Canllawiau

Canllawiau i atwrneiod a dirprwyon ar frechlynnau

Diweddarwyd 28 June 2023

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Cydsynio i gael y brechlyn

Rhaid i’r person sy’n cael y brechlyn gytuno i’w gael cyn derbyn y brechlyn. Mae hyn yn seiliedig ar y sefyllfa gyfreithiol bresennol, a’r safonau a ddisgwylir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae’n bwysig rhagdybio bod gan berson y gallu i wneud ei benderfyniad ei hun, oni phrofir yn wahanol. Ond, ni ddylai diffyg galluedd meddyliol i gydsynio atal person rhag cael cynnig brechlyn. Bydd angen i’r brechwr gymryd camau ychwanegol os nad oes gan y person y galluedd i gydsynio i’r brechlyn.

2. Deall nad yw pawb yn gallu cydsynio

Pan nad oes gan berson y galluedd meddyliol i gydsynio i gael y brechlyn, dylid gwneud penderfyniad er lles pennaf ar ei ran. Dim ond atwrnai neu ddirprwy sydd wedi cael ei benodi i wneud penderfyniadau iechyd a lles sy’n gallu gwneud y penderfyniad. Ni all atwrneiod a dirprwyon sydd wedi cael eu penodi dim ond i wneud penderfyniadau ynghylch materion ariannol ac eiddo wneud penderfyniadau ynghylch brechlynnau.

Cyn cytuno i roi’r brechlyn i rywun sydd â diffyg galluedd, cyfrifoldeb y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, y gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd neu’r gwirfoddolwr sy’n cynnig y brechlynnau yw gwneud yn siŵr bod un o’r canlynol ar waith:

  • atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer iechyd a lles
  • gorchymyn perthnasol gan y Llys Gwarchod (gorchymyn dirprwyaeth yw hwn fel arfer, ond gallai fod yn orchymyn gan y llys ynghylch y mater penodol hwn)

Dylai’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu’r unigolyn a fyddai’n rhoi’r brechlyn ofyn wedyn i’r atwrneiod neu’r dirprwyon a ydyn nhw’n cydsynio.

Os nad yw’r atwrneiod neu’r dirprwyon yn cydsynio i’r brechlyn gael ei roi, efallai y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o’r farn nad yw’r penderfyniad hwnnw er lles pennaf yr unigolyn. Os felly, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedyn yn gofyn am gyngor cyfreithiol gan y corff GIG neu’r awdurdod lleol perthnasol. Gellir gwneud cais i’r Llys Gwarchod iddynt wneud y penderfyniad terfynol ar roi’r brechlyn neu beidio.

3. Gwneud penderfyniadau

Yng ngweddill y canllawiau hyn, mae ‘chi’ yn golygu naill ai’r atwrnai neu’r dirprwy.

Rhan o’ch rôl chi yw gwneud yn siŵr eich bod yn gweithredu er lles pennaf y person sydd wedi’ch penodi chi i weithredu ar ei ran pan fydd wedi colli galluedd meddyliol.

Dylech ystyried beth fyddai dymuniadau’r person pe bai’n gallu gwneud penderfyniadau drosto’i hun.

Mae angen i chi ystyried:

  • ei werthoedd presennol a blaenorol, gan gynnwys safbwyntiau moesegol, gwleidyddol a chrefyddol
  • unrhyw ffactorau eraill y byddai fel arfer yn eu hystyried pe bai’n gallu gwneud hynny
  • unrhyw ddewisiadau ar ei Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer iechyd a lles (os yw wedi rhoi cyfarwyddiadau, mae’r rhain yn orfodadwy a rhaid eu dilyn)

Ni ddylech wneud penderfyniad dim ond oherwydd oedran neu edrychiad y person. Ni ddylech wneud rhagdybiaethau ar sail cyflwr sydd gan y person o bosibl, nac oherwydd elfen o’i ymddygiad.

  • dylech hefyd ystyried a yw’n debygol y bydd yn adennill ei alluedd meddyliol – os felly, pryd mae hynny’n debygol o ddigwydd. Os gall y penderfyniad aros nes bydd y person yn gallu gwneud y penderfyniad drosto’i hun, neu gymryd rhan yn y broses benderfynu, dylech aros

Dyma ambell beth y gallwch chi ei wneud i sicrhau y bydd rhywun yn cysylltu â chi ynghylch eich penderfyniad:

  • os yw’r person yn byw mewn cyfleuster gofal, rhowch wybod i’r cyfleuster bod rhaid iddyn nhw gysylltu â chi ynghylch y penderfyniad
  • os yw’r person yn byw ar ei ben ei hun, cysylltwch â’r tîm brechu lleol i sicrhau bod rhywun yn cysylltu â chi ynghylch y penderfyniad cyn i’r brechlyn gael ei roi

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eisiau deall sut ydych wedi gwneud y penderfyniad, yn enwedig os yw’n mynd yn groes i’w barn broffesiynol nhw, ac nid ydych yn rhoi eich cydsyniad. Os na allwch chi a’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ddod i gytundeb, bydd angen i’r rhai hynny sy’n gyfrifol am roi’r brechlyn wneud cais i’r Llys Gwarchod i wneud y penderfyniad.

Fel gyda phob penderfyniad am ofal iechyd, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’r darparwr gofal iechyd neu’r gweithiwr proffesiynol cyn i chi wneud penderfyniad.

Os byddwch chi’n penderfynu cydsynio i’r brechlyn ar ran y person, does dim angen i chi fynd i’r apwyntiad brechu. Ar yr amod eich bod chi wedi cydsynio, gall rhywun arall fynd â’r person i’r apwyntiad brechu gyda’ch caniatâd chi.

4. Angen rhagor o wybodaeth neu oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Edrychwch ar benodau 4 a 5 yng Nghod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol i gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ynghylch sut mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gweithio’n ymarferol.

Neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 456 0300.