Stori newyddion

Trwyddedau gyrru rhyngwladol ar gael yn siopau PayPoint o 1 Ebrill 2024

O 1 Ebrill 2024, bydd trwyddedau gyrru rhyngwladol ar gael yn unig o siopau PayPoint sy'n cymryd rhan ledled y DU.

Mae darparwr trwyddedau gyrru rhyngwladol (IDPs)  yn newid. O 1 Ebrill 2024, bydd IDPs ar gael yn unig o siopau PayPoint sy’n cymryd rhan ledled y DU.

Nid oes angen IDP fel arfer ar gyfer y mwyafrif o gyrchfannau gwyliau poblogaidd dramor. Fodd bynnag, mae dros 140 o wledydd, gan gynnwys Twrci, Mecsico, Canada ac Awstralia, lle mae IDP yn cael ei hargymell neu mae ei hangen os ydych chi’n bwriadu gyrru. Mae tri math o IDP a bydd pa un sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar ba wlad rydych chi’n ymweld â hi. Gwiriwch a oes angen IDP arnoch ar gyfer y wlad rydych chi’n ymweld â hi yn GOV.UK.

Os ydych yn teithio cyn 1 Ebrill 2024 ac mae angen IDP arnoch, bydd angen ichi fynd i gangen Swyddfa’r Post sy’n cymryd rhan. Os ydych yn teithio ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024 bydd angen ichi fynd i siop PayPoint sy’n cymryd rhan. Bydd rhagor o wybodaeth am ble mae’r siopau hynny wedi’u lleoli ar gael ar GOV.UK o 1 Ebrill.

Cyhoeddwyd ar 4 March 2024