Canllawiau

Tystebau chwaraeon: Taliadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol

Cael gwybod faint o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol i'w talu ar incwm o dystebau chwaraeon.

Newidiadau treth o ran tystebau chwaraeon

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, bydd rheolau newydd yn gymwys i sut mae incwm o dystebau chwaraeon yn cael ei drin.

Mae Treth Incwm yn ddyledus ar incwm o bob digwyddiad tysteb chwaraeon a gêm er budd. Yn ddibynnol ar natur yr incwm, a sut y gwneir y taliadau, efallai y bydd Treth Gorfforaeth a TAW yn ddyledus hefyd.

Mae’r llywodraeth wedi cytuno i swm ‘unigol’ o £100,000, a eithrir rhag treth, ar gyfer incwm o ddigwyddiad (neu flwyddyn) tysteb chwaraeon di-gytundebol neu di-arferol, os caiff amodau penodol eu bodloni.

Mae’r rheolau newydd yn cwmpasu incwm o ddigwyddiadau a gynhelir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, ond dim ond pan fo’r dysteb wedi ei chyhoeddi ar neu ar ôl 25 Tachwedd 2015.

Nid yw’r rheolau newydd yn gymwys i gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd newidiadau cyfatebol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gymwys o 6 Ebrill 2020 ymlaen.

Mae hyn yn golygu y bydd y trefniadau presennol ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gymwys hyd at 5 Ebrill 2020.

Newidiadau i Yswiriant Gwladol ar dystebau chwaraeon

O 6 Ebrill 2020 ymlaen, bydd rheolau newydd yn berthnasol i’r ffordd y caiff incwm o dystebau chwaraeon ei drin.

Mae Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar incwm o bob digwyddiad tysteb chwaraeon a gêm er budd. Tâl ar y Pwyllgor Tystebau Chwaraeon yw hwn – ac nid ar y mabolgampwr.

Mae’r llywodraeth wedi cytuno ar swm ‘unigol’ o £100,000, sydd wedi’i eithrio rhag treth, ar gyfer incwm o ddigwyddiadau (neu flwyddyn) tystebau chwaraeon di-gytundebol a di-arferol, os caiff amodau penodol eu bodloni.

Mae’r rheolau newydd yn cwmpasu incwm o ddigwyddiadau a gynhelir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, ond dim ond pan fo’r dysteb wedi ei chyhoeddi ar neu ar ôl 25 Tachwedd 2015.

Mae hyn yn golygu y bydd y trefniadau presennol ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gymwys hyd at 5 Ebrill 2020.

Pwy sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau

Bydd y newidiadau yn berthnasol i’r canlynol:

  • mabolgampwyr
  • pwyllgorau tysteb annibynnol

Amodau

Cytundebol ac Arferol

Mewn nifer o achosion, mae gan fabolgampwyr drefniant cytundebol gyda’u cyflogwyr ar gyfer tystebau chwaraeon. Yn aml, yn ôl y trefniant, os bydd y mabolgampwr yn aros gyda’r tîm neu’r clwb am nifer benodol o flynyddoedd, bydd ganddo hawl i gael tysteb. Er hynny, gall gwmpasu materion eraill hefyd.

Os mai’r drefn arferol yw dyfarnu tysteb i fabolgampwr o dan amodau penodol, rydym yn cyfeirio at hyn fel ‘arferol’. Does dim gwahaniaeth p’un a drefnir y dysteb gan y cyflogwr neu gan drydydd parti.

Ar gyfer cytundebol ac arferol, caiff yr holl incwm o’r fath ei drin fel enillion o’r gyflogaeth, sy’n golygu:

  • dylai’r cyflogai dalu Treth Incwm a CYG Dosbarth 1
  • rhaid i’r cyflogwr neu’r pwyllgor tysteb dalu CYG y cyflogwr

Darllenwch am Gyfraddau Treth Incwm a Chyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai a’r cyflogwr.

Di-gytundebol a di-arferol

Bydd tysteb ddi-gytundebol yn digwydd pan nad oes trefniant cytundebol rhwng y cyflogwr a’r mabolgampwr.

Bydd tysteb ddi-arferol yn digwydd pan nad oes trefniant cytundebol neu ddyfarniad tysteb a ystyrir i fod y drefn arferol.

Mae’r diffiniadau hyn yn aros yr un peth ag a benderfynwyd eisoes drwy gyfraith achosion, ac nid ydynt wedi newid yn sgil y ddeddfwriaeth newydd.

Sut mae’r eithriad ‘unigol’ yn gweithio

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, mae eithriad ‘unigol’ o £100,000 ar gael er mwyn sicrhau bod mabolgampwyr ar incwm cymedrol (sy’n agos i ddiwedd eu gyrfa neu sydd wedi cyrraedd y diwedd) yn cael eu diogelu rhag y newid.

Bydd mabolgampwr yn gymwys ar gyfer eithriad ‘unigol’ o £100,000 rhag treth ar yr incwm a gafwyd:

  • os yw’n fabolgampwr cyflogedig
  • os oedd yn fabolgampwr cyflogedig cyn hyn, a bod y dysteb yn berthnasol i’r gyflogaeth honno
  • os yw’r dysteb neu’r gêm er budd yn ddi-gytundebol neu’n ddi-arferol
  • os cynhelir y digwyddiadau yn ystod tysteb neu flwyddyn dysteb unigol
  • os trefnir neu rheolir y digwyddiadau gan berson annibynnol (fel arfer, pwyllgor tysteb)
  • os nad oes incwm tysteb blaenorol yr oedd yr eithriad yn gymwys iddo

Mae’r eithriad yn gymwys i incwm a gafwyd o ddigwyddiadau perthnasol a gynhelir dim ond yn ystod cyfnod o 12 mis calendr, fan bellaf. Mae hyn yn dechrau o’r dyddiad y cynhelir y digwyddiad cyntaf yn ystod ‘blwyddyn dysteb’, hyd yn oed os yw’r flwyddyn honno’n cwmpasu mwy nag un flwyddyn dreth.

Ni chaiff mabolgampwyr cyflogedig sydd â hawl cytundebol neu hawl arferol i gael tysteb chwaraeon, eu heffeithio gan y newidiadau hyn. Bydd Treth Incwm yn cael ei chodi ar eu holl incwm tysteb chwaraeon, ac ni fydd yr eithriad ‘unigol’ yn gymwys.

Mwy nag un digwyddiad

Nid yw ail ddigwyddiad tysteb ac ail dysteb yr un peth, a chânt eu trin yn wahanol at ddibenion treth.

Os oes gan fabolgampwr gêm er budd arall cyn pen 12 mis calendr o’r gêm gyntaf, gall incwm o’r digwyddiad fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad o £100,000. Gall eithriad sydd dros ben o’r gêm gyntaf gael ei ddefnyddio ar yr incwm o’r gêm nesaf:

  • os yw’n rhan o dymor tysteb a gaiff ei weinyddu gan yr un rheolwr (fel arfer, y pwyllgor tysteb annibynnol)
  • os yw’n ail ddigwyddiad tysteb yn hytrach na thysteb chwaraeon ar wahân

Ni all yr eithriad fod yn gymwys ar gyfer tysteb chwaraeon wahanol (ar wahân), waeth pa mor agos ydyw i’r dysteb gyntaf o ran yr amseru.

Cyfrifoldebau

Mae newidiadau i’r rheolau’n golygu y gall fod yn rhaid cymryd camau ychwanegol.

Ar gyfer mabolgampwr

Dylai’r pwyllgor tysteb annibynnol wneud y didyniadau priodol o incwm tysteb y mabolgampwr.

Os nad yw’r mabolgampwr yn cael ei gyflogi mewn man arall, dylai roi ei P45 i’r pwyllgor tysteb annibynnol a fydd yn gweithredu fel ei gyflogwr wrth gyfrifo am yr incwm.

Os nad oes gan y mabolgampwr P45 presennol i roi i’r pwyllgor tysteb annibynnol, dylai gadarnhau beth yw ei amgylchiadau gyda’r pwyllgor drwy ddefnyddio’r datganiad cyflogai newydd sy’n cychwyn.

Os nad yw’r P45 ar gael i’r pwyllgor tysteb, efallai y bydd rhaid i’r mabolgampwr ddatgan ei holl incwm ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Y rheswm am hyn yw y gall y pwyllgor tysteb ond ddidynnu treth ar y gyfradd sylfaenol o dan yr amgylchiadau hynny, a gall fod rhagor o dreth i’w thalu.

Pwyllgor tysteb annibynnol

Dylai’r pwyllgor tysteb annibynnol wneud y didyniadau priodol o incwm tysteb y mabolgampwr.

Dylai’r pwyllgor tysteb annibynnol ganiatáu £100,000 o incwm yn rhydd o dreth, ac yna gweithredu TWE (gweler Ail dysteb):

  • os yw’r dysteb chwaraeon yn ddi-gytundebol neu’n ddi-arferol
  • os cyhoeddwyd y dysteb ar neu ar ôl 25 Tachwedd 2015
  • os yw’r incwm o ddigwyddiad neu ddigwyddiadau a gynhelir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017
  • os yw’r incwm yn berthnasol i ddigwyddiad tysteb neu dymor tysteb nad yw’n para mwy na 12 mis calendr
  • os yw’r mabolgampwr yn cael ei gyflogi, neu os yw wedi cael ei gyflogi cyn hyn, fel un

Os nad yw swm yr incwm yn ystod 12 mis calendr wedi defnyddio’r eithriad o £100,000 i gyd, ni ellir ei gario ymlaen er mwyn ei osod yn erbyn incwm tysteb yn y dyfodol.

Hysbysu

Pan fo’r dysteb chwaraeon yn rhwym wrth y rheolau newydd a esbonnir uchod, rhaid i’r incwm sydd dros £100,000 gael ei hysbysu i CThEM.

Dylech hysbysu am incwm y mabolgampwr i CThEM ar-lein ac mewn amser real, naill ai ar yr adeg yr ydych yn gwneud y taliad neu cyn hynny. Bydd angen cynllun TWE arnoch er mwyn gwneud hyn.

At ddibenion y dysteb neu’r gêm er budd, caiff y pwyllgor tystebau annibynnol ei drin fel cyflogwr. Dylai’r pwyllgor weithredu TWE ar unrhyw incwm dros £100,000 er mwyn casglu’r Dreth Incwm sy’n ddyledus, a thalu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A. Rhaid i chi fod â chynllun TWE cyn i chi allu gwneud taliadau i’r mabolgampwr.

Gallwch gofrestru gyda CThEM ar gyfer cynllun TWE hyd at 2 fis cyn i chi ddechrau gwneud taliadau. Darllenwch am yr Offer TWE Sylfaenol a fydd yn eich galluogi i fodloni’ch rhwymedigaethau o ran TWE.

Treth Incwm

Bydd swm y dreth incwm i’w ddidynnu yn dibynnu ar p’un a yw’r mabolgampwr yn dal i gael ei gyflogi mewn man arall. Os nad yw’n cael ei gyflogi mewn man arall, a’i fod yn rhoi P45 presennol i chi, gallwch ddefnyddio’r cod treth sydd arni pan fyddwch yn gwneud taliad iddo.

Os na chewch P45 presennol ganddo, gallwch gyfrifo cod treth eich cyflogai newydd a darllen y rhestr wirio ar gyfer cyflogai newydd sy’n cychwyn. Dylech dalu’r dreth yr ydych wedi ei didynnu i CThEM.

Mae’n bwysig cofio bod y rhwymedigaethau sydd gennych fel cyflogwr, wedi’u cyfyngu i gyfrifo am y trethi sy’n ddyledus yn unig. Does dim rhaid i chi:

  • gael yswiriant rhwymedigaeth cyflogwr
  • ymrestru’r mabolgampwr ar gyfer cynllun pensiwn y gweithle
  • darparu datganiad ysgrifenedig (cytundeb) o gyflogaeth

Darllenwch am roi gwybod i CThEM ynghylch cyflogai newydd.

Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

Swm yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd i’w dalu yw swm yr incwm sy’n uwch na’r trothwy o £100,000 wedi’i luosi â chyfradd Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, sef 13.8% ar hyn o bryd.

Mae’n rhaid i’r Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A gael ei dalu a rhaid rhoi gwybod amdano mewn amser real.

Mae’n bwysig cofio bod y rhwymedigaethau sydd gennych fel cyflogwr wedi’u cyfyngu i dalu a rhoi cyfrif am yr Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus yn unig. Does dim rhaid i chi wneud y canlynol:

  • meddu ar yswiriant rhwymedigaeth cyflogwr
  • ymrestru’r mabolgampwr ar gyfer cynllun pensiwn y gweithle
  • rhoi datganiad ysgrifenedig (cytundeb) o gyflogaeth

Cael gwybod a oes goblygiadau TAW

Fel aelod o bwyllgor tysteb annibynnol, bydd rhaid i chi ystyried a oes unrhyw un o weithgareddau’r pwyllgor yn arwain at drafodion a allai fod yn agored i TAW.

Bydd p’un a yw gweithgareddau yn agored i TAW yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Er enghraifft, mae pris mynediad i wylwyr ar gyfer digwyddiadau chwaraeon yn agored i TAW, ond nid yw rhoddion yn agored i TAW.

Enghreifftiau

Digwyddiadau a gynhelir cyn ac ar ôl 6 Ebrill 2017

Rwy’n ymwneud â threfnu tymor tysteb ar gyfer mabolgampwr. Cafodd ei gyhoeddi ar ôl 25 Tachwedd 2015 ond cynhelir y digwyddiadau cyn, yn ogystal ag ar ôl, 6 Ebrill 2017.

Dim ond yr incwm o’r digwyddiadau a gynhelir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 fydd yn cael ei effeithio gan y rheolau newydd. Dylai’r incwm o ddigwyddiadau a gynhelir cyn 6 Ebrill 2017 gael ei drin drwy ddefnyddio’r rheolau blaenorol.

Tysteb mabolgampwr sydd wedi ymddeol

Rwy’n trefnu tysteb ar gyfer mabolgampwr sydd bellach wedi ymddeol. A fydd y rheolau newydd yn gymwys?

Mae’r rheolau newydd yn gymwys i incwm a godir ar gyfer mabolgampwr, p’un a yw’n gyflogai neu’n gyflogai blaenorol, a chyn belled mai’r prif reswm yw cydnabod ei wasanaeth fel mabolgampwr proffesiynol cyflogedig.

Tysteb ar gyfer mabolgampwr ymadawedig

Yn drist iawn, bu mabolgampwr farw o ganlyniad i anafiadau a gafwyd yn ystod gêm. Rwy’n trefnu tysteb chwaraeon i godi arian i’r teulu, a chaiff yr arian ei dalu’n uniongyrchol iddynt. A fydd hwn yn rhwym wrth y rheolau newydd?

Os caiff y taliad ei wneud yn uniongyrchol i’r teulu, nid yw’n rhwym wrth y rheolau newydd, ac ni fydd rhaid i chi roi cyfrif am y Dreth Incwm na’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Bydd taliad i ystâd y mabolgampwr yn rhwym wrth y rheolau newydd, gan olygu y bydd Treth Incwm yn ddyledus ond ni fydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ddyledus. Efallai y bydd Treth Gorfforaeth yn gymwys yn y ddwy achos oherwydd, fel arfer, mae pwyllgor tysteb annibynnol yn cael ei drin fel cwmni anghorfforedig.

Cyfrifo beth i hysbysu yn ei gylch

Dyfernir gêm dyst i Fabolgampwr A sy’n codi £153,000 ar ôl costau. Beth ddylai gael ei hysbysu i CThEM?

Os yw’r mabolgampwr yn gymwys ar gyfer yr eithriad o £100,000, dylid hysbysu CThEM ynghylch £53,000.

Gwneud didyniadau cyn y taliad

Mae’r dysteb chwaraeon wedi clirio’r swm o £153,000. A allaf dalu’r swm llawn i Fabolgampwr A?

Na. Dylech roi cyfrif am y swm perthnasol o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A cyn gwneud y taliad.

Beth i’w wneud ynghylch buddiannau nad ydynt ar ffurf arian parod

Beth os yw incwm tysteb yn dod ar ffurf arian parod a buddiant nad yw ar ffurf arian parod, fel car?

Dylai gwerth buddiant ar ffurf arian parod neu fuddiant nad yw ar ffurf arian parod gael ei ychwanegu at swm yr arian a godwyd er mwyn cyfrifo cyfanswm yr incwm a gafwyd.

Eisoes wedi cael tysteb cyn 6 Ebrill 2017

Bydd mabolgampwr yn cael tysteb ar ôl 6 Ebrill 2017, ac mae eisoes wedi cael tysteb cyn y daeth y rheolau newydd i rym. A yw’n gymwys ar gyfer yr eithriad o £100,000, ac ai dyma’r dysteb gyntaf at ddibenion treth?

Yn yr achos hwn, y dysteb fyddai’r un gyntaf at ddibenion treth, a byddai’r incwm a godir hefyd yn gymwys ar gyfer yr eithriad o £100,000, fel sy’n briodol.

Ail dysteb

Dyfarnwyd ail dysteb i Fabolgampwr B. Cynhaliwyd y dysteb gyntaf ar ôl 6 Ebrill 2017, a chodwyd £70,000. Gan fod yr incwm hwn yn llai na’r eithriad o £100,000, cafodd ei dalu’n rhydd o dreth, ac ni chafodd ei hysbysu i CThEM. Cododd yr ail dysteb £83,000 ar ôl costau. A ddylwn hysbysu am y £53,000 at ddibenion treth?

Na. Ni all yr eithriad sydd heb ei ddefnyddio gael ei gario ymlaen er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer tysteb ddilynol. Rhaid hysbysu CThEM am y swm llawn, sef £83,000.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 March 2020 + show all updates
  1. The Welsh version of 'Sporting testimonials: Income Tax and National Insurance payments' has been updated.

  2. The English version of 'Sporting testimonials: Income Tax and National Insurance payments' has been updated.

  3. The 'matching changes for National Insurance Contributions will now apply from 6 April 2020 and arrangements for payment will apply until 5 April 2020' has been updated.

  4. Updated to mention the introduction of employer NICs on sporting testimonial payments above £100,000 will now take effect from 6 April 2019.

  5. Added translation to Welsh language.

  6. First published.