Ymchwil a dadansoddi

Diweddariad map ffordd strategaeth data'r OIM

Mae Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM) wedi cyhoeddi diweddariad i’w map ffordd ar gyfer y strategaeth data.

Dogfennau

Manylion

Yn dilyn ymlaen o fap ffordd y strategaeth data, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023, mae’r OIM wedi llunio Diweddariad sy’n amlinellu cynnydd a datblygiadau’n gysylltiedig â data ar farchnad fewnol y DU dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn rhoi diweddariad ar fentrau sy’n ymwneud â data masnachu o fewn y DU a oedd wedi’u cynnwys ar y map ffordd gwreiddiol, ac yn archwilio dangosyddion eraill a allai roi cipolwg ar weithrediad y farchnad fewnol. Mae’r OIM yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, adrannau Llywodraeth y DU, y Llywodraethau Datganoledig a phartneriaid eraill i wella ein dealltwriaeth o weithrediad marchnad fewnol y DU.

Cyhoeddwyd ar 9 May 2024