Canllawiau

Cynlluniau arbed treth — hysbysiadau dilynwr a thaliadau cyflymedig

Diweddarwyd 29 September 2022

Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi am eich bod wedi defnyddio cynllun arbed treth, a byddwn yn ysgrifennu atoch maes o law i roi gwybod i chi am y canlynol:

  • cymryd camau unioni i osgoi cosb – rhoddir eglurhad am hyn isod yn yr adran ‘Gair am ddilynwyr, hysbysiadau dilynwr a thaliadau cyflymedig’
  • gwneud taliad o’r swm sy’n ymwneud â’ch defnydd o’r cynllun

Os ydych yn aelod o bartneriaeth, rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi gan fod y cynllun arbed treth a ddefnyddiwyd gan y bartneriaeth yn ymwneud â Threth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar dudalen 6 o’r daflen wybodaeth hon. Os yw’r bartneriaeth wedi defnyddio cynllun arbed treth ar gyfer treth arall neu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG), efallai y bydd angen i chi hefyd ddarllen taflen wybodaeth CC/FS25b, ‘Cynlluniau arbed treth – hysbysiadau dilynwr ar gyfer partneriaeth a thaliadau cyflymedig gan bartner’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS25b’.

Pan fydd y daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at dreth, mae hyn yn cynnwys CYG Dosbarth 4 sy’n cael eu casglu drwy Hunanasesiad. Ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2015 i 5 Ebrill 2016 a blynyddoedd treth diweddarach, mae hefyd yn cynnwys y rhan fwyaf o CYG Dosbarth 2 sy’n cael eu casglu drwy Hunanasesiad.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Gwybodaeth am arbed treth a chynlluniau arbed treth

Mae arbed treth yn golygu plygu rheolau’r system dreth er mwyn ennill mantais dreth mewn ffordd nad oedd gan y Senedd mewn golwg erioed. Yn aml, mae’n golygu trafodion ffug, artiffisial nad oes fawr o bwrpas iddynt heblaw creu’r fantais hon. Mae’n golygu glynu wrth lythyren, ond nid ysbryd, y gyfraith. Nid yw’r rhan fwyaf o gynlluniau arbed treth yn gweithio o gwbl. Gall yr unigolion hynny sy’n eu defnyddio gael eu hunain yn talu mwy na’r dreth y gwnaethant geisio’i harbed ar ôl i Gyllid a Thollau EM eu herio’n llwyddiannus.

Mae’r term ‘arbed treth’ yn cynnwys ‘arbed CYG’.

Gair am ddilynwyr, hysbysiadau dilynwr a thaliadau cyflymedig

Ar 17 Gorffennaf 2014, cafodd deddfwriaeth treth ei chyflwyno sy’n effeithio ar yr unigolion hynny sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth. Cafodd cwmpas y ddeddfwriaeth honno ei ehangu i gynnwys CYG o 12 Ebrill 2015 ymlaen. Nod y ddeddfwriaeth yw:

  • gwella pa mor gyflym y mae anghydfodau ynghylch cynlluniau arbed treth yn cael eu setlo, pan ddangoswyd, mewn achos a gafodd ei ymladd gan unigolyn arall, fod egwyddor sy’n sail i’r cynllun yn aneffeithiol
  • cael gwared â’r fantais llif arian sydd gan y rheiny sy’n defnyddio cynlluniau arbed treth drwy fynnu eu bod yn gwneud taliad ymlaen llaw o’r dreth a/neu’r CYG sy’n destun yr anghydfod, er mwyn i’r Trysorlys gadw’r arian yn ystod yr anghydfod

Dilynwyr

Pan fydd gennym nifer o achosion arbed treth tebyg iawn, yn aml byddwn yn ymchwilio i achosion cynrychiadol, gan gymryd camau ymgyfreithio os yw’n angenrheidiol. Os bydd y llys neu’r tribiwnlys yn canfod nad oes mantais dreth neu CYG yn deillio o’r cynllun yn yr achosion hynny, caiff yr anghydfodau yn yr achosion hynny eu setlo. Yna, gallwn adennill y dreth a/neu’r CYG sy’n ddyledus.

Mae dilynwyr yn unigolion sydd wedi defnyddio:

  • yr un cynllun ag a ddefnyddiwyd mewn achos cynrychiadol
  • cynllun gwahanol, ond lle y mae egwyddor yn y cynllun hwnnw’n ddigon tebyg i’r cynllun a ddefnyddiwyd mewn achos cynrychiadol

Cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014, nid oedd llawer o gymhelliad i ddilynwyr dderbyn bod canfyddiadau’r llys neu’r tribiwnlys mewn achos cynrychiadol yn golygu nad oedd eu defnydd eu hunain o’r cynllun yn ennill y fantais dreth neu CYG.

Hysbysiadau dilynwr

Os yw llys neu dribiwnlys wedi dyfarnu’n derfynol nad oes mantais dreth neu CYG yn deillio o gynllun arbed treth, mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ni anfon hysbysiadau dilynwr at y dilynwyr.

Mae hysbysiad dilynwr yn rhoi gwybod i’r dilynwr y bydd yn agored i dalu cosb os na fydd yn setlo’i anghydfod â ni. Mae swm y gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd yn hafal i 50% o’r dreth neu’r CYG sy’n destun yr anghydfod (cyfeirir at hyn fel y ‘fantais a wadwyd’ yn yr hysbysiad dilynwr). Mae rhagor o wybodaeth am y math hwn o gosb yn yr adran ‘Cosbau am beidio â chymryd camau unioni’ ar dudalen 3 o’r daflen wybodaeth hon.

Nid yw’r ddeddfwriaeth ar gyfer hysbysiadau dilynwr yn effeithio ar eich hawl i apelio i’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’ch rhwymedigaeth treth neu CYG. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad dilynwr’ ar dudalen 3 o’r daflen wybodaeth hon

Taliadau cyflymedig

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r rheiny sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth wneud taliad cyflymedig. Bydd y taliad yn cyfateb i’r swm sy’n ymwneud â’u defnydd o’r cynllun hwnnw cyn i dribiwnlys neu lys gytuno neu benderfynu ar y swm terfynol.

Os bydd angen gwneud taliad cyflymedig, byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig at ddefnyddiwr cynllun arbed treth. Os yw defnyddiwr y cynllun arbed treth yn ddilynwr, efallai y byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr hefyd.

O dan rai amgylchiadau, rydym yn codi cosbau neu ordaliadau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar dudalennau 7 ac 8 o’r daflen wybodaeth hon.

Pryd y gallwn anfon hysbysiad dilynwr

  • Amod A – mae gwiriad cydymffurfio (y cyfeirir ato yn y ddeddfwriaeth fel ymchwiliad treth) ar y gweill o ran eu Ffurflen Dreth neu eu hawliad, neu mae apêl ar y gweill
  • Amod B – cyflwynir eu Ffurflen Dreth, eu hawliad neu eu hapêl ar y sail bod mantais dreth benodol yn deillio o’r trefniadau a ddewiswyd ganddynt
  • Amod C – rydym yn credu bod y dyfarniad barnwrol terfynol yn berthnasol i’r trefniadau a ddewiswyd ganddynt (am eu bod wedi defnyddio’r un cynllun neu gynllun tebyg)
  • Amod D – nid ydym wedi anfon hysbysiad dilynwr atynt yn flaenorol mewn perthynas â’r un cynllun, yr un fantais dreth, yr un cyfnod treth, a’r un dyfarniad barnwrol terfynol – oni bai ein bod wedi anfon un yn flaenorol ac yna ei dynnu’n ôl

Os gwnaeth llys neu dribiwnlys y dyfarniad terfynol cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014, gallwn anfon hysbysiad dilynwr ar unrhyw adeg hyd at a chan gynnwys 16 Gorffennaf 2016, neu 12 mis ar ôl i’r Ffurflen Dreth neu’r hawliad ddod i law, neu ar ôl i’r apêl gael ei gwneud, p’un bynnag sydd hwyraf.

Os gwnaeth llys neu dribiwnlys y dyfarniad terfynol ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, gallwn anfon hysbysiad dilynwr hyd at 12 mis: * ar ôl i’r llys neu’r tribiwnlys wneud y dyfarniad terfynol * ar ôl i’r Ffurflen Dreth neu’r hawliad ddod i law, neu ar ôl i’r apêl gael ei gwneud, p’un bynnag sydd hwyraf

Rhoi gwybod i chi eich bod yn gorfod dilyn rheolau’r hysbysiad dilynwr

Os oes rhaid i chi ddilyn rheolau’r hysbysiad dilynwr, byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr atoch a fydd yn rhoi gwybod i chi sut a phryd i gymryd camau unioni. Bydd hefyd yn rhoi gwybod i chi’r hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno ag ef.

Cymryd camau unioni

Bydd yr hysbysiad dilynwr yn rhoi gwybod i chi am gymryd y camau unioni angenrheidiol i gael gwared â’r fantais dreth sy’n deillio o ddefnyddio’r cynllun arbed treth (mae’r hysbysiad dilynwr yn defnyddio’r termau ‘gwrthweithio’ neu ‘ildio’). Bydd hyn yn golygu cymryd pa un bynnag o’r camau canlynol sy’n berthnasol:

  • diwygio’ch Ffurflen Dreth neu’ch hawliad
  • setlo’ch apêl
  • dod i gytundeb ysgrifenedig

Os cyflwynwch achos sy’n gwrthwynebu’r hysbysiad dilynwr, efallai y bydd angen i chi gymryd camau unioni erbyn dyddiad gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno achos yn adran nesaf y daflen wybodaeth hon.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad dilynwr

Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad dilynwr. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno achos i ni os ydych yn credu bod un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw Amod A, B neu D wedi’i fodloni
  • nid yw dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys a roddwyd yn yr hysbysiad yn berthnasol i’r cynllun arbed treth y gwnaethoch ei ddefnyddio
  • cawsoch yr hysbysiad ar ôl y dyddiad y dylem fod wedi’i anfon atoch

Mae gwybodaeth am yr amodau a’r terfynau amser hyn yn yr adran ‘Pryd y gallwn anfon hysbysiad dilynwr’ ar dudalen 2 o’r daflen wybodaeth hon.

Rhaid i’ch achos fod yn ysgrifenedig, a rhaid gwneud yn siŵr eich bod yn anfon eich llythyr cyn pen 90 diwrnod calendr i’r dyddiad yr ydych yn cael yr hysbysiad dilynwr. Byddwn wedyn yn ystyried yr hyn a nodwch ac yn rhoi gwybod i chi beth yw ein casgliadau. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom:

  • rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am eich achos
  • anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol sy’n ategu’ch achos

Ni allwch gyflwyno achos ar ôl i’r 90 diwrnod calendr fynd heibio. Mae hyn yn golygu, ar ôl i ni roi gwybod beth yw ein casgliadau, na chewch gyflwyno unrhyw achos ychwanegol os yw’r 90 diwrnod calendr eisoes wedi mynd heibio. Gwnewch yn siŵr, felly, eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth berthnasol i ni pan fyddwch yn cyflwyno’ch achos.

Os byddwch yn cyflwyno achos cyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad, ac nad ydym yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, efallai y bydd y dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni’n cael ei ymestyn. Y dyddiad cau fydd naill ai:

  • y dyddiad a ddangosir yn yr hysbysiad dilynwr
  • 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y cewch ein penderfyniad ar yr achos y gwnaethoch ei gyflwyno p’un bynnag sydd hwyraf

Os bydd y dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni’n cael ei ymestyn, bydd unrhyw gosb am beidio â chymryd y camau hynny’n gymwys o’r dyddiad cau estynedig.

Nid yw’r ddeddfwriaeth ar gyfer hysbysiadau dilynwr yn effeithio ar eich hawl i apelio ar y tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’ch rhwymedigaeth treth. Os cymerwch gamau o’r fath a’ch bod yn llwyddiannus – sy’n golygu eich bod yn ennill y fantais dreth a oedd yn sail i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, eich hawliad neu’ch apêl – byddwn yn canslo unrhyw gosb yr ydym wedi’i chodi arnoch am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd.

Cosbau am beidio â chymryd camau unioni

Os penderfynwch beidio â chymryd camau unioni mewn pryd, byddwch yn agored i dalu cosb – oni bai ein bod ni neu’r tribiwnlys yn cytuno mai peidio â chymryd camau unioni oedd y peth rhesymol o dan yr amgylchiadau (darllenwch yr adran ‘Apelio yn erbyn y gosb os ydych yn anghytuno’ ar dudalen 4).

Bydd y gosb am beidio â chymryd camau unioni’n hafal i 50% o’r fantais dreth a oedd yn sail i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, eich hawliad neu’ch apêl.

Os codwn gosb arnoch, byddwn yn anfon ‘hysbysiad o asesiad o gosb’ atoch sy’n rhoi gwybod i chi sut yr ydym wedi cyfrifo swm y gosb.

Mae rhagor o wybodaeth am gosbau ar gael yn ein taflen wybodaeth CCFS30a, ‘Cynlluniau arbed treth – cosbau ar gyfer hysbysiadau dilynwr’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS30a’.

Gostwng y gosb os ydych yn cydweithredu â ni

Gallwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb os ydych wedi cydweithredu â ni cyn i ni anfon hysbysiad o asesiad o gosb.

Rydych wedi cydweithredu â ni os ydych wedi gwneud un neu fwy o’r canlynol:

  • rhoi cymorth rhesymol i ni wrth gyfrifo swm y fantais dreth
  • gwrthweithio’r fantais a wadwyd, ond ar ôl i chi ddod yn agored i gosb (neu wedi ildio’r fantais a wadwyd os yw’ch hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl)
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i gymryd camau cywiro
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i ddod i gytundeb â chi i wrthweithio’r fantais a wadwyd
  • rhoi mynediad i ni at gofnodion treth fel y gallwn wneud yn siŵr bod y fantais dreth yn cael ei gwrthweithio’n llawn

Ni allwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb i lai na 10%.

Apelio yn erbyn y gosb os ydych yn anghytuno

Os codwn gosb arnoch am beidio â chymryd camau unioni, byddwch yn gallu apelio yn ei herbyn os ydych yn anghytuno.

Gallwch apelio yn erbyn swm y gosb. Gallwch apelio hefyd os ydych yn credu bod un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw Amod A, B neu D wedi’i fodloni mewn perthynas â’r hysbysiad dilynwr
  • nid yw dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys a roddwyd yn yr hysbysiad dilynwr yn berthnasol i’r cynllun arbed treth y gwnaethoch ei ddefnyddio
  • cawsoch yr hysbysiad dilynwr ar ôl y dyddiad y dylem fod wedi’i anfon atoch (mae’r dyddiad cau i’w weld yn yr hysbysiad dilynwr)

Os yw’ch rhwymedigaeth treth wedi’i setlo ar y sail:

  • eich bod yn ennill y fantais dreth, byddwn yn canslo’r gosb
  • nad ydych yn ennill y fantais dreth, yna bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb oni bai eich bod wedi apelio yn ei herbyn yn llwyddiannus

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau hysbysiadau dilynwr

Mae Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried codi cosbau.

Rydym bob amser yn croesawu’ch cydweithrediad wrth gymryd camau unioni, ac wrth roi gwybodaeth am y fantais dreth. Os codwn gosb arnoch am beidio â chymryd camau unioni, bydd swm y gosb yn dibynnu ar faint yr ydych yn cydweithredu â ni. Cafodd hyn ei egluro’n gynharach yn y daflen wybodaeth hon.

Byddwn hefyd yn croesawu unrhyw gymorth a rowch i ni pan fyddwn yn pennu swm unrhyw gosb a godwn arnoch am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd. Pan fyddwn yn ystyried cosbau, mae gennych yr hawl i beidio ag ateb ein cwestiynau. Eich dewis chi’n llwyr yw i ba raddau yr ydych yn ein helpu. Mae gennych yr hawl i gysylltu ag ymgynghorydd wrth benderfynu faint y byddwch yn cydweithredu â ni. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai yr hoffech ystyried cysylltu ag un.

Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol. Os codwn gosb arnoch, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint yw swm y gosb sy’n ddyledus pan fyddwn wedi gweld faint yn union yr ydych wedi cydweithredu â ni, yn ogystal â swm y fantais dreth. Os ydych yn anghytuno â’r gosb, gallwch apelio.

Mae gennych yr hawl i wneud cais am gymorth cyfreithiol (legal aid) neu gynhorthwy cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i’ch helpu i ddod â rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os codwn gosb arnoch, a’ch bod yn bwriadu apelio yn erbyn swm y gosb, efallai yr hoffech wirio a yw’ch achos yn gymwys ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol, yn ogystal â’r math o help a allai fod ar gael. Nid oes gennym unrhyw ran i’w chwarae wrth benderfynu a fydd eich achos yn gymwys ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol. Mae’r ffordd y gallwch wirio pa gymorth sydd ar gael a’r amodau cymhwyso’n dibynnu ar ble yn y DU yr ydych yn byw. Gallwch gael rhagor o fanylion gan Gyngor ar Bopeth, neu gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol a ariennir, neu gymorth cyfreithiol, drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.

Os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn, neu’r hyn y maent yn ei olygu i chi, rhowch wybod i’r swyddog a roddodd y daflen wybodaeth hon i chi.

Pryd y gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig

Gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig at unigolyn sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth os caiff amodau penodol eu bodloni. Mae’r amodau hynny wedi’u nodi yn Adran 219 o Ddeddf Cyllid 2014 ac Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2015. Mae’r amodau hynny fel a ganlyn:

  • Amod A — mae gwiriad cydymffurfio ar y gweill o ran ei Ffurflen Dreth neu ei hawliad, neu mae apêl ar y gweill
  • Amod B — cyflwynir y Ffurflen Dreth, yr hawliad neu’r apêl ar y sail bod mantais dreth yn deillio o’r cynllun arbed treth a ddefnyddiwyd
  • Amod C — mae o leiaf un o’r canlynol yn gymwys:
    • rydym wedi rhoi hysbysiad dilynwr i’r unigolyn
    • mae’r unigolyn wedi defnyddio trefniadau y mae’n rhaid eu datgelu o dan y ddeddfwriaeth Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (‘Disclosure of Tax Avoidance Schemes’, neu DOTAS)
    • mae’r unigolyn yn agored i hysbysiad gwrthweithio o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (‘General Anti-Abuse Rule’, neu GAAR)

Mae’r ddeddfwriaeth treth sy’n ymdrin â thaliadau cyflymedig yn cyfeirio at wiriad cydymffurfio fel ‘ymchwiliad treth’.

Rhoi gwybod i chi am eich taliad cyflymedig

Os bydd angen i chi wneud taliad cyflymedig, byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig atoch a fydd yn rhoi gwybod i chi:

  • faint y mae angen i chi ei dalu a phryd
  • sut yr ydym wedi cyfrifo’r swm y mae angen i chi ei dalu
  • yr hyn y gallwch ei wneud os ydych yn anghytuno ag ef

Sut yr ydym yn cyfrifo swm taliad cyflymedig

Y swm sy’n daladwy fydd y swm sy’n ymwneud â’r fantais dreth y mae defnyddio’r cynllun arbed treth yn ceisio’i hennill. Mae’r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at hyn fel y ‘dreth a danddatganwyd’ mewn achosion lle y mae gwiriad cydymffurfio ar y gweill, neu fel y ‘dreth y mae anghydfod yn ei chylch’ mewn achosion lle y mae apêl ar y gweill.

Byddwn yn cyfrifo’r swm hyd eithaf ein gwybodaeth a’n cred. Os nad oes gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, efallai na fyddwn yn gallu cyfrifo’r union swm sy’n ddyledus. Mae hyn yn golygu y gall y swm a ddangosir yn yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig fod yn wahanol i’r swm sy’n ddyledus pan fydd eich gwiriad cydymffurfio wedi’i gwblhau, neu pan fydd eich apêl wedi’i setlo.

Fel arfer, byddwn yn ad-dalu unrhyw swm yr ydych wedi’i ordalu ac unrhyw log sy’n ddyledus i chi ar y swm a ordalwyd. Byddwn yn gwneud hyn os yw’r swm yn yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn fwy na’r swm y canfyddwn ei fod yn ddyledus ar ôl i’ch gwiriad cydymffurfio ddod i ben, neu ar ôl i’ch apêl gael ei setlo.

Talu’r hyn sydd arnoch

Bydd taliad yn ddyledus 90 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad y byddwch yn cael yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig. Os byddwch yn cyflwyno achos sy’n gwrthwynebu’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, gallai’r dyddiad ar gyfer talu newid. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig’ ar dudalen 8 o’r daflen wybodaeth hon.

Os byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr atoch yn ogystal â hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, dylech dalu’r taliad cyflymedig p’un a ydych yn mynd i gymryd camau unioni ai peidio. Mae hyn oherwydd y gallech fod yn agored i gosbau am dalu’n hwyr neu ordaliadau am dalu’r taliad cyflymedig yn hwyr. Bydd yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn rhoi gwybod i chi a fyddwch yn agored i gosbau neu ordaliadau am dalu’n hwyr.

Trafferthion talu

Os ydych o’r farn y gallech gael trafferthion talu, rhowch wybod i ni ar unwaith.

Treth Dir y Tollau Stamp — partneriaethau a phrynwyr ar y cyd

Os yw’r defnydd o’r cynllun arbed treth yn ymwneud â Threth Dir y Tollau Stamp, a’ch bod naill ai’n aelod o bartneriaeth neu’n brynwr ar y cyd, byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr a hysbysiad i wneud taliad cyflymedig at bob partner cyfrifol neu brynwr ar y cyd. Mae hyn oherwydd bod pob partner cyfrifol neu brynwr ar y cyd, yn ôl y gyfraith, yn gyfrifol am gymryd y camau unioni angenrheidiol ac am dalu’r taliad cyflymedig cyfan. Caiff hyn ei egluro’n fanylach isod.

Ystyr y term ‘partner cyfrifol’ yw unigolyn a oedd yn bartner ar y dyddiad y daeth y trafodyn ar gyfer Treth Dir y Tollau Stamp i rym, ac unrhyw unigolyn sy’n dod yn aelod o’r bartneriaeth ar ôl y dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, nid yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ni adennill taliad cyflymedig oddi wrth unigolyn na ddaeth yn bartner cyfrifol tan ar ôl y dyddiad y daeth y trafodyn i rym.

Hysbysiad dilynwr

Mater i’r partneriaid cyfrifol neu’r prynwyr ar y cyd yw penderfynu pa gamau unioni i’w cymryd a phwy fydd yn eu cymryd. Nid oes angen i ni wybod y manylion – cyn belled â bod camau unioni’n cael eu cymryd. Os nad yw camau unioni’n cael eu cymryd mewn pryd, bydd pob partner cyfrifol neu brynwr ar y cyd yn agored i dalu cosb, ar y cyd ac yn unigol. Caiff hyn ei egluro’n fanylach isod yn yr adran ‘Rhwymedigaeth cyd ac unigol’.

Mae rhagor o wybodaeth am gosbau am beidio â chymryd camau unioni ar dudalennau 3 a 4 o’r daflen wybodaeth hon.

Hysbysiad i wneud taliad cyflymedig

Bydd pob hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn dangos y swm llawn sy’n ddyledus. Mater i’r partneriaid cyfrifol neu’r prynwyr ar y cyd yw penderfynu pwy fydd yn gwneud y taliad cyflymedig. Nid oes angen i ni wybod y manylion – cyn belled â bod y taliad cyflymedig yn cael ei wneud yn llawn.

Os codwn unrhyw gosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd, bydd pob partner cyfrifol neu brynwr ar y cyd yn agored i dalu swm llawn y gosb, ar y cyd ac yn unigol. Caiff hyn ei egluro’n fanylach isod yn yr adran ‘Rhwymedigaeth cyd ac unigol’. Mae rhagor o wybodaeth am gosbau am beidio â gwneud taliad cyflymedig ar dudalennau 8 a 9 o’r daflen wybodaeth hon.

Rhwymedigaeth cyd ac unigol

Ar gyfer Treth Dir y Tollau Stamp, mae pob partner cyfrifol neu brynwr ar y cyd yn gyfrifol am dalu’r swm sy’n ddyledus – gan gynnwys unrhyw gosbau am dalu’n hwyr. Yr enw ar hyn yw rhwymedigaeth cyd ac unigol – weithiau, cyfeirir at hyn fel bod yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i rywbeth. Mewn perthynas â hysbysiadau i wneud taliad cyflymedig a hysbysiadau dilynwr, mae’n golygu y gallwn fynnu bod unrhyw un neu fwy o’r partneriaid cyfrifol neu’r prynwyr ar y cyd yn:

  • gwneud y taliad cyflymedig
  • talu unrhyw gosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd
  • talu unrhyw gosbau am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd

Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu — partneriaethau

Os yw’r defnydd o’r cynllun arbed treth yn ymwneud â Threth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu a’ch bod yn aelod o bartneriaeth, byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr a hysbysiad i wneud taliad cyflymedig at bob partner cyfrifol. Mae hyn oherwydd bod pob partner cyfrifol neu brynwr ar y cyd, yn ôl y gyfraith, yn gyfrifol am gymryd y camau unioni angenrheidiol ac am wneud y taliad cyflymedig cyfan. Caiff hyn ei egluro’n fanylach isod.

Mae’r term ‘partner cyfrifol’ yn golygu unigolyn a oedd yn aelod o’r bartneriaeth ar y diwrnod cyntaf yn y cyfnod trethadwy pan oedd y bartneriaeth yn bodloni’r amodau perchnogaeth at ddibenion Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu.

Hysbysiad dilynwr

Mater i’r partneriaid cyfrifol yw penderfynu pa gamau unioni i’w cymryd a phwy fydd yn eu cymryd. Nid oes angen i ni wybod y manylion – cyn belled â bod camau unioni’n cael eu cymryd. Os na fydd camau unioni’n cael eu cymryd mewn pryd, bydd pob partner cyfrifol yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i dalu cosb. Caiff hyn ei egluro’n fanylach isod yn yr adran ‘Rhwymedigaeth cyd ac unigol’. Mae rhagor o wybodaeth am gosbau am beidio â chymryd camau unioni ar dudalennau 3 a 4 o’r daflen wybodaeth hon.

Hysbysiad i wneud taliad cyflymedig

Bydd pob hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn dangos y swm llawn sy’n ddyledus. Mater i’r partneriaid cyfrifol yw penderfynu pwy fydd yn talu’r taliad cyflymedig. Nid oes angen i ni wybod y manylion – cyn belled â bod y taliad cyflymedig yn cael ei wneud yn llawn.

Os codwn gosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd, bydd pob partner cyfrifol yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i dalu swm llawn y gosb. Caiff hyn ei egluro’n fanylach isod yn yr adran ‘Rhwymedigaeth cyd ac unigol’. Mae rhagor o wybodaeth am gosbau am beidio â gwneud taliad cyflymedig ar dudalennau 8 a 9 o’r daflen wybodaeth hon.

Rhwymedigaeth cyd ac unigol

Ar gyfer Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu, mae pob partner cyfrifol yn gyfrifol am dalu’r swm dyledus – gan gynnwys unrhyw gosbau am dalu’n hwyr. Yr enw ar hyn yw rhwymedigaeth cyd ac unigol – weithiau, cyfeirir at hyn fel bod yn agored, ar y cyd ac yn unigol, i rywbeth. Mewn perthynas â hysbysiadau i wneud taliad cyflymedig neu hysbysiadau dilynwr, mae’n golygu y gallwn fynnu bod unrhyw un neu fwy o’r partneriaid cyfrifol yn:

  • gwneud y taliad cyflymedig
  • talu unrhyw gosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd
  • talu unrhyw gosbau am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd

Cosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd os oes gwiriad cydymffurfio ar y gweill

Os oes gwiriad cydymffurfio ar y gweill, ac nad ydych yn talu’r swm llawn a ddangosir yn eich hysbysiad i wneud taliad cyflymedig erbyn y dyddiad dyledus, byddwch yn agored i gosb. Os codwn gosb arnoch, bydd yn rhaid i chi ei thalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn ar neu cyn:

  • y dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • 5 mis i’r dyddiad dyledus, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y 5% a grybwyllwyd yn y pwynt bwled uchod
  • 11 mis i’r dyddiad dyledus, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y ddwy gosb gynharach o 5%

Mae’r cosbau hyn yn berthnasol i’r holl drethi sy’n cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth ar daliadau cyflymedig.

Gordaliadau a chosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd os oes apêl ar y gweill

Gordaliadau a chosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd os oes apêl ar y gweill

Os yw’ch hysbysiad i wneud taliad cyflymedig:

  • yn ymwneud â Threth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf
  • ar gyfer y flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2009 i 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny

ac nad ydych yn talu’r swm llawn a ddangosir ar yr hysbysiad, byddwch yn agored i ordal. Os codwn ordal o’r fath arnoch, bydd yn rhaid i chi’i dalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn:

  • cyn pen 28 diwrnod i’r dyddiad dyledus, byddwch yn agored i ordal sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • ar neu cyn chwe mis i’r dyddiad dyledus, byddwch yn agored i ordal pellach sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch – mae hyn ar ben y 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod

Cosbau am hysbysiadau i wneud taliad cyflymedig sy’n ymwneud â Threth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu

Os yw’ch hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn ymwneud â’r canlynol:

  • Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf, ac mae ar gyfer y flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2010 i 5 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny
  • Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu

ac nad ydych yn talu’r swm llawn a ddangosir ar yr hysbysiad, byddwch yn agored i gosb. Os codwn gosb o’r fath arnoch, bydd yn rhaid i chi’i thalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig.

‘Y dyddiad cosb’ yw’r enw a roddir ar y dyddiad pan fyddwch yn dod yn agored i gosb o’r fath. Y dyddiad cosb fydd 31 diwrnod ar ôl y dyddiad yr oeddech i fod i wneud y taliad cyflymedig.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn:

  • erbyn y dyddiad cosb, byddwch yn agored i gosb gychwynnol, fydd yn hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • ar neu cyn pum mis i’r dyddiad cosb, byddwch yn agored i gosb bellach, fydd yn hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch – yn ogystal â’r 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod
  • ar neu cyn 11 mis i’r dyddiad cosb, byddwch yn agored i dalu ail gosb bellach, fydd yn hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch – mae hyn ar ben y ddwy gosb gynharach o 5%

Gwybodaeth gyffredinol am gosbau a gordaliadau am beidio â thalu’r taliad cyflymedig mewn pryd

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb neu ordal

Byddwn yn anfon hysbysiad atoch i roi gwybod i chi faint yw’r gosb neu’r gordal. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi sut gwnaethom ei gyfrifo.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylem ystyried unrhyw amgylchiadau arbennig wrth gyfrifo’r gosb neu’r gordal, rhowch wybod i ni ar unwaith.

Pryd na fyddwn yn codi cosb neu ordal am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd

Ni fyddwn yn codi gordal na chosbau arnoch am dalu’ch taliad cyflymedig yn hwyr os oedd gennych esgus rhesymol dros dalu’n hwyr – cyn belled â’ch bod wedi talu heb oedi pan ddaeth yr esgus rhesymol i ben.

Esgus rhesymol yw rhywbeth sy’n rhwystro person rhag bodloni rhwymedigaeth treth mewn pryd, pan fydd wedi cymryd gofal rhesymol i’w bodloni. Gall hyn fod o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i’r person unioni pethau heb oedi diangen.

Bydd amgylchiadau penodol o ran methiant y person i fodloni’r ymrwymiad treth, yn ogystal â’i amgylchiadau a’i allu penodol, yn pennu a oes ganddo esgus rhesymol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall.

Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os derbyniwn fod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi gordal na chosb arnoch. Os ydym eisoes wedi codi cosb neu ordal arnoch am beidio â thalu mewn pryd, byddwn yn ei chanslo.

Os ydych yn anghytuno ag unrhyw gosbau neu ordaliadau yr ydym wedi’u codi?

Os byddwn yn codi unrhyw gosbau neu ordaliadau arnoch am wneud y taliad cyflymedig yn hwyr, byddwch yn gallu apelio yn eu herbyn os ydych yn anghytuno. Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

Llog am dalu’n hwyr

Nid ydym yn codi llog am wneud y taliad cyflymedig ei hun yn hwyr. Fodd bynnag, rydym yn codi llog am dalu treth yn hwyr – o’r dyddiad yr oedd y dreth yn ddyledus yn wreiddiol, hyd at y dyddiad y caiff ei thalu.

Pan fydd eich sefyllfa o ran treth wedi’i setlo, byddwn yn cyfrifo a oes unrhyw log i chi’i dalu. At ddibenion llog, byddwn yn trin y swm a dalwch mewn perthynas â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig fel petai’n daliad o’r dreth. Bydd hyn yn golygu na fydd llog yn cronni mwyach ar swm y dreth sy’n hafal i swm y taliad cyflymedig a dalwch, a hynny o’r dyddiad yr ydych yn ei dalu.

Gallwn hefyd godi llog ar unrhyw gosb neu ordal a delir yn hwyr.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig

Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad i wneud taliad cyflymedig. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno achos i ni os ydych o’r farn bod un neu’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw’r amodau ar gyfer anfon yr hysbysiad wedi’u bodloni – dangosir y rhain yn yr adran ‘Pryd y gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig’ ar dudalen 5 o’r daflen wybodaeth hon
  • nid yw’r swm a ddangosir ar yr hysbysiad yn gywir – os felly, bydd angen i chi roi gwybod i ni beth ddylai’r swm cywir fod yn eich barn chi a pham

Rhaid i’ch achos fod yn ysgrifenedig, mae’n rhaid gwneud yn siŵr eich bod yn anfon eich llythyr cyn pen 90 diwrnod calendr i’r dyddiad yr ydych yn cael yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig. Byddwn, wedyn, yn ystyried yr hyn a nodwch ac yn rhoi gwybod i chi beth yw ein casgliadau. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom:

  • rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am eich achos
  • anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol sy’n ategu’ch achos

Ni allwch gyflwyno achos ar ôl i’r 90 diwrnod calendr fynd heibio. Mae hyn yn golygu, ar ôl i ni roi gwybod am yr hyn yr ydym wedi’i ganfod, na chewch gyflwyno achos pellach os yw’r 90 diwrnod calendr eisoes wedi mynd heibio. Gwnewch yn siŵr, felly, eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth berthnasol i ni pan fyddwch yn cyflwyno’ch achos.

Os byddwch yn cyflwyno achos, ni allwch ofyn am i’r swm a ddangosir yn yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig gael ei ohirio.

Fodd bynnag, os cyflwynwch achos cyn y dyddiad cau ar gyfer talu, ac nad ydym yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, gellir gohirio’r dyddiad cau ar gyfer gwneud taliad. Bydd taliad yn ddyledus:

  • ar y dyddiad dyledus a ddangosir ar yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, neu
  • 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y cewch ein penderfyniad ar yr achos y gwnaethoch ei gyflwyno, p’un bynnag sydd hwyraf

Os yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud taliad yn cael ei ymestyn, bydd unrhyw gosbau am dalu’n hwyr yn gymwys o’r dyddiad cau estynedig.

Os ydych am setlo’ch materion treth

Os ydych am setlo’ch materion treth ar ôl i ni roi gwybod i chi y byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig neu hysbysiad dilynwr atoch, byddwn yn gweithio gyda chi i setlo’r gwiriad cydymffurfio neu’r apêl.

Mae penderfynu a ydych am setlo’ch materion treth yn eich dwylo chi’n gyfan gwbl. Os nad ydych am setlo, yna bydd y gwiriad cydymffurfio neu’r apêl yn dal i fod ar y gweill.

Eich hawl i apelio mewn perthynas â gwiriad cydymffurfio neu apêl sydd ar y gweill

Pan fyddwch yn gwneud y taliad cyflymedig, hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â chymryd y camau unioni y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad dilynwr, nid yw hyn yn golygu bod y gwiriad cydymffurfio neu’r apêl sydd ar y gweill wedi’i setlo.

Er na allwch apelio yn erbyn yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, nid yw’r ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu taliadau cyflymedig yn effeithio ar eich hawliau i apelio ar y tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’ch rhwymedigaeth treth.

Mae hyn yn golygu:

  • os oes gennych wiriad cydymffurfio ar y gweill, bydd gennych eich hawliau apelio llawn o hyd os nad ydych yn cytuno â chanlyniad y gwiriad hwnnw
  • os ydych eisoes wedi apelio yn erbyn canlyniad eich gwiriad cydymffurfio, asesiad neu ddyfarniad, bydd gennych eich hawliau apelio llawn o hyd

Os ydych wedi apelio, ac roeddem wedi gohirio’r dreth yr ydych yn dadlau yn ei chylch

Os ydym wedi anfon hysbysiad cau atoch mewn perthynas â gwiriad cydymffurfio, neu wedi anfon asesiad, dyfarniad neu fath arall o benderfyniad, a’ch bod wedi:

  • apelio yn erbyn yr hysbysiad cau, yr asesiad, y dyfarniad neu benderfyniad arall
  • gofyn i ni ohirio’r holl dreth sy’n destun anghydfod, neu ran ohoni

bydd y gohiriad o’r dreth sy’n destun anghydfod yn cael ei ganslo pan fyddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig atoch. Yna, bydd yn rhaid i chi dalu’r holl dreth a ohiriwyd yn flaenorol, a hynny drwy wneud y taliad cyflymedig. Mae hyn hefyd yn wir os penderfynwch beidio â chymryd y camau unioni y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad dilynwr.

Beth fydd yn digwydd os gwnewch y taliad cyflymedig a bod llys neu dribiwnlys yn dyfarnu yn nes ymlaen fod mantais treth yn deillio o’r cynllun?

Os bydd tribiwnlys neu lys yn penderfynu bod mantais dreth yn deillio o’r cynllun, byddem fel arfer yn ad-dalu’r swm yr ydych wedi’i dalu o dan yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, ynghyd ag unrhyw log sy’n ddyledus i chi.

Fodd bynnag, os byddwn yn apelio ar lys uwch neu dribiwnlys yn erbyn y penderfyniad, mewn rhai achosion gallwn hefyd ofyn am eu caniatâd i beidio ag ad-dalu’r swm i chi. Ni fyddem yn gwneud hyn, oni bai ein bod o’r farn bod perygl na fyddech yn talu’r swm sydd arnoch pe bai ein hapêl yn llwyddiannus.

Rhagor o wybodaeth

Y trethi y mae’r daflen wybodaeth hon yn berthnasol iddynt

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â thaliadau cyflymedig ar gyfer Treth Dir y Tollau Stamp, Treth Enillion Cyfalaf, Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu, Treth Gorfforaeth a Threth Incwm (Hunanasesiad, gan gynnwys CYG Dosbarth 4 a’r rhan fwyaf o CYG Dosbarth 2, ac eithrio ar gyfer partneriaid).

Mae taliadau cyflymedig hefyd yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • Treth Etifeddiant – os oes angen i chi wybod rhagor am yr achosion hyn, cysylltwch â’r swyddfa wnaeth roi’r daflen wybodaeth hon i chi
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Threth Incwm drwy’r system Talu Wrth Ennill (TWE) – mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS26, ‘Avoidance schemes – accelerated payments for Income Tax and National Insurance contributions through PAYE’

Rheoliadau Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (DOTAS) a’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR)

I gael rhagor o wybodaeth ar-lein am: * rheoliadau Datgelu Cynlluniau Arbed Treth, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘disclosure of avoidance’ * y Rheol Gwrth-Gamddefnydd Gyffredinol, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘GAAR arrangements’

v Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.