Stori newyddion

Mae Tŷ'r Cwmnïau yn chwilio am adborth ar sut rydym yn cyfathrebu ein gwybodaeth gyda chi

Mae angen eich adborth arnom i sicrhau bod ein sianeli digidol mor effeithiol â phosibl.

Rydym eisiau darganfod mwy am pam mae pobl yn defnyddio ein sianeli digidol. Bydd deall beth mae defnyddwyr yn ei weld yn ddefnyddiol, a’r hyn yr hoffech ei weld gennym ni, yn ein helpu i sicrhau bod ein sianeli mor effeithiol â phosibl.

Mae’r arolwg fel arfer yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

Mae’r holl ymatebion yn ddienw ac yn gwbl gyfrinachol. Ni allwn adnabod cyfranogwyr o’r wybodaeth rydych yn ei darparu.

Pam rydym eisiau eich adborth

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn trawsnewid. Bydd y ddeddfwriaeth sydd i ddod yn rhoi pwerau newydd i ni:

  • mynd i’r afael â throseddau economaidd
  • cefnogi twf economaidd
  • gwella hygyrchedd a thryloywder y wybodaeth ar ein cofrestrau

Byddwn yn defnyddio ein sianeli digidol i ddweud wrth ein defnyddwyr a’r cyhoedd am y newidiadau hyn ac egluro beth fydd angen iddynt ei wneud yn wahanol.

Mae ein sianeli digidol yn cynnwys:

Cyhoeddwyd ar 9 October 2023