Papur polisi

Paratoi ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd

Diweddarwyd 29 April 2024

Tâl blynyddol yw’r Ardoll Troseddau Economaidd (ECL), sy’n cael effaith ar endidau (sefydliadau) sydd o dan oruchwyliaeth Rheoliadau Gwyngalchu Arian (MLR), ac sydd â refeniw yn y DU o dros £10.2 miliwn bob blwyddyn.

Paratoi ar gyfer yr ECL

Bydd yn rhaid i’r endidau sydd yn cael eu heffeithio, ac sydd o dan oruchwyliaeth CThEF, wneud y canlynol:

  • cofrestru ar gyfer yr ECL
  • cyflwyno datganiad bob blwyddyn
  • talu ffi bob blwyddyn

Nid oes rhaid i bob endid gofrestru a chyflwyno ffurflen — mae’n dibynnu ar bwy yw’ch awdurdod casglu.

Mae’n bwysig deall pwy yw’ch awdurdod casglu.

Yna, byddwch yn gallu deall proses ECL eich awdurdod casglu, gan gynnwys, os bydd angen:

  • sut i  gofrestru ar gyfer ECL
  • sut i gyflwyno’ch datganiad ECL

Dylech hefyd ddeall sut i dalu’r ardoll, yn enwedig pa fand ECL rydych chi’n perthyn iddo er mwyn i chi allu cyfrifo’r ffi y mae’n rhaid i chi ei thalu.

Sut y bydd yr ECL yn cael ei chasglu

Mae’r ECL yn cael ei chasglu gan 1 o’r 3 awdurdod casglu canlynol:

  • yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
  • y Comisiwn Hapchwarae (GC)
  • CThEF

Mae gan bob un o’r cyrff hyn gyfrifoldeb i oruchwylio busnesau mewn sectorau penodol o’r economi, a hynny at ddibenion atal gwyngalchu arian. Mae’r cyrff hyn yn gyfrifol am gasglu’r ardoll o’r busnesau sydd dan sylw.

Mae ond angen i chi roi gwybodaeth i un awdurdod casglu, a thalu un awdurdod casglu, hyd yn oed os ydych o dan oruchwyliaeth mwy nag un goruchwyliwr mewn perthynas ag MLR.

Os ydych yn cael eich goruchwylio gan CThEF yn unig, neu gan un o’r 22 o oruchwylwyr corff proffesiynol (a restrir yn yr Atodiad), mae’n rhaid i chi gofrestru gyda CThEF a thalu ECL iddo.

Os ydych o dan oruchwyliaeth naill ai’r FCA neu’r GC, mae angen i chi ddilyn y broses ECL a amlinellir ganddynt. Mae’n rhaid i chi wneud hyn hyd yn oes os yw CThEF hefyd yn goruchwylio rhai o’ch gweithgareddau busnes.

Os mai CThEF yw eich awdurdod casglu chi, mae’r wybodaeth a’r arweiniad hwn ar eich cyfer chi yn unig.

Cofrestru ar gyfer yr ECL

Pwy sy’n gorfod cofrestru

Endidau yw’r endid(au) cyfreithiol sydd â rhwymedigaethau posibl i’r ECL. Mae hyn yn cynnwys unigolion, cwmnïau, PAC neu’r partner cyfrifol o fewn partneriaeth.

Mae’n rhaid i endidau gofrestru â CThEF ar-lein ar gyfer yr ECL os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn cael eich goruchwylio gan CThEF ar gyfer MLR ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ariannol, neu fe’ch goruchwylir gan un o’r goruchwylwyr corff proffesiynol a restrir yn yr Atodiad ar gyfer MLR ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ariannol

  • nad ydych yn cael eich goruchwylio gan yr FCA na’r GC ar gyfer MLR, ac mae’ch refeniw yn y DU yn hafal i neu’n fwy na £10.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol (ar sail pro-rata)

Dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer yr ECL, ond bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein a thalu’r ECL bob blwyddyn bod eich refeniw yn y DU yn fwy na’r trothwy.

Os ydych o dan oruchwyliaeth naill ai’r FCA neu’r GC mewn perthynas ag MLR, mae angen i chi ddilyn y broses ECL a amlinellir ganddynt. Peidiwch â chofrestru gyda CThEF ar gyfer yr ECL, na chyflwyno datganiad ECL i CThEF bob blwyddyn, na thalu’r ECL i CThEF.

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer ECL gyda CThEF, byddwch yn cael cyfeirnod sy’n dechrau gydag ‘X’.

Asiantau treth

Ni fydd eich Asiant Treth yn gallu cofrestru ar gyfer yr ECL ar eich rhan – bydd yn rhaid i chi gofrestru eich hun ar gyfer yr ECL.

Sut i gofrestru

I dalu’r ECL i CThEF, mae angen i chi gofrestru’ch busnes cyn i chi ddatgan a thalu’ch rhwymedigaeth.

Mae’n rhaid i chi gofrestru gan ddefnyddio Gwasanaeth ECL ar-lein CThEF.

Bydd cod mynediad yn cael ei ddarparu i chi er mwyn eich galluogi i gwblhau’r broses gofrestru.

Grwpiau busnes

Lle mae endid yn rhan o grŵp o gwmnïau, bydd yr ECL dim ond yn berthnasol i’r endidau hynny yn eich grŵp sy’n bodloni’r gofynion. Mae’n rhaid i bob aelod o’r grŵp sy’n bodloni’r gofynion gofrestru, cyflwyno datganiad bob blwyddyn, a thalu ar wahân.

Partneriaethau

Lle mae’r person sy’n agored i dalu’r ardoll yn bartner cyfrifol o fewn partneriaeth, mae’n rhaid i’r partneriaid enwebedig wneud datganiad ardoll troseddau economaidd (gwrth-wyngalchu arian) yn enw’r bartneriaeth.

Cyflwyno Ffurflen Dreth

Gallwch lenwi a chyflwyno datganiadau ar-lein i roi gwybod am y canlynol:

  • pa mor hir yw’ch cyfnod cyfrifyddu perthnasol
  • eich refeniw yn y DU ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwnnw
  • p’un a wnaethoch ddechrau gweithgaredd a reoleiddir gan reoliadau MLR yn ystod y flwyddyn, neu roi’r gorau iddo
  • eich band ECL a’ch swm sy’n ddyledus

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer ECL, dylech gyflwyno ddatganiadau bob blwyddyn, hyd yn oed os nad ydych yn bodloni’r trothwy ar gyfer talu’r ECL yn y flwyddyn honno.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad erbyn 30 Medi bob blwyddyn.

Dysgwch ragor o wybodaeth amgyflwyno datganiad ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.

Talu’r ECL — bandiau a ffioedd

Ar ôl i chi gyflwyno’ch datganiad, byddwch yn gallu talu’ch rhwymedigaeth ECL ar-lein, yn yr un ffordd ag y byddwch yn talu’ch rhwymedigaeth treth.

When you need to pay

Pryd y mae’n rhaid i chi dalu dalu’r ECL erbyn 30 Medi bob blwyddyn.

Bydd y taliad hwn yn cwmpasu’r cyfnod o’r flwyddyn ariannol flaenorol. Bydd y swm sy’n daladwy yn cael ei bennu drwy gyfeirio at eich maint, yn seiliedig ar eich refeniw yn y DU o’r cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben yn ystod y flwyddyn honno.

Er enghraifft, codir yr ECL ar endidau sydd o dan oruchwyliaeth mewn perthynas ag MLR ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023. Bydd y taliad am y cyfnod hwn yn ddyledus ar 30 Medi 2023.

Os na fyddwch yn talu erbyn 30 Medi bydd CThEF yn codi llog ar yr ECL ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Bandiau

Bydd yr ECL yn cael ei thalu fel ffi sefydlog flynyddol. Bydd hyn yn cael ei bennu gan y band sy’n berthnasol i’ch endid sydd o dan oruchwyliaeth mewn perthynas ag MLR, yn seiliedig ar eich refeniw yn y DU o’r cyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Bydd 4 maint band:

Maint band ECL Refeniw yn y DU
Bach O dan £10.2 miliwn
Canolig O £10.2 miliwn i £36 miliwn
Mawr O £36 miliwn i £1 biliwn
Mawr iawn Dros £1 biliwn

Mae refeniw yn y DU yn cael ei gyfrifo ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu perthnasol sy’n dod i ben o fewn pob blwyddyn ariannol.

Mae Refeniw y DU yn cynnwys eich trosiant am y cyfnod hwnnw ac unrhyw symiau eraill, nad ydynt wedi’u cynnwys mewn trosiant, sydd, yn unol â GAAP y DU, yn cael eu cydnabod fel refeniw yn eich cyfrif elw a cholled neu ddatganiad incwm ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.

Sylwer, mai hwn yw eich refeniw cyfan yn y DU yn unol â GAAP y DU, nid trosiant y gweithgarwch a oruchwylir ar gyfer MLR yn unig ydyw.

Symiau yr ardoll

Maint band ECL Ffi ECL
Bach Dim rhwymedigaeth ECL — nid yw’n ofynnol i gofrestru gyda CThEF
Canolig £10,000
Mawr £36,000
Mawr iawn £250,000

Cyfnodau cyfrifyddu rhannol neu gyfnodau cyfrifyddu sydd wedi’u gostwng

Mae’n bosibl y bydd y swm sydd angen i chi ei dalu yn gostwng os ydych yn cynnal gweithgareddau a reoleiddir am ran o’r flwyddyn ariannol yn unig. Cyfrifir y gostyngiad hwn gan ddefnyddio dosraniad dyddiol o’r amser rydych o dan oruchwyliaeth mewn perthynas ag MLR.

Os nad oes unrhyw gyfnodau cyfrifyddu yn dod i ben yn ystod y flwyddyn ariannol, bydd y cyfnod cyfrifyddu sy’n dod i ben cyn pen 3 mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei thrin fel y cyfnod cyfrifyddu perthnasol. Bydd hyn dim ond yn cael effaith ar fusnesau sy’n dechrau yn ystod blwyddyn ariannol lle bydd eu cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dod i ben rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn fyrrach na 12 mis, caiff maint y bandiau ECL eu haddasu yn unol â hynny. Cyfrifir y dosraniad hwn gan ddefnyddio diwrnodau.

Gwybodaeth ac arweiniad pellach

Mae CThEF wedi cyhoeddi arweiniad ar yr ECL ar GOV.UK:

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a’r Comisiwn Hapchwarae (GC) yn cyhoeddi arweiniad ei hun ynghylch yr ECL. Os yw’r FCA neu’r GC yn awdurdod casglu i chi, dylech ddilyn eu harweiniad nhw.

Atodiad

Rhestr o oruchwylwyr cyrff proffesiynol

Mae CThEF yn gyfrifol am gasglu’r ardoll o’r endidau cymwys sydd o dan oruchwyliaeth unrhyw un o’r 22 o gyrff proffesiynol a restrir isod:

  • Association of Accounting Technicians (AAT)
  • General Council of the Bar of Northern Ireland
  • Association of Chartered Certified Accountants (ACCA)
  • Insolvency Practitioners Association (IPA)
  • Association of International Accountants (AIA)
  • Institute of Certified Bookkeepers
  • Association of Taxation Technicians (ATT)
  • Institute of Chartered Accountants in England and Wales (ICAEW)
  • Chartered Institute of Legal Executives (CILEx)
  • Institute of Chartered Accountants in Ireland (ICAI)
  • Chartered Institute of Management Accountants (CIMA)
  • Institute of Chartered Accountants of Scotland (ICAS)
  • Chartered Institute of Taxation (CIOT)
  • Institute of Financial Accountants (IFA)
  • Council for Licensed Conveyancers (CLC)
  • International Association of Bookkeepers (IAB)
  • Faculty of Advocates
  • Law Society
  • Faculty Office of the Archbishop of Canterbury
  • Law Society of Northern Ireland
  • General Council of the Bar
  • Law Society of Scotland