Cais i bleidleisio drwy ddirprwy yng Nghymru ar gyfer gweision y Goron a gweithwyr y British Council
Os na allwch bleidleisio'n bersonol, gall rhywun bleidleisio ar eich rhan. Gallwch ddweud wrtho dros bwy y dylai bleidleisio. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.
Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland
Dogfennau
Manylion
Mae Etholiad Cyffredinol yn y DU wedi cael ei alw ar gyfer 4 Gorffennaf 2024.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
Os ydych am wneud cais drwy’r post am bleidlais drwy ddirprwy, rhaid i chi sicrhau bod eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn cyrraedd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2024.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Dim ond drwy’r post y gallwch wneud cais am eich pleidlais drwy ddirprwy.
I wneud cais drwy’r post am eich pleidlais drwy ddirprwy, rhaid i chi sicrhau bod eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn cyrraedd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol erbyn 5pm ar 14 Mehefin 2024.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol
Cofrestrwch erbyn 11:59pm ar 18 Mehefin 2024 er mwyn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf 2024.
Pleidleisio o dramor
Os ydych dramor, gallwch bleidleisio:
- drwy’r post
- drwy wneud cais i gael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan (pleidleisio drwy ddirprwy)
Rhaid eich bod wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio yn y DU cyn i chi allu gwneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.
Pleidleisio drwy’r post
Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais bost ar-lein, rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.
Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais bost drwy’r post, rhaid i chi sicrhau bod eich cais i bleidleisio drwy’r post yn cyrraedd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.
Bydd yn cymryd amser i becyn pleidleisio drwy’r post tramor eich cyrraedd ac i chi ddychwelyd y pecyn i’r DU, yn enwedig os yw eich gwasanaethau post lleol yn afreolaidd neu os ydych yn byw ymhell o’r DU.
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynghori pobl sy’n byw dramor i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy os yw’n bosibl.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais drwy ddirprwy ar-lein, rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2024.
Os byddwch yn gwneud cais am eich pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post, rhaid i chi sicrhau bod eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn cyrraedd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol Leol erbyn 5pm ar 19 Mehefin 2024.
Cyn gwneud cais
Gallwch ofyn i unrhyw un weithredu fel eich dirprwy, ar yr amod ei fod wedi’i gofrestru i bleidleisio a’i fod yn fath o etholiad y caniateir iddo bleidleisio ynddo.
Sut i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
Mae ffurflenni gwahanol, yn dibynnu ar y rheswm pam na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r un gywir.
Efallai y gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng os bydd y dyddiad cau i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy wedi mynd heibio.
Ble i anfon eich ffurflen
Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 October 2023 + show all updates
-
You can now apply online to vote by proxy. The law has changed regarding people who can be proxies. The paper forms have been updated by the Electoral Commission.
-
If you are registered to vote and want to vote by proxy in the 5 May 2022 elections, you must submit a proxy vote application form that is received by your local Electoral Registration Office before 5pm on Tuesday 26 April 2022.
-
You can no longer apply to register to vote by proxy for the polls on 6 May 2021. You can still apply for an emergency proxy subject to certain criteria.
-
Updated to include new forms.
-
If you are registered to vote and want to vote by proxy in the 6 May 2021 elections, you must submit a proxy vote application form that is received by your local Electoral Registration Office before 5pm on Tuesday 27 April.
-
Attachments updated.
-
Forms updated with new data protection guidance.
-
Information added to explain that it's now too late to apply by poxy for the 3 May elections.
-
First published.