanteisio ar elw eu troseddau ac ariannu ffyrdd afradlon o fyw tra bod pawb ohonom, ac yn arbennig eu dioddefwyr uniongyrchol, yn dioddef y canlyniadau.

Diogelu’r cyhoedd yw fy mlaenoriaeth bennaf fel Ysgrifennydd Cartref. Mae’r strategaeth hon yn cyflwyno ymagwedd y llywodraeth at atal ac amddiffyn yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig yn eu holl ffurfiau, a’n hymdrechion di-ildio i olrhain cyflawnwyr, o droseddwyr rhyw â phlant i garfannau elitaidd llygredig, er mwyn eu dwyn i gyfiawnder. Ni fyddwn caniatáu unrhyw le diogel i’r bobl hyn, eu rhwydweithiau na’u harian anghyfreithlon yn ein cymdeithas.

Yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth o’i Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig flaenorol yn 2013, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth greu’r pwerau, y partneriaethau a’r strwythurau gorfodi’r gyfraith sydd arnom eu hangen i ymateb i’r bygythiad. Yn arbennig, mae cymuned gorfodi’r gyfraith, a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi bod yn allweddol i’r cynnydd hwn â hanes trawiadol a pharhaus o amhariadau ar draws yr ystod lawn o fygythiadau a achosir gan droseddau difrifol a threfnedig.

Er gwaethaf ein holl lwyddiant, mae’n rhaid inni barhau i addasu i raddfa a chymhlethdod bygythiadau cyfredol a rhai’r dyfodol. Mae’r unigolion a’r rhwydweithiau sy’n ymwneud â throseddau difrifol a threfnedig ymysg y gwrthwynebwyr mwyaf galluog a gwydn mae’r DU yn eu hwynebu. Maent yn manteisio’n gyflym ar gyfradd newid dechnolegol a globaleiddio ein cymdeithas, p’un a yw’n golygu ffrydio cam-drin yn fyw neu’n paratoi plant i bwrpas rhyw ar-lein, yn defnyddio drwgwedd i ddwyn data personol, neu’n manteisio ar fasnach fyd-eang agored a rhydd i symud nwyddau anghyfreithlon, pobl ac arian ar draws ein ffiniau.

Mae’r bygythiad yn croesi ffiniau, ac mae troseddau difrifol a threfnedig yn y DU yn un rhan o we fyd-eang o droseddoldeb. Mae troseddwyr rhyw â phlant yn rhannu delweddau o gamdrin yn fyd-eang. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y cyffuriau sy’n cael eu gwerthu ar ein strydoedd, gan gynnwys y trais sy’n gysylltiedig â’r fasnach honno, y rhwydweithiau sy’n masnachu plant ac oedolion sy’n agored i niwed i’r DU, y cyfrifydd llygredig yn gwyngalchu arian troseddol trwy gwmnïau cragen dramor, a gwleidyddion llygredig a swyddogion llygredig y wladwriaeth dramor sy’n darparu gwasanaethau a hafan ddiogel ar gyfer rhwydweithiau troseddol rhyngwladol.

Mae ein hymagwedd ddiwygiedig yn gosod mwy o ffocws ar y troseddwyr mwyaf peryglus a’r rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed uchaf. Bydd gwrthod y cyfle i droseddwyr wneud niwed a mynd ar ôl cyllid ac asedau troseddol yn allweddol i hyn. Byddwn ni’n gweithio gyda’r cyhoedd, busnesau a chymunedau i helpu i’w hatal rhag cael eu targedu gan droseddwyr a chefnogi’r rhai hynny sy’n cael eu targedu. Byddwn ni’n ymyrryd yn gynnar gyda’r rhai sydd mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i fywyd o droseddu. Ac, am y tro cyntaf, mae’r strategaeth hon yn cyflwyno sut y byddwn ni’n alinio ein hymdrechion i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig fel un system gydlynol. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n agos â phartneriaid rhyngwladol yn ogystal â’r rhai hynny yn y sectorau preifat a gwirfoddol.

Yn aml, gall troseddwyr difrifol a threfnedig feddwl eu bod yn rhydd i weithredu yn ddi-gosb yn erbyn ein plant, ein busnesau a’n ffordd o fyw. Maent yn anghywir. Maent yn credu y gallant ddefnyddio trais, bygythiadau a gorfodaeth i aros uwchlaw’r gyfraith, ac nad oes gan yr awdurdodau yr offer angenrheidiol a’r ewyllys i’w herio. Gan gydweithio, gan weithredu’r strategaeth newydd hon, byddwn ni’n dangos pa mor anghywir ydynt.

Y Gwir Anrhydeddus Sajid Javid AS

Yr Ysgrifennydd Cartref

Crynodeb Gweithredol

1. Mae troseddau difrifol a threfnedig yn effeithio ar fwy o ddinasyddion y DU, yn amlach, nag unrhyw fygythiad diogelwch cenedlaethol arall ac mae’n arwain at fwy o farwolaethau yn y DU bob blwyddyn na’r holl fygythiadau diogelwch cenedlaethol eraill wedi’u cyfuno.[footnote 1] Mae’n costio o leiaf £37 biliwn i’r DU bob blwyddyn.[footnote 2] Mae’n cael effaith andwyol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau, enw da a ffordd o fyw. Erbyn hyn, mae troseddu’n is nag yr oedd yn 2010,[footnote 3] er ein bod hefyd yn ymwybodol bod cynnydd gwirioneddol wedi bod mewn rhai troseddau o gyfaint isel, niwed uchel ers 2014. Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn asesu bod y bygythiad o droseddau difrifol a threfnedig yn cynyddu a bod troseddwyr difrifol a threfnedig yn chwilio’n barhaus am ffyrdd o fanteisio’n rhywiol neu fel arall ar ddioddefwyr newydd a dulliau newydd o wneud arian, yn arbennig ar-lein.

2. Mae cryn nifer o droseddau difrifol a threfnedig yn parhau i fod yn gudd neu heb eu hadrodd yn ddigonol, sy’n golygu bod y gwir raddfa yn debygol o fod yn fwy na’r hyn rydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd. Er y gall yr effaith fod yn anodd ei gweld yn aml, mae’r bygythiad yn real ac mae’n digwydd bob dydd o’n cwmpas. Mae troseddwyr difrifol a threfnedig yn ysglyfaethu ar y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys plant ifanc, a gall eu camdriniaeth gael effaith ddinistriol ar eu dioddefwyr a all barhau am oes. Maent yn targedu aelodau’r cyhoedd er mwyn eu twyllo, eu defnyddio a chamfanteisio arnynt, gwerthu sylweddau marwol iddynt a dwyn eu data personol wrth ymlid elw yn ddidostur. Maent yn defnyddio bygythiadau i greu ofn yn ein cymunedau ac i danseilio dilysrwydd y wladwriaeth. Wedi eu galluogi gan eu cyfreithwyr a’u cyfrifwyr, mae carfannau elitaidd llygredig a throseddwyr yn sefydlu cwmnïau ffug i’w helpu i guddio eu helw, ariannu ffyrdd afradlon o fyw a buddsoddi mewn troseddoldeb pellach.

3. Nid yw troseddau difrifol a threfnedig yn cydnabod unrhyw ffiniau, ac mae llawer o droseddwyr yn gweithredu fel rhan o rwydweithiau mawr sy’n cwmpasu llu o wledydd. Mae newid technolegol yn caniatáu i droseddwyr rannu delweddau anweddus o blant, gwerthu cyffuriau a hacio i mewn i seilwaith cenedlaethol yn haws o bob cwr o’r byd, wrth gyfathrebu’n gyflymach ac yn fwy diogel trwy ffonau wedi’u hamgryptio. Mae technoleg sy’n datblygu’n barhaus wedi golygu bod camfanteisio ar blant ar-lein yn dod yn haws ac yn fwy eithafol, o ffrydio cam-drin yn fyw i baratoi i bwrpas rhyw trwy gyfryngau cymdeithasol a safleoedd eraill. Hefyd mae troseddwyr difrifol a threfnedig yn manteisio ar fregusrwydd yn y nifer cynyddol o lwybrau masnach a thrafnidiaeth byd-eang i smyglo cyffuriau, arfau tanio a phobl. Maent wedi dysgu i fod yn fwy hyblyg, gwydn ac i rwydweithio’n well. Mae rhai yn credu na ellir cyffwrdd â nhw.

4. Mewn rhai gwledydd tramor, mae troseddwyr wedi creu lleoedd diogel lle mae troseddau difrifol a threfnedig, llygredd a’r wladwriaeth wedi’u rhyng-gysylltu ac yn gweithredu er eu lles eu hunain. Mae hyn yn creu ansefydlogrwydd ac yn tanseilio cyrhaeddiad y gyfraith, gan rwystro ein gallu i’n hamddiffyn ein hunain rhag bygythiadau diogelwch cenedlaethol eraill megis terfysgaeth a gweithgarwch gelyniaethus gan wladwriaethau. Mae llygredd, yn arbennig, yn rhwystro gallu’r DU i helpu pobl dlotaf y byd, lleihau tlodi a hyrwyddo ffyniant byd-eang.

Ein hymateb

5. Er gwaethaf cynnydd sylweddol, mae graddfa’r her a wynebwn yn drawiadol ac felly rydym wedi diwygio ein hymagwedd. Ein nod yw diogelu ein dinasyddion a’n ffyniant trwy sicrhau nad oes unrhyw le diogel i droseddwyr difrifol a threfnedig weithredu yn ein herbyn o fewn y DU a thramor, ar-lein ac all-lein. Mae’r strategaeth hon yn cyflwyno sut y byddwn ni’n defnyddio grym llawn y wladwriaeth, gan alinio ein hymdrechion ar y cyd i dargedu ac amharu ar droseddwyr difrifol a threfnedig. Byddwn ni’n paratoi’r holl lywodraeth, y sector preifat, cymunedau a dinasyddion unigol i chwarae eu rhan mewn un ymdrech ar y cyd i gael gwared ar niweidiau troseddau difrifol a threfnedig rhag ein cymdeithas, p’un a ydynt yn camfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin, y niwed a achosir gan gyffuriau ac arfau tanio, neu’r effeithiau cyrydol o ddydd i ddydd ar gymunedau ledled y wlad. Byddwn ni’n mynd ar drywydd troseddwyr trwy erlyn ac amharu, gan ddefnyddio ein holl bwerau ac offer ar y cyd yn eu herbyn. Byddwn ni’n: atal pobl rhag ymgysylltu â throseddau difrifol a threfnedig, diogelu dioddefwyr, sefydliadau a systemau rhag ei niweidiau; a pharatoi ar gyfer pryd mae’n digwydd, gan liniaru’r heffaith. Byddwn ni’n cryfhau ein cyrhaeddiad byd-eang er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiad cyn iddo gyrraedd ein glannau.

6. Mae’r strategaeth hon yn darparu fframwaith ac yn amlinellu set o alluoedd sydd wedi’u cynllunio i ymateb i’r ystod lawn o’r bygythiadau a gyflwynir gan droseddau difrifol a threfnedig. Mae gennym bedwar amcan cyffredinol er mwyn cyflawni ein nod:

    1. Amharu didostur a gweithredu wedi’i dargedu yn erbyn y troseddwyr a rhwydweithiau difrifol a threfnedig sy’n achosi’r niwed uchaf Byddwn ni’n targedu ein galluoedd yn erbyn troseddwyr sy’n camfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys y troseddwyr rhyw â phlant sy’n fwyaf penderfynol a gweithredol a byddwn ni’n targedu, ymlid a dihatru’n rhagweithiol y rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed mwyaf sy’n effeithio ar y DU. Byddwn ni’n defnyddio pwerau a galluoedd newydd a gwell i nodi, rhewi, atafaelu neu fel arall atal troseddwyr rhag cyrchu eu harian, asedau a seilwaith, yma a thramor gan gynnwys Gorchmynion Cyfoeth Anesboniadwy a Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol. Wrth wraidd yr ymagwedd hon bydd galluoedd data, gwybodaeth ac asesu newydd a fydd yn caniatáu i’r llywodraeth, yn arbennig yr NCA, dreiddio a deall troseddwyr difrifol a threfnedig yn well, a deall eu bregusrwydd yn fwy effeithiol a thargedu ein hamhariadau’n fwy effeithiol.
  • 2. Adeiladu’r lefelau uchaf o amddiffyn a chydnerthedd mewn pobl, cymunedau, busnesau a systemau sy’n agored i niwed Byddwn yn dileu gwendidau yn ein systemau a sefydliadau, gan roi llai o gyfleoedd i droseddwyr dargedu a manteisio arnynt. Byddwn ni’n sicrhau bod ein dinasyddion yn adnabod technegau troseddwyr yn well ac yn cymryd camau i’w hamddiffyn eu hunain. Mae hyn yn cynnwys gweithio i adeiladu cymunedau cryf sydd wedi’u paratoi’n well ac yn fwy cydnerth yn erbyn y bygythiad, ac yn llai goddefol o weithgarwch anghyfreithlon. Byddwn ni hefyd yn nodi’r rhai hynny sy’n cael eu niweidio’n gynt ac yn eu cynorthwyo hyd at safon sy’n gyson uchel.
  • 3. Atal y broblem yn y man cychwyn, gan nodi a chefnogi’r rhai hynny sydd mewn perygl o ymgymryd â throseddoldeb Byddwn ni’n datblygu a defnyddio dulliau ataliol ac addysg i ddargyfeirio mwy o bobl ifanc i ffwrdd o fywyd o droseddau difrifol a threfnedig a lleihau aildroseddu. Byddwn ni’n defnyddio cyrhaeddiad llawn y llywodraeth dramor i fynd i’r afael ag ysgogwyr troseddau difrifol a threfnedig.
  • 4. Sefydlu ymagwedd sengl, system gyfan Ar y lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, byddwn ni’n alinio ein hymdrechion ar y cyd i ymateb fel un system unigol. Byddwn ni’n gwella llywodraethu, dyrannu tasgau a chydlynu i sicrhau bod ein hymateb yn defnyddio ein holl ysgogiadau ac offer yn effeithiol yn erbyn y troseddwyr a’r rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed uchaf. Byddwn ni’n ehangu ein cyrhaeddiad a dylanwad byd-eang, gan gynyddu ein rhwydwaith o arbenigwyr tramor i sicrhau bod perthnasoedd gwleidyddol, diogelwch, gorfodi’r gyfraith, diplomyddol, datblygu, amddiffyn, ac ysgogiadau ariannol y DU yn cael eu defnyddio mewn modd mwy cydlynol a dwys. A byddwn ni’n gweithio i integreiddio â’r sector preifat, gan ddod â’n sgiliau, arbenigedd ac adnoddau at ei gilydd, cyd-gynllunio galluoedd newydd ar y cyd, a chael gwared ar wendidau gyda’n gilydd.

7. O ganlyniad, byddwn ni’n gallu mesur ac arddangos:

a) Rydym wedi codi’r risg o weithredu yn sylweddol i’r troseddwyr a rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed uchaf yn y DU a thramor, ar-lein ac all-lein, trwy sicrhau:

  • bod galluoedd data a chudd-wybodaeth newydd wedi targedu ac amharu ar droseddwyr a rhwydweithiau difrifol a threfnedig mewn ffyrdd newydd;
  • bod amrywiaeth o bartneriaethau ac arferion gweithio wedi’u hymsefydlu yn y DU sy’n ein galluogi i finiogi a chyflymu ein hymateb;
  • bod partneriaid tramor yn gweithio gyda ni yn amlach, yn fwy cydweithiol ac yn fwy effeithiol i dargedu troseddau difrifol a threfnedig sy’n effeithio ar y DU; ac
  • rydym yn arestio ac yn erlyn y troseddwyr difrifol a threfnedig allweddol, gan eu hatal rhag cam-drin, gwrthod ac adennill eu harian ac asedau, dihatru eu rhwydweithiau a thorri eu model busnes.

b) Mae cymunedau, unigolion a sefydliadau yn adrodd eu bod wedi eu diogelu’n well ac yn gallu eu hamddiffyn eu hunain yn well; a chefnogir dioddefwyr yn well i adfer ar ôl cael eu cam-drin neu eu camfanteisio.

c) Mae llai o bobl ifanc yn ymgysylltu â gweithgarwch troseddol neu aildroseddu.

Cyflwyniad

8. Mae’r strategaeth yn adeiladu ar Strategaeth Diogelwch Cenedlaethol 2015 (NSS) ac Adolygiad Amddiffyn a Diogelwch Strategol (SDSR),[footnote 4] a nododd droseddau difrifol a threfnedig fel bygythiad diogelwch cenedlaethol. Mae hefyd yn adlewyrchu canfyddiadau ac argymhellion Adolygiad Gallu Diogelwch Cenedlaethol 2018 (NSCR).

9. Mae gan y strategaeth hon gysylltiadau â strategaethau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Strategaeth y DU ar gyfer Gwrthsefyll Terfysgaeth (CONTEST),[footnote 5] strategaeth Gwrth-lygredd y DU 2017-2022,[footnote 6] Strategaeth Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSS) 2016-2021[footnote 7] a’r Strategaeth Caethwasiaeth Fodern 2014.[footnote 8] Mae hefyd yn cysylltu â gwaith y llywodraeth ar drais difrifol, yn arbennig ar gyfer bygythiadau megis troseddau ynghylch llinellau sirol ac arfau tanio. Rydym yn cyflwyno’r cysylltiadau rhwng y strategaeth hon a Strategaeth Trais Difrifol 2018[footnote 9] drwy gydol y ddwy ddogfen.

10. Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn gyfrifol am y Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig (SOC), ond mae hon yn strategaeth draws-lywodraethol. Mae’r Swyddfa Gartref wedi arwain gwaith i gynhyrchu’r strategaeth, gyda chyfraniadau mawr gan adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, ac mewn partneriaeth agos â’r gweinyddiaethau datganoledig, heddluoedd lleol a’r sector preifat. Penodwyd Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd yn y Swyddfa Gartref yn 2018 i oruchwylio’r ymateb i droseddau difrifol a threfnedig.

11. Mae’r gweinyddiaethau datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru yn gyfrifol am y swyddogaethau sydd wedi’u datganoli iddynt. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, cyfrifoldeb Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yw materion troseddu a phlismona. Mae’r gweinyddiaethau datganoledig hyn wedi cyhoeddi eu strategaethau eu hunain (Strategaeth Troseddau Difrifol Trefnedig yr Alban 2015[footnote 10] a Strategaeth Troseddau Trefnedig Gogledd Iwerddon 2016).[footnote 11], [footnote 12] Yng Nghymru, byddwn yn parhau i weithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a’r pedwar Comisiynwr Heddlu a Throseddu Cymru i weithredu uchelgais y strategaeth hon.

12. Mae Rhan Un o’r ddogfen hon yn nodi’r bygythiad presennol. Mae hyn yn cynnwys diffinio’r hyn rydym yn ei olygu wrth droseddau difrifol a threfnedig, gan grynhoi eu heffaith a chyflwyno sut maent yn debygol o ddatblygu.

13. Mae Rhan Dau yn ymdrin â’n hymagwedd strategol newydd ac mae’n cyflwyno ein huchelgais cyffredinol wrth ymateb i droseddau difrifol a threfnedig.

14. Mae Rhan Tri yn canolbwyntio ar sut mae hyn yn trosi i weithredu o gwmpas ein pedwar amcan cyffredinol.

15. Mae Rhan Pedwar yn disgrifio sut y byddwn ni’n gweithredu’r strategaeth yn y DU a thramor, gan gynnwys manylion ynghylch llywodraethu a goruchwylio a sut y byddwn ni’n mesur ein heffaith.

Rhan Un: Effaith Troseddu Difrifol a threfnedig ar y DU

16. Rydym yn diffinio troseddau difrifol a threfnedig fel unigolion sy’n cynllunio, cydlynu a chyflawni troseddau difrifol, boed hynny’n unigol, mewn grwpiau a/neu fel rhan o rwydweithiau trawswladol. Y prif gategorïau o droseddau difrifol sy’n cael eu cwmpasu gan y term yw camfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol; cyffuriau anghyfreithlon; arfau tanio anghyfreithlon; twyll; gwyngalchu arian a throseddau economaidd eraill; llwgrwobrwyo a llygredd; troseddau trefnedig ynghylch mewnfudo; caethwasiaeth fodern; masnachu mewn pobl; a seiberdroseddu.

17. Erbyn hyn mae troseddu yn is nag ydoedd yn 2010. Ein mesur gorau o dueddiadau troseddu hirdymor ar sylfaen gyson, mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr[footnote 13] yn dangos gostyngiad o 34% mewn troseddau cymaradwy dros y cyfnod hwn. Ond rydym hefyd yn ymwybodol, ers 2014, bod cynnydd gwirioneddol wedi bod mewn troseddau mynychder isel, niwed uchel fel troseddau cyllyll, troseddau gynnau a dynladdiad.

18. Mae’r Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a threfnedig, a gyhoeddir yn flynyddol gan yr NCA yn cyflwyno’r bygythiad yn fanwl.[footnote 14] Yn 2018, mae’r NCA yn ymwybodol o dros 4,600 o grwpiau troseddau trefnedig sy’n gweithredu yn y DU.[footnote 15] Eto i gyd, mae llawer o droseddau difrifol a threfnedig yn parhau i fod yn gudd (camfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol, caethwasiaeth fodern) neu heb eu hadrodd yn ddigonol, (twyll, seiberdroseddu), sy’n golygu bod y raddfa wirioneddol yn anodd ei mesur ac yn debygol o fod yn llawer mwy. Mae Ffigur 1 yn amlinellu rhai o’r dangosyddion ar raddfa a chwmpas y bygythiadau troseddau difrifol a threfnedig.

Ffigur 1 – Asesiad yr NCA o fygythiadau troseddau difrifol a threfnedig i’r DU

Bygythiad SOC i’r DU

Gwendidau Ffyniant Nwyddau
Cynnydd o 35% o ddioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl a gyfeiriwyd at Fecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn 2017 Llwgrwobrwyo, llygredd ac osgoi sancsiynau 2,503 o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr yn 2017  
Troseddau mewnfudo trefnedig Mae posibilrwydd realistig bod graddfa gwyngalchu arian sy’n effeithio ar y DU yn flynyddol yn cyrraedd y degau o biliynau o bunnoedd. Cynnydd o 25% mewn troseddau arfau tanio rhwng 2015/16 a 2017/18  
Mae atgyfeiriadau camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant ar-lein wedi codi o 700% yn ystod y pedair blynedd diwethaf 3.3 miliwn o ddigwyddiadau twyll yng Nghymru a Lloegr (y flwyddyn yn dod i ben Mehefin 2018)    
  Nododd 43% o fusnesau’r DU o leiaf un toriad neu ymosodiad diogelwch seiber in 2017    

19. Rydym yn amcangyfrif bod troseddau difrifol a threfnedig yn costio £37 biliwn i’r DU yn flynyddol.[footnote 16] Mae’r ffigur hwn wedi cynyddu o £13 biliwn ers yr amcangyfrif yn 2013, er bod hyn yn rhannol yn cael ei briodoli i newidiadau yn y fethodoleg i gynhyrchu amcangyfrifon mwy cadarn, a chynnwys mathau ychwanegol o droseddau (megis troseddau gwastraff trefnedig a throseddau seiber-ddibynnol trefnedig yn erbyn unigolion).

20. Mae’r galw am fathau cyffredin o gyffuriau yn parhau’n uchel yn y DU, gydag ychydig o dan 1.1 miliwn o oedolion wedi cymryd cyffur Dosbarth A yn 2017/18.[footnote 17] Roedd 2,503 o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau wedi’u cofrestru yng Nghymru ac yn Lloegr yn 2017; heroin a/neu morffin oedd y cyffuriau mwyaf angheuol, sy’n gyfrifol am 47% o’r marwolaethau hyn.[footnote 18] Mae tueddiadau diweddar yn cynnwys pwynt uchel o ran argaeledd cyffuriau synthetig gwenwynig iawn, yn arbennig Fentanyl, opioid synthetig sydd hyd at gan gwaith yn gryfach na morffin ac a gysylltir â marwolaethau lluosog sy’n gysylltiedig â heroin ar lefel genedlaethol yn 2017.[footnote 19]

21. Bu cynnydd hefyd yn argaeledd[footnote 20] cocên crac a chynnydd yn ei ddefnydd[footnote 21]. Cynyddodd purdeb y crac ar lefel y stryd o 36% yn 2013 i 71% yn 2016, gan ddangos llinell gyflenwi hyblyg sy’n gallu goresgyn ysgytwadau tymor byr. Fel y’i nodwyd yn y Strategaeth Trais Difrifol, mae tystiolaeth bod gan farchnadoedd cocên crac gysylltiadau cryf â thrais difrifol ac mae cysylltiad rhwng cynnydd diweddar mewn dynladdiad a throseddau cyllyll a gynnau, a lefelau cynyddol o ddefnydd a phurdeb cocên crac. Mae ymchwil yn awgrymu bod defnyddwyr heroin a chocên crac yn cyflawni oddeutu 45% o’r holl droseddau dwyn yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn ehangach, mae’r grwpiau sy’n ymwneud â rhwydweithiau dosbarthu cyffuriau llinellau sirol fel y’i gelwir yn effeithio ar bob ardal heddlu ac yn achosi niwed sylweddol, gan gynnwys trais, defnyddio arfau tanio ac chamfanteisio ar bobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed.

22. Mae troseddau difrifol a threfnedig yn cael effaith ddinistriol. Gall unrhyw blentyn fod yn ddioddefwr cam-drin neu gamfanteisio ac mae troseddwyr yn camfanteisio ar y twf anferth yn y niferoedd y plant sydd â mynediad hawdd i’r rhyngrwyd. Mae stereoteipiau’r dioddefwr ‘nodweddiadol’ o gamfanteisio ar blant ymhellach nag erioed o’r gwir. Mae camfanteisio ar blant ar-lein yn dod yn haws ac yn fwy eithafol.[footnote 22] Mae pob oedran yn cael ei effeithio, o fabanod a phlant bach i bobl ifanc yn eu harddegau hŷn. Mae troseddwyr rhyw â phlant yn dod yn fwy soffistigedig, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, safleoedd rhannu delweddau a ffeiliau, safleoedd gêmio a safleoedd gwneud oed i baratoi dioddefwyr posibl i bwrpas rhyw. Mewn ymateb i ymdrechion gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith i’w dal, maent yn defnyddio mesurau amgryptio, mesurau anonymeiddio a dinistrio ar y we dywyll a’r rhyngrwyd agored. Mae cam-drin sy’n cael ei ffrydio’n fyw yn fygythiad cynyddol ac mae defnydd plant eu hunain o gymwysiadau ffrydio byw a hunan-ddarlledir yn cael eu camddefnyddio gan droseddwyr.

23. Mae nifer yr atgyfeiriadau i’r NCA sy’n ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein wedi cynyddu o 700% yn y pedair blynedd ddiwethaf.[footnote 23] Effaith fwyaf uniongyrchol camfanteisio ar a cham-drin pobl sy’n agored i niwed yw’r niwed corfforol ac emosiynol i’r unigolyn, ac mae miloedd o ddioddefwyr bob blwyddyn yn cael eu gadael ag anghenion hirdymor a all hefyd gael effaith barhaol ar wasanaethau cyhoeddus. Mae camfanteisio trefnedig ar raddfa fawr, fel yr hyn a welwyd yn Rotherham a mannau eraill hefyd wedi achosi niwed cenedliadol i uniondeb a chydlyniad cymunedau lleol. Mae troseddwyr difrifol a threfnedig yn ysglyfaethu ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae’r rhai hynny sydd dan anfantais economaidd neu sydd wedi’u disodli o’u cartref neu wlad yn arbennig o agored i ddioddef camfanteisio.[footnote 24] Atgyfeiriwyd 5,145 o ddioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) yn 2017, cynnydd o 35% ar 2016. Cynyddodd nifer y plant a atgyfeiriwyd i’r NRM o 66% yn ystod y cyfnod hwn.[footnote 25]

24. Mae cymunedau hefyd yn teimlo effaith troseddau difrifol a threfnedig trwy’r trais a’r bygythiadau sy’n aml yn ymddangos â llawer o fathau o droseddau.[footnote 26] Gall troseddwyr trefnedig wthio busnesau cyfreithlon allan ac maent yn defnyddio arfau tanio i amddiffyn neu gynyddu eu mentrau troseddol. Roedd cynnydd o 25% mewn troseddau arfau tanio rhwng 2015/16 a 2017/18.[footnote 27] Hefyd mae perygl y gallai terfysgwyr geisio caffael arfau tanio trwy rwydweithiau troseddol.

25. Mae troseddu economaidd yn gategori eang o weithgarwch anghyfreithlon, gan gynnwys twyll, llygredd, gwyngalchu arian, ac osgoi treth. Roedd 3.3 miliwn o ddigwyddiadau o dwyll yn y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mehefin 2018, sef bron i draean o’r holl droseddau.[footnote 28] Amcangyfrifir mai graddfa gyffredinol troseddu economaidd yw £14.4 biliwn y flwyddyn, â’r gost i fusnesau a’r sector cyhoeddus oherwydd twyll trefnedig heb fod yn llai na £5.9 biliwn y flwyddyn.[footnote 29] At ddibenion y strategaeth hon, mae cyllid anghyfreithlon yn golygu dal, symud, cuddio neu ddefnyddio enillion ariannol o droseddu sy’n effeithio ar fuddiannau’r DU. Mae grwpiau troseddau trefnedig a charfannau elitaidd llygredig yn gwyngalchu’r elw troseddu drwy’r DU i ariannu ffyrdd afradlon o fyw ac ailfuddsoddi mewn troseddoldeb. Mae’r mwyafrif helaeth o drafodion ariannol drwy’r DU ac o fewn y DU yn gwbl gyfreithlon, ond mae ei rôl fel canolfan ariannol fyd-eang a chanolfan fwyaf y byd ar gyfer bancio trawsffiniol yn golygu bod y DU yn agored i wyngalchu arian. Mae posibilrwydd realistig bod graddfa’r gwyngalchu arian sy’n effeithio ar y DU yn flynyddol yn cyrraedd y degau o biliynau o bunnoedd. Mae hyn yn cyflwyno risg sylweddol i enw da’r sector ariannol yn y DU, sy’n hanfodol ar gyfer masnach fyd-eang a’n ffyniant hirdymor. Mae gweithwyr proffesiynol megis cyfreithwyr a chyfrifwyr yn rhan bwysig o’r ymateb i droseddau difrifol a threfnedig. Fodd bynnag, boed yn gysylltiedig, esgeulus neu anymwybodol, mae galluogwyr proffesiynol hefyd yn hwyluswyr allweddol yn y broses o wyngalchu arian ac yn aml maent yn hanfodol wrth integreiddio arian anghyfreithlon yn y DU a systemau bancio byd-eang.[footnote 30]

26. Mae ymosodiadau seiber gan droseddwyr yn parhau i niweidio’r economi, ac mae toriadau diogelwch seiber yn fater costus ac aflonyddgar i fusnesau. Nododd 43% o holl fusnesau’r DU o leiaf un toriad neu ymosodiad diogelwch seiber yn ystod 2017, ffigur a gododd i 64% ymysg cwmnïau maint canolig a 72% ar gyfer cwmnïau mawr.[footnote 31] Mae ymosodiadau proffil uchel fel ymgyrch meddalwedd wystlo WannaCry, a amharodd ar dros draean o ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr ac a arweiniodd at ohirio miloedd o lawdriniaethau, yn pwysleisio’r niwed byd go iawn sy’n deillio o’r ymosodiadau hyn. Mae’r gwahaniaeth rhwng cenedl-wladwriaethau a grwpiau troseddol o ran seiberdroseddu yn dod yn aneglur yn aml, gan wneud priodoli ymosodiadau seiber yn fwyfwy anodd.

27. Mae llygredd yn bygwth ein diogelwch a ffyniant cenedlaethol, gartref a thramor. Yn y wlad hon mae risg arbennig i’r ffiniau a’r sectorau mewnfudo, gorfodi’r gyfraith a charchardai a all danseilio rheolaeth y gyfraith, a thramor mae’n achosi gwrthdaro ac ansefydlogrwydd, a all, os na ellir mynd i’r afael ag ef, gynyddu risgiau i’r DU. Mae troseddoldeb trefnedig, llygredd a chleptocratiaeth hefyd yn rhwystrau cynyddol ddifrifol i amcanion polisi a datblygu tramor y DU. Maent yn ystumio ac yn rhwystro twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy, yn llygru’r broses ddemocrataidd, yn bygwth bywoliaethau cyfreithlon, cynaliadwy, yn niweidio cydlyniad cymdeithasol ac yn dwysáu allgáu. Mae’r holl ffactorau hyn yn herio gallu’r DU i helpu pobl dlotaf y byd, lleihau tlodi a hyrwyddo ffyniant byd-eang.

Sut mae troseddau difrifol a threfnedig yn debygol o ddatblygu

28. Mae troseddau difrifol a threfnedig yn cynyddu o ran cyfaint a chymhlethdod.[footnote 32] Yn ôl yr NCA, bydd datblygiadau mewn technoleg ac ansefydlogrwydd a achosir gan wrthdaro rhyngwladol yn arbennig yn cynnig ffyrdd newydd i rwydweithiau troseddol nodi a thargedu dioddefwyr a chanfod marchnadoedd a dulliau newydd i wneud arian.

Technoleg

29. Bydd datblygiadau ym maes technoleg yn parhau i drawsnewid dyfodol troseddu. Mae datblygiad cyflym technolegau gwybodaeth a chyfathrebu newydd (yn arbennig cyflwyno cyfathrebu symudol 5G, deallusrwydd artiffisial, a Rhyngrwyd Pethau) yn debygol o gyflwyno cyfleoedd ar gyfer camfanteisio gan droseddwyr. Bydd y defnydd o dechnolegau megis y We Dywyll, amgryptio, rhwydweithiau preifat rhithwir ac arian rhithwir (fel Bitcoin) yn cefnogi amgylcheddau gweithredu ‘diogel’ a dienw sy’n hwyluso pob lefel o droseddoldeb. Bydd natur y technolegau cynyddol dreiddiol hyn yn caniatáu i droseddwyr llai medrus â llai o adnoddau gael mynediad i farchnadoedd ac offer na allent eu cyrraedd o’r blaen.

Gwrthdaro rhyngwladol

30. Bydd troseddau difrifol a threfnedig yn parhau i ystumio a rhwystro twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy, llygru prosesau democrataidd, niweidio cydlyniant cymdeithasol a dwysáu allgáu. Mae hyn yn arbennig o wir mewn gwladwriaethau bregus, ac yn arbennig lleoliadau ôl-wrthdaro, lle gall economïau anghyfreithlon a rhwydweithiau masnachu cyffuriau ac arfau ffynnu ac ymsefydlu wrth i wrthdaro ddod i ben. Drwy ganiatáu i rwystrau i datblygu barhau, bydd troseddau difrifol a threfnedig yn cynyddu dibyniaeth ar gymorth, atal buddsoddiad cyfreithiol mewn busnes ac ysgogi trais, gwrthdaro a therfysgaeth.

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE)

31. Bydd troseddwyr yn ceisio manteisio ar unrhyw wendidau y gallant eu canfod yn ein trefniadau ffiniol a diogelwch wrth i ni ymadael â’r UE. Wrth i fygythiadau ddatblygu’n gyflymach nag erioed o’r blaen, mae er budd clir y DU a’i gynghreiriaid i gynnal y cydweithrediad agosaf posibl wrth fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig a bygythiadau eraill i ddiogelwch cenedlaethol. Mae er budd pob dinesydd i’r DU a’r UE barhau i fod yn ymatebol i unrhyw newidiadau yn y gweithgareddau a’r technegau a ddefnyddir gan droseddwyr difrifol a threfnedig sy’n deillio o ymadawiad y DU.

32. Ar hyn o bryd, mae’r DU a’i hasiantaethau gorfodi’r gyfraith ac awdurdodau erlyn yn gweithio ag Aelod-wladwriaethau eraill yr UE trwy ystod o offer a mesurau yr UE sy’n helpu i hwyluso’r cydweithrediad hwn. Byddwn ni’n parhau i chwarae rôl ryngwladol flaenllaw wrth wrthsefyll troseddau difrifol a threfnedig tra bydd y DU yn yr UE ac yn dilyn ei hymadawiad ohoni. Byddwn ni’n ceisio cynnal cydweithrediad dwfn ac agos â phartneriaid Ewropeaidd ar faterion gorfodi’r gyfraith, materion troseddol a diogelwch ac, mewn rhai meysydd, gan gynnwys ar y ffin, byddwn ni’n nodi cyfleoedd newydd i gryfhau ein diogelwch.

Rhan Dau: Ymagwedd Strategol

Nod ac amcanion

33. Er gwaethaf cynnydd sylweddol wrth ddarparu Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig 2013, mae graddfa’r her a wynebwn yn amlwg ac, am y rheswm hwn, rydym wedi diwygio ein hymagwedd. Ein nod yw diogelu ein dinasyddion a’n ffyniant trwy sicrhau nad oes unrhyw le diogel i droseddwyr difrifol a threfnedig weithredu yn ein herbyn ni o fewn y DU a thramor, ar-lein ac all-lein.

34. Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn defnyddio grym llawn y wladwriaeth, o alluoedd ein hasiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys heddluoedd, i bwerau awdurdodau lleol i dargedu ac amharu ar droseddwyr difrifol a threfnedig. Byddwn ni’n paratoi’r llywodraeth gyfan, y sector preifat, cymunedau a dinasyddion unigol i alinio eu hymdrechion mewn un ymdrech ar y cyd i waredu ein cymdeithas rhag niweidiau troseddau difrifol a threfnedig. Byddwn ni’n mynd ar drywydd troseddwyr trwy erlyn ac amharu, gan ddefnyddio ein holl bwerau ac offer ar y cyd yn eu herbyn. Byddwn ni’n: atal pobl rhag ymgysylltu â throseddau difrifol a threfnedig, diogelu dioddefwyr, sefydliadau a systemau rhagddynt; a pharatoi ar gyfer pryd mae’n digwydd, gan liniaru’r heffaith. Byddwn ni’n cryfhau ein cyrhaeddiad byd-eang er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiad cyn iddo gyrraedd ein glannau.

35. Mae’r strategaeth hon yn darparu fframwaith ac yn amlinellu set o alluoedd sydd wedi’u cynllunio i ymateb i’r ystod lawn o’r bygythiadau a gyflwynir gan droseddau difrifol a threfnedig. Mae gennym bedwar amcan cyffredinol er mwyn cyflawni ein nod:

  • 1. Amharu didostur a gweithredu wedi’i dargedu yn erbyn y troseddwyr a rhwydweithiau difrifol a threfnedig sy’n achosi’r niwed uchaf Byddwn ni’n targedu ein galluoedd yn erbyn troseddwyr sy’n camfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys y troseddwyr rhyw â phlant sy’n fwyaf penderfynol a gweithredol a byddwn ni’n targedu, ymlid a dihatru’n rhagweithiol y rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed mwyaf sy’n effeithio ar y DU. Byddwn ni’n defnyddio pwerau a galluoedd newydd a gwell i nodi, rhewi, atafaelu neu fel arall atal troseddwyr rhag cyrchu eu harian, asedau a seilwaith, yma a thramor gan gynnwys Gorchmynion Cyfoeth Anesboniadwy a Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol. Wrth wraidd yr ymagwedd hon bydd galluoedd data, gwybodaeth ac asesu newydd a fydd yn caniatáu i’r llywodraeth, yn arbennig yr NCA, dreiddio a deall troseddwyr difrifol a threfnedig yn well, a deall eu bregusrwydd yn fwy effeithiol a thargedu ein hamhariadau’n fwy effeithiol.
  • 2. Adeiladu’r lefelau uchaf o amddiffyn a chydnerthedd mewn pobl, cymunedau, busnesau a systemau sy’n agored i niwed Byddwn yn dileu gwendidau yn ein systemau a sefydliadau, gan roi llai o gyfleoedd i droseddwyr dargedu a manteisio arnynt. Byddwn ni’n sicrhau bod ein dinasyddion yn adnabod technegau troseddwyr yn well ac yn cymryd camau i’w hamddiffyn eu hunain. Mae hyn yn cynnwys gweithio i adeiladu cymunedau cryf sydd wedi’u paratoi’n well ac yn fwy cydnerth yn erbyn y bygythiad, ac yn llai goddefol o weithgarwch anghyfreithlon. Byddwn ni hefyd yn nodi’r rhai hynny sy’n cael eu niweidio’n gynt ac yn eu cynorthwyo hyd at safon sy’n gyson uchel.
  • 3. Atal y broblem yn y man cychwyn, gan nodi a chefnogi’r rhai hynny sydd mewn perygl o ymgymryd â throseddoldeb Byddwn ni’n datblygu a defnyddio dulliau ataliol ac addysg i ddargyfeirio mwy o bobl ifanc i ffwrdd o fywyd o droseddau difrifol a threfnedig a lleihau aildroseddu. Byddwn ni’n defnyddio cyrhaeddiad llawn y llywodraeth dramor i fynd i’r afael ag ysgogwyr troseddau difrifol a threfnedig.
  • 4. Sefydlu ymagwedd sengl, system gyfan Ar y lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, byddwn ni’n alinio ein hymdrechion ar y cyd i ymateb fel un system unigol. Byddwn ni’n gwella llywodraethu, dyrannu tasgau a chydlynu i sicrhau bod ein hymateb yn defnyddio ein holl ysgogiadau ac offer yn effeithiol yn erbyn y troseddwyr a’r rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed uchaf. Byddwn ni’n ehangu ein cyrhaeddiad a dylanwad byd-eang, gan gynyddu ein rhwydwaith o arbenigwyr tramor i sicrhau bod perthnasoedd gwleidyddol, diogelwch, gorfodi’r gyfraith, diplomyddol, datblygu, amddiffyn, ac ysgogiadau ariannol y DU yn cael eu defnyddio mewn modd mwy cydlynol a dwys. A byddwn ni’n gweithio i integreiddio â’r sector preifat, gan ddod â’n sgiliau, arbenigedd ac adnoddau at ei gilydd, cyd-gynllunio galluoedd newydd ar y cyd, a chael gwared ar wendidau gyda’n gilydd.

36. O ganlyniad, byddwn ni’n gallu mesur ac arddangos:

a) Rydym wedi codi’r risg o weithredu yn sylweddol i’r troseddwyr a rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed uchaf yn y DU a thramor, ar-lein ac all-lein, trwy sicrhau:

  • bod galluoedd data a chudd-wybodaeth newydd wedi targedu ac amharu ar droseddwyr a rhwydweithiau difrifol a threfnedig mewn ffyrdd newydd;
  • bod amrywiaeth o bartneriaethau ac arferion gweithio wedi’u hymsefydlu yn y DU sy’n ein galluogi i finiogi a chyflymu ein hymateb;
  • bod partneriaid tramor yn gweithio gyda ni yn amlach, yn fwy cydweithiol ac yn fwy effeithiol i dargedu troseddau difrifol a threfnedig sy’n effeithio ar y DU; ac
  • rydym yn arestio ac yn erlyn y troseddwyr difrifol a threfnedig allweddol, gan eu hatal rhag cam-drin, gwrthod ac adennill eu harian ac asedau iddynt, dihatru eu rhwydweithiau a thorri eu model busnes.

b) Mae cymunedau, unigolion a sefydliadau yn adrodd eu bod wedi eu diogelu’n well ac yn gallu eu hamddiffyn eu hunain yn well; a chefnogir dioddefwyr yn well i adfer ar ôl cael eu cam-drin neu eu camfanteisio.

c) Mae llai o bobl ifanc yn ymgysylltu â gweithgarwch troseddol neu aildroseddu.

37. Byddwn ni’n cynnal y fframwaith cyflwyno Ymlid, Paratoi, Diogelu ac Atal a elwir weithiau y ‘4P’ gan ei fod yn darparu ymagwedd gydlynol ar gyfer yr holl bartneriaid sy’n ymwneud â mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig, o atal trosedd yn y lle cyntaf i argyhoeddi cyflawnwyr a helpu dioddefwyr. Y pedwar llinyn, a ddangosir ochr yn ochr â’n nod ac amcanion yn Ffigur 2, yw:

  • Ymlid troseddwyr trwy eu herlyn a’u hamharu
  • Paratoi ar gyfer pryd mae troseddau difrifol a threfnedig yn digwydd a lliniaru’r effaith
  • Diogelu unigolion, sefydliadau a systemau rhag effeithiau troseddau difrifol a threfnedig
  • Atal pobl rhag ymgysylltu â throseddau difrifol a threfnedig

Ffigur 2 - Fframwaith Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig (SOC)

Diogelu ein dinasyddion a’n ffyniant trwy sicrhau nad oes unrhyw le diogel i droseddwyr difrifol a threfnedig weithredu yn ein herbyn ni o fewn y DU a thramor, ar-lein ac all-lein.

YMLID troseddwyr trwy eu herlyn a’u hamharu PARATOI am pan fydd SOC yn digwydd a lliniaru’r effaith DIOGELU unigolion, sefydliadaua systemau ATAL pobl rhag ymgysylltu â SOC
1. Amharu diddiwedd a gweithredu wedi’i dargedu yn erbyn y troseddwyr difrifol a chyfundrefnol a rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed uchaf 2. Adeiladu’r lefelau uchaf o amddiffyn a chydnerthedd mewn pobl, cymunedau, busnesau a systemau sy’n agored i niwed 2. Adeiladu’r lefelau uchaf o amddiffyn a chydnerthedd mewn pobl, cymunedau, busnesau a systemau sy’n agored i niwed 3. Atal y broblem yn y man cychwyn, gan nodi a chefnogi’r rhai hynny sydd mewn perygl o ymgymryd â throseddoldeb
4. Sefydlu ymagwedd system gyfan sengl gan ehangu ein cyrhaeddiad byd-eang a chyfuno sgiliau ac arbenigedd â’r sector preifat 4. Sefydlu ymagwedd system gyfan sengl gan ehangu ein cyrhaeddiad byd-eang a chyfuno sgiliau ac arbenigedd â’r sector preifat 4. Sefydlu ymagwedd system gyfan sengl gan ehangu ein cyrhaeddiad byd-eang a chyfuno sgiliau ac arbenigedd â’r sector preifat 4. Sefydlu ymagwedd system gyfan sengl gan ehangu ein cyrhaeddiad byd-eang a chyfuno sgiliau ac arbenigedd â’r sector preifat

Rhan Tri: Ein Hymateb

Amcan 1: Amharu diddiwedd a gweithredu wedi’i dargedu yn erbyn y troseddwyr difrifol a threfnedig a rhwydweithiau sy’n achosi’r niwed uchaf

38. Blaenoriaeth Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig 2013 oedd erlyn ac amharu ar droseddwyr difrifol a threfnedig mewn modd penderfynol. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth sefydlu’r pwerau, partneriaethau a strwythurau gorfodi’r gyfraith i gyflawni hyn, gan gynnwys creu’r NCA. Bydd y llywodraeth yn parhau i flaenoriaethu sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith yr holl bwerau ac ysgogiadau sydd ar gael iddynt a’u bod yn eu defnyddio. Byddwn yn buddsoddi mewn galluoedd newydd a chymryd camau newydd sylweddol sy’n cryfhau ein gallu i atal camdrinwyr, targedu arian budr a lleihau troseddau economaidd. Hefyd byddwn ni’n miniogi a dyfnhau ein galluoedd arbenigol ar-lein i fynd i’r afael â seiberdroseddu a throseddau eraill ar-lein, a rhoi data a chudd-wybodaeth wrth wraidd ein hymagwedd at orfodi’r gyfraith. Byddwn ni’n gwneud y gorau o’n gallu i ymyrryd yn gynnar ac ar ein ffiniau.

Galluoedd a phwerau gorfodi’r gyfraith

39. Y NCA yw’r brif asiantaeth gorfodi’r gyfraith ar gyfer troseddau difrifol a threfnedig yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddi gylch gorchwyl ehangach na’r hyn a’i rhagflaenodd i gryfhau ffiniau’r DU, ymladd yn erbyn troseddau economaidd, twyll, llygredd a seiberdroseddu, ac amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol. Mae’r asiantaeth yn arwain, cefnogi ac yn cydlynu gweithgareddau ar draws maes gorfodi’r gyfraith, yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’n gweithio mewn cydweithrediad agos â Chymuned Cudd-wybodaeth y DU (UKIC), heddluoedd ledled y DU, heddluoedd rhyngwladol a phartneriaid eraill sy’n gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys trwy ei drefniadau gosod tasgau a chydlynu dwy ffordd. Mae’r NCA yn cyhoeddi’r Asesiad Strategol Cenedlaethol yn flynyddol sy’n rhoi darlun unigol o’r bygythiadau sy’n wynebu’r DU.

40. Ers ei sefydlu, mae gweithrediadau’r NCA wedi arwain at fwy na 12,000 o arestiadau yn y DU a thramor. Diogelwyd mwy na 7,800 o blant. Mae mwy na deg miliwn o blant ysgol yn y DU wedi cael cymorth i gadw’n ddiogel ar-lein trwy raglen ThinkUKnow[footnote 33] yr asiantaeth. Mae’r ffaith bod yr NCA wedi targedu asedau troseddol wedi arwain at dros £22 miliwn o arian parod yn cael ei fforffedu, £34 miliwn yn cael ei adfer mewn achosion sifil a derbyniadau treth a gwerth £51 miliwn o orchmynion atafaelu wedi eu talu. Hefyd mae gweithrediadau’r NCA wedi arwain at atafaelu dros 1,700 o ynnau a 1,000 o arfau tanio eraill, yn ogystal â 19 o dunelli o heroin a 335 o dunelli o gocên.

41. O ganlyniad i’r Adolygiad Gwariant (SR) a gyhoeddwyd yn hydref 2015, trefnwyd bod £200 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i’r NCA dros y cyfnod 2016-20, cynnydd o oddeutu 25% ar y setliad SR blaenorol. Darparwyd y codiad er mwyn cefnogi buddsoddiad parhaus yng ngalluoedd yr NCA, a gynlluniwyd i alluogi trawsnewid yr NCA yn asiantaeth gorfodi’r gyfraith sy’n arwain y byd.

42. Y naw Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol (ROCUs) yw’r prif ddolen rhwng yr NCA a’r heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ROCUs yn unedau heddlu rhanbarthol ag 14 o alluoedd arbenigol craidd, a ddefnyddir i ymchwilio i ac amharu ar droseddau difrifol a threfnedig, a ddarperir yn rhanbarthol ond sy’n hygyrch i bob heddlu trwy fecanwaith sefydledig ar gyfer gosod tasgau. Fe arweiniodd gweithrediadau ROCUs at gyfanswm o 2,052 o amhariadau yn 2017/18, tra bod eu cymorth i bartneriaid wedi cyfrannu at fwy na 2,675 o amhariadau pellach. Yn ychwanegol at y buddsoddiad sylweddol gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd, mae’r llywodraeth wedi buddsoddi dros £160 miliwn i gynyddu galluoedd y ROCUs ers 2013. Yn 2017 cyhoeddodd y Swyddfa Gartref £40 miliwn i wella galluoedd y ROCUs dros y tair blynedd ddilynol.[footnote 34]

43. Teimlir llawer o effaith troseddau difrifol a threfnedig ar y lefel leol ac mae heddluoedd yn parhau i arwain yr ymateb leol. Mae cyfrifoldebau heddluoedd yn canolbwyntio ar blismona lleol ar draws y ‘4P’ mewn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol; nodi a rheoli bygythiadau lleol; a diogelu plant ac oedolion ar lefel leol. Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn cydlynu ymateb weithredol heddluoedd ledled y DU, ac yn helpu lluoedd i wella a darparu gwerth am arian. Mae arweinydd penodedig yn NPCC ar gyfer troseddau difrifol a threfnedig sy’n cadeirio Bwrdd Rhaglen Troseddu Difrifol a threfnedig ac sydd â chynllun gweithredu i helpu i wella ymateb heddluoedd. Hefyd mae NPCC yn gweithio â’r Swyddfa Gartref i ddarparu cefnogaeth gan gymheiriaid i luoedd, gan gynnwys rhannu arfer gorau a darparu mynediad i arbenigwyr pwnc.

44. Mae UKIC yn parhau i gynyddu ei gyfraniad at fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig. Mae hyn yn cynnwys mentrau megis yr NCA a Thîm Gweithrediadau ar y Cyd GCHQ (JOT), a mesurau gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) i leihau’r niwed i’r DU a achosir gan seiberdroseddu. Rydym yn darparu £3.6 miliwn yn 2018/19 a £4.3 miliwn yn 2019/20 ar gyfer GCHQ a fydd: yn ei wneud yn anoddach i droseddwyr ddefnyddio technoleg gyfathrebu ar gyfer cam-drin plant yn rhywiol; a galluogi peilota porth ar-lein i ganiatáu i’r llywodraeth, elusennau, cwmnïau a’r byd academaidd wella rhannu gwybodaeth a chydweithio er mwyn gwella canlyniadau amddiffyn plant.

45. Mae ystod eang o asiantaethau ymchwilio a gorfodi eraill yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â bygythiadau penodol a achosir gan droseddau difrifol a threfnedig. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i: Cyllid a Thollau EM (CThEM), a gafodd fuddsoddiad ychwanegol yng Nghyllideb yr Hydref 2017 i fynd i’r afael â galluogwyr a hwyluswyr twyll treth; Gorfodaeth Mewnfudo; a’r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) sy’n ymchwilio ac yn erlyn twyll difrifol, llwgrwobrwyo a llygredd a gwyngalchu arian cysylltiedig. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn erlyn pob achos ar ran yr NCA, yr heddlu, CThEM ac eraill ac mae’n ymgymryd ag atafaelu ac adfer sifil. Mae rhestr lawn o’r gwahanol sefydliadau sy’n ymwneud â mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig yn Atodiad A.

46. Fel rhan o’r ymateb ar draws y system, bydd yr NCA yn derbyn adnoddau ychwanegol yn 2018-2020 i arwain proses o ddatblygu galluoedd cenedlaethol newydd megis y Ganolfan Asesu Genedlaethol (NAC), y Gallu Cenedlaethol ar Ddefnyddio Gwybodaeth (NDEC) a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Troseddu Economaidd (NECC), a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd ym mis Rhagfyr 2017. Bydd hyn yn sicrhau bod ganddynt alluoedd sy’n arwain y byd i dargedu, ymlid a dihatru’r troseddwyr difrifol a threfnedig sy’n achosi’r niwed uchaf a’r carfannau elitaidd llygredig a throseddwyr sy’n ceisio gwyngalchu eu harian budr yn a thrwy’r DU.

47. Mae cyd-gais diweddar NCA ac NPCC i Gronfa Drawsnewid yr Heddlu (PTF) wedi sicrhau £2.2 filiwn ar gyfer codiad uniongyrchol i weithio i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein. Bydd hyn yn ariannu ehangiad sylweddol o’r NCA a GCHQ (JOT) i gynyddu eu gallu i dargedu’r troseddwyr mwyaf peryglus a phenderfynol sy’n camfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein. Mae hyn yn golygu bod mwy o swyddogion yn gweithio i nodi’r cyflawnwyr hynny sy’n cuddio y tu ôl i anonymeiddio. Bydd y codiad yn creu piblinell o gudd-wybodaeth a fydd yn dangos y rhai hynny sy’n proffesu bod yn blant er mwyn paratoi i bwrpas rhyw, troseddwyr risg uchel sy’n defnyddio technoleg i anonymeiddio eu presenoldeb a throseddwyr sy’n cyrchu ffrydio byw dramor.

48. Byddwn ni’n ymrwymo £500,000 i ddarparu darlun gwell i asiantaethau gorfodi’r gyfraith o droseddu ynghylch camfanteisio’n rhywiol ar blant ar y we dywyll. Bydd hyn yn defnyddio’r data sydd ar gael i nodi, asesu ac ymlid y drwgdybiedigion risg uchaf o ddiddordeb sy’n effeithio ar y DU, fel y gallwn ni flaenoriaethu ein hadnoddau yn eu herbyn, mewn cydweithrediad â phartneriaid rhyngwladol.

49. Trwy ein cymorth o £40 miliwn i’r Gronfa i Ddileu Trais yn Erbyn Plant hyd at 2019-20, rydym hefyd wedi annog ffocws cryfach ar yr angen i ddatblygu atebion technolegol arloesol i dorri tir newydd wrth fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein. Trwy hyn, yn 2018 rydym wedi ariannu datblygiad ‘Solis’ – offeryn arloesol ar gyfer asiantaethau gorfodi’r gyfraith i gyflymu’r modd nodi deunydd sy’n ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol ar y We Dywyll.

Ffigur 3 – Deddfwriaeth a phwerau allweddol a gyflwynwyd ers

2013 2014 2015 2016 2017 2018
Strategaeth SOC 2013 Strategaeth Caethwas-iaeth Fodern Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 Strategaeth Seiberdd-iogelwch Genedlae-thol Strategaeth Gwrth-Iygredd Strategaeth SOC 2018
Deddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddy a Phlismona 2014 Deddf Caewasiaeth Fodern 2015:

- Uchafswm cosbau uwch
- Gorchmynion sifil newydd
-Pwerau gorfodi morwrol newydd
Deddf Sylweddau Seicoweithredol 2016 Deddf Plismona a Throsedd 2017:

- Pwerau gorfodi morwrol pellach
- Tynhau bylchau yn y Ddeddf Arfau Tanio
- Cosbau cryfach am dorri sancsiynau ariannol
Deddf Diogelu Data 2018
    Deddf Troseddu Difrifol 2015:

- Trosedd cyfranogi
- Enillion Troseddu; dedfrydau diofyn hirach, prawf is ar gyfer atal asedau
- Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol Gwell
- Troseddau Camddefnyddio Cyfrifiaduron newydd
- Troseddau newydd ar gyfer camfanteisio’n rhywiol ar blant
Deddf Mewnfudo 2016 Deddf Cyllid Troseddol 2017: - Pwerau newydd i fynd i’r afael â chyfoeth anghyfreithlon, gan gynnwys Gorchmynion Cyfoeth Anesboniadwy
- Pwerau newydd i rannu gwybodaeth
- Gwelliannau i SARs[footnote 35]
- Methiant corfforaethol i atal osgoi treth
 
      Deddf Pwerau Ymchwilio 2016    

50. Fel y’i cyflwynir yn Ffigur 3, ers 2013, mae’r llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd gadarn, gan gynnwys Deddf Troseddu Difrifol 2015, Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a Deddf Cyllid Troseddol 2017, er mwyn sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi y pwerau a’r offer sydd arnynt eu hangen i amharu’n ddidostur ar droseddwyr difrifol a threfnedig. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau newydd sylweddol megis:

  • Gorchmynion Atal Troseddu Difrifol i osod amodau ar unigolyn a all gynnwys rhwystro trafodion ariannol neu fusnes neu gyfyngu ar deithio a chyfarfodydd â chysylltiadau troseddol;
  • Gorchmynion Cyfyngu Telathrebu i roi’r pŵer i ddatgysylltu ffonau symudol anghyfreithlon yn barhaol sy’n cael eu defnyddio mewn carchar; a
  • Gorchmynion Cyfoeth Anesboniadwy sy’n mynnu bod naill ai person ym maes gwleidyddiaeth, neu berson y credir ei fod yn gysylltiedig â throseddau difrifol, yn esbonio unrhyw asedau a gafwyd ganddynt (yn arbennig eiddo) sy’n anghymesur i’w hincwm hysbys.

51. Mae amharu didostur yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hymateb i droseddau difrifol a threfnedig, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddefnyddio grym llawn y wladwriaeth yn erbyn y bygythiad. Byddwn ni’n sicrhau bod partneriaid gweithredol yn targedu ac yn cydlynu gweithgarwch amharu er mwyn i ni gael yr effaith fwyaf ar y troseddwyr a’r grwpiau mwyaf difrifol sy’n effeithio ar y DU. Mae’r NCA wedi catalogio’r pwerau troseddol a sifil helaeth sydd ar gael i asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Mae’r rhain yn amrywio o bwerau i atafaelu elw troseddu a gwrthod mynediad i droseddwyr iddynt gyrchu eu hasedau, i bwerau mewnfudo i gael gwared ar neu alltudio troseddwyr, lleihau neu wrthod caniatâd i aros, gwrthod cenedligrwydd Prydeinig neu atal teithio i’r DU yn y lle cyntaf.

52. Mae ystod eang o offer eraill ar gael i’n helpu i fanteisio ar wendidau mewn rhwydweithiau troseddol ac i wneud bywydau troseddwyr difrifol a threfnedig mor anodd â phosibl, o wahardd cerbydau ac adennill treth sifil i waharddebau gang a phwerau trwyddedu awdurdodau lleol. Nodir y rhain yn y Ddewislen Tactegau[footnote 36] a gyhoeddir gan y Coleg Plismona, sy’n cynnwys cannoedd o bwerau, offer ac ymyriadau ar draws awdurdodau cenedlaethol ac asiantaethau lleol i atal a tharfu ar droseddau difrifol a threfnedig. Byddwn ni’n cymryd ymagwedd gydlynol a systematig at ddefnyddio’r ystod o bwerau sydd ar gael i asiantaethau gorfodi’r gyfraith a phartneriaid ehangach i’r eithaf.

Pwerau i gyrchu data a’u goruchwylio

53. Mae’r gallu i ddefnyddio data yn hanfodol er mwyn deall ac amharu ar droseddau difrifol a threfnedig yn effeithiol. Mae newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth wedi arwain at bwerau newydd a’r gallu i ddefnyddio gwybodaeth a oedd yn anhygyrch o’r blaen. Mae’r Clarifying Lawful Overseas Use of Data (CLOUD) Act [Deddf Egluro’r Defnydd o Ddata Tramor yn Gyfreithlon] (CLOUD), a basiwyd gan Gyngres yr Unol Daleithiau, yn 2018 yn paratoi’r ffordd ar gyfer cytundebau dwyochrog rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd tramor cymwys i alluogi mynediad i gynnwys cyfathrebiadau gan gwmnïau tramor mewn ymchwiliadau i droseddau difrifol a therfysgaeth, ta waeth ble mae’r wybodaeth yn cael ei storio’n ddaearyddol. Mae’r DU yn bwriadu bod yn wlad gyntaf i ymrwymo i gytundeb dwyochrog â’r Unol Daleithiau.

54. Mae Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 (IPA) yn rhoi’r gallu i asiantaethau perthnasol, o dan rai amgylchiadau, i ryng-gipio cyfathrebiadau a defnyddio ymyrraeth ar offer. Mae’n darparu fframwaith awdurdod ar gyfer archwilio data swmpus. Mae hefyd yn rhoi cyfrifoldebau ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau i gadw data cyfathrebu. Mae’r IPA wedi trawsnewid y gyfraith sy’n ymwneud â defnyddio a goruchwylio pwerau ymchwilio, gan gryfhau mesurau diogelu a chyflwyno trefniadau goruchwylio newydd. Mae awdurdodi’r pwerau ymchwilio mwyaf ymwthiol, megis rhyng-gipio cyfathrebiadau, yn mynnu bod rhaid i Ysgrifennydd Gwladol a Chomisiynydd Barnwrol fod yn fodlon bod gwarantau yn angenrheidiol a chymesur cyn y gellir eu cyhoeddi. Mae’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio yn darparu goruchwyliaeth hanfodol o’r pwerau a ddarperir gan y Ddeddf ac yn cynhyrchu adroddiad cyhoeddus yn flynyddol.

55. Mae cyflwyno’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data yn 2018 yn cynyddu’r amddiffyniad a roddir gan y Ddeddf Diogelu Data gyfredol. Mae’r trefniadau hyn yn rhoi sicrwydd llawn a thryloyw i’r cyhoedd y bydd eu data’n cael ei ddiogelu a’i ddefnyddio’n gyfreithlon gan y llywodraeth ac mewn ffordd sy’n gymesur â’r bygythiad a gyflwynir. Wrth wraidd y model NDEC fydd mecanweithiau rheoli o ran caffael, casglu, storio, cadw a defnyddio data yn unol â deddfwriaeth a safonau a nodir yn y Safonau Data Cyffredin, y Fframwaith Moeseg Data,[footnote 37] yr IPA, y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990 a’r GDPR.

Camfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol

56. Bydd y Swyddfa Gartref yn buddsoddi £37.7 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol: byddwn ni’n blaenoriaethu gwella ein gallu i ganfod ac amharu ar droseddwyr ar-lein. Mae Rheolaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant ac Amddiffyn Ar-lein (CEOP) yr NCA yn arwain, yn cefnogi ac yn cydlynu ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith i gamfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol ac yn cydweithio’n agos ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chudd-wybodaeth yn y DU a thramor, i nodi dioddefwyr ac i ymlid troseddwyr. Cefnogir hyn gan gydweithredu’n agos â sefydliadau cymdeithas sifil fel yr Internet Watch Foundation (IWF) a’r US National Center for Missing and Exploited Children. Trwy weithgarwch wedi’i gydlynu gan yr NCA a’r heddlu, rydym yn arestio oddeutu 400 o droseddwyr mewn perthynas â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein ac yn diogelu dros 500 o blant bob mis.

57. Rydym eisoes wedi darparu £20 miliwn ar gyfer galluoedd cudd i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein o fewn ROCUs a bron yn dyblu gallu ymchwilio CEOP. Yn 2015, lansiwyd y JOT fel menter gydweithredol rhwng yr NCA a GCHQ. Mae’r tîm wedi cynyddu’n sylweddol ein dealltwriaeth o’r heriau ynghylch amharu ar droseddwyr mwyaf difrifol a gweithredol y DU.

58. Mae holl heddluoedd y DU a’r NCA wedi’u cysylltu â’r Gronfa Ddata Delweddau Camdrin Plant (CAID), a lansiwyd yn 2014. Mae’n cynnwys mwy na deg miliwn o ddelweddau anweddus o blant a 30,000,000 o glwydau (ôl bys digidol delwedd). Profiad gorfodi’r gyfraith yw bod oddeutu 70% o ddelweddau anweddus a nodwyd yn ei weithrediadau yn cael eu cynnal ar CAID. Mae CAID yn darparu offer effeithiol i asiantaethau gorfodi’r gyfraith i chwilio am ddyfeisiadau a atafaelwyd am ddelweddau anweddus o blant, lleihau’r amser a gymerir i nodi delweddau o’r fath a chynyddu’r gallu i nodi dioddefwyr. Yn 2017/18, nododd asiantaethau gorfodi’r cyfraith y DU 664 o ddioddefwyr o fewn delweddau anweddus o blant o’i gymharu â 177 yn 2014/15.

59. Er mwyn cadw’n gyfredol â’r bygythiad, byddwn ni’n cynyddu ein gallu i dargedu ac amharu ar y troseddwyr gwaethaf. Bydd y Swyddfa Gartref yn buddsoddi £21 miliwn ychwanegol dros y 18 mis nesaf i gynyddu ymateb ein hasiantaethau gorfodi’r gyfraith a chudd-wybodaeth i’r mathau hyn o droseddau. Bydd yr arian hwn yn rhoi offer a thechnegau newydd i asiantaethau gorfodi’r cyfraith i ymchwilio i droseddwyr ar lefel uchel. Byddwn ni’n ehangu’r cyd-dasglu a redir gan yr heddlu, yr NCA a GCHQ, gan gyfuno arbenigedd o safon fyd-eang ym meysydd casglu cudd-wybodaeth ac ymchwilio. Bydd hyn yn atal troseddwyr rhag gweithredu’n ddi-gosb mewn fforymau ac ystafelloedd sgwrsio ar-lein. Byddwn ni’n nodi, asesu ac ymlid y drwgdybiedigion risg uchaf, gan ddefnyddio galluoedd llawn ein cyfarpar diogelwch.

60. Byddwn ni’n ariannu gallu rhannu gwybodaeth ar gyfer mynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a fydd yn y pen draw yn sail i bartneriaeth barhaus rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith, UKIC, y llywodraeth, elusennau a diwydiant. O dan arweiniad y Swyddfa Gartref, bydd sefydliadau rhanddeiliaid yn rhannu gwybodaeth i gefnogi cydweithio agosach ar fygythiadau sy’n dod i’r amlwg, gan ddysgu o arferion gweithio a ddefnyddir yn erbyn y bygythiad seiber. Disgwyliwn gynnal y treialon arbrofol cyntaf ym mis Ionawr 2019, gan arwain at ddatblygu gallu cynaliadwy newydd yn ystod 2019/20. Byddwn hefyd yn galluogi asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ymchwilio i ddeunydd fforensig digidol a deunydd cuddwybodaeth arall i’n helpu i ddeall sut mae pobl yn cael eu denu i droseddu, fel y gallwn ni dargedu ymyriadau i atal cam-drin cyn iddo ddigwydd.

61. Ochr yn ochr ag ymateb gwydn gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddwyn troseddwyr i gyfiawnder, mae’n hanfodol atal troseddu yn y lle cyntaf. Byddwn ni’n darparu £2.6 miliwn arall i gydweithio â sefydliadau amddiffyn plant er mwyn gwella ein dealltwriaeth o ymddygiad troseddwyr ac i atal troseddu yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cymorth parhaus ar gyfer rhaglen waith arloesol â’r Sefydliad Lucy Faithfull i atal troseddu ar-lein trwy eu Hymgyrch[footnote 38] StopItNow! Nod y gwaith hwn yw dangos i droseddwyr a throseddwyr posibl y niwed a’r dioddefaint a achosir i ddioddefwyr sy’n blant, i’w teuluoedd eu hunain, a’r canlyniadau cyfreithiol y maent yn eu hwynebu. Hefyd byddwn ni’n parhau i fynd i’r afael â’r risg o droseddu tro cyntaf a diarwybod trwy ail-lansio ein hymgyrch Steering Clear ym mis Rhagfyr 2018 â Sefydliad Marie Collins ac IWF.

62. Rydym hefyd yn disgwyl i’r diwydiant chwarae ei ran wrth frwydro yn erbyn y bygythiad. Yn ystod blynyddoedd diweddar bu peth gwaith da yn y maes hwn. Er enghraifft, mae Microsoft wedi datblygu PhotoDNA sydd wedi helpu i nodi a chael gwared ar ddelweddau cam-drin plant yn rhywiol oddi ar y rhyngrwyd. Lansiodd Google offeryn deallusrwydd artiffisial newydd ym mis Medi 2018 i nodi a blaenoriaethu’r delweddau mwyaf tebygol o gam-drin plant yn rhywiol i adolygwyr dynol. A phan wnaeth Google a Microsoft newid eu halgorithmau i’w wneud yn anos dod o hyd i ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol yn y canlyniadau chwilio, adroddodd Google ostyngiad hyd at un deg tri-blyg mewn ceisiadau chwilio. Fodd bynnag, o ystyried graddfa a soffistigedigrwydd y bygythiadau rydym yn eu hwynebu, mae’n rhaid gwneud mwy.

63. Rhaid i gwmnïau fod ar flaen y gad o ran ymdrechion i wrthod cyfle i droseddwyr gyrchu plant a deunydd cam-drin plant yn rhywiol trwy eu platfformau a’u gwasanaethau. Yn arbennig, rydym yn disgwyl cynnydd yn y meysydd blaenoriaethol dilynol:

  • dylid rhwystro deunydd cam-drin plant yn rhywiol cyn gynted ag y bydd cwmnïau’n canfod ei fod yn cael ei lanlwytho;
  • rhaid i gwmnïau atal paratoi i bwrpas rhyw ar-lein rhag digwydd ar eu platfformau;
  • rhaid i gwmnïau weithio â’r llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith i atal ffrydio byw o gam-drin plant;
  • dylai cwmnïau fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddelio â chamfanteisio’n rhywiol ar blant (gan gynnwys cydweithredu rhwng troseddwyr);
  • rydym yn disgwyl gweld gwell agoredrwydd a thryloywder a pharodrwydd i rannu arfer gorau a thechnoleg rhwng cwmnïau; a
  • rhaid i wefannau camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol beidio â chael eu cefnogi gan hysbysebu mwyach.

Astudiaeth Achos

Mae achos Matthew Falder yn dangos llygredigaeth troseddwyr difrifol a threfnedig. Mae hefyd yn amlygu’r niwed a gyflwynir ar-lein gan droseddwyr â lefel uchel o soffistigedigiaeth dechnegol, sy’n gallu defnyddio hunaniaethau lluosog ffug ar-lein ac amrywiaeth o dechnegau amgryptio ac anonymeiddio, ac aros yn gudd yn encilion tywyllaf y We Dywyll i geisio cuddio eu gweithgareddau troseddol.

Roedd Falder yn academydd prifysgol sydd erbyn hyn yn gwneud dedfryd o 25 mlynedd o garchar ar ôl cyfaddef 137 o gyhuddiadau. Fe wnaeth ei euogfarn ddilyn ymchwiliad gan yr NCA i droseddau arswydus ar-lein a oedd yn cynnwys annog treisio bachgen pedair blwydd oed. Cysylltodd Falder â mwy na 300 o bobl ledled y byd a byddai’n twyllo dioddefwyr agored i niwed – o bobl ifanc yn eu harddegau i oedolion – i anfon delweddau noeth neu â dillad rhannol ohonynt eu hunain iddo. Yna byddai’n blacmelio ei ddioddefwyr i hunan-niweidio neu gam-drin pobl eraill, gan fygwth anfon y delweddau amharchus i’w ffrindiau a’u teulu os nad oeddent yn cydymffurfio. Fe fasnachodd y deunydd cam-drin ar fforymau “craidd caled” ar y we dywyll sy’n ymroddedig i rannu trafodaeth, fideos a delweddau o dreisio, llofruddiaeth, sadistiaeth, pedoffilia a bryntni.

Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth iawn gan yr NCA yn cynnwys US Homeland Security Investigations, Heddlu Ffederal Awstralia ac Europol i rannu a datblygu cudd-wybodaeth yn erbyn y sawl a ddrwgdybir, â chymorth GCHQ a phartneriaid eraill. Adolygwyd pob un o’r cannoedd o unigolion y cysylltodd Falder â hwy gan gynghorwyr amddiffyn plant yr NCA ynghylch diogelu posibl.

Cryfhau ein gallu i dargedu arian budr a lleihau troseddu economaidd

64. Byddwn ni’n blaenoriaethu mynd i’r afael â chyllid anghyfreithlon, o ystyried pwysigrwydd allweddol gwrthod y gallu i rwydweithiau sy’n achosi’r niwed uchaf guddio, symud neu ddefnyddio eu helw. Byddwn ni’n nodi ac yn atafaelu eu hasedau ac yn ei wneud yn anoddach iddynt symud a chuddio eu harian anghyfreithlon yn y DU, trwy dargedu’r galluogwyr ymwybodol, esgeulus neu anymwybodol sydd yn aml yn allweddol i symud arian anghyfreithlon drwy’r systemau ariannol yn y DU ac yn fyd-eang.

65. Gall y pŵer i leoli ac atafaelu arian a wneir gan droseddwyr (a elwir yn adennill asedau) amharu ar rwydweithiau troseddol, atal ariannu gweithgarwch anghyfreithlon pellach a chael iawndal i ddioddefwyr am eu profedigaethau. Rydym wedi cryfhau’r pwerau cyfreithiol ar gyfer mynd i’r afael â gwyngalchu arian ac adennill asedau troseddol trwy Ddeddf Troseddu Difrifol 2015 a Deddf Cyllid Troseddol 2017. Fe wnaethom gyflwyno Rheoliadau Gwyngalchu Arian newydd yn 2017 i ymgorffori’r safonau rhyngwladol diweddaraf yn y DU. Ac fe wnaethom greu timau Gorfodi Atafaelu Asedau (ACE) newydd sydd, ar gost o ychydig dros £5 miliwn yn ystod y tair blynedd diwethaf, wedi cynorthwyo i adennill dros £83 miliwn.

66. Mae cydweithio â’r sector preifat wedi gwella’n hymateb yn sylweddol. Darparodd y Cyd-dasglu Cudd-wybodaeth am Wyngalchu Arian (JMLIT) yn 2014 fecanwaith newydd i asiantaethau gorfodi’r gyfraith a’r sector ariannol rannu gwybodaeth a chydweithio’n agosach i ganfod, atal a tharfu ar wyngalchu arian a throseddau economaidd ehangach. Ers mis Ebrill 2015, nododd ymholiadau JMLIT dros 3,000 o gyfrifon banc nad oeddent yn hysbys yn flaenorol i asiantaethau gorfodi’r gyfraith, a thros 100 o bobl newydd dan amheuaeth mewn ymchwiliadau troseddol. At ei gilydd, mae 99 o arestiadau wedi’u gwneud, wedi’u hwyluso, neu wedi’u cefnogi gan weithgarwch JMLIT.

67. Fe adolygodd y Tasglu Gweithredu Ariannol (FATF) yn 2018 gyfundrefn gwrth-wyngalchu arian a gwrth-gyllid terfysgaeth y DU yn ôl y safonau rhyngwladol mae’n eu gosod. Mae gan y DU gyfundrefn gadarn ac effeithiol i fynd i’r afael â gwyngalchu arian a chyllid terfysgol, ac i adennill arian anghyfreithlon, a byddwn ni’n ystyried argymhellion a wnaed gan FATF yn ofalus a fydd yn gwella ein hymateb ymhellach.

68. Byddwn ni’n sicrhau’r defnydd llawn ac effeithiol o’r pwerau a grëwyd gan Ddeddf Cyllid Troseddol 2017 (Gorchmynion Cyfoeth Anesboniadwy, ehangu argaeledd pwerau adennill sifil a fforffedu cyfrifon banc) a Deddf Troseddu Difrifol 2015 (gorchmynion cydymffurfio). Mae technegau ymchwilio ariannol yn parhau heb eu defnyddio’n ddigonol. Rydym am gynyddu’r defnydd o’r pwerau hyn a’r cyfleoedd adennill asedau a gyflwynir gan ymchwiliadau ariannol da. Felly, byddwn ni’n ariannu adolygiad annibynnol o’r Ganolfan Elw Troseddau, a gynhelir yn yr NCA, sydd â swyddogaeth statudol i hyfforddi ymchwilwyr ariannol. Byddwn ni’n adolygu’r maes llafur hyfforddi i sicrhau bod ymchwilwyr ariannol yn gallu delio â’r achosion mwyaf cymhleth. Byddwn ni’n cyhoeddi ymchwil ar fanteision ymchwilio ariannol i arwain buddsoddiadau ac ymchwiliadau ariannol yn y dyfodol gan asiantaethau gweithredol. Bydd Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a Gwasanaethau Tân ac Achub (HMICFRS) yn cynnwys dadansoddiad o’r defnydd o wybodaeth ariannol fel rhan o’r archwiliadau PEEL yn 2018/19.

Fe wnaeth Deddf Troseddu Difrifol 2015 ddarparu pwyslais a phwerau pellach i sicrhau gorfodi gorchmynion atafaelu. Ymhlith eraill, cyflwynodd y Ddeddf y darpariaethau dilynol:

  • gorchmynion cydymffurfio newydd i sicrhau bod gorchymyn atafaelu yn effeithiol;
  • lleihau’n sylweddol yr amser i dalu am orchmynion atafaelu;
  • cynyddu dedfrydau diofyn ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn talu eu gorchmynion; a
  • phŵer newydd i farnwr wneud canfyddiad rhwymol dros berchnogaeth trydydd parti ar eiddo.

Fe wnaeth Deddf Cyllid Troseddol 2017 wella’r gyfundrefn Adroddiadau Gweithgarwch Amheus ac ymestyn a chryfhau pwerau adennill asedau sifil. Fe wnaeth y Ddeddf:

  • gyflwyno Gorchmynion Cyfoeth Anesboniadwy sy’n mynnu bod yr ymatebydd yn esbonio eu perchnogaeth gyfreithlon a’r modd y cawsant eiddo penodedig;
  • ddarparu asiantaethau gorfodi’r gyfraith â phwerau sifil newydd sylweddol i geisio fforffedu arian anghyfreithlon a gedwir mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu, ac asedau sy’n bersonol neu’n symudol;
  • alluogi rhannu gwybodaeth ar sylfaen wirfoddol lle mae amheuaeth o wyngalchu arian, gan greu gudd-wybodaeth well i asiantaethau gorfodi’r gyfraith, a helpu cwmnïau i’w hamddiffyn eu hunain yn well; ac
  • ymestyn argaeledd pwerau i’r SFO ac, o ran pwerau adennill sifil, i CThEM a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

69. Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd y llywodraeth fesurau i wella ymateb y DU i droseddau economaidd. Rydym yn buddsoddi hyd at £4.6 miliwn yn 2018/19 i sefydlu’r Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol (NECCU a fydd yn gweithredu fel yr awdurdod cenedlaethol ar gyfer ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU i droseddau economaidd, gan ddefnyddio galluoedd gweithredol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd yn sicrhau bod ein gwaith lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cael ei yrru gan un set o flaenoriaethau. Bydd yn gosod tasgau a chydlynu gweithrediadau amlasiantaethol i gyflawni’r effaith fwyaf parhaus ar y bygythiad. Bydd yn gwneud y mwyaf o alluoedd cudd-wybodaeth a data gwell megis yr NAC a’r NDEC. Hefyd rydym yn buddsoddi mewn gwell galluoedd ymchwilio ariannol ar y rheng flaen, gan gynnwys £2.8 filiwn yn 2018/19 ar gyfer heddluoedd lleol.

70. Byddwn ni’n diwygio’r gyfundrefn Adroddiadau Gweithgarwch Amheus (SARs) trwy bartneriaeth gyhoeddus-breifat. Cyflwynir SARs gan y sector rheoledig i rybuddio asiantaethau gorfodi’r gyfraith, ar bob lefel, am weithgarwch a allai awgrymu gwyngalchu arian neu ariannu terfysgol. Mae’r nifer o SARs wedi dyblu dros y deng mlynedd ddiwethaf,[footnote 39] a gellid gwella effeithlonrwydd y gyfundrefn SARs yn sylweddol. Byddwn ni’n adnewyddu a disodli’r system TG â system fwy soffistigedig sy’n gallu diwallu heriau cyfredol yn well. Dylai hyn gael ei chwblhau erbyn 2020.

71. Bydd y rhaglen ddiwygio yn gwella’r ffordd y caiff cudd-wybodaeth SARs ei defnyddio gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith a bydd yn cynhyrchu canllawiau cliriach a gwell i’r sector rheoledig, gan ganiatáu i’w hadnoddau sylweddol iawn gael eu targedu’n well i gael yr effaith fwyaf. I gefnogi hyn, bydd yr NCA yn cynyddu maint Uned Cudd-wybodaeth Ariannol y DU (UKFIU) sy’n derbyn, dadansoddi a lledaenu cudd-wybodaeth a gyflwynir trwy’r gyfundrefn SARs. Rydym hefyd yn cefnogi adolygiad parhaus Comisiwn y Gyfraith o’r gyfundrefn gydsynio[footnote 40] a byddwn ni’n hwyluso diwygio lle mae’n bosibl o fewn yr amgylchedd rheoleiddio a chyfreithiol presennol.

72. Mae lleihau’r risg o lygredd i’r DU a chryfhau uniondeb y DU fel canolfan ariannol ryngwladol hefyd yn ffurfio rhan bwysig o’n hymateb gwell i gyllid anghyfreithlon. Mae galluogwyr proffesiynol, megis cyfreithwyr, cyfrifwyr ac asiantau tai, yn borth hanfodol i droseddwyr sy’n ceisio cuddio tarddiad eu harian.[footnote 41] Gallant hwyluso llifau ariannol anghyfreithlon trwy’r DU ac i’r DU oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, esgeulustod neu gyfranogaeth. Yn 2017, fe wnaeth Trysorlys EM ddeddfu i osod safonau goruchwylio clir, uchel ar gyfer pob goruchwyliwr corff proffesiynol, ac mae’r llywodraeth wedi creu corff newydd yn yr FCA, y Swyddfa ar gyfer Goruchwylio Gwrth-wyngalchu Arian ymhlith Cyrff Proffesiynol (OPBAS). Mae ganddi’r pwerau i geryddu goruchwylwyr cyrff proffesiynol yn gyhoeddus a gall argymell bod Trysorlys EM yn cael gwared arnynt fel goruchwylwyr.

73. Bydd y Swyddfa Gartref yn ehangu’r ymgyrch ‘Flag It Up’[footnote 42] i gynyddu ymwybyddiaeth o fewn y sectorau cyfrifyddiaeth a chyfreithiol o wyngalchu arian. Dangosodd ymgyrch 2016/17 fod cyfrifwyr a chyfreithwyr a gydnabuodd ‘Flag It Up’ ddwywaith yn fwy tebygol o gyflwyno SAR, o’i gymharu â’r gweithwyr proffesiynol hynny nad oedd ganddynt wybodaeth am yr ymgyrch. Hefyd byddwn ni’n ehangu’r ymgyrch i annog mwy o gydymffurfiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol yn y sector eiddo.

74. Mae llywodraethau olynol y DU wedi ei wneud yn gynyddol symlach a rhatach i sefydlu cwmnïau, sydd er budd manteision cyffredinol busnes, hefyd wedi ei hecsbloetio gan droseddwyr i sefydlu cwmnïau cofrestredig yn y DU at ddibenion anghyfreithlon. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnal y gofrestr gyhoeddus o gwmnïau cyfyngedig, ac mae’r llywodraeth wedi cymryd camau i wella rhannu gwybodaeth rhwng Tŷ’r Cwmnïau ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Nawr byddwn ni’n mynd ymhellach i wella uniondeb y gofrestr, gan ei wneud yn ofynnol i sectorau rheoledig nodi ble, trwy eu diwydrwydd dyladwy, eu bod wedi nodi anghysondebau â gwybodaeth a gedwir ar y gofrestr gyhoeddus. Yn dilyn gwerthusiad FATF o gyfundrefn gwrth-wyngalchu arian y DU, bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn adolygu opsiynau i wella cywirdeb ac uniondeb y gofrestr.

75. Bydd y llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu ar adennill asedau, gan gynnwys cymorth i waith Comisiwn y Gyfraith i nodi diwygiadau i wella’r system atafaelu, i’w gwblhau erbyn 2020. Fel rhan o’r cynllun, byddwn ni’n archwilio sut y gallai cwmnïau preifat gynorthwyo i adennill asedau. Hefyd byddwn ni’n cynyddu’r cyllid o 50% i £7.5 miliwn yn 2018/19 ar gyfer galluoedd cenedlaethol allweddol megis y rhwydwaith o dimau ACE.

76. Fe sefydlodd y DU gofrestr gyhoeddus o wybodaeth am berchnogaeth fuddiannol ar gwmnïau yn 2016. Ym mis Gorffennaf 2018, fe wnaethom ni gyhoeddi ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer creu cofrestr o berchnogion buddiannol cwmnïau tramor sy’n berchen ar eiddo yn y DU. Mae hyn yn dilyn yr ymrwymiad a wnaed yn yr Uwchgynhadledd Gwrth-lygredd yn 2016 i fynd i’r afael â gwyngalchu arian a chynyddu tryloywder marchnad eiddo’r DU. Y gofrestr newydd fydd y cyntaf o’i bath yn y byd a bydd yn anelu at ei wneud yn anoddach i gleptocratiaid a throseddwyr difrifol a threfnedig guddio eu harian anghyfreithlon yn y DU.

77. Byddwn ni hefyd yn tynhau rheolau ar Bartneriaethau Cyfyngedig y DU, gan gynnwys partneriaethau cyfyngedig yn yr Alban (SLPs) er mwyn atal camdriniaeth gan droseddwyr. Mae partneriaethau cyfyngedig yn parhau i gyflawni swyddogaethau pwysig mewn sectorau allweddol o’n heconomi. Fodd bynnag, mae’r NCA wedi nodi lefel anghymesur o uchel o weithgarwch troseddol a amheuir yn cynnwys SLPs, ac mae ffyrdd o gryfhau a diweddaru’r fframwaith cyfreithiol. Fe wnaeth y llywodraeth lansio ymgynghoriad ym mis Ebrill 2018, a oedd yn cynnwys cynigion i gryfhau a diweddaru’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer partneriaethau cyfyngedig. Bydd y llywodraeth yn cyflwyno diwygiadau i’r gyfraith sy’n llywodraethu partneriaethau cyfyngedig, gan gynnwys SLPs, erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd diwygiadau yn galw am ddeddfwriaeth sylfaenol a’n bwriad fyddai deddfu cyn gynted ag y bydd amser Seneddol yn ei ganiatáu.

78. Wrth baratoi ar gyfer ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, pasiodd y Senedd y Ddeddf Sancsiynau a Gwrth-wyngalchu Arian, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Mai 2018. Bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol hon yn darparu pwerau i’r DU osod sancsiynau, gan gynnwys at ddibenion hawliau dynol. Gallai’r llywodraeth ddefnyddio’r pwerau hyn i fynd i’r afael â llygredd, lle mae hyn yn diwallu un o’r dibenion a gyflwynir yn y Ddeddf, er enghraifft, hyrwyddo amcan polisi tramor y DU. Rydym yn gweithio i weithredu’r Ddeddf Sancsiynau yn barod am yr adeg y bydd y DU yn gadael yr UE. Bydd y llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ar ddefnyddio sancsiynau yn y dyfodol lle mae’n briodol, fel rhan o bolisi tramor ehangach y DU a’r pecyn cymorth diogelwch cenedlaethol. Bydd y Ddeddf Sancsiynau a Gwrth-wyngalchu Arian hefyd yn ei wneud yn ofynnol i Diriogaethau Tramor gyflwyno cofrestrau perchnogaeth buddiannol cyhoeddus.

Miniogi a dwysáu galluoedd arbenigol ar-lein

79. Mae ein rhaglen i fynd i’r afael â seiberdroseddu yn cael ei hategu gan amcanion ehangach a gyflwynir yn yr NCSS a chan gyllid gan y Rhaglen Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSP) a’r Swyddfa Gartref. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi dros £50 miliwn wrth gryfhau galluoedd Uned Genedlaethol Seiberdroseddu (NCCU) yr NCA a pharhau i ddatblygu timau seiber o fewn pob un o’r ROCUs yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn 2018/19, byddwn ni’n buddsoddi £50 miliwn arall i wella galluoedd fforensig, deallusrwydd a rhannu data’r NCA ac ROCU, yn ogystal â sicrhau bod gan bob heddlu yng Nghymru ac yn Lloegr uned seiberdroseddu arbenigol benodedig i gynyddu galluoedd ymchwilio lleol.

80. Bydd y Swyddfa Gartref yn arwain rhaglen tair blynedd â buddsoddiad cychwynnol o £4.5 miliwn, er mwyn gwella ein sgiliau a’n gallu arbenigol Gwe Dywyll, trwy atgyfnerthu gwaith yr UKIC ac Uned Cudd-wybodaeth Gwe Dywyll yr NCA, a buddsoddi mewn partneriaethau gweithio cryf â gwledydd eraill. Yn 2019, bydd y Swyddfa Gartref yn lansio rhaglen hyfforddi genedlaethol, gan sicrhau bod y rhai hynny sy’n gweithio yn y maes hwn yn barod i ymchwilio ac erlyn yn briodol y rhai hynny sy’n cyflawni troseddau ar y We Dywyll.

Defnyddio Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae angen inni fod ar flaen y gad o ran datblygiadau ym meysydd dadansoddi data, biometreg, technolegau sgrinio, gwyddorau ymddygiadol a chymdeithasol, gan arloesi’n barhaus i aros o flaen y bygythiad a chadw’n gyfredol â graddfa gyflym newidiadau. Byddwn yn cefnogi mentrau sy’n ceisio archwilio moeseg defnyddio deallusrwydd artiffisial wrth ecsbloetio a dehongli data mawr. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio technolegau ac algorithmau canfod arloesol i ganfod pan guddir arfau ac offer dadansoddol sy’n ein rhybuddio am batrymau mewn cyfathrebiadau a allai nodi camfanteisio’n rhywiol.

Bydd y Swyddfa Gartref yn datblygu strategaeth Gwyddoniaeth, Technoleg, Dadansoddi ac Ymchwil (STAR) traws-lywodraethol. Bydd hon yn ystyried ein hymateb i droseddau difrifol a threfnedig a therfysgaeth, gan gymryd ymagwedd sbectrwm llawn at wrthsefyll bygythiadau soffistigedig a sicrhau trosglwyddo dysgu a gwybodaeth waeth beth fo math y bygythiad. Byddwn ni’n datblygu perthynas newydd â phartneriaid ehangach y llywodraeth, megis BEIS, DCMS ac Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), i ysgogi buddsoddiadau ymchwil a datblygu ar gyfer strategaeth ddiwydiannol. Byddwn ni hefyd yn cryfhau ein partneriaethau â diwydiant a’r byd academaidd i ddarparu atebion arloesol ac i archwilio cyfleoedd i gryfhau ein cydweithrediad â’n partneriaid rhyngwladol blaenoriaethol, gan gynnwys y bartneriaeth ddiogelwch Five Eyes, gan sicrhau ein bod yn deall a’n bod mewn sefyllfa i fanteisio ar natur fyd-eang newid technolegol.

Yn yr amgylchedd cyfathrebu, gall datblygiadau technolegol gael effaith ddwys ar allu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ganfod ac ymchwilio i weithgareddau troseddol. Mae Asesu Bygythiad a Risg, Archwilio Gallu ac Ymchwil (TRACER) yn ganolfan gymunedol dan arweiniad yr NCA sy’n archwilio datblygiadau technolegol yn eu cyd-destun ehangach a’r goblygiadau ar gyfer troseddau difrifol a threfnedig. Mae TRACER yn monitro newidiadau yn yr amgylchedd cyfathrebu, gan gynnwys y rhai hynny sy’n deillio o newid deddfwriaethol, tueddiadau cymdeithasol ac ysgogwyr masnachol, ac mae’n asesu’r cyfleoedd a bygythiadau tebygol ar gyfer canlyniadau gweithredol. Mae hefyd yn cydlynu datblygiad ymatebion y gymuned i liniaru bygythiadau a manteisio ar gyfleoedd.

Rhoi data a chudd-wybodaeth wrth wraidd ein hymagwedd

81. Er mwyn galluogi’r llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith, yn arbennig yr NCA, i dreiddio’n fwy effeithiol i rwydweithiau troseddol, byddwn ni’n gosod galluoedd data, cuddwybodaeth ac asesu newydd wrth wraidd ein hymateb, wedi’u hategu gan fodel gweithredu cudd-wybodaeth newydd.

82. Byddwn yn sefydlu Canolfan Asesu Genedlaethol amlasiantaethol (NAC) o fewn yr NCA. Bydd yr NAC yn cyfuno data, cudd-wybodaeth a gwybodaeth ffynhonnell agored i gynhyrchu dealltwriaeth unigol o fygythiadau troseddau difrifol a threfnedig. Bydd yn tynnu ar asesiadau asiantaethau gorfodi’r gyfraith ar bob lefel a gweithio ag UKIC i ddatblygu ein dealltwriaeth o fygythiadau a gwendidau ar-lein yn arbennig, gan gynnwys seiberdroseddu a chamfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol. Bydd yn nodi’r Gofynion Cudd-wybodaeth Cenedlaethol (NIRs) sy’n amlygu’r bylchau yn ein dealltwriaeth a chyfarwyddo ein partneriaid i’w llenwi. Bydd gweithio ar y cyd rhwng yr NAC a chyrff asesu eraill, megis y CCSC ar seiberdroseddu a’r Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth ar y Cyd (JTAC) ar orgyffyrddiadau penodol rhwng troseddau difrifol a threfnedig a therfysgaeth, hefyd bydd yn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o risgiau diogelwch cenedlaethol yn eu cyfanrwydd.

83. Bydd asesiadau NAC yn ysgogi’r ymateb gweithredol ar draws y system, gan lywio ymchwiliadau ac ymyriadau’r NCA, asiantaethau ehangach ym maes gorfodi’r gyfraith a’r NECC amlasiantaethol. Bydd yr NAC yn gwsmer allweddol o’r NDEC (a amlinellir ymhellach isod), gan ddefnyddio ei allbynnau data i fod yn sail i asesiadau, ac yn helpu i dargedu gweithgarwch yn erbyn troseddwyr lefel uchel ac, ar gam cynharach, sylwi ar batrymau a nodi gwendidau newydd mae troseddwyr wedi dechrau manteisio arnynt.

84. Mae gwaith yr NAC a’n hymagwedd ddiwygiedig tuag at gudd-wybodaeth yn cynnwys cynyddu nifer y dadansoddwyr â’r sgiliau gofynnol, ac adeiladu safonau cyson o broffesiynoldeb o gwmpas cudd-wybodaeth ar draws y cymunedau diogelwch a gorfodi’r gyfraith ar lefel genedlaethol. Datblygir hyn gan y Pennaeth Dadansoddi Cudd-wybodaeth Proffesiynol, y Coleg Plismona (drwy’r Rhaglen Broffesiynu Cudd-wybodaeth ac adolygiad o’r Arfer Proffesiynol Awdurdodedig ar gyfer Rheoli Cudd-wybodaeth) ac NPCC (trwy Strategaeth Cudd-wybodaeth Genedlaethol yr Heddlu 2017-2025).

85. Mae Rhwydwaith Cudd-wybodaeth Asiantaeth y Llywodraeth (GAIN) yn darparu porth hanfodol ar gyfer rhannu cudd-gwybodaeth rhwng ei aelodau.[footnote 43] Mae’n hanfodol i’r gwaith a wneir gan dimau amharu lleol sydd, gan weithio’n agos â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, yn defnyddio technegau cyfiawnder anhroseddol a dulliau plismona anhraddodiadol i amharu ar grwpiau troseddau trefnedig lleol. Yn 2018, sefydlwyd Canolfan Cudd-wybodaeth GAIN Genedlaethol er mwyn darparu un pwynt cyswllt unigol i’w haelod-asiantaethau gasglu neu rannu cudd-wybodaeth. Bydd datblygu GAIN yn cefnogi’r broses o ddatblygu galluoedd cudd-wybodaeth a data o fewn yr NCA. Bydd yn bwydo i’r NAC a’r NDEC ac yn cefnogi canlyniadau gwell ar y lefel ranbarthol, gan gyfrannu at ddealltwriaeth unigol a gwell o’r bygythiad.

86. Byddwn ni’n trawsnewid y ffordd rydym yn defnyddio data i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig trwy adeiladu Gallu Cenedlaethol ar gyfer Defnyddio Data (NDEC) o fewn yr NCA, mewn cydweithrediad ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a phartneriaid diogelwch cenedlaethol. Bydd yr NDEC yn allu canolog cenedlaethol a fydd yn lleihau’r amser a gymerir i amgyffred, prosesu a defnyddio data sydd eisoes yn bodoli a sy’n cefnogi ymatebion asiantaethau gorfodi’r gyfraith i droseddau difrifol a threfnedig. Bydd yr NDEC yn caffael setiau data newydd ac sydd heb eu defnyddio’n ddigonol yn rhagweithiol a defnyddio’r gwyddoniaeth ddata ddiweddaraf i nodi patrymau yn y data a’r cysylltiadau rhwng gwahanol endidau (megis troseddau, pobl, lleoliadau, cerbydau neu gyfathrebiadau), gan gadw at safonau data a strategaethau cenedlaethol.

Gwella’r sylfaen dystiolaeth

87. Er mwyn gwella’r sylfaen dystiolaeth a manteisio ar arbenigedd y sector academaidd, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi set flaenoriaethol o ofynion ymchwil yn 2018 i gefnogi’r strategaeth hon, ar ôl gweithio â phartneriaid i adolygu’r dystiolaeth bresennol er mwyn nodi lle mae bylchau, a ffynonellau data a chyllid. Un gofyniad ymchwil uniongyrchol fydd gwella ein dealltwriaeth o farchnadoedd troseddol. Bydd yr NAC a’r Swyddfa Gartref yn ymgymryd â phrosiectau peilot i ddeall sut mae grymoedd y farchnad megis cyflenwad a galw yn berthnasol i wahanol farchnadoedd anghyfreithlon, ac yn profi dulliau newydd o danseilio modelau busnes grwpiau troseddau trefnedig trwy dargedu gweithgarwch gorfodi’r gyfraith mewn dulliau arloesol.

Arfau Tanio a Chyffuriau

Rydym yn gweithio ar lefel genedlaethol i leihau’r bygythiad i’r DU a achosir gan y defnydd troseddol o arfau tanio, a chyda’n partneriaid rhyngwladol ac ar draws asiantaethau gorfodi’r gyfraith i amharu ar fasnachu arfau tanio i’r DU. Mae ein ffocws ar y bygythiad uwch a gyflwynir gan arfau tanio wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis yn 2015, lle defnyddiwyd arfau awtomatig i achosi anafiadau lluosog, fe wnaethom gynyddu cyflymder ac ehangder ein gwaith.

Yn 2016 profodd Ymgyrch DRAGONROOT y prosesau cudd-wybodaeth a’r ymateb gweithredol i’r bygythiad arfau tanio. Dan arweiniad yr NCA a Phlismona Gwrthderfysgaeth (CT), fe ddaeth â chydlyniad lefel genedlaethol a chymorth gweithredol at ei gilydd i’r ROCUs, Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd (MPS), Llu’r Ffiniau, y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Balisteg Cenedlaethol a Lluoedd Arfog y DU. Arweiniodd y gwersi a ddysgwyd o’r ymgyrch at sefydlu uned arfau tanio amlasiantaethol a arweinir ar y cyd gan yr NCA a Phlismona CT. Mae’r uned yn cydlynu gweithgarwch gorfodi’r gyfraith i wella ein dealltwriaeth o’r bygythiad a gyflwynir gan arfau tanio. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ein hôl troed rhyngwladol ar wledydd lle gyrchir arfau tanio sy’n cael eu masnachu i’r DU a chydweithio ar draws asiantaethau gorfodi’r gyfraith i amharu ar y cyflenwad. Rydym hefyd yn gweithredu i wella rheolaethau ar arfau tanio er mwyn atal arfau tanio rhag cael eu dargyfeirio o berchnogaeth gyfreithlon i’r farchnad droseddol. Mae hyn yn cynnwys mwy o reoleiddio arfau tanio hynafol, canllawiau statudol i’r heddlu ar drwyddedu arfau tanio a gynnau haels, a throseddau newydd ar drosi arfau tanio ffug yn anghyfreithlon a threfnu bod arfau tanio sydd wedi’u dadactifadu’n ddiffygiol ar gael i’w gwerthu.

Bu tuedd tuag at i fyny mewn troseddau arfau tanio ers 2014, er eu bod yn dal i fod 32% yn is na degawd yn ôl a 43% yn is na’u lefel uchaf yn 2005/6. Mae’r Strategaeth Trais Difrifol yn nodi’r ysgogwyr y tu ôl i gynnydd diweddar mewn trais difrifol gan gynnwys troseddau gynnau. Mae ffactorau pwysig yn cynnwys newidiadau yn y farchnad gyffuriau, gan gynnwys cynnydd yn y cyflenwad o gocên, cynnydd yn y defnydd o gocên crac a datblygu rhwydweithiau llinellau sirol fel modd o ddosbarthu cyffuriau. Mae mynd i’r afael â materion sylfaenol megis camddefnyddio cyffuriau, llinellau sirol a chyllid troseddol yn rhan o’r amcanion a amlinellir yn y strategaeth hon.

Fel y’i nodwyd hefyd yn y Strategaeth Trais Difrifol, rydym wedi sefydlu Canolfan Gydlynu Llinellau Sirol Genedlaethol (NCLCC) i helpu i ddod â’r ymdrech gorfodi’r gyfraith yn erbyn gangiau troseddol a grwpiau troseddau trefnedig sy’n ymwneud â delio mewn cyffuriau trwy ddefnyddio llinellau sirol. Mae’r NCA yn darparu pwynt canolog lle mae cuddwybodaeth a gwybodaeth yn cael eu rhannu a lle mae’r cysylltiadau â chamfanteisio troseddol a marchnadoedd cyffuriau anghyfreithlon yn cael eu nodi. Mae defnyddio’r gallu cenedlaethol hwn wedi arwain at ddarlun cliriach o’r bygythiad, mwy o gudd-wybodaeth, a darparu cefnogaeth ar gyfer plismona gweithredol. Bydd y Swyddfa Gartref yn cefnogi gwaith yr NPCC a’r NCA i ddatblygu’r NCLCC trwy ddarparu cyllid o £3.6 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Gwneud y gorau o’n gallu i ymyrryd yn gynnar ac ar ein ffiniau

88. Mae’r ffin yn parhau i fod yn bwynt ymyrraeth unigryw ar gyfer atal troseddwyr a nwyddau niweidiol sy’n dod i’n glannau, ac mae gan y DU alluoedd datblygedig i nodi ac atal pobl a nwyddau niweidiol sy’n cyrraedd yn y DU.

89. Mae’r DU yn rhan o’r Ardal Deithio Gyffredin (CTA) ag Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, sy’n adlewyrchu ein cysylltiadau hanesyddol agos. Bydd y trefniant hwn yn cael ei gynnal ar ôl i’r DU adael yr UE. Bydd y DU yn parhau i weithio’n agos gydag Iwerddon a Thiriogaethau Dibynnol y Goron i wella diogelwch ymhellach ar ffin allanol y CTA.

90. Mae ystod eang o sefydliadau yn cydweithio i gynnal diogelwch morwrol y DU a diogelwch ein dyfroedd tiriogaethol. Erbyn hyn mae’r Gyd-ganolfan Weithrediadau Morol, a sefydlwyd yn 2016, wedi’i ehangu’n Gyd-ganolfan Cydlynu Gweithrediadau Morol (JMOCC) sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, y Llynges Frenhinol, Llu’r Ffiniau, yr Heddlu, yr NCA, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, y Sefydliad Rheoli Morol ac asiantaethau morol eraill. Mae’r Heddlu, Llu’r Ffiniau, yr NCA a’r Llynges Frenhinol yn defnyddio eu pwerau i orfodi cyfraith droseddol y DU ar y môr. Mae hyn yn cynnwys gwyliadwriaeth, rhwystro gweithgareddau anghyfreithlon a gwahardd llongau sydd dan amheuaeth. Mae heddluoedd yn defnyddio gwybodaeth leol i ymateb i fygythiadau morol yn eu rhanbarth. Mae fflyd forol Llu’r Ffiniau’n weithgar wrth amddiffyn dyfroedd tiriogaethol y DU ac maent yn gweithio â rhanbarthau a gweithwyr proffesiynol morol, ledled y DU, i fynd i’r afael â gweithgarwch anghyfreithlon. Mae Llu’r Ffiniau’n parhau i gael ei ddefnyddio ym Môr y Canoldir ac yn y Môr Egeaidd i gefnogi ymdrechion i fynd i’r afael â throseddau mewnfudo trefnedig.

91. Y cyfle cyntaf i ymyrryd yw cyn teithio. Rydym yn cynnal 100% o wiriadau ar deithwyr sy’n cyrraedd y ffin ar wasanaethau rheolaidd o’r tu allan i’r CTA. Hefyd mae’r DU wedi datblygu’r defnydd o fisâu biometrig, gwybodaeth ymlaen llaw am deithwyr a’r cynllun Awdurdod i Gario (‘Dim Hedfan’), i nodi ac atal unigolion sy’n peri pryder rhag teithio i’r DU. Rydym yn defnyddio data ynghylch cludo nwyddau, a ddarperir cyn cyrraedd, i dargedu llwythi sy’n peri pryder. Mae hyn yn ategu technolegau sgrinio a chanfod sy’n arwain y byd a ddefnyddir ar y ffin, gan gynnwys canfod â chŵn.

92. Nawr byddwn ni’n gweithio i gael data mwy cyflawn a chywir gan gludwyr hedfan, morol a rheilffordd am deithwyr a nwyddau, wrth uwchraddio ein gallu i ddadansoddi’r data ar gyflymder uchel i ganfod a thargedu bygythiadau cyn iddynt ddod i’r DU. Byddwn yn parhau i dreialu a datblygu’r defnydd o dechnolegau biometrig arloesol i gynyddu ein gallu i wirio hunaniaeth teithwyr.

93. Mae rheolaethau ffin yn cael eu tanseilio gan lygredd, â gweithwyr porthladdoedd yn y DU a thramor yn aml yn darged i gael eu llygru gan rwydweithiau troseddau difrifol a threfnedig. Smyglo nwyddau anghyfreithlon, yn arbennig cyffuriau Dosbarth A, yw’r gweithgaredd mwyaf cyffredin ymhlith gweithwyr mewnol llwgr mewn porthladdoedd.[footnote 44] Mae Strategaeth Gwrth-lygredd y llywodraeth yn cynnwys rhaglen gynhwysfawr i ddeall, rheoli a lliniaru’r bygythiad hwn.[footnote 45] Bydd asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn targedu’r rhai hynny sy’n defnyddio llygredd, cydgynllwynio a gorfodaeth yn ein meysydd awyr a phorthladdoedd. Byddwn ni hefyd yn cryfhau rhannu gwybodaeth am y rhai hynny sy’n gweithio mewn amgylcheddau sensitif mewn meysydd awyr er mwyn sicrhau nad ydynt yn peri pryder ynghylch diogelwch.

94. Mae’n dal i fod yn flaenoriaeth i bob asiantaeth dorri cylch grwpiau troseddau trefnedig sy’n canolbwyntio ar symud pobl a nwyddau i’r DU yn anghyfreithlon, gan werthu’r enillion a gwyngalchu’r arian trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys symud arian yn ffisegol ar draws ffiniau. Mae datblygu cudd-wybodaeth ynghylch symud arian anghyfreithlon yn canolbwyntio ar gamddefnyddio methodolegau a llwybrau cludo penodol a bydd yn llywio dilyniant cynllun cynhwysfawr, aml-asiantaethol yn erbyn rheoli arian anghyfreithlon. Hefyd darparwyd cyllid sbarduno i gwmpasu creu cell gudd-wybodaeth amlasiantaethol, penodedig, sy’n canolbwyntio ar arian parod, a fydd yn cynyddu sylw ar y risg ariannol anghyfreithlon hwn.

95. Mae Gorfodi Mewnfudo yn hollbwysig i amharu ar grwpiau troseddau trefnedig a mynd i’r afael â throseddau mewnfudo trefnedig, caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl. Fe wnaeth Gorfodi Mewnfudo amharu ar 417 o grwpiau troseddau trefnedig yn 2017/18. Byddwn ni’n gwneud y gorau o’r defnydd o bwerau cenedligrwydd a mewnfudo yn erbyn unigolion sy’n ymwneud â throseddu difrifol a threfnedig. Lle bo’n briodol, bydd hyn yn cynnwys amddifadu unigolion o’u dinasyddiaeth Brydeinig a chau allan gwladolion tramor o’r DU na fyddai eu presenoldeb yma yn ffafriol i les y cyhoedd.

Troseddau Mewnfudo Trefnedig

Mae troseddau mewnfudo trefnedig yn cynnwys hwyluso anghyfreithlon gan grwpiau troseddau trefnedig o fewnfudwyr i gael mynediad i’r DU neu aros yn anghyfreithlon yn y DU trwy amrywiaeth o ddulliau a llwybrau: yn yr awyr, yn gudd dros dir a môr, gan ddefnyddio dogfennau ffug neu drwy gam-drin dulliau mynediad cyfreithlon megis camddefnydd o fisâu a phriodasau ffug. Mae grwpiau troseddau trefnedig hefyd yn ymwneud yn rheolaidd â mathau eraill o droseddau difrifol a threfnedig.

Mae’r DU yn chwarae rôl flaenllaw wrth nodi ac ymlid y grwpiau sy’n ymwneud â throseddu mewnfudo trwy ddilyn dull gweithredu llwybr cyfan o wledydd gwreiddiol, gwledydd tramwy a gwledydd cyrchfan, gan gynnwys y DU ac Aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Rydym yn mynd i’r afael â’r bygythiad yn gynnar, ac mae gennym bresenoldeb sylweddol dramor ar draws y byd. Mae ein staff yn defnyddio’r gudd-wybodaeth a gesglir ac a ddatblygir yn ystod eu gwaith i ganolbwyntio ar amharu ar a dihatru’r model busnes troseddol y tu ôl i droseddau mewnfudo trefnedig. Rydym hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r realiti o ymgysylltu â’r math hwn o droseddu i atal camfanteisio ar unigolion sy’n agored i niwed o’r cychwyn cyntaf. Mae mewnfudwyr hefyd mewn perygl mawr o gaethwasiaeth fodern; felly mae ymateb asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU yn cynnwys nodi a diogelu unigolion a dioddefwyr sy’n agored i niwed a ganfyddir er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gofal mwyaf priodol.

Mae’r DU yn defnyddio’r holl ffynonellau sydd ar gael, o gymunedau lleol yn y DU i wledydd tramwy cyn cyrraedd yma, i greu darlun cudd-wybodaeth cynhwysfawr ar y bygythiad a gyflwynir gan droseddau mewnfudo trefnedig. Mae ymgysylltu trwy berthnasoedd dwyochrog, fforymau rhyngwladol a sefydliadau gorfodi’r gyfraith yn caniatáu i’r DU gydweithio’n rhyngwladol â phartneriaid a chydlynu gweithrediadau ar y cyd ledled y byd. Ers 2015, mae’r DU wedi ychwanegu adnoddau pellach drwy’r Tasglu Troseddau Mewnfudo Trefnedig (Prosiect INVIGOR), sydd â staff o’r NCA, Gorfodi Mewnfudo, Llu’r Ffiniau, CPS a’r Swyddfa Gartref a ddefnyddir mewn 17 gwlad. Mae hwn wedi’i gynllunio i wella ein darlun cudd-wybodaeth ymhellach, ymchwilio ac amharu ar y grwpiau troseddau trefnedig dan sylw, meithrin gallu gwledydd gwreiddiol a thramwy i fynd i’r afael â throseddau mewnfudo trefnedig, amharu ar y defnydd o alluogwyr ac amharu ar ac adennill cyllid anghyfreithlon.

Mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn y DU hefyd yn datblygu a thrawsnewid eu galluoedd a’u rhwydweithiau er mwyn ymateb yn hyblyg i’r bygythiad, wrth i grwpiau troseddau trefnedig ddod yn fwy datblygedig. Ar hyn o bryd rydym yn ysgogi ymagwedd llywodraeth-gyfan yn erbyn troseddau mewnfudo trefnedig trwy fynd y tu hwnt i ymatebion traddodiadol gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith, lle mae troseddau trefnedig yn parhau i fod yn rhwystr allweddol i ddatblygu economaidd lleol, cyflogaeth gyfreithlon a sefydlogrwydd hirdymor mewn rhai rhannau o Affrica, o ble mae ymfudwyr yn ceisio dod i mewn i’r DU yn anghyfreithlon.

Mesur llwyddiant

96. Ein nod yw dangos ein bod wedi codi’r risg o weithredu yn sylweddol i’r troseddwyr difrifol a threfnedig sy’n achosi’r niwed uchaf, yn y DU a thramor, ar-lein ac all-lein. Bydd llwyddiant yn golygu y bydd galluoedd data a chudd-wybodaeth newydd wedi treiddio ac amharu ar unigolion a rhwydweithiau mewn ffyrdd newydd, gan olygu ein bod yn arestio ac yn erlyn troseddwyr niwed uchel, gan eu hatal rhag cam-drin, gan wrthod eu harian a’u hasedau iddynt, gan ddihatru eu rhwydweithiau a thorri eu model busnes. Byddwn ni’n mesur ein llwyddiant trwy gyfuniad o ddata gweithredol ac asesu ansoddol, gan gynnwys: niferoedd ac effaith amhariadau a wneir gan asiantaethau orfodi’r gyfraith; data ynghylch arestiadau, cyhuddiadau ac euogfarnau; asedau a atafaelir yn ymwneud â throseddau difrifol a threfnedig; a chynnydd wrth gyflwyno galluoedd newydd megis yr NECC, NDEC, NAC a chyfundrefn SARs ddiwygiedig.

Profi ac Ymarfer

Mae profi ac ymarfer yn ein helpu i asesu a gwella effeithiolrwydd ein hymateb. Byddwn ni’n ehangu’r Rhaglen Ymarfer Troseddau Difrifol a threfnedig (SOCX), a sefydlwyd yn 2014, i wneud hyn. Bydd yn ysgogi gwelliannau yn ein hymateb, gan ganolbwyntio ar y meysydd lle mae’r bygythiad a’r bregusrwydd uchaf lle mae arnom angen mwy o sicrwydd wrth gael yr ymateb traws-system cyfunol cywir. Bydd y rhaglen hon hefyd yn ein galluogi i brofi galluoedd a modelau gweithredu newydd sy’n deillio o’r strategaeth hon, gan lywio a llunio eu datblygiad.

Mae ein hymarferion hyd yn hyn wedi cynnwys dwsinau o heddluoedd a’u ROCUs cyfatebol yng Nghymru ac yn Lloegr, Heddlu’r Alban, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, Unedau Gwrthderfysgaeth, yr NCA, CaThEM, yr NCSC a llawer o sefydliadau eraill o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Er enghraifft, yn 2015, cyflwynodd y Rhaglen SOCX yr ymarfer ‘chwarae byw’ genedlaethol, amlasiantaethol gyntaf i brofi defnyddiadwyedd plismona, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a phartneriaid eraill mewn gweithrediad gwyliadwriaeth dynwaredol dan arweiniad yr NCA ar bwnc o ddiddordeb gan deithio o gwmpas y DU ar gyfer cyfres o gyfarfodydd cudd â chydweithwyr.

Bydd ein cynllun i ehangu’r Rhaglen SOCX yn darparu:

  • nifer gynyddol o ymarferion cenedlaethol, gan gynnwys profi cydweithredu ar wrthderfysgaeth a throseddau difrifol a threfnedig, a rhannu galluoedd i chwyddo adnoddau mewn adegau o angen;
  • tîm ymarfer seiber penodedig – gan weithio â’r NCSC a’r NCCU – a fydd yn cyflawni’r ymarfer seiberdroseddu genedlaethol gyntaf i brofi sut rydym yn adfer, rhannu a dadansoddi tystiolaeth ddigidol a ddaw o gudd-wybodaeth;
  • pecynnau ymarfer y gall partneriaid rhanbarthol a lleol eu darparu eu hunain i helpu i adeiladu cadernid lleol a rhanbarthol ac ymgorffori gwersi a nodwyd; ac
  • ymarfer rhyngwladol sy’n gwella effeithiolrwydd ein hymyriadau cynnar.

Amcan 2: Adeiladu’r lefelau uchaf o amddiffyn a chydnerthedd mewn pobl, cymunedau, busnesau a systemau sy’n agored i niwed

97. Dylai ein dinasyddion, busnesau a sefydliadau’r sector cyhoeddus adeiladu’r lefelau uchaf o amddiffyn yn erbyn troseddwyr trefnedig. Mae angen amddiffyn a chynorthwyo pobl a chymunedau sy’n cael eu heffeithio fwyaf neu sydd mewn perygl o gael eu camddefnyddio neu eu brawychu gan droseddwyr difrifol a threfnedig. Mae rhai o’r niweidiau mwyaf amlwg i’n dinasyddion yn dod o gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol, seiberdroseddu, twyll a chaethwasiaeth fodern, a phob un ohonynt yn cael ei ymarfer yn gynyddol ar-lein ar raddfa sylweddol.

Adeiladu cydnerthedd mewn pobl a chymunedau sy’n agored i niwed

Camfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol

98. Er y gall camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol a throseddau eraill sy’n ymwneud â chamfanteisio gael eu cuddio o’r golwg, gall y niwed a achosir gael effaith anferth a gydol oes ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a chymunedau yn gyffredinol. Mae dioddefwyr camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol yn fwy tebygol o ddioddef gan broblemau iechyd meddwl, ceisio hunanladdiad a datblygu dibyniaethau ar sylweddau.[footnote 46] Mae’r rhai hynny sy’n cael eu cam-drin fel plant yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr eto yn ddiweddarach yn eu bywydau.[footnote 47] Mae caethwasiaeth fodern yn cael effeithiau corfforol a meddyliol difrifol ac eang ar iechyd meddwl. Canfuwyd bod iechyd meddwl gwael yn gyffredin ymhlith dioddefwyr masnachu mewn pobl, yn arbennig Anhwylder Straen Wedi Trawma, gorbryder a straen.[footnote 48]

99. Er mwyn cryfhau cydnerthedd plant a phobl ifanc, mae’r Swyddfa Gartref wedi lansio cronfa Perthynas Ddibynadwy gwerth £13 miliwn ar gyfer Lloegr a fydd yn cefnogi prosiectau sy’n helpu’r rhai hynny sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio a cham-drin er mwyn meithrin perthnasoedd cadarnhaol a wirioneddol ddibynadwy â gweithwyr proffesiynol yn eu bywydau. Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i gynnal yr ymgyrch ‘Disrespect NoBody’, sydd yn ei thrydedd gam erbyn hyn, â chyllid ychwanegol o £850,000 â’r nod o wella hyder pobl ifanc yn eu dealltwriaeth o gydsyniad a pherthnasoedd iach.[footnote 49]

100. Mae’r Adran Addysg (DfE) yn cyflwyno Addysg Perthnasoedd orfodol mewn ysgolion cynradd a Pherthnasoedd ac Addysg Rhyw mewn ysgolion uwchradd. Bydd y pynciau hyn yn helpu i sicrhau bod pob person ifanc yn deall nodweddion perthnasoedd iach, arwyddion o berthnasoedd afiach, sut i’w cadw eu hunain yn ddiogel a sut i geisio cymorth a chefnogaeth. O fis Medi 2018, bydd rhaid i bob ysgol yn Lloegr ystyried y canllawiau statudol diwygiedig ‘Keeping Children Safe in Education’[footnote 50] sy’n cynnwys adran benodol i ymdrin â phlant ar drais rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn erbyn plant.

101. Ym mis Chwefror 2017, cyflwynodd DfE ddiffiniad newydd o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, i gael gwared ar amwysedd a chaniatáu i bob ymarferydd weithio hyd at yr un diffiniad, a chyhoeddodd gyfarwyddyd ymarfer ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Mae DfE yn bwriadu contractio gwasanaeth ymateb newydd i roi cymorth i bartneriaid amlasiantaethol mewn ardaloedd lleol i’w helpu i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant ynghyd â bygythiadau eraill sy’n ymwneud â chamfanteisio ar blant megis gangiau, llinellau sirol, caethwasiaeth fodern plant a masnachu mewn plant. Fe gaiff ei lansio yn 2019 â chyllid o hyd at £2 filiwn. Mae Public Health England hefyd wedi cyhoeddi cyfarwyddyd[footnote 51] i gefnogi arweinwyr iechyd cyhoeddus lleol i atal ac ymyrryd yn gynnar mewn achosion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant.

102. Â llawer o bobl yn cynnal eu perthnasoedd personol ar-lein erbyn hyn, mae technoleg wedi galluogi troseddwyr sy’n camfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed i baratoi eu dioddefwyr ar gyfer rhyw â chyflymder digynsail gan gael effaith ddinistriol. Byddwn ni’n parhau i fuddsoddi mewn cyfathrebiadau wedi’u teilwra â’r nod o gefnogi pobl ifanc i weithredu mewn ffordd ddiogel, gyfrifol a chyfreithlon ar-lein. Er enghraifft, byddwn ni’n parhau i weithio â’r IWF a Sefydliad Marie Collins ar gyd-ymgyrch i addysgu pobl ifanc ar y gyfraith ac annog adrodd am ddeunydd anghyfreithlon. Hyd yn hyn, gwelwyd yr ymgyrch dros naw miliwn o weithiau gan helpu i ddyblu ymweliadau â wefan yr IWF (yn cynnwys cyfarwyddyd a mecanweithiau adrodd) o 22,617 ym mis Mawrth 2017 i 48,144 ym mis Mawrth 2018. Byddwn ni’n datblygu ein hymagwedd at gyfathrebu, yn profi offer a thechnegau newydd i gadw’n gyfredol â natur esblygol troseddau camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol er mwyn atal cysylltiad a diogelu dioddefwyr rhag niwed.

103. O gofio graddfa a chymhlethdod cynyddol camfanteisio’n rhywiol ar blant a chamdrin plant yn rhywiol ar-lein, mae’n hollbwysig i’r llywodraeth a’i phartneriaid gydweithio. Mae’r Swyddfa Gartref eisoes wedi buddsoddi ym Mhrosiect Arachnid, sy’n cael ei redeg gan y Canadian Centre for Child Protection, sef ymlusgwr sy’n chwilio’r we agored am ddeunydd sy’n ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol. Mae wedi dadansoddi oddeutu 52 biliwn o ddelweddau a 1.3 biliwn o URLau lle amheuir deunydd gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ac wedi cyhoeddi mwy na 900,000 o rybuddion i’w tynnu lawr. Byddwn ni’n gwneud y mwyaf o ymdrechion ein partneriaid trwy wella lefelau rhannu gwybodaeth ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant a chamdrin plant yn rhywiol ar-lein. Bydd y llywodraeth yn adeiladu llwyfan i gyfnewid gwybodaeth â phartneriaid i’w helpu i sicrhau bod plant yn llai agored i niwed i gam-drin, nodi gweithgarwch amheus ac adrodd amdano, a’i wneud yn anos i droseddwyr weithredu. Mae GCHQ yn cynorthwyo â dulliau i wneud gwybodaeth ar gael i ystod eang o bartneriaid, megis diwydiant a chymdeithas sifil, a sicrhau eu bod yn gallu cymryd camau yn erbyn troseddwyr cyson.

104. Mae’n bwysig i’r sector preifat nid yn unig wneud atgyfeiriadau i asiantaethau gorfodi’r gyfraith, ond hefyd i atal troseddu rhag digwydd yn rhagweithiol ar lwyfannau ar-lein, gan ganiatáu i asiantaethau gorfodi’r gyfraith ganolbwyntio ar y troseddau sy’n achosi’r niwed uchaf. Byddwn ni’n gofyn i gwmnïau weithredu’n rhagweithiol er mwyn diogelu defnyddwyr a gwrthod y cyfle i droseddwyr ddefnyddio llwyfannau a gwasanaethau ar-lein i gyrchu plant a chynnwys ynghylch camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion CONTEST a’r Papur Gwyn Online Harms sydd ar ddod. Mae hyn yn ei wneud yn ofynnol i gwmnïau nodi a gweithredu’n rhagweithiol ar gynnwys neu ymddygiad i atal troseddu; mae’n ei wneud yn ofynnol iddynt ddatblygu a chymhwyso datblygiadau mewn technoleg i awtomeiddio’r dulliau hyn, gan gynnwys trwy ddeallusrwydd artiffisial; ac mae’n ei wneud yn ofynnol i’r rhai hynny sydd ar flaen y gad ddangos lefel fwy o dryloywder a rhannu offer a thechnegau â chwmnïau eraill. Mae’n rhaid i’r ymagwedd hon symud y tu hwnt i dynnu i lawr deunydd ar ei rwystro ar adeg ei lanlwytho, atal paratoi at bwrpas rhyw ar-lein, cau ffrydio byw o gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol, atal troseddwyr rhag ymgysylltu â’i gilydd, a bod yn fwy arloesol wrth helpu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ymateb i’r mathau hyn o droseddau. Yn gynnar yn 2018, ymgymerodd y Swyddfa Gartref brofion o gysyniad ar ddeallusrwydd artiffisial mewn partneriaeth â diwydiant. Byddwn ni’n dechrau cyflwyno gallu gweithredol i blismona yn 2019.

Cynghrair Byd-eang WePROTECT

Fe wnaeth y DU lansio WePROTECT yn 2014 i ysgogi penderfyniadd gwleidyddol bydeang i frwydro yn erbyn camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein. Yn 2015, cyfunodd y fenter â’r Global Alliance Against Child Sexual Abuse Online a arweiniwyd gan yr Unol Daleithiau a’r UE i greu clymblaid a fyddai yn gryfach eto. Erbyn hyn mae gan y Cynghrair Byd-eang WePROTECT 82 o wledydd, wyth sefydliad rhanbarthol, 20 corff technoleg a diwydiant, a 24 o sefydliadau cymdeithas sifil rhyngwladol o dan ei faner. Hyd yn hyn mae Cynghrair Byd-eang WEPROTECT wedi cyflawni:

  • Hacathon WePROTECT: Yn 2014, daeth dros 60 o gwmnïau at ei gilydd i gynhyrchu syniadau ar gyfer atebion technegol i atal plant rhag cael eu camfanteisio’n rhywiol ar-lein. 
  • Ymateb Cenedlaethol Enghreifftiol: Wedi’i lansio yn 2016, dyma becyn cymorth newydd a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n cyfarwyddo gwledydd ar yr hyn mae angen iddynt ei wneud i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol. Mae hyn wedi gwella perfformiad gwledydd mewn meysydd allweddol megis adeiladu galluoedd gorfodi’r cyfraith a mecanweithiau adrodd arbenigol.
  • Cyllid o £40 miliwn wedi’i addo gan y DU o 2016 i gefnogi gallu cenedlaethol a rhyngwladol i ymateb i gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein. Mae’r £20 miliwn cyntaf eisoes wedi cefnogi dros 30 o brosiectau, gan gynnwys porth adrodd ar-lein newydd ar gyfer dioddefwyr yn Tansanïa, hyfforddiant i swyddogion y llywodraeth yn yr Iorddonen fel y gallant ymchwilio’n fwy effeithiol ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol, a chefnogi NGO yn Ynysoedd y Philipinau.
  • Yn 2018, yr Asesiad Bygythiad Byd-eang cyntaf erioed ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein mewn partneriaeth â’r NCA, Interpol ac Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau. Mae hyn yn darparu dealltwriaeth ddyfnach o’r bygythiad ar-lein ar lefel fyd-eang a sut mae’n datblygu, ac yn creu llinell sylfaen i fonitro effaith gadarnhaol ymyriadau.

Wrth edrych ymlaen, bydd y Cynghrair Byd-eang WePROTECT yn cynhyrchu Ymateb Strategol Byd-eang i nodi’r camau sydd eu hangen ar lefel drawswladol i fynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol ar-lein. Bydd hyn yn darparu cyfarwyddyd i lywodraethau, sefydliadau rhyngwladol a sefydliadau cymdeithas sifil ar sut i gydweithio ar draws ffiniau.

Cymorth i gymunedau sy’n agored i niwed

105. Mae grwpiau troseddau trefnedig yn manteisio’n benodol ar gymunedau sydd eisoes yn agored i niwed neu sydd â chysylltiadau gwael â’r wladwriaeth. Gall y troseddwyr hyn greu awyrgylch o ofn a bygythiad, sydd yn dod yn norm dros gyfnod o amser, gan ddifetha bywydau a gyrru busnesau cyfreithlon allan. Mewn rhai achosion, maent yn tanseilio swyddogaethau’r wladwriaeth trwy ddarparu mathau eraill o ddiogelwch a chyflogaeth, wedi’u cyfuno â chosbau.

106. Er bod gan blismona cymunedol hanes hir, mae’r cysyniad o adeiladu cydnerthedd cymunedau yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig yn parhau i ddatblygu. Mae nifer o luoedd yn gweithio’n llwyddiannus ag awdurdodau lleol i helpu cymunedau i ddatblygu gwrthwynebiad. Mae nifer gynyddol o luoedd hefyd yn cysylltu plismona lleol â chuddwybodaeth leol ar droseddau difrifol a threfnedig er mwyn sicrhau bod ymdrechion plismona cymunedol wedi’u hanelu at y meysydd hynny sy’n peri pryder. Mae’r gwaith cyfredol yn y maes hwn yn canolbwyntio ar swyddogion heddlu lleol sy’n ymgysylltu â chymunedau, dan arweiniad Proffiliau Lleol Troseddau Difrifol a threfnedig, a gyflwynwyd fel rhan o strategaeth 2013 SOC, sy’n rhoi’r wybodaeth sydd arnynt ei hangen i ddeall yr heriau penodol yn eu hardal. Yn 2019, byddwn ni’n cyhoeddi cyfarwyddyd wedi’i ddiweddaru i sicrhau bod proffiliau lleol yn adlewyrchu natur newidiol y bygythiad, ac sy’n ategu’r Strategaeth Gaethwasiaeth Fodern a’r Strategaeth Trais Difrifol.

107. Mae ystod o waith sy’n bodoli eisoes ar draws y llywodraeth yn helpu i adeiladu cydnerthedd cymunedol. Yn Lloegr, mae Strategaeth Cymunedau Integredig y llywodraeth yn ceisio dod â phobl at ei gilydd, beth bynnag yw eu cefndir.[footnote 52] Mae’r Rhaglen Troubled Families yn darparu cymorth i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Mae DfE hefyd yn gweithio yn Lloegr i wella presenoldeb disgyblion ac ymddygiad mewn ysgolion, sydd yn arbennig o berthnasol o gofio cysylltiadau rhwng cyrhaeddiad addysgol isel ac ymwneud â throseddau difrifol a threfnedig. Yng Nghymru mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn annog cyrff cyhoeddus yng Nghymru i feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau ac ymhlith ei gilydd, ceisio atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cydgysylltiedig.

108. Er mwyn sicrhau bod ymateb unigol, cydlynol ar lefel leol sy’n cyfuno holl gymorth bresennol y wladwriaeth i helpu cydnerthedd cymunedol, mae’r Swyddfa Gartref yn cyflwyno Cydlynwyr Cymunedol Troseddau Difrifol a threfnedig yng Nghyymru ac yn Lloegr, i ddechrau mewn pum lleoliad blaenoriaethol yn 2018, Bradford, Brighton, Casnewydd, Sedgemoor a Speke/Halton. Hefyd bydd gan y cydlynwyr cymunedol fynediad i gyllid prosiect newydd i ddarparu ymyriadau lleol eraill wedi’u targedu i godi ymwybyddiaeth, magu cydnerthedd mewn cymunedau a thynnu pobl sy’n agored i niwed i ffwrdd rhag troseddau difrifol a threfnedig. Hefyd bydd y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer ymarferwyr (megis plismona lleol a chymdogaethau, rheolwyr diogelwch cymunedol, arweinwyr tai awdurdodau lleol), â set o ymagweddau gwerthusedig at adeiladu cydnerthedd cymunedol y gallant eu defnyddio.

109. Er mwyn cryfhau cydnerthedd cymunedau yn erbyn caethwasiaeth fodern, mae’r Swyddfa Gartref wedi gweithio â chymunedau Nigeriaidd ym Manceinion a Barking & Dagenham i gyd-greu a threialu gweithgaredd cyfathrebu a gynlluniwyd i helpu’r gymuned hon i weld arwyddion gwasanaethfraint ddomestig a’u hannog i adrodd am amheuon. Roedd y gwerthusiad cychwynnol yn gadarnhaol gan fod y rhai a oedd yn cydnabod yr ymgyrch hefyd yn sgorio’n uchel ar wybod ble i gyfarwyddo dioddefwyr a sut i weld arwyddion caethwasiaeth. Byddwn yn defnyddio’r dysgu o’r ymagwedd hwn i gyflwyno cyfathrebiadau pellach wedi’u targedu ynghylch mathau penodol o gaethwasiaeth fodern mewn cymunedau lleol, er mwyn annog adrodd amdani.

Lleihau goddefgarwch y cyhoedd a mynd i’r afael â marchnadoedd troseddol

110. Mae troseddau difrifol a threfnedig yn aml yn cael eu cuddio fel busnesau dilys neu fel troseddau ‘lefel isel’. Er enghraifft, mae rhai bariau ewinedd neu weithwyr golchfeydd ceir yn dioddef camfanteisio am eu llafur. Gall pobl brynu sigaréti neu alcohol rhad neu ddefnyddio nwyddau neu wasanaethau anghyfreithlon megis cyffuriau neu buteindra, gan feddwl bod y niwed i eraill yn ddibwys. Ond mae’r masnachau hyn yn cynhyrchu miliynau o bunnau bob blwyddyn ar gyfer mentrau troseddol trawswladol, sy’n defnyddio’r elw hwn, ynghyd â thrais a chamfanteisio ar y rhai mwyaf agored i niwed, i gynhyrchu mwy o droseddau (Ffigur 4).

111. Rydym am i’r cyhoedd chwarae rôl allweddol wrth helpu i leihau’r galw am nwyddau a gwasanaethau anghyfreithlon. Rydym am i’n dinasyddion nodi ac ymatal rhag defnyddio nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â throseddu difrifol a threfnedig. Rydym wedi gwneud cynnydd cynnar drwy’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern a chyhoeddiadau dilynol[footnote 53] trwy orfodi rhai busnesau i ddatgelu yn flynyddol y camau maent yn eu cymryd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth yn eu cadwyni cyflenwi.[footnote 54]

112. Trwy ymgyrchoedd cyfathrebu cynyddol a dargedir wedi’u harwain dan arweiniad y Swyddfa Gartref, byddwn ni’n cynyddu ymwybyddiaeth o sut mae troseddau difrifol a threfnedig yn eu arddangos eu hunain, a’r berthynas rhwng nwyddau anghyfreithlon a’r niwed a achosir i blant ac oedolion sy’n agored i niwed. Bydd cyfathrebu strategol ar gaethwasiaeth fodern yn targedu cymunedau sy’n agored i niwed, i godi ymwybyddiaeth, lleihau goddefgarwch ac ysgogi adrodd am ddioddefwyr a chyflawnwyr.

Ffigur 4 – Enghreifftiau o farchnadoedd troseddol sy’n effeithio ar y DU

  • Defnyddwyr cocên canol-dosbarth yn ariannu caethwasiaeth a llofruddiaeth
  • Sut bu i gyffuriau droi cyfeillgarwch plentyndod yn drywaniad stryd marwol
  • Mae gangiau yn gorfodi miloedd o bobl yn eu harddegau i ddod yn ‘fulod arian’
  • Y gwirionedd tywyll y tu ôl i ffermio canabis y DU yn cael ei ddatgelu wrth i ffilm fer amlygu camfanteisio ar blant Fietnamaidd dan oed
  • ‘Stryd Ffugio’: Y llwybr dioddefaint y tu ôl i’r fargen dylunydd rydych yn ei chael am Nadolig
  • Heddlu yn rhybuddio bod caethweision modern yn ‘staffio bariau ewinedd ledled y DU’ wrth i gang Fietnamaidd gael ei garcharu mewn achos allweddol
  • ‘Trefnu gangiau troseddau’ yn targedu gyrwyr mewn epidemig herwgipio ceir
  • Mae defnyddwyr cocên yn dinistrio’r fforest law – am 4 metr sgwâr y gram

Adeiladu ein hamddiffyniadau

113. Bydd ein hymagwedd at adeiladu ein hamddiffyniadau yn cyd-fynd â’r amddiffyniadau a nodir mewn strategaethau llywodraethol perthnasol ehangach, yn arbennig yr NCSS, y Strategaeth Atal Troseddau Modern[footnote 55] a’r Strategaeth Gwrth-lygredd. Hefyd byddwn ni’n datblygu atebion technegol ar-lein i gryfhau ein systemau ac yn integreiddio’n hymateb yn well â’r sector preifat i ‘gynllunio allan’ troseddu Gan adeiladu ar waith hyd yn hyn, byddwn ni hefyd yn ceisio ehangu partneriaethau byd-eang â diwydiant a gwledydd o’r un meddwl.

114. Byddwn ni’n gwella fframweithiau rheoleiddio a sicrhau bod gan fusnesau a chyrff y sector cyhoeddus y cyngor sydd arnynt ei angen i amddiffyn eu sefydliadau’n well. Fel y nodwyd yn y Strategaeth Gwrth-lygredd, mae hyn yn cynnwys mesurau i adeiladu mwy o gydnerthedd yn erbyn bygythiad llygredd, gan fynd i’r afael â’r bygythiad a gyflwynir gan swyddogion llygredig a’r rhai hynny sy’n ceisio defnyddio llygredd i ymestyn eu nodau troseddol neu i ennill mantais fusnes. Mae sectorau blaenoriaethol yn cynnwys ffiniau, carchardai, plismona a llywodraeth leol, â mesurau penodol i wella ymwybyddiaeth, hyfforddiant, rhannu gwybodaeth ac adrodd er mwyn lleihau lefelau cyffredinol o hyglwyfder.

Seiberdroseddu

115. Mae’r rhan fwyaf o weithgarwch ar-lein yn digwydd heb broblemau. Fodd bynnag gall unrhyw un syrthio’n ysglyfaeth i seiberdroseddwyr os na fyddant yn cymryd rhagofalon diogelwch sylfaenol. Yn ôl data o’r Arolwg Troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr, mae llai na hanner yr unigolion yn lawrlwytho meddalwedd a phatsiau pryd bynnag y’u cymhellir.[footnote 56] Yn y cyfamser, fe ganfu Arolwg Toriadau Seiberddiogelwch 2018 mai dim ond 27% o fusnesau oedd â pholisi ffurfiol sy’n cwmpasu risgiau seiberddiogelwch.[footnote 57]

116. Crëwyd yr NCSC yn 2016 i helpu i amddiffyn ein gwasanaethau allweddol rhag ymosodiadau seiber, rheoli digwyddiadau mawr a gwella diogelwch sylfaenol rhyngrwyd y DU. Rhaglen NCSC yw Active Cyber Defence a fwriedir i fynd i’r afael â’r ymosodiadau lefel uchel sy’n effeithio ar fywydau dyddiol pobl. Mae eisoes yn cyflenwi mewn pedwar prif faes ar draws y sector cyhoeddus: rhwystro negeseuon e-bost ffug; atal systemau llywodraeth rhag ddefnyddio gwefannau maleisus; darparu gwiriadau gwe ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus i nodi gwendidau cyffredin a thrwsio problemau syml ar eu gwefannau; a hysbysiadau tynnu i lawr lle canfyddir cynnwys maleisus. Mae’r rhaglen yn bwriadu ehangu ymhellach yn y sector cyhoeddus a chynyddu mabwysiadu yn y sector preifat.[footnote 58]

117. Mae’r llywodraeth yn benderfynol o gryfhau sgiliau a diwydiant seiberddiogelwch yn y DU. Mae DCMS yn datblygu strategaeth sgiliau seiber i dynnu ynghyd ystod o fentrau dan arweiniad y llywodraeth. Un o’r ymrwymiadau allweddol yn yr NCSS yw sicrhau bod yr ecosystem gywir yn bodoli i gefnogi sector seiberddiogelwch ffyniannus. Mae Cyber Accelerator yr NCSC yn helpu i gadw busnesau a’r cyhoedd yn ddiogel rhag ymosodiadau seiber trwy ysgogi arloesi yn y sector seiberddiogelwch. Agorwyd Swyddfa Llundain ar gyfer Rapid Cybersecurity Advancement ym mis Mehefin 2018 i gefnogi arloeswyr mewn seiberddiogelwch a bydd yn cael ei gyflwyno gan Plexal, gan weithio â’r Ganolfan Technolegau Gwybodaeth Diogel (CSIT) a Deloitte.

118. Byddwn ni’n gweithio â’r sector preifat i ‘gynllunio allan’ troseddu. Trwy ei waith Secure by Design,[footnote 59] mae’r llywodraeth yn gweithio i sicrhau bod Rhyngrwyd Pethau’r defnyddiwr yn ddiogel yn ddiofyn, â diogelwch wedi’i ymgorffori o’r cychwyn. Byddwn ni’n annog unigolion a busnesau i adeiladu cydnerthedd yn erbyn y bygythiad o seiberdroseddu, trwy ymgyrchoedd CyberAware a Take Five y llywodraeth sy’n annog y cyhoedd, a Mentrau Bach a Chanolig (BBaChau) i fabwysiadu ymddygiad mwy diogel ar-lein. Mae Cyber Aware yn cael ei chefnogi gan 590 o bartneriaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus sy’n annog ymddygiadau seiberddiogelwch da trwy eu sianeli eu hunain. Roedd amcangyfrif o 11 miliwn o oedolion a 1.4 miliwn o fusnesau bach a chanolig yn honni eu bod yn fwy tebygol o gynnal neu ymgymryd ag ymddygiadau seiberddiogelwch allweddol o ganlyniad i Cyber Aware ar ddiwedd 2016/17.

119. O fewn yr NCA, mae’r NCCU yn arwain y DU i fynd i’r afael â’r bygythiad o seiberdroseddu. Mae gan yr NCCU y cyfrifoldeb a’r gallu i arwain yr ymateb gweithredol, cydlynu gweithgarwch ar draws ystod o bartneriaid a darparu cymorth seiber ac arbenigedd arbenigol ar draws asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Byddwn ni’n adeiladu unedau seiberdroseddu arbenigol ym mhob heddlu, a fydd yn cael eu rheoli’n rhanbarthol a’u darparu’n lleol. Rydym hefyd wedi creu rhwydwaith o swyddogion rhanbarthol Protect sydd wedi’u lleoli mewn ROCUs i greu’r cysylltiad rhwng yr haenau lleol a chenedlaethol ym maes gorfodi’r gyfraith. Mae’r rhwydwaith yn darparu cyngor cyson a chydlynol ar seiberddiogelwch i ddinasyddion a busnesau, yn seiliedig ar y ddealltwriaeth ddiweddaraf o’r bygythiad gan y CCSC. Mae’r swyddogion yn ymgysylltu â grwpiau sy’n agored i niwed, BBaChau, ysgolion a chyrff cyhoeddus eraill, ac yn darparu ymyriadau wedi’u targedu lle mae gwendidau penodol yn cael eu nodi. Mae Heddlu’r Alban a Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi mabwysiadu model tebyg i sicrhau bod yr ymagwedd hwn yn cael ei atgynhyrchu’n fras ledled y DU. Mae NCSP wedi ariannu swyddogion Protect Heddlu’r Alban i ymestyn eu gwaith yn y maes hwn.

120. Er gwaethaf llwyddiant yr ymyriadau hyn, mae diffyg mabwysiadu seiberddiogelwch sylfaenol cynhwysfawr ar lefel genedlaethol yn gadael unigolion a busnesau mewn perygl; gellir atal llawer o fygythiadau seiber, neu o leiaf leihau’r effaith, trwy fabwysiadu mesurau seiberddiogelwch sylfaenol.[footnote 60] Fodd bynnag, gall fod yn ddryslyd i’r cyhoedd a busnesau wybod pa fesurau sy’n cael eu gwneud fel mater o drefn, a’r hyn mae angen iddynt ei wneud eu hunain. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, byddwn ni’n cymryd ymagwedd llywodraeth gyfan at gyflawni newid sylweddol mewn agweddau ac ymddygiadau ar seiberddiogelwch, ochr yn ochr ag ymyriadau polisi wedi’u ffocysu i fynd i’r afael â gwendidau, o gyfrifiaduron personol drwodd i’r rhwydweithiau mwyaf soffistigedig. Byddwn ni’n creu tîm traws-lywodraethol penodedig i sicrhau darpariaeth integredig ar draws yr holl adrannau ac asiantaethau perthnasol. Bydd y tîm yn defnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael, o dechnegau atgyfnerthu positif i weithredu deddfwriaethol, er mwyn sicrhau dwyn holl rym y llywodraeth i gyflenwi’r newid pellach sydd ei angen.

Twyll

121. Mae troseddu twyll a seiberdroseddu yn parhau i fod ymhlith y troseddau a brofir yn fwyaf cyffredin yn y DU, â 3.3 miliwn o ddigwyddiadau o dwyll wedi’u cofnodi yn y flwyddyn yn dod i ben ym mis Mehefin 2018.[footnote 61] Mae’r gost i fusnesau a’r sector cyhoeddus oherwydd twyll trefnedig yn dod i gyfanswm o £5.9 biliwn.[footnote 62] Yn 2016 sefydlodd y llywodraeth y Cyddasglu Twyll (JFT) i ddod â diwydiant, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a llywodraeth at ei gilydd i ddiogelu’r cyhoedd rhag twyll. Mae hyn yn adeiladu ar waith Heddlu Dinas Llundain sy’n rhedeg Action Fraud, y ganolfan adrodd ar-lein a ffôn ar gyfer twyll a seiberdroseddu a ysgogir yn ariannol, a chyflenwi’r NCSS sy’n trefnu gwaith presennol ar y lefelau cenedlaethol a rhanbarthol. Nawr byddwn ni’n blaenoriaethu ‘cynllunio allan’ twyll ar-lein, a gwella ein cymorth i ddioddefwyr sy’n agored i niwed ac sy’n agored i ddylanwadau. Bydd y JFT yn darparu cynllun traws-ddiwydiant i leihau twyll ‘Cerdyn Ddim yn Bresennol’ yn sylweddol erbyn 2019 trwy gael gwared â bylchau a chryfhau modd dilysu cwsmeriaid ar drafodion arlein.[footnote 63]

Cefnogi dioddefwyr a thystion

122. Ein nod cyffredinol yw diogelu ein dinasyddion trwy sicrhau nad oes unrhyw le diogel i droseddwyr difrifol a threfnedig. Ond i’r rhai sy’n anffodus yn dod yn ddioddefwyr neu’n dystion, byddwn ni’n nodi’n gynt y rhai hynny sy’n cael eu niweidio’n a’u cefnogi hyd at safon gyson uchel. Byddwn ni’n buddsoddi’n benodol mewn tri maes allweddol o niwed uchaf: camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol, caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl, a thwyll.

123. Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddu (Cod y Dioddefwyr) yn nodi’r gwasanaethau mae’n rhaid eu darparu i ddioddefwyr troseddau (gan gynnwys troseddau difrifol a threfnedig) gan sefydliadau yng Nghymru ac yn Lloegr, ac mae’n gosod isafswm safon ar gyfer y gwasanaethau hyn.[footnote 64] Dylid trin dioddefwyr troseddu mewn modd parchus, sensitif, wedi’i deilwra a phroffesiynol heb wahaniaethu o unrhyw fath. Dylent dderbyn cymorth priodol i’w helpu, cyn belled â phosibl, i ymdopi ac adfer a chael eu diogelu rhag dod yn ddioddefwyr eto. Mae angen i ddioddefwyr wybod pa wybodaeth a chymorth sydd ar gael iddynt. Mae Pennod 3 (Plant a Phobl Ifanc) Cod y Dioddefwyr yn cwmpasu plant sy’n dioddef troseddau yn benodol, fel bod pobl ifanc yn cael y cymorth ychwanegol sydd arnynt ei angen ym mhob cam o’r system cyfiawnder troseddol.[footnote 65] Mae’r Strategaeth Dioddefwyr traws-lywodraethol, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018, yn nodi ymagwedd y llywodraeth tuag at gefnogi pob dioddefwr troseddu.[footnote 66]

Camfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol

124. Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi cynyddu buddsoddiad a chymorth i ddioddefwyr camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol. Ers 2016, rydym wedi diogelu £7.2 miliwn o gyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer gwasanaethau cymorth treisio arbenigol yng Nghymru ac yn Lloegr, er mwyn darparu cymorth arbenigol annibynnol i ddioddefwyr trais rhywiol diweddar a hanesyddol. Rydym hefyd yn darparu £68 miliwn y flwyddyn i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu i ddarparu neu gomisiynu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr troseddu yn eu hardal, yn seiliedig ar angen. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol.

125. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol yn gallu cyrchu’r cymorth cywir. Yn 2018/19, bydd y Swyddfa Gartref yn darparu £600,000 i’r gronfa Cefnogi Dioddefwyr a Goroeswyr Cam-drin Plant yn Rhywiol i alluogi gwasanaethau cenedlaethol a anelir at gefnogi dioddefwyr yng Nghymru ac yn Lloegr.[footnote 67] Hefyd eleni fe welir lansiad peilot y model ‘Child House’ o gymorth i ddioddefwyr. Mae hyn yn anelu at ddod ag ystod eang o wasanaethau, o gymorth therapiwtig i wasanaethau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol, o dan un to mewn amgylchedd sy’n gyfeillgar i blant, er mwyn lleihau’r trawma ychwanegol a all gael ei achosi i ddioddefwyr gan adrodd am eu profiadau i ddarparwyr gwasanaethau gwahanol. Rydym yn cefnogi’r cynllun peilot fel rhan o’n gwaith i ddarparu tystiolaeth o arferion newydd addawol wrth gefnogi dioddefwyr.

126. Gall fod yn anodd i’r rhai hynny sy’n comisiynu gwasanaethau sicrhau eu bod yn comisiynu’n effeithiol, ac i bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau hynny sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu hatgyfeirio’n briodol i’r gwasanaethau cywir ar yr adeg gywir. Byddwn ni’n cynhyrchu a chyhoeddi Fframwaith Comisiynu ar gyfer pobl sy’n comisiynu gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol, i wella ansawdd a chysondeb arferion comisiynu. Bydd y fframwaith yn nodi sut i asesu angen a chomisiynu yn ei erbyn, fel y gall dioddefwyr a goroeswyr gael eu sicrhau eu bod yn cael cymorth o ansawdd da ble bynnag maent yn byw a pha fath bynnag o gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol maent wedi’i ddioddef. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn gweithio ar draws y llywodraeth i gael gwared ar fylchau a dyblygu rhwng gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, tai, cyfreithiol a chyfiawnder yn Lloegr.

Caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl

127. Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd llywodraeth y DU ddiwygiadau i’r NRM – ein system ar gyfer nodi a darparu mynediad i gymorth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern. Mae’r diwygiadau’n canolbwyntio ar wneud penderfyniadau o fewn y system, gan sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu nodi a’u cefnogi’n well, a bod bregusrwydd penodol plant yn cael eu cydnabod. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno ‘mannau diogelwch’ i’r rhai hynny sy’n gadael sefyllfaoedd o gamfanteisio, gan dreblu’r cyfnod o gymorth symud ymlaen a ddarperir i ddioddefwyr a gadarnhawyd, a chyflwyno canolfannau galw heibio ledled Lloegr ar gyfer dioddefwyr am hyd at chwe mis ar ôl iddynt adael cymorth a ariennir gan y llywodraeth ganolog. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn treialu ymagweddau â chwe awdurdod lleol i bontio dioddefwyr allan o ofal a’u cynorthwyo i integreiddio’n well yn ôl i gymunedau a chyrchu gwasanaethau lleol.[footnote 68]

128. Mae mentrau eraill presennol yn parhau i wella cymorth i ddioddefwyr masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth fodern. Mae’r rhain yn cynnwys contract gofal arbenigol ar gyfer oedolion sydd wedi dioddef caethwasiaeth fodern yng Nghymru ac yn Lloegr; cyflwyno Eiriolwyr Annibynnol Masnachu mewn Plant (ICTAs) yn genedlaethol yng Nghymru a Lloegr i ddarparu cymorth arbenigol i blant sydd wedi’u masnachu; a buddsoddiad o £2.2 filiwn gan Gronfa Diogelu Masnachu mewn Plant y Swyddfa Gartref i amddiffyn plant sy’n agored i niwed yn y DU a thramor sydd mewn perygl o gael eu masnachu.

Troseddu twyll a seiberdroseddu

Action Fraud

Gweithredir Action Fraud gan Heddlu Dinas Llundain a dyma ganolfan adrodd cenedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu. Mae hefyd yn darparu man cyswllt canolog ar gyfer gwybodaeth ynghylch twyll a seiberdroseddu sydd wedi’i ysgogi’n ariannol. Mae Action Fraud yn derbyn ac yn dosbarthu adroddiadau gan ddioddefwyr sy’n gwella effeithlonrwydd trwy gofnodi a dadansoddi adroddiadau am dwyll yn genedlaethol yn hytrach nag yn lleol. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg ochr yn ochr â’r Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol (NFIB), sy’n gyfrifol am ddadansoddi ac asesu adroddiadau a nodi troseddwyr cyfresol a rhwydweithiau troseddau trefnedig. Yna, mae’n dosbarthu cudd-wybodaeth i’r asiantaethau gorfodi cyfraith neu asiantaethau partner perthnasol i’w hymchwilio, yn ogystal â rhybuddion twyll i hysbysu busnesau a’r cyhoedd o fygythiadau sy’n dod i’r amlwg. O fis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017, fe wnaeth yr NFIB ddosbarthu 46,000 o adroddiadau ar gyfer camau gweithredu pellach ar guddwybodaeth, atal neu ofal dioddefwyr a fe gyflwynodd 170,856 o geisiadau i bartneriaid gau cyfrifon banc, gwefannau a rhifau ffôn yr amheuid eu bod yn hwyluso twyll.

Bydd y llywodraeth yn parhau i weithio ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith i gryfhau’r gwasanaethau adrodd canolog, dosbarthu, cyngor a cymorth i ddioddefwyr ar gyfer plismona a ddarperir gan Heddlu Dinas Llundain. Cwblhawyd gwelliannau i’r system adrodd Action Fraud yn 2018/19.

129. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i wella’r ymateb i ddioddefwyr twyll a seiberdroseddu. Trwy’r JFT, rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau ymateb cyson gan y sector bancio trwy ddatblygu a gweithredu safon Sefydliad Safonau Prydain ar gyfer gofal dioddefwyr, sydd yn cael ei fabwysiadu gan yr holl fanciau mawr erbyn hyn. Hefyd rydym wedi cefnogi datblygu a chyflwyno’r Protocol Bancio, lle mae staff banciau yn cael eu hyfforddi i nodi arwyddion o dwyll yn y gangen, a gwarantir ymateb uniongyrchol gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith ar ôl derbyn adroddiad. Erbyn hyn mae’r Protocol Bancio wedi’i fabwysiadu gan bob heddlu yng Nghymru a Lloegr ac, ar ddiwedd Ebrill 2017, roedd wedi atal dros £21.5 miliwn mewn colledion twyll ac wedi arwain yn uniongyrchol at 180 o arestiadau.

130. Mewn partneriaeth â’r sector preifat, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a gofal dioddefwyr, ein ffocws nawr fydd sefydlu cymorth cenedlaethol i leol integredig i ddioddefwyr twyll a seiberdroseddu, yn y lle cyntaf trwy gyfres o gynlluniau peilot cenedlaethol a lleol. Yn aml, mae dioddefwyr yn agored i niwed ac yn wynebu risg o gael eu targedu sawl gwaith, gan ddod yn ddioddefwyr mynych, ond mae rhai yn derbyn ond ychydig i ddim cymorth uniongyrchol ar ôl iddynt adrodd am drosedd. Trwy’r cynlluniau peilot hyn, bydd dioddefwyr yn derbyn gwasanaeth wedi’i ddosbarthu ar sail eu sefyllfa bersonol a lefel y cymorth sydd arnynt ei angen. Y nod yw gwella lefel gyffredinol y gwasanaeth ar gyfer dioddefwyr a lleihau lefelau erledigaeth fynych. Os yw’r cynlluniau peilot yn llwyddiannus, byddwn ni’n bwriadu cyflwyno’r ymagwedd hwn ar draws y gwasanaeth plismona.

131. Ar y lefel genedlaethol, bydd cynllun peilot Uned Gofal Dioddefwyr Troseddau Economaidd (ECVCU) yn ceisio sicrhau y rhoddir y cymorth cywir i ddioddefwyr gan y sefydliad cywir, gan ddibynnu ar eu hanghenion unigol. Bydd gan yr ECVCU dîm arbenigol o eiriolwyr hyfforddedig â dealltwriaeth gref o anghenion dioddefwyr sy’n agored i niwed. Fel rhan o’r cynllun peilot, bydd dioddefwyr troseddau twyll a seiberdroseddu a adroddir i Action Fraud yn cael eu dosbarthu er mwyn asesu anghenion hyglwyfder a chymorth unigol y dioddefwr. I’r rhai hynny sydd angen cymorth cyfyngedig, cynigir cyngor ar eu hachos a sut i’w hamddiffyn eu hunain rhag niwed pellach. Ar gyfer dioddefwyr a nodwyd fel rhai sydd angen cymorth pellach, bydd eiriolwyr ECVCU yn gwneud cyswllt uniongyrchol er mwyn darparu cyngor a chyfarwyddyd manylach. Mewn achosion lle nodir bod y dioddefwr mewn perygl arbennig, gall eiriolwyr ECVCU atgyfeirio’r unigolyn i sefydliadau diogelu lleol.

132. Er mwyn gwella’r ymateb hwn ar y lefel leol, bydd y Swyddfa Gartref yn peilota dwy Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol (MASH) yn 2018/19. Rôl allweddol y MASH fydd cynnwys sefydliadau gofal i ddioddefwyr megis Cymorth i Ddioddefwyr, Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn darparu lefel o ofal sy’n mynd i’r afael ag anghenion dioddefwyr ar unwaith ac yn y tymor hwy er mwyn lliniaru’r effaith, a lleihau lefelau erledigaeth fynych. Bydd y model amlasiantaethol hefyd yn treialu mwy o rannu gwybodaeth rhwng yr heddlu ac asiantaethau gofal i ddioddefwyr ar ddata dioddefwyr. Y nod yw nodi dioddefwyr sy’n agored i niwed yn fwy effeithiol a lledaenu cyngor ar atal, ac mae’n ffurfio rhan o ymagwedd y llywodraeth at leihau lefelau cyffredinol o dwyll a seiberdroseddu yn y DU.

133. Mae’r JFT hefyd wedi ymrwymo i asesu’r rhwystrau cyfreithiol a rheoleiddiol sydd ar hyn o bryd yn atal dioddefwyr rhag cael eu had-dalu yn dilyn eu colled. Byddwn ni’n gweithio â’r sector preifat a rheoleiddwyr i ddatblygu ymagwedd a fydd yn golygu y dychwelir eu colledion i fwy o ddioddefwyr ac o bosibl yn atal miliynau o bunnoedd rhag mynd i ddwylo troseddwyr.

Cefnogi tystion

134. Yn 2013, fe wnaethom ni sefydlu Gwasanaeth Personau Gwarchodedig y DU (UKPPS), gan ail-drefnu trefniadau blaenorol i ddiogelu tystion a datblygu rhwydwaith Uned Personau Gwarchodedig yn seiliedig ar ROCU. Mae’r UKPPS yn darparu diogelwch a gofal i ddioddefwyr a thystion mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn ystyried eu bod mewn perygl o niwed difrifol. Mae’r dacteg gudd arbenigol hon, sy’n gweithredu mewn maes risg uchel iawn, yn offeryn allweddol wrth ymladd yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig, gan sicrhau euogfarnau yn erbyn y troseddwyr mwyaf niweidiol, ac yn sicrhau bod dioddefwyr, tystion a chymunedau yn cael eu hamddiffyn. Er mwyn datblygu gallu cenedlaethol sy’n gweithredu ar ran y system gyfan, byddwn ni’n trosglwyddo’r UKPPS i’r NCA ym mis Ebrill 2019.[footnote 69]

Mesur llwyddiant

135. Byddwn ni’n arddangos llwyddiant trwy gael gwared â gwendidau yn ein systemau a’n sefydliadau, gan roi llai o gyfleoedd i droseddwyr dargedu a chamfanteisio arnynt. Bydd llwyddiant yn golygu bod ein dinasyddion yn adnabod technegau troseddwyr yn well ac yn cymryd camau i’w hamddiffyn eu hunain. Bydd cymunedau wedi’u paratoi’n well ac yn fwy cydnerth yn erbyn y bygythiad, ac yn llai goddefol o weithgarwch anghyfreithlon. Byddwn ni’n nodi’r rhai hynny sy’n cael eu niweidio’n gynt ac yn eu cynorthwyo hyd at safon sy’n gyson uchel.

Amcan 3: Atal y broblem yn y man cychwyn, gan nodi a chefnogi’r rhai hynny sydd mewn perygl o ymgymryd â throseddoldeb

136. Mae Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig 2013 yn nodi pwysigrwydd cynyddu camau ataliol i helpu i leihau’r bygythiad. Ers hynny rydym wedi ariannu mentrau Prevent yng Nghymru ac yn Lloegr sydd wedi canolbwyntio ar ailgyfeirio pobl ifanc i mewn i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth gyfreithlon. Mae’r gwaith hwn yn ffurfio un rhan o ffocws ehangach gan y llywodraeth ar ymyrraeth gynnar i atal troseddu a gwella’r rhagolygon ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys y gwaith a amlinellir yn y Strategaeth Trais Difrifol, y Gronfa Perthnasoedd Dibynadwy a gwaith cyfiawnder ieuenctid ehangach y llywodraeth.

137. Nawr rydym yn bwriadu cyrraedd nifer sylweddol fwy o bobl ifanc i helpu i atal eu recriwtio i droseddau difrifol a threfnedig. Byddwn ni’n blaenoriaethu pedwar maes troseddu: masnachu a dosbarthu cyffuriau; seiberdroseddu; camfanteisio’n rhywiol ar blant a chamdrin plant yn rhywiol; a galluogwyr proffesiynol. Mae troseddwyr ym mhob un o’r pedwar maes hyn yn cael eu tynnu i’w hymddygiad troseddol am wahanol resymau, felly bydd ein hymagwedd ym mhob achos yn wahanol. Wrth ddatblygu’r ymagweddau hyn, byddwn ni’n gweithio â phartneriaid yn DfE, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), DCMS, y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) a’r gweinyddiaethau datganoledig, yn ogystal ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith (yn unol â Gweledigaeth Plismona 2025[footnote 70]). Byddwn ni’n cyfuno ymchwil academaidd a gwybodaeth gan ganolfannau ‘yr hyn sy’n gweithio’ (yn arbennig y Coleg Plismona, y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid) i ddatblygu darlun cliriach o’r ymyriadau sy’n gweithio orau ar draws yr ystod o fathau o droseddau.

Ymagweddau wedi’u teilwra at ymyriadau

Masnachu a dosbarthu cyffuriau

138. Byddwn ni’n blaenoriaethu ardaloedd o’r wlad lle mae niferoedd uchel o fasnachu a dosbarthu cyffuriau. Byddwn ni’n cyfuno gwaith allgymorth ar raddfa fawr ag ymyriadau wedi’u teilwra. Mae cefndiroedd teuluol anodd (yn arbennig yn ymwneud â cham-drin, trais domestig a chymryd cyffuriau ymhlith y teulu) yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn troseddau difrifol a threfnedig.[footnote 71] Er mwyn cyrraedd pobl ifanc yn y sefyllfa hon, byddwn ni’n ymgymryd â gwaith allgymorth ar raddfa fawr. Yn 2015, fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth addysgol a gynlluniwyd ar gyfer staff rheng flaen i’w defnyddio yn eu rhyngweithiadau â phobl ifanc 11-18 oed sydd â risg bosibl o gael eu tynnu i mewn i droseddau difrifol a threfnedig sy’n gysylltiedig â chyffuriau (a’i drais cysylltiedig). Ar y cychwyn lledaenwyd hwn i dros 6,000 o weithwyr proffesiynol rheng flaen ledled y wlad. Mae canfyddiadau cyffredinol y gwerthuso’n gadarnhaol, â 95% o ymarferwyr yn ystyried bod y pecyn cymorth yn ddefnyddiol wrth gefnogi pobl ifanc. Byddwn ni’n datblygu fersiwn ar-lein o’r gwaith hwn er mwyn cyrraedd mwy o bobl ifanc sydd mewn perygl o gymryd rhan. Byddwn ni hefyd yn gweithio â darparwyr eraill o ymyriadau (megis y Rhaglen Troubled Families a’r Gronfa Perthnasoedd Dibynadwy yn Lloegr) i sicrhau bod mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn cael eu cynnwys yn eu hymyriadau lle mae’n briodol.

139. I’r bobl ifanc hynny sydd mewn perygl arbennig (sydd â theulu neu ffrindiau agos sy’n ymwneud â throseddau difrifol a threfnedig) byddwn yn defnyddio ymagwedd wedi’i deilwra. Byddwn ni’n parhau i ariannu ymyriadau trwy ein cronfa bresennol (yn cwmpasu Cymru a Lloegr) a thrwy gyllid ychwanegol mewn pum ardal flaenoriaethol (Bradford, Brighton, Casnewydd, Sedgemoor a Speke/Halton) lle byddwn ni’n bwriadu uwchraddio gwaith Prevent a dargedir mewn partneriaeth ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith, awdurdodau lleol a’r sector preifat (â chyfanswm cyllid o £1.65 miliwn). Bydd hyn yn ategu’r gwaith ataliol a nodir yn y Strategaeth Trais Difrifol, yn arbennig y Gronfa Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Ieuenctid o £22 miliwn a fydd yn cefnogi grwpiau ieuenctid a chymunedol sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn ogystal, ym mis Hydref 2018 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref fesurau newydd pellach i fynd i’r afael â thrais difrifol, gan gynnwys ymgynghoriad ar ddyletswydd gyfreithiol newydd arfaethedig i fod yn sail i ymagwedd “iechyd y cyhoedd” at fynd i’r afael â thrais difrifol, cronfa waddol ieuenctid newydd o £200 miliwn i ganolbwyntio ar bobl ifanc sydd mewn perygl oherwydd troseddu a thrais ac adolygiad annibynnol o gamddefnyddio cyffuriau, er mwyn sicrhau bod asiantaethau gorfodi’r gyfraith a pholisi yn targedu ac yn atal achosion o droseddau treisgar yn gysylltiedig â chyffuriau.

Yr Ymgyrch Guardian

Mae’r Ymgyrch Guardian yn ymgyrch a lansiwyd gan Heddlu De Cymru mewn ymateb i linellau sirol, yn gofyn i swyddogion a phartneriaid gydnabod, mewn llawer o achosion, bod y bobl maent yn delio â hwy mewn perthynas â throseddoldeb llinellau sirol yn ddioddefwyr yn hytrach na throseddwyr – plant ac oedolion sy’n agored i niwed a sy’n cyflawni troseddau trwy orfodaeth a bygythiad.

Seiberdroseddu

140. Nid yw enillion ariannol o reidrwydd yn flaenoriaeth i droseddwyr seiberdroseddu ifanc sydd hefyd yn cael eu hysgogi gan fynd ar ôl her a’u profi eu hunain i gyfoedion.[footnote 72] Wedi’i calonogi gan anhysbysrwydd canfyddedig a diffyg presenoldeb gweladwy asiantaethau gorfodi’r gyfraith ar-lein, gall troseddwyr seiber lefel isel symud ymlaen i droseddu lefel uwch heb ystyried neu ddeall yn llwyr ganlyniadau eu troseddau.[footnote 73] Yn 2017 cyflwynsom rwydwaith cenedlaethol o swyddogion Prevent o fewn ROCUs, a gydlynwyd gan NCCU yr NCA, i atal unigolion rhag cymryd rhan (neu barhau i gymryd rhan) mewn seiberdroseddu. Maent yn cefnogi prosiectau unigol, yn darparu cyngor ac adnoddau i awdurdodau addysg ac awdurdodau lleol, ac yn nodi partneriaid preifat a phartneriaid trydydd sector lleol a all helpu i hyrwyddo negeseua. Ers i’r rhwydwaith gael ei sefydlu, gwelodd NCCU gynnydd dramatig mewn atgyfeiriadau gan ROCUs ar gyfer ymyrraeth gynnar trwy’r rhwydwaith Prevent. Byddwn ni’n adeiladu ar y gwaith hwn ac yn peilota Panel Partneriaeth Ymyrraeth Prevent Seiber yn ardal Fetropolitanaidd Llundain. Bydd hwn yn dwyn ynghyd arbenigedd a sgiliau gwahanol asiantaethau gorfodi’r gyfraith, y byd academaidd, y sector preifat a’r sector gwirfoddol, i nodi unigolion sydd mewn perygl yn fwy effeithiol, a’u hatal rhag cymryd rhan neu barhau i gymryd rhan mewn seiberdroseddu.

Camfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol

141. Mae ymagweddau ataliol ar gyfer camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol mewn cyfnod cymharol gynnar o gael eu datblygu. Yn 2017 sefydlodd y llywodraeth y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol â £7.5 miliwn o gyllid. Wedi’i harwain gan Barnardo’s, mae’r ganolfan yn gweithio i wella ein dealltwriaeth o raddfa a natur llwybrau i droseddu rhywiol yn erbyn plant a beth sy’n gweithio i’w hatal a’i drin. Un o elfennau allweddol gwaith y ganolfan yw datblygu sylfaen dystiolaeth newydd o deipoleg troseddu rhywiol yn erbyn plant. Nid yw pob trosedd rhywiol yn erbyn plant yn cael ei gymell gan ddiddordeb rhywiol mewn plant, a gall troseddau rhywiol ei ddangos ei hun mewn sawl ffordd wahanol. Bydd hyn, â gwaith ehangach y Ganolfan i gefnogi gwerthuso’r arferion presennol, yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol statudol, y diwydiant technoleg, y trydydd sector a phartneriaid eraill i gyd yn gallu nodi’r hyn sy’n gweithio wrth fynd i’r afael â ffurfiau camfanteisio a chamdrin, a gall dargedu adnoddau ac ymdrechion i amharu yn fwyaf effeithiol.

Galluogwyr proffesiynol

142. Mae gwella ein dealltwriaeth o lwybrau troseddu ar gyfer galluogwyr proffesiynol yn flaenoriaeth allweddol oherwydd eu rôl allweddol wrth alluogi’r cyllid anghyfreithlon sydd yn sail i droseddau difrifol a threfnedig ac yn caniatáu i droseddwyr difrifol a threfnedig guddio eu helw ac i arallgyfeirio eu gweithgarwch troseddol. Bydd y Swyddfa Gartref yn ymgymryd â gwaith â Thrysorlys EM i ddeall yn well y llwybrau ar gyfer galluogwyr proffesiynol â’r nod o ddatblygu ymyriadau i’r rhai hynny sydd mewn perygl. Byddwn ni’n gweithio â chymdeithasau proffesiynol yn y sectorau cyfreithiol a chyfrifyddiaeth er mwyn sicrhau bod unrhyw ymyriadau yn diwallu anghenion eu haelodau.

Rheoli troseddwyr difrifol a threfnedig am oes

143. Mae oddeutu 6,500 o droseddwyr troseddau difrifol a threfnedig mewn carchardai yng Nghymru ac yn Lloegr, sy’n cynrychioli oddeutu 8% o boblogaeth y carchardai ac yn cynrychioli dros 20% o’r rhai hynny sy’n hysbys i asiantaethau gorfodi’r gyfraith fel troseddwyr difrifol a threfnedig. Mae rhai troseddwyr wedi’u hymrwymo i barhau â’u gweithgarwch troseddol yn ein carchardai. Mae’r troseddu hwn yn cael ei alluogi trwy ddefnyddio degau o filoedd o ffonau symudol a chardiau SIM anghyfreithlon wedi’u smyglo i mewn i garchardai bob blwyddyn. Mewn rhai achosion, mae troseddwyr difrifol a threfnedig wedi defnyddio ffonau i ymgymryd â gweithrediadau masnachu cyffuriau, neu gydlynu llofruddio aelodau o gangiau cystadleuol. Yn ogystal â lleihau nifer y bobl sy’n cael eu tynnu i droseddu yn y lle cyntaf, rydym hefyd am leihau lefel y troseddu o fewn carchardai ac aildroseddu yn dilyn rhyddhau’r troseddwyr hyn. Ar hyn o bryd mae bron i hanner yr holl droseddwyr troseddau difrifol a threfnedig yn mynd ymlaen i aildroseddu o fewn blwyddyn o gael eu rhyddhau o’r ddalfa.

144. Yn 2015 fe wnaeth y llywodraeth fuddsoddi dros £28 miliwn dros bum mlynedd i sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Cydlynu Cudd-wybodaeth Carchardai (NPICC), rhwydwaith cudd-wybodaeth cenedlaethol sy’n dwyn ynghyd arbenigedd, gallu a sgiliau amlasiantaethol ym maes gwrthderfysgaeth a throseddau difrifol a threfnedig i nodi, atal ac amharu ar droseddwyr blaenoriaethol yn ein carchardai. Byddwn ni’n parhau i adeiladu ar gudd-wybodaeth a gallu gorfodi mewn carchardai trwy weithio â’r heddlu a phartneriaid i integreiddio, cydlynu a chryfhau nid yn unig cudd-wybodaeth carchardai, ond hefyd yr ystod o swyddogaethau gosod tasgau, gweithredol a pherfformiad cenedlaethol a rhanbarthol mewn carchardai. Bydd hyn yn cynnwys: sefydlu proses osod tasgau ar gyfer carchardai cenedlaethol a rhanbarthol; darparu model uned cudd-wybodaeth cyson ar gyfer carchardai rhanbarthol; a gweithredu fframwaith perfformiad cenedlaethol.

145. Yn 2018 fe wnaeth y Bwrdd Troseddau Difrifol a threfnedig NPCC sefydlu portffolio Rheoli Troseddwyr Am Oes a phenododd uwch arweinydd i weithio ar draws plismona a phartneriaid i gydlynu ac ysgogi gweithredu rheoli troseddwyr am oes ar gyfer troseddwyr blaenoriaethol cyn, yn ystod ac ar ôl y ddalfa.

146. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM hefyd yn sicrhau bod troseddwyr troseddau difrifol a threfnedig blaenoriaethol mewn carchardai yng Nghymru ac yn Lloegr yn cael eu hasesu am risg, eu categoreiddio a’u dyrannu i’r carchardai cywir er mwyn atal ac amharu ar eu troseddu. Maent yn buddsoddi mewn cyfarwyddiaeth diogelwch newydd a £14 miliwn yn flynyddol i drawsnewid galluoedd cudd-wybodaeth, chwilio ac amharu mewn carchardai. Yn 2016 cyflwynodd y llywodraeth ddeddfwriaeth i roi pŵer i’r llysoedd i ddatgysylltu ffonau symudol o bell a oedd yn cael eu defnyddio mewn carchardai. Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi mewn technoleg i gynyddu’r defnydd o’r pwerau hyn, a byddwn ni’n adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth hon yn 2019. Bydd MoJ ac HMPPS yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg arloesol sy’n atal defnyddio ffonau symudol mewn carchardai.

147. Er mwyn sicrhau bod y rhai hynny sy’n anfodlon rhoi’r gorau i’w cysylltiad â throseddau difrifol a threfnedig yn cael eu rheoli’n agosach, byddwn ni’n gweithredu fframwaith newydd ar gyfer rheoli am oes yn 2019, a gynlluniwyd i integreiddio gwaith heddluoedd ac HMPPS yn well. Bydd y fframwaith yn nodi rolau a chyfrifoldebau clir ar draws asiantaethau gorfodi’r gyfraith ar bob lefel i atal ac amharu ar droseddu yn ein carchardai a chan y rhai hynny sydd ar brawf, a bydd yn integreiddio rhannu gwybodaeth rhwng plismona ac HMPPS. O ganlyniad, bydd asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn gallu olrhain a rheoli troseddwyr troseddau difrifol a threfnedig blaenoriaethol trwy eu taith gyfan yn y system gyfiawnder troseddol a thu hwnt, waeth beth ble maent yn byw neu ble maent yn y carchar. Byddwn ni’n rhoi adroddiadau perfformiad a chynlluniau peilot ar waith i werthuso effeithiolrwydd yr ymagwedd hon.

148. Byddwn ni’n cynyddu’r defnydd o bwerau sifil, megis Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol (SCPOs) a Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu (STPOs)[footnote 74]. Mae SCPOs yn cychwyn pan fydd troseddwr yn gadael y ddalfa a byddant yn gosod mesurau a dargedir i atal cysylltiad pellach â throseddu yn ein cymunedau. Mae torri telerau SCPO neu STPO yn dramgwydd troseddol sydd ag uchafswm dedfryd o garchar o bum mlynedd. Byddwn ni’n sicrhau y caiff SCPOs eu gweithredu’n effeithiol iawn trwy gyhoeddi cyfarwyddyd ar gyfer eu defnydd wedi’i dargedu yn erbyn troseddwyr blaenoriaethol yn ogystal â rheoli achosion a monitro effeithiolrwydd SCPOs trwy gronfa ddata genedlaethol newydd.

149. Pan fydd troseddwyr yn dod i mewn i’r system gyfiawnder troseddol, ac yn arbennig os ydynt yn gwneud dedfryd o garchar neu os ydynt ar brawf, mae gennym gyfle i weithio gyda nhw i ddadymgysylltu. Byddwn ni’n adeiladu tystiolaeth ynghylch yr hyn sy’n effeithiol, a beth yw’r rhwystrau sy’n atal troseddwyr rhag dadymgysylltu. Byddwn ni’n archwilio’r cyfle hwn trwy ymgymryd ag ymchwil academaidd ar lwybrau allan o droseddau difrifol a threfnedig, er mwyn profi ymyriadau posib wedi hynny.

Mesur llwyddiant

150. Bydd llwyddiant yn golygu ein bod yn defnyddio dulliau ataliol ac addysg i ddargyfeirio mwy o bobl ifanc i ffwrdd o fywyd o droseddau difrifol a threfnedig a lleihau aildroseddu. Byddwn ni’n gwybod ein bod wedi bod yn llwyddiannus os bydd llai o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol, a bydd llai o droseddwyr difrifol a threfnedig sydd wedi’u heuogfarnu’n parhau i droseddu ac achosi niwed yn ystâd y carchardai neu’n mynd ymlaen i aildroseddu. Byddwn yn mesur ein llwyddiant trwy gyfuniad o asesiadau llinell sylfaen o’r sefyllfa bresennol a gwerthuso ein hymyriadau a’n hymgyrchoedd cyfathrebu.

Amcan 4: Sefydlu ymagwedd unigol, â system gyfan

151. Mae ymateb i ehangder troseddau difrifol a threfnedig y tu hwnt i gapasiti a galluoedd unrhyw gorff unigol ac mae’n galw am ymagwedd system gyfan unigol. Byddwn ni’n alinio’r holl gyrff gorfodi’r gyfraith a chyrff y llywodraeth sy’n ymwneud â mynd i’r afael â’r bygythiadau a wynebwn, gan sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd yn seiliedig ar ddarlun unigol o’r galw ar y system, ac yn ymateb trwy ddefnyddio galluoedd a rennir sy’n cael eu hadeiladu a’u trefnu i’w defnyddio yn erbyn ystod o fygythiadau ac nid un yn unig. Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod pob asiantaeth yn cydweithio i wneud y defnydd gorau posibl o’r ystod lawn o bwerau sydd ar gael i ni.

152. Byddwn ni’n defnyddio’r holl ysgogiadau strategol sydd ar gael i gyflawni’r galluoedd newydd hyn trwy wella llywodraethu a chydlynu gweithredol ar bob lefel, gan gynnwys mwy o atebolrwydd am gyflwyno, adolygu’r Gofyniad Plismona Strategol a chynnig gwelliannau os yw’n briodol, cyflwyno fframwaith cenedlaethol newydd ar gyfer gosod tasgau ac archwilio model cyllido mwy cynaliadwy.[footnote 75] Byddwn ni hefyd yn ehangu ein galluoedd tramor i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio ein cyrhaeddiad a dylanwad byd-eang i fynd i’r afael â rhwydweithiau troseddol rhyngwladol ac ysgogwyr sylfaenol troseddau difrifol a threfnedig. Yn y wlad hon, byddwn ni’n sicrhau bod ein hymateb yn tynnu ar sgiliau, arbenigedd ac adnoddau’r sector preifat.

Ffigur 5 – Trosolwg o asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chyrff y llywodraeth sy’n ymwneud â mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig

Rhyngwladol:

  • Y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad
  • Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol
  • Gorfodaeth Mewnfudo
  • Llu’r Ffiniau
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
  • Cyllid a Thollau EM
  • Swyddfa Twyll Difrifol
  • Cymuned Cudd-wybodaet h y DU

Cenedlaethol:

  • Gorfodaeth Mewnfudo
  • Llu’r Ffiniau
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
  • Cyllid a Thollau EM
  • Swyddfa Twyll Difrifol
  • Cymuned Cudd-wybodaet h y DU
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM
  • Heddlu’r Alban
  • Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Cen. Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Balisteg
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Cwnstabliaeth Niwclear Sifil
  • Y Swyddfa Eiddo Deallusol
  • Y Swyddfa Gartref
  • Awdurdod Ymddygiad Ariannol
  • Heddlu Dinas Llundain (Swyddogaethau Cenedlaethol)
  • Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon

Rhanbarthol:

  • Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd
  • Naw Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol gan gynnwys Rhwydwaith Cudd-wybodaeth Asiantaeth y Llywodraeth)

Lleol:

  • Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd
  • 43 o Heddluoedd Cymru a Lloegr (dolen i bartneriaethau amlasiantaethol)
  • Awdurdodau Lleol (418 o brif awdurdodau lleol ledled y DU)

Y Galw

153. Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol ers cyflwyno Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig 2013 a sefydlu’r NCA yn yr un flwyddyn, mae’r bygythiad yn cynyddu o ran cyfaint a chymhlethdod. Byddwn ni’n sefydlu golwg glir ar draws y system o’r galw ar adnoddau ar draws y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiad. Byddwn yn adolygu’r bygythiad yn barhaus trwy’r NAC gan ddefnyddio galluoedd cudd-wybodaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gynhyrchu darlun a rennir. A byddwn ni’n cydweddu hyn â monitro traws-system rheolaidd o sut mae hyn yn effeithio ar y galw ar y system, gan gipio perfformiad a lle rydym wedi dyrannu adnoddau.

Galluoedd a phwerau

154. Yn rhy aml, gellir datblygu galluoedd mewn seilos (er enghraifft yn erbyn bygythiadau penodol neu ar wahân mewn gwahanol asiantaethau) sy’n cyflwyno risg o ddyblygu ac aneffeithlonrwydd. Bydd y Swyddfa Gartref a’r NCA yn datblygu Strategaeth Gallu Troseddau Difrifol a threfnedig ar draws y system, i wella ein dealltwriaeth gyffredinol o le mae ein galluoedd cyfunol yn sefyll, a gwella ein dealltwriaeth o ble mae galluoedd angen eu datblygu fwyaf. Bydd y strategaeth yn darparu dealltwriaeth gyffredin o’n galluoedd a bydd yn cael ei pharatoi â chymorth yr holl bartneriaid. Bydd llenwi nifer o fylchau gallu hysbys, fel y’i amlinellir yn y strategaeth hon, yn ffurfio’r blaenoriaethau uniongyrchol a bydd yn cynnwys meysydd allweddol megis data, sgiliau a thechnolegau.

155. Bydd penderfyniadau ynghylch ble a sut i fuddsoddi mewn gallu newydd, a sut i’w ariannu, yn cael eu gwneud ar y cyd â’r man cychwyn y dylai unrhyw alluoedd newydd fod yn rhyngweithredol, â gweithdrefnau gweithredu cyson. Cydweithredu – gan gynnwys â phlismona gwrthderfysgaeth – fydd y man cychwyn rhagosodedig. Bydd galluoedd a gwasanaethau arbenigol (mae enghreifftiau presennol yn cynnwys Uned Masnachu Mewn Pobl Caethwasiaeth Fodern yr NCA neu UKPPS) yn cael eu cyflwyno unwaith, yn genedlaethol, a byddant yn hygyrch i bawb sydd angen eu defnyddio.

156. Bydd yr ymagwedd hon at alluoedd yn sicrhau bod gennym ymateb cydlynol, dechrau i ddiwedd, i fygythiadau cymhleth megis masnachu mewn cyffuriau a dosbarthu trwy linellau sirol, er enghraifft. Dramor, bydd rhwydwaith rhyngwladol yr NCA yn gweithio i atal y cyffuriau sy’n hybu’r broblem rhag gadael gwledydd gwreiddiol a gwledydd tramwyo: bydd Llu’r Ffiniau yn atal y cyffuriau rhag dod i mewn i’r DU; bydd NDEC yn helpu i nodi mannau trafferthus allweddol o weithgarwch; a bydd galluoedd Gwe Dywyll rhanbarthol o fewn ROCUs yn llywio ymateb gymdogaeth fwy effeithiol er mwyn amharu ar droseddwyr ac yn amddiffyn pobl sy’n agored i niwed.

157. Fel y’i nodir yn Amcan Un, mae pwerau troseddol a sifil helaeth ar gael i asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac asiantaethau gweithredol eraill i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig. Byddwn ni’n mabwysiadu ymagwedd fwy cydlynol a systematig at ddefnyddio graddau llawnaf eu pwerau i amharu ar droseddwyr difrifol a threfnedig a’u dwyn i gyfiawnder. Byddwn ni’n sicrhau bod partneriaid yn gweithredu deddfwriaeth newydd a darpariaethau newydd, gan gynhyrchu cyfarwyddyd pellach a thynnu rhwystrau i’w defnyddio lle bo angen. 5

Ffigur 6 – Ymagwedd unigol, â system gyfan.

Ysgogiadau Strategol

158. Er mwyn cyflawni’r galluoedd newydd hyn – ac i gyflawni’r ymagwedd system gyfan a nodir yn Ffigur 6 – byddwn ni’n defnyddio’r holl ysgogiadau strategol sydd ar gael i ni. Ym mis Medi 2017 fe wnaethom sefydlu Grŵp Rhyngweinidogol Troseddau Difrifol a threfnedig, dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Cartref. Mae’r grŵp yn dwyn ynghyd Ysgrifenyddion Gwladol ar y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (NSC) a’r Pwyllgor Diwygio Cymdeithasol,[footnote 76] ochr yn ochr â swyddogion allweddol i weithredu fel un corff penderfynu ar droseddau difrifol a threfnedig. Byddwn ni’n defnyddio’r Grŵp Rhyngweinidogol i alinio ein hymdrechion cyffredinol a sicrhau ein bod yn defnyddio pŵer llawn y wladwriaeth, cymdeithas a busnes i leihau’r bygythiadau a wynebwn.

159. Cyfrifoldeb statudol yr NCA yw arwain yr ymateb gyffredinol gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith i droseddau difrifol a threfnedig, mewn partneriaeth ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith y DU. Yn unol â’r cyfrifoldeb hwn, a lle bo hynny’n briodol, bydd y trefniadau gosod tasgau a chymorth cyfarwyddedig sydd ar gael i’r NCA (o dan Ddeddf Troseddu a Llysoedd 2013) yn cael eu defnyddio, gan sicrhau bod blaenoriaethau strategol yn cael eu diwallu. Mae’r NCA yn cyflawni ei gyfrifoldeb arweinyddiaeth statudol trwy ddwy broses: Gosod tasgau a Chydlynu Strategol Cenedlaethol a Gosod tasgau a Chydlynu Tactegol Cenedlaethol. Mae pob un yn cynnwys set o gyfarfodydd cenedlaethol, dan gadeiryddiaeth yr NCA ac yn cael eu mynychu gan uwch gynrychiolwyr o’r NCA, yr heddlu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill, sy’n gosod y blaenoriaethau ar gyfer gorfodi’r gyfraith. Mae’r NCA yn arwain datblygu’r model newydd ar gyfer gosod tasgau sydd ei angen i ddarparu ymagwedd sengl, system gyfan. Bydd hyn yn helaethu ein hymateb gasgliadol trwy sicrhau bod asiantaethau gorfodi’r gyfraith y DU yn targedu eu galluoedd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol mewn meysydd lle gallwn ni gael yr effaith fwyaf ac yn unol â set gytûn o flaenoriaethau a rennir.

160. Bydd ROCUs yn arwain yr ymateb weithredol i droseddau difrifol a threfnedig ar ran lluoedd o fewn eu rhanbarthau, gan gymryd tasgau o’r NCA ar flaenoriaethau cenedlaethol, a chydweithio trwy ddefnyddio rhwydweithiau’n fwy, gan ganiatáu i gapasiti a gallu gael eu rhannu lle bo’n briodol. Byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau mwy o gysondeb ar draws yr ROCUs wrth rannu ac ecsbloetio data a chudd-wybodaeth; asesiad o fygythiad; ac adrodd am effaith a pherfformiad.

161. Bydd heddluoedd, o dan oruchwyliaeth eu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Ngymru ac yn Lloegr, yn parhau i fod yn allweddol i’r ymateb gweithredol, gan weithio gyda’u ROCUs. Canfu Adroddiad Effeithiolrwydd PEEL ARCEM 2017 fod mynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig yn rhywbeth y mae heddluoedd mwyaf Cymru a Lloegr, sy’n gweithio gyda’r ROCUs, yn ei wneud yn dda.[footnote 77] Arolygiad 2017 oedd y drydedd flwyddyn yn olynol lle mae HMICFRS wedi arolygu troseddau difrifol a threfnedig. Yn 2015, graddiwyd 35 o heddluoedd yn rhai da neu ragorol, â’r nifer yn codi i 38 yn 2017.[footnote 78] Mae Cwnstabliaeth Durham, Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Swydd Derby wedi cadw gradd ragorol ers 2015. Dangosir rhestr o ddyfarniadau llu unigol ar gyfer troseddau difrifol a threfnedig yn Ffigur 7.

Ffigur 7 – PEEL HMICFRS Barn ar effeithiolrwydd ar gyfer troseddau difrifol a threfnedig

2015 2016 2017
Avon a Gwlad yr Haf Da Angen Gwella Da
Swydd Bedford Angen Gwella Angen Gwella Da
Swydd Gaergrawnt Da Da Da
Swydd Gaer Angen Gwella Da Da
Dinas Llundain Da Angen Gwella Da
Cleveland Da Da Da
Cumbria Angen Gwella Da Da
Swydd Derby Rhagorol Rhagorol Rhagorol
Dyfnaint a Chernyw Da Da Da
Dorset Da Da Da
Durham Rhagorol Rhagorol Rhagorol
Dyfed-Powys Da Da Da
Swydd Essex Da Da Da
Swydd Gaerloyw Angen Gwella Annigonol Angen Gwella
Manceinion Fwyaf Da Rhagorol Rhagorol
Gwent Da Angen Gwella Angen Gwella
Hampshire Da Da Da
Swydd Hertford Da Da Da
Glannau Humber Da Da Da
Caint Da Da Da
Swydd Gaerhirfryn Da Da Da
Swydd Gaerlŷr Da Da Da
Swydd Lincoln Da Da Da
Glannau Mersi Rhagorol Rhagorol Rhagorol
MPS Da Angen Gwella Da
Norfolk Da Da Da
Gogledd Cymru Da Da Da
Gogledd Swydd Gaerefrog Da Angen Gwella Da
Swydd Northampton Angen Gwella Angen Gwella Angen Gwella
Northumbria Da Da Da
Swydd Nottingham Da Da Da
De Cymru Da Da Da
De Swydd Gaerefrog Da Da Da
Swydd Stafford Da Angen Gwella Da
Suffolk Da Da Da
Surrey Angen Gwella Da Da
Swydd Sussex Da Da Da
Dyffryn Tafwys Da Da Da
Swydd Warwick Angen Gwella Da Angen Gwella
Gorllewin Mercia Angen Gwella Angen Gwella Annigonol
Gorllewin Canolbarth Lloegr Da Da Da
Gorllewin Swydd Gaerefrog Da Da Da
Wiltshire Da Da Da

Ffynhonnell: Adroddiadau Effeithiolrwydd PEEL HMICFRS, 2015-2017

162. Byddwn ni’n annog mwy o gysondeb ac uchelgais o ran sut mae lluoedd yng Nghymru a Lloegr yn gweithio yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig. Mae’n rhaid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu roi sylw i’r Gofyniad Plismona Strategol wrth baratoi eu Cynlluniau Heddlu a Throseddu. Mae troseddau difrifol a threfnedig yn un o’r bygythiadau yn y Gofyniad Plismona Strategol, ac rydym yn disgwyl i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sicrhau eu bod yn darparu ymateb effeithiol. Byddwn ni’n nodi’n gliriach beth mae ymateb effeithiol yn ei olygu, gan gynnwys trwy adolygu’r Gofyniad Plismona Strategol a gwneud diwygiadau os yw’n briodol.

Cyllid

163. Rydym yn cynyddu buddsoddiad i adeiladu galluoedd newydd i fynd i’r afael â graddfa gynyddol a chymhlethdod y bygythiad. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ffrwd ariannu benodol ar gyfer troseddau difrifol a threfnedig; mae cyllid yn cael ei ddyrannu o ystod o ffynonellau, wedi’u lledaenu ar draws y gwahanol asiantaethau sy’n gysylltiedig, ac yn aml gwneir cais amdanynt yn flynyddol o gyllidebau rhaglenni penodol. Mae hyn yn cyfyngu ar ein gallu i sicrhau bod buddsoddi’n canolbwyntio ar y meysydd hynny sydd â’r flaenoriaeth uchaf. I unioni hyn, mae angen rhoi buddsoddiad ar sail gynaliadwy ac ystyried sut a lle mae galluoedd yn cael eu hadeiladu ar draws y system a’r ffordd orau o gyfarwyddo a dyrannu adnoddau. Felly, byddwn ni’n archwilio model cyllido newydd sy’n gallu ymrwymo buddsoddiad dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys i ROCUs gadarnhau eu sefyllfa a chefnogi datblygu’r system gyfan. Byddwn ni hefyd yn disgwyl i’r sector preifat fuddsoddi ar y cyd wrth ddatblygu galluoedd newydd, yn arbennig yn y meysydd hynny o’r sectorau masnachol ac ariannol mae troseddau economaidd yn effeithio arnynt yn benodol.

164. Ochr yn ochr â hyn, byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio cyllid ar ein blaenoriaethau uchaf a gwella llinellau atebolrwydd, gan gynnig mwy o sicrwydd y bydd ein buddsoddiadau’n arwain at y buddion disgwyliedig. Bydd y gwaith pellach rydym yn ei wneud ar osod tasgau, llywodraethu, rolau a chyfrifoldebau yn helpu i arwain a llywio cyllid.

Mesur llwyddiant

165. Bydd llwyddiant yn y rhan hon o’r amcan yn golygu bod ein hymateb gasgliadol yn y DU wedi’i alinio’n fwy effeithiol ac effeithlon, a’i bod yn cyflenwi’r effaith mwyaf posibl a gwerth am arian â’r adnoddau sydd ar gael. Byddwn ni’n mesur llwyddiant trwy fonitro gweithredu’r model gweithredu a strategaeth gallu diwygiedig; a thrwy ddyfarniadau Effeithiolrwydd PEEL HMICFRS ar effeithiolrwydd ymatebion yr heddlu i droseddau difrifol a threfnedig.

Ehangu ein cyrhaeddiad a dylanwad byd-eang

166. Mae ein gwaith rhyngwladol wedi canolbwyntio ar amharu ar ac erlyn troseddwyr difrifol a threfnedig yn gynnar. Mae hyn wedi cynnwys cydweithredu gweithredol ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith dramor a chymorth ynghylch adeiladu gallu i’r asiantaethau hynny lle bo angen. Mae gan yr NCA, CThEM, Gorfodi Mewnfudo, Llu’r Ffiniau a’r CPS rwydweithiau rhyngwladol mawr i hwyluso hyn, â mwy na 300 o swyddogion wedi eu hadleoli dramor. Mae eu gwaith wedi rhoi’r cyrhaeddiad byd-eang a rhwydwaith o bartneriaethau a chynghreiriau rhyngwladol sydd eu hangen i ni i amharu’n sylweddol ar droseddwyr difrifol a threfnedig sy’n cyflwyno bygythiad i’r DU.

167. Byddwn ni’n ehangu ein gwaith tramor, gan dynnu ar ein holl ysgogiadau (gan gynnwys gwleidyddol, gorfodi’r gyfraith, diplomyddol, diogelwch a milwrol) i helpu i ddihatru modelau busnes grwpiau troseddau trefnedig trawswladol niwed uchel ac atal camdrinwyr rhag teithio a gweithredu ar-lein. Byddwn ni’n rhoi ffocws penodol ar ymgyrchoedd byd-eang amlochrog er mwyn codi ymwybyddiaeth o, a gwella cydnerthedd byd-eang yn erbyn, materion blaenoriaethol i’r DU megis llifoedd ariannol anghyfreithlon, camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol, gwrth-lygredd a chaethwasiaeth fodern. Mae’r rhain yn feysydd sy’n achosi pryder penodol lle mae angen gweithredu unedig ar raddfa fawr ar draws y gymuned ryngwladol i godi safonau diogelu. Byddwn ni’n parhau i sicrhau yr amharir yn barhaus ac yn sylweddol ar droseddwyr difrifol a threfnedig sy’n cyflwyno bygythiadau i’r DU neu droseddau sy’n cael eu cyflawni dramor gan wladolion y DU. Byddwn ni hefyd yn ceisio creu cydnerthedd mewn gwledydd sy’n agored i droseddau trawswladol.

Gwella ein mewnwelediad a’n cyrhaeddiad byd-eang

168. Bydd yr NCA yn parhau i arwain gwaith amharu asiantaethau gorfodi’r gyfraith y DU ar droseddwyr difrifol a threfnedig dramor sy’n fygythiad i’r DU, â chymorth Gorfodi Mewnfudo, CThEM a’r CPS. Byddwn ni’n sicrhau y gallant wneud defnydd llawn o’r ystod o offer cydweithredu Ymlid sydd ar gael, megis rhannu gwybodaeth, cudd-wybodaeth a thystiolaeth, adennill asedau troseddwyr difrifol a threfnedig, a sicrhau bod ffoaduriaid yn cael eu dwyn i gyfiawnder i wynebu treial.

169. Byddwn ni’n datblygu proses dadansoddol dramor newydd o’r enw Cyd-ddadansoddi Troseddau Difrifol a threfnedig (SOCJA). Bydd asesiadau SOCJA yn arddangos siâp, natur a galluogwyr marchnadoedd anghyfreithlon, gan wella ein dealltwriaeth o ysgogwyr troseddau difrifol a threfnedig er mwyn i ni gynllunio ymyriadau wedi’u targedu’n well neu rai newydd. Arweinir gwaith hwn gan yr Uned Sefydlogi,[footnote 79] gan weithio â’r Swyddfa Gartref, Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) a’r Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID), a bydd yn cefnogi ac yn cael ei ysgogi gan yr NAC. Fe’i ariennir trwy’r Gronfa Gwrthdaro, Sefydlogrwydd a Diogelwch (CSSF). Byddwn ni hefyd yn cynyddu’r corff tystiolaeth sydd ar gael i ni trwy ymgysylltu’n well â’r sector preifat, cymdeithas sifil, cyrff anllywodraethol, melinau trafod a phartneriaid datblygu perthnasol ac academaidd eraill.

170. Fe gaiff rhwydwaith newydd o Gyd-lwyfannau Troseddau Difrifol a threfnedig (JSOCs) ei sefydlu mewn dros 80 o wledydd erbyn Ebrill 2019 i alinio a chydlynu gweithredu ein hymateb dramor. Byddwn ni hefyd yn sefydlu rhwydwaith o arbenigwyr polisi tramor trawslywodraethol newydd (SOCnet), a redir ar y cyd gan y Swyddfa Gartref, FCO a DFID, i ategu gwaith gweithredol rhwydweithiau gorfodi’r gyfraith sy’n bodoli eisoes. Bydd SOCnet yn weithredol yn gynnar yn 2019 a bydd yn cael ei ariannu trwy’r CSSF. Bydd y rhwydwaith hwn yn atgyfnerthu ein hymagwedd bresennol at orfodi’r gyfraith trwy adeiladu ein gallu i ddefnyddio ein holl ysgogiadau diplomyddol, milwrol, gwleidyddol a datblygu agored o fewn ein rhwydwaith tramor i wrthsefyll troseddau difrifol a threfnedig. Bydd gwaith ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol unigol, gan gynnwys yr UE, y gymuned Five Eyes[footnote 80] ac asiantaethau amlochrog, yn ganolog i’r broses gyflawni.

171. Hefyd bydd y Swyddfa Gartref yn peilota rhaglen Prevent dramor a anelir at gymunedau tramor rydym yn gwybod eu bod yn darparu recriwtiaid i grwpiau troseddol trefnedig sy’n gweithredu yn y DU. Mae cynllun peilot cychwynnol eisoes ar waith yn Albania a bydd cynlluniau peilot yn parhau yn 2019/20, ac wedi hynny bydd y penderfyniad yn cael ei gymryd ynghylch a ddylid uwchraddio’r gweithgarwch. Hefyd bydd DFID yn cwmpasu, cynllunio a chyflenwi rhaglen Diogelu a Pharatoi dramor i fynd i’r afael â ffactorau economaidd-gymdeithasol, llywodraethu a chyfiawnder troseddol sy’n rhwystro gallu gwledydd neu lywodraethauau allweddol i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig. Drwy raglennu gwaith â chymunedau ac mewn lleoliadau sy’n agored i droseddau difrifol a threfnedig, bydd DFID yn treialu ymagweddau newydd at fynd i’r afael â rhwydweithiau a llifau anghyfreithlon, diwygio’r heddlu a diwygio barnwrol, grymuso cymunedau i hyrwyddo diwylliant o gyfreithlondeb, a chymorth i gymdeithas sifil, gan hyrwyddo gwasg rydd a bywoliaethau amgen. Byddwn ni’n creu cronfa o arbenigwyr y gellir eu hadleoli o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a grwpiau cymdeithas sifil i gyflawni elfennau o’r rhaglenni.

172. Byddwn ni hefyd yn ehangu a darparu ymgyrchoedd byd-eang, amlochrog newydd a arweinir gan weinidogion. Bydd y rhain yn codi ymwybyddiaeth o faterion blaenoriaethol i’r DU, byddant yn cael eu cyflwyno ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol, a byddant yn gwella cydnerthedd byd-eang i fygythiadau penodol.

173. Byddwn ni’n darparu ymgyrch gyllid anghyfreithlon ryngwladol gynhwysfawr, wedi’i chynllunio i ddiogelu ein pobl, ffyniant a dylanwad byd-eang trwy gryfhau’r ymateb fyd-eang i gyllid anghyfreithlon. Byddwn ni’n ceisio cynnal a chryfhau safonau, rheoliadau a normau rhyngwladol a’u gweithredu. Bydd hyn yn golygu gwthio am newidiadau wedi’u targedu i safonau FATF lle bo angen. Bydd hefyd yn cynnwys defnyddio fforymau amlochrog (megis y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, G7 a G20) i ysgogi’r gwaith o gyflawni safonau rhyngwladol presennol, yn arbennig ar dryloywder treth, perchnogaeth fuddiannol, adennill asedau, gwrth-wyngalchu arian a gwrth-ariannu terfysgol.

174. Byddwn ni hefyd yn ysgogi ewyllys wleidyddol i fynd i’r afael â gwendidau mewn awdurdodaeth o risg, gwella cydnerthedd, a chryfhau cydweithrediad gweithredol. Byddwn ni’n cymryd ymagwedd debyg mewn economïau sy’n dod i’r amlwg ac awdurdodaethau o risg i waith datblygu’r DU, â’r bwriad o gefnogi datblygu cynaliadwy. Bydd SOCnet yn cefnogi’r gwaith cyflenwi (wedi iddo gael ei sefydlu yn gynnar yn 2019), yn arbennig trwy ei is-rwydwaith o arbenigwyr ym maes cyllid anghyfreithlon a leolir mewn canolfannau ariannol byd-eang, a thrwy ei rwydwaith ehangach, sy’n cynnig sylw i awdurdodaethau eraill o risg. Hefyd fe’i cefnogir gan yr NECC, a rhwydweithiau swyddogion cyswllt rhyngwladol yr NCA a CThEM, ac ymgynghorwyr cyfiawnder troseddol y CPS ac ynadon cyswllt.

175. Diolch i waith yr IWF, erbyn hyn mae llai nag 1% o gynnwys camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol yn cael ei gynnal ar lwyfannau’r DU. Ond mae hynny’n golygu bod rhaid inni ganolbwyntio’n sylw’n rhyngwladol hefyd. Rydym yn buddsoddi £40 miliwn o gymorth datblygu tramor yn y Gronfa Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Plant i 2019/20 i godi gallu rhyngwladol ar fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein. Rydym eisoes wedi cefnogi dwsinau o brosiectau yn fyd-eang, yn amrywio o ariannu’r IWF i ddarparu pyrth adrodd mewn 30 o wledydd sy’n datblygu, i sefydlu cronfa ddata troseddwyr rhyw a delweddau genedlaethol yn yr Iorddonen ac achub ac adsefydlu plant sydd wedi’u cam-drin yn Ynysoedd y Philipinau.

176. Byddwn ni’n sicrhau dyfodol hirdymor ar gyfer y Cynghrair Byd-eang WePROTECT, gan arwain ei broses bontio o fenter sy’n cael ei hysgogi gan y DU i endid annibynnol a berchnogir yn rhyngwladol, yn darparu offer a chyfarwyddyd i gryfhau a chydlynu gweithredu ryngwladol ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein. Byddwn ni’n parhau i gydweithio â phartneriaid o’r un meddwl; bydd y cyfarfod Gweinidogol Pum Gwlad[footnote 81] nesaf, i gael ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Cartref yn 2019, yn blaenoriaethu camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol.

177. O ran caethwasiaeth fodern, mae’r llywodraeth wedi sefydlu perthynas gref â llywodraethau eraill, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chymdeithas sifil i wella ein dealltwriaeth o’r cyd-destun caethwasiaeth fodern, a chynyddu cydweithrediad rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith trwy rannu cudd-wybodaeth ar lefel ehangach a sefydlu timau ymchwilio ar y cyd. Mae’r FCO yn hyrwyddo ei rwydwaith byd-eang o fentrau i helpu i ysgogi cynnydd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl mewn gwahanol ranbarthau. Ym mis Medi 2017, fe wnaeth y Prif Weinidog, arweinwyr y byd ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (CU) lansio ‘Galwad i Weithredu i Roi Terfyn ar Lafur Dan Orfod, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Mewn Pobl’ yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, sydd bellach wedi’i gymeradwy gan dros 80 o wledydd.

178. Byddwn ni’n parhau i ddatblygu ein perthnasoedd dwyochrog â’r gwledydd gwreiddiol allweddol y mae eu gwladolion yn cyflwyno’n fwyaf cyffredin yn y DU, yn ogystal â gweithio â gwledydd lle mae nifer fawr fyd-eang o achosion o gaethwasiaeth. Hefyd byddwn ni’n gweithio mewn fforymau amlochrog megis y CU a’r G7 i gyflwyno’r newid sylweddol angenrheidiol mewn camau gweithredu byd-eang yn erbyn caethwasiaeth fodern.

179. Mae’r fasnach bywyd gwyllt anghyfreithlon (IWT) yn fater o frys yn fyd-eang, sy’n bygwth anfon rhai o rywogaethau mwyaf gwerthfawr y byd ar ei ffordd i ddifodiant. Mae troseddu bywyd gwyllt yn ddiwydiant troseddol difrifol wedi’i chwyddo gan lygredd, sy’n niweidio twf economaidd a datblygu cynaliadwy, gan danseilio llywodraethu da a rheolaeth y gyfraith. Fe gynullodd y DU gynhadledd ryngwladol lefel uchel ym mis Hydref 2018 i fynd i’r afael â’r fasnach bywyd gwyllt anghyfreithlon. Fe helpodd Cynhadledd Llundain i ysgogi’r gymuned ryngwladol, cynyddu cydweithredu ar draws a rhwng cyfandiroedd i fynd i’r afael â llifau ariannol anghyfreithlon a llygredd sy’n gysylltiedig ag IWT. Byddwn ni’n cryfhau rhwydweithiau arbenigwyr gorfodi’r gyfraith IWT, gan helpu gwledydd i gydlynu ar draws y llwybrau masnach, a gwella ein dealltwriaeth o’r cysylltiadau ag heriau diogelwch ehangach.

180. Yn ogystal â gweithio ag a thrwy sefydliadau a fforymau amlochrog, bydd y Swyddfa Gartref, FCO a DFID, yn gweithio ag adrannau perthnasol eraill gan gynnwys Trysorlys EM i ddefnyddio uwchgynadleddau a chynadleddau gweinidogol i ysgogi’r gymuned ryngwladol i gefnogi amcanion troseddau difrifol a threfnedig. Er enghraifft, ym mis Gorffennaf 2018, cynhaliodd y DU Uwchgynhadledd Gorllewin y Balcanau Proses Berlin, gan ddod â gweinidogion mewnol Gorllewin y Balcaniaid a phartneriaid Ewropeaidd at ei gilydd. Arweiniodd hyn at ddatganiad ar y cyd ar wybodaeth, Map Ffordd Arfau Bach ac Arfau Ysgafn, cymeradwyo Galwad y Prif Weinidog i Weithredu ar Gaethwasiaeth Fodern, a chyfres o addewidion gwrth-lygredd.

Mesur llwyddiant

181. Bydd llwyddiant yn y rhan hon o’r amcan yn golygu bod troseddwyr difrifol a threfnedig trawswladol niwed uchel yn llai galluog i weithredu ac achosi niwed yn y DU. Bydd llai o effaith gan droseddau difrifol a threfnedig ar lywodraethu a sefydlogrwydd. Byddwn ni’n mesur llwyddiant trwy asesiadau gwaelodlin o’r sefyllfa gyfredol a gwerthuso parhaus, gan ddefnyddio mesurau meintiol (gan gynnwys data ar amhariadau, a mynegeion trydydd parti annibynnol) ac asesiadau ansoddol.

Cyfuno sgiliau, arbenigedd ac adnoddau â’r sector preifat

182. Yn aml mae busnesau yn darged i droseddau difrifol a threfnedig, ond maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb. Mae troseddau difrifol a threfnedig yn achosi colledion uniongyrchol i ddiwydiant (yn arbennig o ganlyniad i droseddu economaidd), colli cyfran o’r farchnad (gan fod troseddwyr yn darparu nwyddau a gwasanaethau ar y marchnadoedd du a llwyd) ac niwed i enw da (o ganlyniad i doriadau data neu wyngalchu enillion troseddol). Trwy bartneriaethau cyhoeddus-preifat, gallwn ni wella ein cyd-ddealltwriaeth o fygythiadau, cynllunio allan gwendidau mewn cynhyrchion a gwasanaethau a gwella cydnerthedd y sector preifat.

183. Mae’r ymgysylltiad rhwng y llywodraeth a’r sector preifat i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig yn fwyaf aeddfed mewn perthynas â gwyngalchu arian a throseddu economaidd. Mae mentrau i ddatblygu partneriaethau cyhoeddus-preifat, gan gynnwys JMLIT a JFT, wedi dod yn rhan annatod o’n hymateb ac wedi darparu model i wledydd eraill ei ddilyn.

Cyd-dasglu Cudd-wybodaeth Gwyngalchu Arian (JMLIT)

Partneriaeth gyhoeddus-preifat yw’r JMLIT rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith, y llywodraeth, a’r sector ariannol, a sefydlwyd ym mis Chwefror 2015. Mae’n cyfuno asiantaethau gorfodi’r gyfraith, y rheoleiddiwr, a thros 30 o sefydliadau ariannol y DU a rhyngwladol i gyfnewid a dadansoddi gwybodaeth a chudd-wybodaeth er mwyn canfod, atal ac amharu ar wyngalchu arian a bygythiadau troseddau economaidd ehangach yn erbyn y DU.

Mae partneriaeth ddiffuant wrth wraidd y model, yn seiliedig ar fanteision cydweithredu i bob ochr, a gorgyffyrddiad clir o ddiddordeb rhwng asiantaethau gorfodi’r gyfraith a’r sector ariannol. Ar gyfer gorfodi’r gyfraith, mae hyn yn cynnwys mynediad i’r data a’r gudd-wybodaeth sydd ei angen i fynd i’r afael â blaenoriaethau a fforwm i drafod yr hyn rydym yn ceisio’i gyflawni a chael cyngor ar sut i gyrraedd yno. Ar gyfer sefydliadau ariannol, mae hyn yn cynnwys mynediad gwell i wybodaeth ar fygythiadau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â chaniatáu iddynt ganolbwyntio ar a thargedu adnoddau gwrth-wyngalchu arian ac i liniaru risgiau.

Mae’r gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar y pedwar maes blaenoriaethol allweddol o lwgrwobrwyo a llygredd, gwyngalchu arian masnachol, troseddau mewnfudo trefnedig a masnachu mewn pobl a chyllido terfysgwyr.

O fis Ebrill 2015 hyd at fis Rhagfyr 2017, gwnaed 99 o arestiadau, wedi’u hwyluso, neu wedi’u cefnogi gan weithgarwch JMLIT. Nododd ymholiadau JMLIT dros 3000 o gyfrifon banc nad oeddent yn hysbys yn flaenorol i asiantaethau gorfodi’r gyfraith, a thros 100 o bobl newydd dan amheuaeth mewn ymchwiliadau troseddol, dosbarthwyd 27 rhybudd JMLIT i holl aelodau Cyllid y DU a chyrff diwydiant perthnasol eraill, ac ataliwyd arian â gwerth o gyfanswm o £9 miliwn.

184. Byddwn ni’n parhau i wella ein hymgysylltiad â’r sector ariannol, gan integreiddio JMLIT i’r NECC, hybu ei adnoddau a’i alluoedd dadansoddol, ac agor aelodaeth i sectorau eraill (gan gynnwys y proffesiynau cyfreithiol a chyfrifyddiaeth). Byddwn ni hefyd yn ehangu’r JFT i gynnwys ystod ehangach o bartneriaid yn y sector preifat, a byddwn ni’n darparu cynllun traws-ddiwydiant i leihau twyll ‘Cerdyn Ddim yn Bresennol’ yn sylweddol trwy gael gwared â bylchau a chryfhau modd dilysu cwsmeriaid ar drafodion ar-lein. Byddwn ni’n integreiddio cynrychiolwyr o’r sector preifat i’n hymagwedd at droseddu economaidd, gan gynnwys cydleoli timau cyhoeddus-preifat yng Nghyllid y DU er mwyn diwygio’r drefn SARs.

Ehangu gweithio mewn partneriaeth

185. Byddwn ni’n adeiladu ar yr hanes da hwn o ymgysylltu â’r sector ariannol a’i ehangu i sectorau eraill er mwyn cyflawni nodau cydfuddiannol. Trwy gyd-gynllunio ein hymagwedd â’r sector preifat, gallwn ni sicrhau bod troseddwyr difrifol a threfnedig yn llai galluog i dargedu busnesau neu gamfanteisio ar alluogwyr i hwyluso troseddoldeb, gan gynnwys pobl fewnol llwgr neu gysylltiedig.

186. Ein blaenoriaeth uniongyrchol fydd ymgysylltu â’r diwydiant technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Bydd hyn yn hanfodol i leihau seiberdroseddu a chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein, fel y’i nodir yn Amcanion Un a Dau, yn ogystal ag atal troseddwyr rhag targedu dioddefwyr posibl o dwyll, caethwasiaeth fodern, ac ystod o droseddau eraill. Yn unol ag amcanion CONTEST a’r Strategaeth Diogelwch Rhyngrwyd, byddwn yn gofyn i gwmnïau weithredu’n rhagweithiol er mwyn diogelu defnyddwyr a gwrthod cyfle i droseddwyr difrifol a threfnedig gamddefnyddio llwyfannau a gwasanaethau ar-lein. Bydd hyn yn ei wneud yn ofynnol i gwmnïau nodi a gweithredu’n rhagweithiol ar gynnwys neu ymddygiad i atal troseddu, a datblygu a chymhwyso offer i awtomeiddio’r ymagweddau hyn (gan gynnwys trwy ddeallusrwydd artiffisial).

187. Byddwn ni’n sicrhau bod y sector preifat wedi’i integreiddio i’n hymateb i fygythiadau penodol. Yn y sector gwastraff, er enghraifft, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn sefydlu concordat rhannu cudd-wybodaeth â’r diwydiant i fynd i’r afael â chludwyr gwastraff anghyfreithlon. Byddwn ni hefyd yn ehangu ein hymgysylltiad â’r sector preifat y tu hwnt i sectorau penodol, er mwyn ehangu cydweithredu ar fygythiadau trawsbynciol a chynllunio allan gwendidau. Ar y lefel leol, bydd y Cydlynwyr Cymunedol Troseddau Difrifol a threfnedig yn ceisio integreiddio cymdeithasau busnes lleol, a Phartneriaethau Menter Lleol yn Lloegr, fel rhan o’r ymateb amlasiantaethol o fewn cymunedau. Ar y lefel genedlaethol, byddwn ni’n creu canolfan benodedig o fewn y Swyddfa Gartref i ddarparu canolbwynt ar gyfer gwaith yr adran â’r sector preifat ar ystod eang o fathau o droseddau, gan gynnwys troseddau difrifol a threfnedig. Ar y lefel ryngwladol, byddwn ni’n ceisio gosod yr agenda fyd-eang ar bartneriaethau cyhoeddus-preifat. Byddwn ni’n hyrwyddo model y DU ar lefel ryngwladol trwy SOCnet, gan rannu arfer gorau (yn arbennig ar ymgysylltu â’r sector ariannol) a safoni partneriaethau cyhoeddus-breifat fel ymagwedd (e.e. yn y CU, a thrwy adeiladu gallu mewn trydydd gwledydd).

188. Bydd ein proses integreiddio â’r sector preifat hefyd yn cael ei hwyluso gan y Gyd-ganolfan Diogelwch a Chydnerthedd (JSaRC). Yn 2016, buddsoddodd y Swyddfa Gartref £11 miliwn yn JSaRC dros bedair blynedd er mwyn gwella cydweithredu rhwng y llywodraeth a’r diwydiant diogelwch ac ysgogi arloesi. JSaRC yw cangen weithredol y Bartneriaeth Diogelwch a Chydnerthedd ac fe’i cefnogir gan gynghrair o sefydliadau diogelwch a chydnerthedd y DU (RISC).

Mesur llwyddiant

189. Bydd llwyddiant yn y rhan hon o’r amcan yn golygu bod rhannu gwybodaeth, rhannu perchenogaeth a gweithredu ar y cyd effeithiol rhwng y llywodraeth a’r sector preifat. Byddwn yn mesur llwyddiant trwy asesiadau sylfaenol o’r sefyllfa gyfredol a gwerthusiad parhaus o lefel ac ansawdd yr ymgysylltiad.

Rhan Pedwar: Gweithredu

190. Mae’r adran hon yn disgrifio sut y byddwn ni’n sicrhau bod y strategaeth hon yn cael ei gweithredu’n effeithiol, gan gynnwys llywodraethu a pherfformiad.

Llywodraethu a goruchwylio

Cyfrifoldebau gweinidogol

191. Bydd yr NSC, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, yn goruchwylio’r Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig, gan gymryd adroddiadau rheolaidd ar ei gynnydd; hefyd bydd yn ystyried risgiau sy’n dod i’r amlwg, adolygu effaith gasgliadol ein gwaith, a chytuno ar ein hymateb a’n hadnoddau yn unol â hynny.

192. Cefnogir yr NSC yn ei rôl oruchwylio gan gorff gwneud penderfyniadau traws-lywodraethol, y Grŵp Rhyngweinidogol Troseddau Difrifol a threfnedig. Mae’r Grŵp yn cyfuno Ysgrifenyddion Gwladol o’r NSC a’r Pwyllgor Diwygio Cymdeithasol i alinio ein hymdrechion casgliadol a sicrhau ein bod yn cyflwyno ymateb llywodraeth gyfan at fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig.[footnote 82]

193. Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn gyfrifol am gydlynu ymateb llywodraeth y DU yn gyffredinol i droseddau difrifol a threfnedig, mae’n goruchwylio’r NCA ac MI5 ac mae’n atebol i’r Senedd am blismona yng Nghymru ac yn Lloegr.

194. Mae cyfrifoldeb gweinidogol am rai agweddau ar y strategaeth hon yn sefyll y tu hwnt i gylch gwaith yr Ysgrifennydd Cartref:

  • Mae’r Ysgrifennydd Tramor yn gyfrifol am bolisi tramor y DU a gweithgarwch y llywodraeth dramor, gan gynnwys elfennau rhyngwladol y Strategaeth Troseddau Difrifol a threfnedig. Mae’r Ysgrifennydd Tramor yn goruchwylio’r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol (SIS) a GCHQ ac mae’n atebol i’r Senedd am eu gweithgareddau.
  • Mae Canghellor y Trysorlys yn gyfrifol am reoleiddio’r sectorau ariannol a bancio, am y Rheoliadau Gwyngalchu Arian a goruchwylio goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian, ac am sicrhau bod sancsiynau ariannol yn cael eu gweithredu a’u gorfodi.
  • Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn yn gyfrifol am gyfraniad y Lluoedd Arfog a’r Weinyddiaeth Amddiffyn i wrthsefyll troseddau difrifol a threfnedig, gan gynnwys, lle bo’n briodol ac ar gael, defnyddio galluoedd gwahardd i sicrhau na all bygythiadau gyrraedd y DU.
  • Mae’r Atwrnai Cyffredinol yn darparu cyngor cyfreithiol i’r llywodraeth ac yn goruchwylio’r prif adrannau erlyn annibynnol  – y CPS a’r SFO.
  • Mae’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol yn arwain gwaith y DU i roi terfyn ar dlodi eithafol a chyflenwi rhaglenni i fynd i’r afael ag ansicrwydd a gwrthdaro mewn gwledydd sy’n datblygu. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol (megis llygredd) sy’n galluogi troseddau difrifol a threfnedig i ffynnu.
  • Mae’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn gyfrifol am y system gyfiawnder troseddol, gan gynnwys y gwasanaeth carchardai a phrawf a sicrhau bod y system yn ymatebol i ddioddefwyr a’r cyhoedd.
  • Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gyfrifol am y polisi sy’n ymwneud ag adferiad o ddibyniaeth ar gyffuriau ac am sicrhau bod y sector iechyd yn defnyddio eu sefyllfa unigryw i nodi a diogelu dioddefwyr troseddau difrifol a threfnedig, codi ymwybyddiaeth o’u canlyniadau a rhannu gwybodaeth â phartneriaid i helpu i fynd i’r afael â nhw.
  • Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gyfrifol am bolisi sy’n ymwneud â busnes, gan gynnwys trwy sicrhau bod tryloywder ynghylch pwy sy’n berchen ar gwmni ac yn rheoli cwmni yn y pen draw, sy’n rhan bwysig o’r frwydr fyd-eang yn erbyn llygredd, gwyngalchu arian ac ariannu terfysgwyr.
  • Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn gosod y fframwaith trosfwaol ar gyfer llywodraeth leol ac mae’n cydlynu gwaith ag awdurdodau lleol yn Lloegr, er enghraifft cefnogi teuluoedd cymhleth â phlant sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu ac i adeiladu cymunedau mwy diogel sydd â mwy o gydnerthedd yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig.
  • Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn gyfrifol am wasanaethau plant ac addysg pobl ifanc, gan gynnwys gweithgarwch a ddarperir gan y sector addysg i arallgyfeirio pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn troseddau difrifol a threfnedig, naill ai fel dioddefwr neu droseddwr posibl.
  • Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn gyfrifol am ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a chefnogi ein diwydiant bwyd a ffermio, ac mae ganddo rôl arweiniol wrth fynd i’r afael â throseddau gwastraff a throseddau bywyd gwyllt.
  • Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gyfrifol am ddiogelu’r systemau lles a budd-daliadau rhag twyll, gan gynnwys twyll a gyflawnir gan droseddwyr difrifol a threfnedig.
  • Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n arwain cysylltiadau’r llywodraeth â’r diwydiant technoleg, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau cyfathrebu, tra hefyd yn goruchwylio datblygiad y Siarter Ddigidol fel rhan o ymdrechion i sicrhau mai’r DU yw’r lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein.

195. Mae Atodiad A yn darparu rhagor o fanylion ar rolau a chyfrifoldebau pob adran ac asiantaeth sy’n ymwneud â chyflenwi’r strategaeth hon.

Goruchwyliaeth

196. Mae gan y Cyd-bwyllgor ar Strategaeth Ddiogelwch Genedlaethol y Senedd oruchwyliaeth ar y Strategaeth Ddiogelwch Genedlaethol, ac mae ein hymateb i droseddau difrifol a threfnedig yn rhan ohoni. Mae’r Pwyllgor Dethol Materion Cartref a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd hefyd yn darparu goruchwyliaeth ar agweddau ar ein hymateb, er enghraifft ar berfformiad adennill asedau.

197. Yn gyffredinol, mae gan Bwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch y Senedd oruchwyliaeth ar weithgareddau diogelwch a chudd-wybodaeth y DU, â’r Comisiynydd Pwerau Ymchwiliol yn darparu goruchwyliaeth annibynnol ar waith ymchwilio’r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth.

Gweinyddiaethau datganoledig

198. Fel y’i nodwyd yn gynharach yn y strategaeth hon, mae materion plismona a throseddu wedi’u datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn gyfrifol amdanynt. Mae’r ddwy awdurdodaeth yn gweithio i’w strategaethau eu hunain ac mae ganddynt eu trefniadau goruchwylio eu hunain y maent yn atebol iddynt am eu cyflawni a’u perfformiad. Mae llawer o’r mecanweithiau cyflenwi lleol, megis y rhai hynny sy’n cwmpasu iechyd, addysg a llywodraeth leol, wedi’u datganoli yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

199. Bydd llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn parhau i weithio gyda’i gilydd â chydnabyddiaeth a rennir o’r bygythiad a achosir ledled y DU gan droseddau difrifol a threfnedig gan sicrhau bod ein hymatebion strategol priodol yn cael eu halinio. Bydd y cydweithio agos hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn gallu cyflawni amcanion y strategaeth hon a’r strategaethau priodol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ledled y DU yn gasgliadol.

Cydlynu adrannol

200. Goruchwylir yr ymateb i droseddau difrifol a threfnedig ar draws llywodraeth y DU gan Gyfarwyddwr Cyffredinol yn y Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, sy’n gweithredu fel Prif Berchennog Cyfrifol (SRO). Mae swyddogion y Swyddfa Gartref yn cefnogi’r Ysgrifennydd Cartref a’r SRO wrth ddatblygu, cydlynu, gweithredu a gwerthuso’r strategaeth hon.

201. Mae ein hymateb i droseddau difrifol a threfnedig yn cael ei rheoli a’i monitro’n barhaus. Mae’r SRO yn cadeirio Grŵp Strategaeth Ddiogelwch a Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Troseddau Difrifol a threfnedig, sy’n dwyn ynghyd uwch arweinwyr gweithredol a pholisïau o bob rhan o’r llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a’r asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth i gydlynu gweithgarwch a sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gweithredu a’i gwerthuso.

Dibyniaethau’r Goron a Thiriogaethau Tramor

202. Fel yr amlinellwyd ym Mhapur Gwyn 2012 ‘Y Tiriogaethau Tramor: Diogelwch, Llwyddiant a Chynaliadwyedd’, mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Dibyniaethau’r Goron a Thiriogaethau Tramor i fynd i’r afael â bygythiadau sy’n deillio o droseddau difrifol a threfnedig. Er mai Llywodraethwyr y Tiriogaethau Tramor sy’n gyfrifol am eu hymatebion i droseddau difrifol a threfnedig, bydd llywodraeth y DU yn cefnogi ac yn cydweithio â hwy lle bo angen er mwyn datblygu strategaethau, a gwaith datblygu a chynllunio galluoedd dilynol, trwy adrannau perthnasol y llywodraeth.

Pobl a diwylliant

203. Mae ein pobl a’n diwylliant yn rhan annatod o lwyddiant ein strategaeth, polisi a gweithrediadau. Mae bod yn effeithiol wrth fynd i’r afael â throseddu difrifol a threfnedig yn galw am recriwtio, hyfforddi a chadw pobl o safon uchel ym mhob maes a sicrhau eu bod yn cydweithio’n dda. Mae hefyd yn amodol ar ddeall, gwrando ar, a gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, grwpiau a chymunedau ag amrywiaeth o gefndiroedd a nodweddion, gan gynnwys rhywedd, ethnigrwydd, crefydd a chefndir cymdeithasol.

204. Sefydlodd SDSR 2015 rwydwaith amrywiaeth diogelwch ac amddiffyn. Mae ei waith wedi ategu ymdrechion adrannol a gwasanaeth sifil eraill i sicrhau bod pawb sy’n gweithio ar ddiogelwch cenedlaethol yn ymwybodol bod amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i’n gwaith. Byddwn ni’n gwella ymgysylltu allanol a chynrychiolaeth fewnol ymhlith y rhai hynny sy’n gweithio i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig. Byddwn ni’n rhagweithiol wrth wreiddio ymagweddau mwy cynhwysol trwy ein holl waith, gan gynnwys annog herio adeiladol a gwahanol ffyrdd o feddwl, a gwella ein cydnerthedd, i’n helpu ni i ymateb yn well i’r bygythiadau cymhleth rydym yn eu hwynebu.

Perfformiad

205. Mae’r strategaeth hon yn cael ei monitro yn ôl set o ddangosyddion perfformiad allweddol, ynghyd â gwerthusiad manwl o raglenni penodol. Bydd y Fframwaith Perfformiad Troseddau Difrifol a threfnedig Cenedlaethol, a ddatblygwyd gan y Swyddfa Gartref a’r NCA, ar y cyd â rhanddeiliaid o bob rhan o’r system orfodi’r gyfraith a’r llywodraeth ehangach, yn darparu ymagwedd meintiol ac ansoddol at ddeall effaith ymateb tramor a domestig y DU i droseddau difrifol a threfnedig.

206. Defnyddir y data a gesglir yn y fframwaith i fonitro cynnydd tuag at yr amcanion strategol a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o ddyrannu adnoddau i wrthsefyll troseddau difrifol a threfnedig a sicrhau gwerth am arian. Rydym yn bwriadu gwella data perfformiad a rheoli ar draws y system er mwyn gwella ein penderfyniadau a’n hystwythder.

207. Mae’r NCA yn asesu effaith ei weithgarwch gweithredol, yn ogystal ag asesu cynnydd tuag at ei genhadaeth ac iechyd y sefydliad. Adolygir yr asesiad hwn bob chwarter ac fe’i oruchwylir gan Fwrdd yr NCA. Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol yr NCA yn adrodd yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Cartref ar berfformiad yr NCA. Mae’r NCA hefyd yn cyfrannu at asesiad gorfodi’r gyfraith ehangach ar draws asiantaethau o berfformiad yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig, ac yn arwain y broses o adrodd i’r Ysgrifennydd Cartref ar yr ymateb genedlaethol gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith.

Atodiad A: Rolau a chyfrifoldebau

Action Fraud:

Pwynt adrodd sengl y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.

Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol (AGO):

Mae’r AGO yn cefnogi’r Twrnai Cyffredinol a’r Cyfreithiwr Cyffredinol yn eu dyletswydd i ddarparu cyngor cyfreithiol i’r llywodraeth ac i oruchwylio’r prif awdurdodau erlyn – y CPS a’r SFO.

Cabinet Office (CO):

Mae Swyddfa’r Cabinet yn cefnogi gwaith y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (NSC) trwy’r Ysgrifenyddiaeth Diogelwch Cenedlaethol. Ystafell Briffio Swyddfa’r Cabinet (COBR) yw mecanwaith ymateb argyfwng y llywodraeth, gan gynnwys achosion o droseddau difrifol a threfnedig sydd angen ymateb rheoli argyfwng. Mae’r Cyd-bwyllgor Cuddwybodaeth yn bwyllgor traws-lywodraethol, wedi’i leoli yn Swyddfa’r Cabinet, gan ddarparu gweinidogion ac uwch swyddogion ag asesiadau strategol, yn ymwneud â diogelwch, materion amddiffyn a materion tramor yn bennaf. Mae Swyddfa’r Cabinet hefyd yn gyfrifol am gyflenwi’r NCSS.

Y Ganolfan er Amddiffyn Seilwaith Cenedlaethol (CPNI):

CPNI yw’r awdurdod technegol cenedlaethol ar gyfer mesurau diogelwch amddiffynnol corfforol a phersonél, gan ddarparu diogelwch amddiffynnol i sefydliadau. Mae’n gweithio’n agos â’r NCSC, sy’n arwain ar gyngor ynghylch seiberddiogelwch.

Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS):

Mae’r CPS yn erlyn achosion troseddau difrifol a threfnedig yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae’r CPS yn mynd ar ôl pob achos atafaelu sy’n deillio o ymchwiliadau troseddol a gynhelir gan yr NCA a CThEM, ac yn ymgymryd ag achosion atafaelu troseddol ac achosion adennill sifil ar y cyd â ROCUs a heddluoedd. Hefyd mae’r CPS yn defnyddio rhwydwaith o erlynwyr rhyngwladol, yn cynnal achosion estraddodi ar ran awdurdodau tramor ac mae’n gyfrifol am gael Gwarantau Arestio Ewropeaidd, gan gyhoeddi ceisiadau estraddodi a chydweithredu ehangach ynghylch cyfiawnder rhyngwladol (gan gynnwys casglu tystiolaeth dramor).

Yr Adran dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS):

Mae BEIS yn gyfrifol am bolisi sy’n ymwneud â busnes, gan gynnwys sicrhau bod tryloywder ynghylch pwy sy’n berchen ar gwmni ac yn rheoli cwmni yn y pen draw, sy’n rhan bwysig o’r frwydr fyd-eang yn erbyn llygredd, gwyngalchu arian ac ariannu terfysgwyr. Gall hyn gynorthwyo asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn eu hymchwiliadau i ymddygiad troseddol honedig a hefyd mae’n gweithredu fel rhwystr.

Yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS):

Mae DCMS yn arwain cysylltiadau’r llywodraeth â’r diwydiant technoleg, gan gynnwys â darparwyr gwasanaethau cyfathrebu, tra hefyd yn goruchwylio datblygiad y Siarter Ddigidol fel rhan o ymdrechion i sicrhau mai’r DU yw’r lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein.

Yr Adran Addysg (DfE):

Mae’r DfE yn gyfrifol am wasanaethau plant ac addysg pobl ifanc, gan gynnwys gweithgarwch a ddarperir gan y sector addysg i arallgyfeirio pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn troseddau difrifol a threfnedig, naill ai fel dioddefwr neu droseddwr posibl.

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA):

Mae DEFRA yn gyfrifol am ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a chefnogi ein diwydiant bwyd a ffermio, ac mae ganddi rôl arweiniol wrth fynd i’r afael â throseddau gwastraff a throseddau bywyd gwyllt.

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC):

Mae’r DHSC yn gyfrifol am y polisi sy’n ymwneud ag adfer o ddibyniaeth ar gyffuriau ac am sicrhau bod y sector iechyd yn defnyddio eu sefyllfa unigryw i nodi a diogelu dioddefwyr troseddau difrifol a threfnedig, codi ymwybyddiaeth o’u canlyniadau a rhannu gwybodaeth â phartneriaid i helpu i fynd i’r afael â nhw.

Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID):

Mae’r DFID yn arwain gwaith y DU i roi terfyn ar dlodi eithafol a chyflenwi rhaglenni i fynd i’r afael ag ansicrwydd a gwrthdaro mewn gwledydd sy’n datblygu. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol (megis llygredd) sy’n galluogi troseddau difrifol a threfnedig i ffynnu.

Yr Adran Drafnidiaeth (DfT):

DfT yw’r rheoleiddiwr diogelwch ar gyfer y sector trafnidiaeth ac ar gyfer cludo nwyddau peryglus. Bwriedir i reoliadau diogelwch yr Adran Drafnidiaeth ddiogelu teithwyr, cyfleusterau trafnidiaeth a’r rhai hynny a gyflogir yn y diwydiant trafnidiaeth, rheoliadau a all hefyd amharu ar droseddau difrifol a threfnedig.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP):

Mae’r DWP yn gyfrifol am ddiogelu’r systemau lles a budd-daliadau rhag twyll, gan gynnwys twyll a gyflawnir gan droseddwyr difrifol a threfnedig.

Gweinyddiaethau Datganoledig (DAs):

Mae DAs yn gyfrifol yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru am y swyddogaethau sydd wedi’u datganoli iddynt yn ôl eu setliadau datganoli gwahanol. Mae plismona a chyfiawnder wedi’u datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA):

Mae’r FCA yn rheoleiddio’r sector ariannol a chynghorwyr ariannol, a bydd yn mynd ar ôl erlyniadau troseddol, gan gynnwys ar gyfer delio mewnol a chamddefnyddio’r farchnad.

Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO):

Mae’r FCO yn gyfrifol am gyflwyno cymorth diplomyddol ac ymarferol i’n blaenoriaethau ar droseddau difrifol a threfnedig dramor.

Rhwydweithiau Cudd-wybodaeth Asiantaeth y Llywodraeth (GAIN):

Mae GAIN yn gweithredu ar draws rhanbarthau i hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth a chuddwybodaeth rhwng y llywodraeth, asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac, mewn rhai achosion, y sector preifat i helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad a gyflwynir gan droseddau difrifol a threfnedig.

Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth (GCHQ):

Mae GCHQ yn darparu cymorth cuddwybodaeth i asiantaethau gorfodi’r gyfraith wrth fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig, yn ogystal â darparu cymorth technegol ymarferol i fynd i’r afael â bygythiadau ar-lein, yn arbennig camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein.

Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS):

Mae HMPPS yn asiantaeth weithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) sy’n gyfrifol am y gwasanaethau cywirol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Cyllid a Thollau EM (CThEM):

CThEM yw awdurdod treth a thollau’r DU, sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â thwyll ariannol, â phwerau sifil a throseddol i ymchwilio i droseddwyr trefnedig. Hefyd mae gan CThEM rwydwaith rhyngwladol o Swyddogion Cyswllt Troseddu Ariannol.

Trysorlys EM:

Mae Trysorlys EM yn gyfrifol am reoleiddio’r sectorau ariannol a bancio, am y Rheoliadau Gwyngalchu Arian a goruchwylio goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian, ac am sicrhau bod sancsiynau ariannol yn cael eu gweithredu a’u gorfodi.

Y Swyddfa Gartref (HO):

Mae’r Swyddfa Gartref yn gyfrifol am arwain ymateb y DU i droseddau difrifol a threfnedig, gan gydweithio’n agos â’r heddlu, asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth ac ar draws y llywodraeth i wneud hyn. Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref a’r Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch a Throseddau Economaidd oruchwyliaeth weinidogol am ddyfeisio a chydlynu modd cyflawni’r strategaeth hon, yn ogystal â goruchwylio’r NCA. Trwy Lu’r Ffiniau, Fisas a Mewnfudo’r DU, Gorfod Mewnfudo a Swyddfa Pasbort Ei Mawrhydi, mae’r Swyddfa Gartref yn gyfrifol am ddiogelwch ein system ffiniau a mewnfudo ac mae’n gweithio’n agos â’r NCA a’r heddlu i sicrhau y gall y system ffiniau a mewnfudo helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad a gyflwynir gan droseddau difrifol a threfnedig.

Y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO):

Y cydlynydd cenedlaethol ar droseddu eiddo deallusol (ffugio a lladrad). Mae Canolfan Cudd-wybodaeth yr IPO yn cydlynu a chyfnewid cuddwybodaeth rhwng asiantaethau gorfodi eiddo deallusol a’r sector preifat yn y DU a thramor.

Y Cyd-dasglu Twyll (JFT):

Sefydlwyd y JFT yn 2016, ynghyd â’r sector preifat, asiantaethau gorfodi’r gyfraith a llywodraeth i ddiogelu’r cyhoedd rhag twyll.

Y Cyd-dasglu Cudd-wybodaeth am Wyngalchu Arian (JMLIT):

Ers 2014 mae’r JMLIT wedi darparu mecanwaith i asiantaethau gorfodi’r gyfraith a’r sector ariannol rannu gwybodaeth a chydweithio’n agosach i ganfod, atal ac ymharu ar wyngalchu arian a throseddau economaidd ehangach.

Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD):

Mae MOD yn cefnogi’r strategaeth hon trwy adeiladu gallu mewn gwledydd blaenoriaethol a lle bo’n briodol ac ar gael, gan ddefnyddio galluoedd gwahardd i sicrhau na all bygythiadau gyrraedd y DU.

Y Weinyddaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG):

Mae MHCLG yn gosod y fframwaith trosfwaol ar gyfer llywodraeth leol ac mae’n cydlynu gwaith ag awdurdodau lleol yn Lloegr, er enghraifft i gefnogi teuluoedd cymhleth â phlant sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu ac i adeiladu cymunedau mwy diogel sydd â mwy o gydnerthedd yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ):

Mae MoJ yn gweithio i amddiffyn y cyhoedd a lleihau aildroseddu, ac i ddarparu system gyfiawnder troseddol fwy effeithiol, tryloyw ac ymatebol ar gyfer dioddefwyr a’r cyhoedd. Mae’n gyfrifol hefyd am sicrhau bod y gwasanaethau carchardai a phrawf yn amharu ar weithgarwch troseddau difrifol a threfnedig fel rhan o ymagwedd reoli troseddwyr am oes.

Yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA):

Mae’r NCA yn arwain ac yn cydlynu ymateb gorfodi’r cyfraith y DU i droseddau difrifol a threfnedig ac mae’n gyfrifol am ddatblygu un olwg awdurdodol ar y bygythiad. Mae’n arwain yr ymateb gweithredol i rai o’r bygythiadau blaenoriaeth uchaf ac yn cefnogi ROCUs a’r heddlu â’u gweithrediadau i wrthsefyll troseddau difrifol a threfnedig. Hefyd mae gan yr NCA rwydwaith o swyddogion cyswllt rhyngwladol ac mae’n gyfrifol am nifer o swyddogaethau cenedlaethol, gan gynnwys cyfrifoldeb am gysylltu ag Europol ac Interpol. Arweinir yr NCA gan Gyfarwyddwr Cyffredinol ac fe’i goruchwylir gan yr Ysgrifennydd Cartref, ond mae’n weithredol annibynnol.

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC):

Crëwyd yr NCSC yn 2016 i helpu i amddiffyn ein gwasanaethau allweddol rhag ymosodiadau seiber, rheoli digwyddiadau mawr a gwella diogelwch sylfaenol rhyngrwyd y DU.

Y Ganolfan Troseddu Economaidd Genedlaethol (NECC):

Bydd yr NECC yn gweithredu fel yr awdurdod cenedlaethol ar gyfer ymateb gweithredol y DU i droseddu economaidd, gan ddefnyddio galluoedd gweithredol yn y sector cyhoeddus a phreifat i fynd i’r afael â’r bygythiadau mwyaf.

Heddluoedd:

Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith gweithredol yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig yn y wlad hon yn parhau i gael ei gynnal gan y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr ar lefel ranbarthol a lleol. Mae’r Heddlu yn dal i fod yn weithredol annibynnol ond maent yn cydweithio’n agos â’r Swyddfa Gartref a’r NCA ochr yn ochr â phartneriaid gweithredol eraill ac fe’u cefnogir yn agos gan awdurdodau lleol a’u hasiantaethau.

Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs):

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn swyddogion etholedig yng Nghymru ac yn Lloegr sy’n gyfrifol am blismona effeithlon ac effeithiol yn eu hardal. Maent hefyd yn dal Prif Gwnstabliaid i gyfrif am gyflawni’r cynllun heddlu a throseddu yn eu hardal. Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddau hefyd yn gyfrifol am gynnal cronfa’r heddlu (y mae holl blismona’r ardal yn cael ei ariannu ohoni) a chodi’r praesept plismona lleol o’r dreth gyngor.

Unedau Troseddau Trefnedig Rhanbarthol (ROCUs):

Mae ROCUs yn unedau rhanbarthol yr heddlu sydd â nifer o alluoedd arbenigol a ddefnyddir i ymchwilio i ac amharu ar droseddau difrifol a threfnedig. Mae naw ROCU yng Nghymru ac yn Lloegr a nhw yw’r prif ryngwyneb rhwng yr NCA a heddluoedd. Gall heddluoedd dynnu ar alluoedd arbenigol y ROCUs trwy fecanwaith sefydledig ar gyfer gosod tasgau.

Y Swyddfa Twyll Difrifol (SFO):

Mae’r SFO yn asiantaeth arbenigol ym maes gorfodi’r gyfraith sy’n ymchwilio ac yn erlyn y lefel uchaf o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd difrifol a chymhleth a gwyngalchu arian sy’n gysylltiedig. Mae’r SFO yn rhan o’r system gyfiawnder troseddol sy’n cwmpasu Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ond nid yr Alban, Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel.

Y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol (SIS):

Mae SIS yn casglu cudd-wybodaeth dramor i hyrwyddo ac amddiffyn diogelwch cenedlaethol a lles economaidd y DU.

Y Gwasanaeth Diogelwch (MI5):

Mae MI5 yn gyfrifol am amddiffyn diogelwch cenedlaethol y DU yn erbyn bygythiadau gan gynnwys terfysgaeth a throseddau difrifol a threfnedig.

Gwasanaeth Person Gwarchodedig y DU (UKPPS):

Mae UKPPS yn darparu diogelwch a gofal i ddioddefwyr, a thystion i, droseddau difrifol a threfnedig y mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn ystyried eu bod mewn perygl o niwed difrifol.

  1. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a threfnedig 2018’; Llywodraeth EM, ‘Adolygiad Gallu Diogelwch Cenedlaethol’, Mawrth 2018. Ar-lein yn: http://www.nationalcrimeagency. gov.uk/publications/905-national-strategic-assessment-for-soc-2018; a https://www.gov.uk/government/publications/ national-security-strategy-and-strategic-defence-and-security-review-2015

  2. Y Swyddfa Gartref, Deall Troseddau Trefnedig: Amcangyfrif y raddfa a’r costau cymdeithasol ac economaidd, Tachwedd 2018. 

  3. Ein mesur gorau o dueddiadau troseddu hirdymor ar sylfaen gyson, mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dangos gostyngiad o 34% mewn troseddau cymaradwy ers 2010. Ar-lein yn: https://www.ons.gov.uk/ peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/bulletins/crimeinenglandandwales/yearendingjune2018

  4. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/national-security-strategy-and-strategic-defence-and-security-review-2015

  5. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/counter-terrorism-strategy-contest-2018

  6. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/uk-anti-corruption-strategy-2017-to-2022

  7. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/national-cyber-security-strategy-2016-to-2021

  8. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/modern-slavery-strategy

  9. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/serious-violence-strategy

  10. Ar-lein yn: https://www.gov.scot/Publications/2015/06/3426/downloads

  11. Ar-lein yn: https://www.octf.gov.uk/Publications/N-I-Organised-Crime-Strategy/The-Northern-Ireland-Organised-Crime-Strategy-2016

  12. Mae gan yr NCA drefniadau gweithio cytunedig yn y gwledydd datganoledig. Yn yr Alban, mae pwerau’r NCA i weithredu yn amodol ar awdurdodiad gan yr Arglwydd Adfocad a thrwy gydweithredu â Police Scotland. Mae’r NCA yn aelod o Dasglu Troseddau Difrifol Trefnedig yr Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r NCA yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a phartneriaid gweithredol eraill, â chydsyniad y Prif Gwnstabl ac mae’n aelod o Dasglu Troseddau Trefnedig Gogledd Iwerddon. 

  13. Ar-lein yn: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/bulletins/ crimeinenglandandwales/yearendingjune2018

  14. Mae fersiwn 2018 ar gael ar-lein yn: http://www.nationalcrimeagency.gov.uk/publications/905-national-strategic-assessment-for-soc-2018

  15. Mae Mapio Grwpiau troseddau trefnedig yn offeryn gorfodi’r gyfraith sy’n mapio nodweddion unigolion a grwpiau sy’n ymwneud â throseddau difrifol a threfnedig. Er y gall nifer y grwpiau troseddau trefnedig fod yn ddangosydd defnyddiol o raddfa troseddau difrifol a threfnedig yn y DU, nid yw’n cipio unigolyn sy’n troseddu (e.e. ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant a’u cam-drin yn rhywiol) ac felly graddfa lawn y bygythiad. 

  16. Y Swyddfa Gartref, Deall troseddau trefnedig: Amcangyfrif y raddfa a’r costau cymdeithasol ac economaidd, Tachwedd 2018 Mae’r ffigur hwn yn debygol o fod yn amcangyfrif rhy isel, o gofio absenoldeb data dibynadwy i gynnwys amcangyfrifon arno ar gyfer mathau penodol o droseddau megis camfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein a gwyngalchu arian. 

  17. Y Swyddfa Gartref, Camddefnyddio Cyffuriau: Canfyddiadau o Arolwg Troseddu 2017/18 ar gyfer Cymru a Lloegr’, Bwletin Ystadegol 14/18, Gorffennaf 2018. 

  18. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2018), ‘Marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau, Cymru a Lloegr – cofrestriadau 2017’. Ar gael ar-lein yn: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/ birthsdeathsandmarriages/deaths/bulletins/deathsrelatedtodrugpoisoninginenglandandwales/2017registrations

  19. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Marwolaethau Diweddar posibl Cysylltiedig â Fentanyl, Ebrill 2017. 

  20. Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddu, Adroddiad Newydd UNODC: Cnydau Coca yn Colombia yn cynyddu o fwy na 50 y cant mewn blwyddyn. Ar-lein yn: https://www.unodc.org/unodc/en/press/releases/2017/ July/new-unodc-report_-coca-crops-in-colombia-increase-over-50-per-cent-in-one-year.html

  21. Llywodraeth EM, ‘Sefyllfa cyffuriau’r Deyrnas Unedig: Adroddiad blynyddol Pwynt Ffocol’. 

  22. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a threfnedig 2018’. 

  23. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a threfnedig 2018’. 

  24. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a threfnedig 2018’. 

  25. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Ystadegau’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol – Crynodeb Diwedd y Flwyddyn 2017, Mawrth 2018. 

  26. Llywodraeth yr Alban, Troseddau Difrifol Trefnedig (SOC) yn yr Alban: Crynodeb o’r Dystiolaeth, Rhagfyr 2017; Sefydliad yr Heddlu, Effaith Troseddau Trefnedig mewn Cymunedau Lleol, Rhagfyr 2016. 

  27. Swyddfa Ystadegau Gwladol, Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tablau Bwletin, Mehefin 2018. 

  28. Swyddfa Ystadegau Gwladol, Troseddu yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn yn dod i ben Mehefin 2018, Hydref 2018. 

  29. Y Swyddfa Gartref,’Deall troseddau trefnedig: Amcangyfrif y raddfa a’r costau cymdeithasol ac economaidd, Tachwedd 2018. 

  30. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a threfnedig 2018’. 

  31. Yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, ‘Arolwg Toriadau Seiberddiogelwch 2018’, Ebrill 2018. 

  32. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a threfnedig 2018’. 

  33. Mae ThinkUKnow yn rhaglen addysg gan CEOP. Mae rhagor o wybodaeth ar-lein yn: https://www.thinkuknow.co.uk

  34. Oherwydd y bygythiadau unigryw sy’n effeithio ar Ddinas Llundain a’r ardal fetropolitanaidd, mae rhai swyddogaethau ROCU, yn ogystal â galluoedd arbenigol eraill, yn cael eu darparu gan Wasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd (MPS), Heddlu Dinas Llundain a Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Mae enghreifftiau’n cynnwys unedau MPS sy’n canolbwyntio ar gaethwasiaeth fodern, asedau troseddol a gwyngalchu arian ac ymchwiliadau seiber a thwyll cymhleth. Cydnabyddir Heddlu Dinas Llundain fel yr arweinydd plismona cenedlaethol ar gyfer twyll, gan gynnal y Ganolfan Gudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol ac Action Fraud, canolfan riportio twyll a seiberdroseddu genedlaethol y DU. 

  35. Gweler tudalen 29 am ragor o fanylion ar Adroddiadau Gweithgareddau Amheus (SARs). 

  36. Ar-lein yn: http://whatworks.college.police.uk/Research/Documents/Menu_of_tactics.pdf

  37. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/data-ethics-framework/data-ethics-framework 

  38. Mae rhagor o wybodaeth ar-lein yn: https://www.stopitnow.org.uk

  39. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Adroddiad Blynyddol SARs 2017, Hydref 2017. 

  40. O dan Ran 7 o Ddeddf Elw Troseddau 2002, mae’n ofynnol i bersonau a busnesau unigol yn y sector rheoledig nid yn unig gyflwyno adroddiad cyn cwblhau’r trafodion neu weithgareddau amheus y byddant yn dod yn ymwybodol ohonynt, ond i beidio â chwblhau’r trafodion hyn hyd nes y derbynnir caniatâd penodol gan yr asiantaeth berthnasol sy’n gorfodi’r gyfraith. Gelwir hyn y ‘gyfundrefn gydsynio’. 

  41. Trysorlys EM a’r Swyddfa Gartref, ‘Asesiad risg cenedlaethol o wyngalchu arian ac ariannu terfysgol 2017’, Hydref 2017. 

  42. Mae rhagor o wybodaeth ar-lein yn: https://flagitup.campaign.gov.uk

  43. Mae aelod-asiantaethau GAIN yn cynnwys Cyngor Penaethiaid Cenedlaethol yr Heddlu, Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM, Y Swyddfa Eiddo Deallusol, Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, Fisâu a Mewnfudo y DU, Tŷ’r Cwmnïau, y Comisiwn Elusennau, Safonau Masnach Cenedlaethol, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Comisiynau Hapchwarae, Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, Y Gwasanaeth Ansolfedd, Yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur, NHS Protect, Asiantaeth yr Amgylchedd, Y Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO. Nid yw Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a Heddlu’r Alban yn aelodau craidd o GAIN ond maent yn gweithio â’r rhwydwaith fesul achos. 

  44. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a threfnedig 2017’, Mehefin 2017. 

  45. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/667221/6_3323_Anti-Corruption_Strategy_WEB.pdf

  46. Yr Adran Iechyd a Chanon Consulting, ‘Effeithiau iechyd camfanteisio’n rhywiol ar blant,’ Ionawr 2014. 

  47. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ‘Mae pobl sy’n cael eu cam-drin fel plant yn fwy tebygol o gael eu cam-drin fel oedolyn’, 27 Medi 2017. Ar-lein yn: http://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/articles/ peoplewhowereabusedaschildrenaremorelikelytobeabusedasanadult/2017-09-27

  48. Public Health England, ‘Caethwasiaeth Fodern ac Iechyd y Cyhoedd’, 7 Rhagfyr 2017. Ar-lein yn https://www.gov.uk/ government/publications/modern-slavery-and-public-health

  49. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar-lein yn: https://www.disrespectnobody.co.uk

  50. Yr Adran Addysg, ‘Cadw plant yn ddiogel mewn addysg: Cyfarwyddyd statudol ar gyfer ysgolion a cholegau’, Medi 2018. Ar-lein yn: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/741314/Keeping_Children_Safe_in_Education__3_September_2018_14.09.18.pdf

  51. Public Health England, ‘Camfanteisio’n rhywiol ar blant: Sut y gall iechyd y cyhoedd gefnogi atal ac ymyrryd’, Gorffennaf 2017. Ar-lein yn: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/ attachment_data/file/629315/PHE_child_exploitation_report.pdf

  52. Llywodraeth EM: Papur Gwyrdd Strategaeth Cymunedau Integredig, Mawrth 2018. 

  53. ‘Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’ (Cymru) a ‘Thryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi: Canllaw ymarferol’ (Lloegr). 

  54. Mae’r Ddarpariaeth Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn gosod y ddyletswydd hon ar fusnesau sydd â throsiant blynyddol o £36 miliwn neu uwch. 

  55. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/modern-crime-prevention-strategy

  56. Ar-lein yn: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/adhocs/007804proportionofadultinternetusersadoptingvariousonlinesecuritymeasuresbyageandsexyearendingmarch2014toyear endingmarch2017csew 

  57. Yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, ‘Arolwg Toriadau Seiberddiogelwch 2018’, Ebrill 2018. 

  58. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Active Cyber Defence ar gael ar-lein yn https://www.ncsc.gov.uk/active-cyber-defence

  59. Mae rhagor o wybodaeth ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/secure-by-design

  60. Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, Y Bygythiad Seiber i Fusnesau’r DU: Adroddiad 2017-18,Ebrill 2018. 

  61. Swyddfa Ystadegau Gwladol, Troseddu yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn yn dod i ben Mehefin 2018, Hydref 2018. 

  62. Y Swyddfa Gartref, ‘Deall troseddau trefnedig: Amcangyfrif y raddfa a’r costau cymdeithasol ac economaidd, Tachwedd 2018 

  63. Twyll ‘Cerdyn Ddim yn Bresennol’ yw’r math mwyaf cyffredin o dwyll â chardiau talu yn y DU; mae’n digwydd pan fydd unigolyn yn defnyddio cerdyn (neu fanylion cerdyn) i wneud taliadau ar-lein, dros y ffôn neu drwy archeb bost heb awdurdodiad deiliad y cerdyn. 

  64. Mae rhagor o wybodaeth ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/the-code-of-practice-for-victims-of-crime. Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddu – a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2015 yn unol â Rhan 3 o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 yn god ymarfer statudol sy’n nodi’r gwasanaethau mae’n rhaid eu darparu yn ôl y gyfraith i ddioddefwyr troseddu yng Nghymru a Lloegr gan asiantaethau cyfiawnder troseddol. 

  65. Ar-lein yn: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/ file/267982/u18-victims-code-leaflet.pdf

  66. Ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/publications/victims-strategy

  67. Wedi’i ddyfarnu trwy Gronfa Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’i ddyrannu gan y Swyddfa Gartref. 

  68. Y chwe awdurdod lleol yw Croydon, Redbridge, Leeds, Birmingham, Nottingham a Derby. 

  69. Bydd UKPPS yn goruchwylio’r Unedau Personau Gwarchodedig o fewn pob ROCU a Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon. Bydd yn parhau i alinio a gweithio’n agos â’r MPS a Heddlu’r Alban. 

  70. Ar-lein yn: http://www.npcc.police.uk/documents/policing%20vision.pdf

  71. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesu Cudd-wybodaeth: Llwybrau i Seiberdroseddu’, Ionawr 2016. 

  72. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesu Cudd-wybodaeth: Llwybrau i Seiberdroseddu’, Ionawr 2017. 

  73. Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ‘Asesu Cudd-wybodaeth: Llwybrau i Seiberdroseddu’, Ionawr 2017. 

  74. Gellir gwneud STPOs mewn perthynas ag unigolyn nad yw wedi cael ei euogfarnu o drosedd caethwasiaeth neu fasnachu ond y credir bod risg y bydd yn cyflawni trosedd o’r fath, er mwyn atal niwed difrifol i’r cyhoedd. 

  75. Mae rhagor o wybodaeth am y Gofyniad Plismona Strategol ar gael ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/ publications/strategic-policing-requirement

  76. Mae rhagor o wybodaeth ar y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol a’r Pwyllgor Diwygio Cymdeithasol wedi’i nodi yn Rhan Pedwar. 

  77. Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM a Gwasanaethau Tân ac Achub, ‘PEEL: Effeithiolrwydd yr Heddlu 2017, Trosolwg Cenedlaethol’, Mawrth 2018. 

  78. Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM a Gwasanaethau Tân ac Achub, ‘PEEL: Effeithiolrwydd yr Heddlu 2015, Trosolwg Cenedlaethol’, Chwefror 2016; Arolygiaeth Cwnstabliaeth EM a Gwasanaethau Tân ac Achub, ‘PEEL: Effeithiolrwydd yr Heddlu 2017, Trosolwg Cenedlaethol’, Mawrth 2018. 

  79. Mae rhagor o wybodaeth ar-lein yn: https://www.gov.uk/government/organisations/stabilisation-unit

  80. Partneriaeth ddiogelwch yw Five Eyes sy’n cynnwys Awstralia, Canada, Seland Newydd, y DU a’r Unol Daleithiau. 

  81. Mynychir cyfarfod Gweinidogion y Pum Gwlad gan weinidogion o bartneriaid diogelwch Five Eyes (Awstralia, Canada, Seland Newydd, y DU a’r Unol Daleithiau). 

  82. Mynychir yr NSC gan weinidogion y Cabinet, Pennaeth y Staff Amddiffyn a Phenaethiaid Asiantaethau Cuddwybodaeth yn mynychu os oes angen. Cadeirir Pwyllgor Diwygio Cymdeithasol y Cabinet gan y Prif Weinidog ac mae’n cynnwys Ysgrifennyddion Gwladol o naw adran y llywodraeth.