Cofrestru eich partneriaeth fel is-gontractiwr
Defnyddiwch ffurflen CIS304 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i gofrestru eich partneriaeth fel is-gontractiwr, neu i wneud cais am statws taliadau gros.
Dogfennau
Manylion
Gwneud cais ar-lein
Dyma’r ffordd fwyaf hwylus i ddweud wrthym.
Gallwch gofrestru fel is-gontractwr gyda thaliad o dan ddidyniad neu statws taliad gros (yn agor tudalen Saesneg) ar-lein.
I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Os ydych yn asiant, bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) yr ydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.
Gwneud cais drwy’r post
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen bost yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).
I ble y dylid anfon y ffurflen
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Defnyddiwch y ffurflenni CIS hyn i gofrestru:
- ar gyfer taliadau ar ôl didynnu treth (yn agor tudalen Saesneg) (CIS301)
- ar gyfer taliadau gros (CIS302)
- eich cwmni (CIS305)
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 April 2024 + show all updates
-
English version of 'Partnership registration guidance notes' have been updated.
-
The CIS304 online version has been updated to allow your partnership to register as a subcontractor and apply for gross payment status.
-
The Cynllun y Diwydiant Adeiladu – Nodiadau arweiniad ar gyfer cofrestru partneriaeth has been added to the page.
-
Legislative changes have reduced the Alternative Turnover test from £200,000 to £100,000 as from 6/4/16.
-
An online service is now available.
-
Welsh version of form CIS304 added to the page.
-
First published.