Canllawiau

Cofrestru arwystl (morgais) ar gyfer cwmni

Sut i gofrestru arwystl newydd yn Nhŷ’r Cwmnïau neu ddweud wrthym am unrhyw rai rydych wedi’u clirio.

Mae’r canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC).

Cofrestru arwystl (MR01)

‘Arwystl’ yw’r ernes mae cwmni’n ei rhoi ar gyfer benthyciad. Er enghraifft, math o arwystl yw morgais.

Gallwch anfon atom fanylion arwystl sydd wedi’i greu gan y cwmni. Wedyn byddwn yn cofrestru’r arwystl ar gofnod cyhoeddus y cwmni.

Terfyn amser 21 diwrnod

Os na chaiff arwystl ei gofrestru cyn pen 21 diwrnod, efallai y bydd yn anodd adennill y ddyled os bydd y cwmni’n mynd yn ansolfent. Mae’r 21 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i’r arwystl gael ei greu.

Os nad ydych yn anfon y wybodaeth hon atom mewn pryd, bydd arnoch angen gorchymyn llys i gofrestru’r arwystl. Dim ond y llys all ganiatáu estyniad i’r cyfnod hwn.

Copi ardystiedig o offeryn yr arwystl

Os oes ‘offeryn’ megis gweithred morgais, rhaid ichi gynnwys copi ardystiedig o’r offeryn wrth ichi gofrestru’r arwystl. Caiff hwn ei ddangos ar gofnod cyhoeddus y cwmni.

Dileu gwybodaeth bersonol o offeryn yr arwystl

Bydd unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei hanfon atom yn ymddangos ar gofnod cyhoeddus y cwmni. Mae hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth ar y copi ardystiedig o’r offeryn.

Cyn ichi anfon eich copi ardystiedig atom, gallwch ddileu neu ‘gelu’ rhywfaint o’r wybodaeth bersonol ohono. Gallwch ddileu:

  • gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud ag unigolyn (ond nid ei enw)
  • rhif neu ddynodwr cyfrif banc neu warannoedd
  • llofnod, gan gynnwys tystysgrif llofnod

Chi sy’n penderfynu sut y byddwch yn dileu’r wybodaeth hon.

Pwy all gofrestru arwystl

Gall unrhyw berson sydd ‘â buddiant yn yr arwystl’ gofrestru arwystl yn Nhŷ’r Cwmnïau. Y cwmni ei hun, rhoddwr y benthyciad neu ei asiant allai wneud hyn.

Dyma’r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithlon i gofrestru’ch arwystl ac mae ganddi wiriadau sy’n rhan o’r broses i’ch helpu i ffeilio’n gywir. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein gyda ni eisoes, bydd angen ichi gofrestru ar gyfer ffeilio ar-lein.

Gallwch hefyd anfon gwybodaeth am arwystl atom gan ddefnyddio meddalwedd trydydd partïon.

Os mai’r cwmni ydych chi

Gallwch gofrestru arwystlon yn erbyn eich cwmni gan ddefnyddio cod dilysu’ch cwmni.

Os mai asiant neu roddwr benthyciad ydych chi

Gallwch wneud cais am god dilysu rhoddwr benthyciad (LAC).

Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n creu cod dilysu rhoddwr benthyciad, nodwedd adnabod cyflwynydd a chod dilysu cyflwynydd. Gallwch gofrestru arwystlon yn erbyn cwmni gan ddefnyddio’r manylion hyn.

Yr hyn y gallwch ei ffeilio ar lein

Gallwch ddefnyddio ffeilio ar-lein i:

  • gofrestru arwystl newydd sydd wedi cael ei greu gan offeryn (MR01)
  • cofrestru arwystl dros eiddo a gaffaelwyd (MR02)
  • bodloni arwystl sydd wedi cael ei dalu’n llawn neu’n rhannol (MR04)
  • dweud wrthym am eiddo sydd wedi cael ei ryddhau rhag yr arwystl, neu nad yw’r cwmni’n berchen arno mwyach (MR05)

Arwystlon eraill y gallwch eu ffeilio

Gallwch ddefnyddio ein ffurflenni papur i gofrestru mathau eraill o arwystl neu i newid arwystl yr ydych wedi’i gofrestru o’r blaen.

Gweler ein rhestr lawn o ffurflenni arwystlon cwmnïau i gael gwybodaeth am yr hyn y gallwch ei anfon atom trwy’r post. Mae ffi o £24 i gofrestru arwystl ar bapur.

Mae ffurflenni papur ar wahân ar gyfer PAC.

Bodloni arwystl (MR04)

Caiff arwystl ei ‘fodloni’ pan gaiff ei glirio. Nid oes rhaid ichi ddweud wrthym, ond gallai unrhyw arwystlon sydd wedi’u bodloni a nodir fel rhai dyledus ar ein cofnodion gael effaith negyddol ar eich cwmni.

Mae’n syniad da gwneud yn siŵr bod unrhyw arwystlon sydd wedi’u cofrestru yn erbyn eich cwmni yn gywir ac yn gyfredol. Gallwch chwilio ar gofnod eich cwmni am unrhyw arwystlon sy’n ddyledus trwy ddefnyddio ein gwasanaeth am ddim.

Gallwch ddweud wrthym pan fydd arwystl wedi cael ei dalu’n llawn neu’n rhannol. Wedyn byddwn yn diweddaru gwybodaeth arwystlon eich cwmni ar y cofnod cyhoeddus.

Gallwch hefyd ddweud wrthym pan fydd eiddo wedi cael ei ryddhau rhag arwystl, neu os nad yw’r cwmni’n berchen arno mwyach.

Defnyddiwch ein gwasanaeth ffeilio ar-lein i fodloni arwystl (MR04), neu orffen neu ryddhau eiddo rhag arwystl (MR05).

Dyma’r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithlon i anfon gwybodaeth atom ac mae ganddi wiriadau sy’n rhan o’r broses i’ch helpu i ffeilio’n gywir. Gallwch hefyd ddefnyddio meddalwedd trydydd partïon, neu anfon ffurflen bapur atom trwy’r post.

How to satisfy a charge online

Arwystlon hŷn

I gofrestru arwystl a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013, rhaid ichi ddefnyddio un o’r ffurflenni arwystlon hŷn sydd ar gael ar  wefan yr Archifau Gwladol.

Cyhoeddwyd ar 15 January 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 May 2024 + show all updates
  1. Fees updated.

  2. Informal correction of paper forms no longer available.

  3. Guidance added - The address of the person delivering the statement does not have to be a residential (home) address. For example, it can be a service address or the company’s registered office address.

  4. Updated guidance about what personal information you can remove or 'redact' from a charge instrument. As well as a signature, you can remove a signature certificate.

  5. The automatic filing extensions granted by the Corporate Insolvency and Governance Act have come to an end.

  6. Automatic filing extensions granted by the Corporate Insolvency and Governance Act are due to come to an end.

  7. Added Welsh translation.

  8. First published.