Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am ansolfedd ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Sut i roi gwybod i CThEF os bydd sefydliad yn mynd yn ansolfent at ddibenion Treth Deunydd Pacio Plastig, a sut i anfon unrhyw Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru.

Os ydych yn ymarferydd ansolfedd, gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i roi gwybod i CThEF bod sefydliad wedi mynd yn ansolfent. Os nad yw’r sefydliad yn masnachu mwyach, ac os na allwch gael mynediad at y cyfrif Treth Deunydd Pacio Plastig ar-lein, gallwch hefyd gyflwyno Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru.

Os yw’r sefydliad yn masnachu o hyd, does dim angen i chi roi gwybod i ni ynghylch yr ansolfedd mewn perthynas â’r Dreth Deunydd Pacio Plastig. Dylech barhau i ddefnyddio’r cyfrif ar-lein Treth Deunydd Pacio Plastig i wneud y canlynol:  

  • cyflwyno Ffurflenni Treth
  • datgofrestru’r sefydliad, os byddant yn rhoi’r gorau i fasnachu a pryd y byddant yn gwneud hynny

Cyn i chi ddechrau

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae’n rhaid i chi roi’r manylion canlynol i ni:

  • enw’r sefydliad
  • cyfeiriad y busnes
  • cyfeirnod ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
  • y math o ansolfedd — yn nwylo’r gweinyddwyr, datodiad gwirfoddol aelodau, datodiad gwirfoddol credydwyr
  • y dyddiad pan ddaeth y busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
  • dyddiad datgofrestru

Rhoi gwybod am ansolfedd

Gallwch roi gwybod am ansolfedd yn ogystal â chyflwyno unrhyw Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru o’r gwasanaeth.

Dechrau nawr

Byddwn yn anelu at ddelio â’ch cais cyn pen 28 diwrnod gwaith.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

  1. Byddwch yn cael cyfeirnod ac e-bost cadarnhau.

  2. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen i chi gyflwyno rhagor o dystiolaeth.

Os oes angen i chi gysylltu â ni i gael help pellach, gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt o’r dudalen we ymholiadau ynghylch Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis.

Cyhoeddwyd ar 15 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 May 2024 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.