Rheolau newydd ar gyfer tynnu ôl-gerbyd neu garafán gyda char o 16 Rhagfyr 2021
Newidiodd y rheolau ynglŷn â thynnu ôl-gerbyd neu garafán gyda char ar 16 Rhagfyr 2021. Cael gwybod sut mae'r newidiadau yn eich effeithio.
Applies to England, Scotland and Wales
Mae’r rheolau ar yr hyn y gallwch dynnu yn wahanol yn dibynnu ar bryd y pasioch eich prawf gyrru car.
Yr hyn y caniatawyd ichi dynnu cyn 16 Rhagfyr 2021
Trwyddedau a gyhoeddwyd cyn 1 Ionawr 1997
Nid yw’r newidiadau yn effeithio arnoch os pasioch eich prawf gyrru car cyn 1 Ionawr 1997.
Fel arfer, caniateir ichi yrru cyfuniad cerbyd ac ôl-gerbyd hyd at uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o 8,250kg. Gweld gwybodaeth eich trwydded yrru i wirio.
Rydych hefyd yn gallu gyrru bws mini gydag ôl-gerbyd dros 750kg MAM.
MAM yw’r uchafswm o faint y gall cerbyd bwyso pan fydd wedi’i lwytho.
Trwyddedau a gyhoeddwyd rhwng 1 Ionawr 1997 a 18 Ionawr 2013
Os pasioch eich prawf gyrru car rhwng 1 Ionawr 1997 a 18 Ionawr 2013, roeddech yn gallu gyrru unrhyw un o’r canlynol:
-
car neu fan hyd at 3,500kg MAM yn tynnu ôl-gerbyd hyd at 750kg MAM (hyd at 4,250kg i gyd)
-
ôl-gerbyd dros 750kg MAM, cyn belled nad yw’n fwy na phwysau, heb ei lwytho, y cerbyd tynnu (hyd at 3,500kg i gyd)
Rhaid ichi fod wedi pasio prawf gyrru car ac ôl-gerbyd os ydych chi eisiau tynnu unrhyw beth sy’n drymach.
Trwyddedau a gyhoeddwyd o 19 Ionawr 2013
Os pasioch eich prawf gyrru car o 19 Ionawr 2013, roeddech yn gallu gyrru unrhyw un o’r canlynol:
-
car neu fan hyd at 3,500kg MAM yn tynnu ôl-gerbyd hyd at 750kg MAM (hyd at 4,250kg i gyd)
-
ôl-gerbyd dros 750kg MAM cyn belled nad yw MAM cyfun y ôl-gerbyd a’r cerbyd tynnu yn fwy na 3,500kg
Rhaid ichi fod wedi pasio prawf gyrru car ac ôl-gerbyd os ydych chi eisiau tynnu unrhyw beth sy’n drymach.
Beth newidiodd ar 16 Rhagfyr 2021
Os pasioch eich prawf o 1 Ionawr 1997, caniateir ichi dynnu ôl-gerbydau hyd at 3,500kg MAM.
Gwiriwch lawrlyfr eich car i gael gwybod ei bwysau tynnu gros (GTW). Dyma holl bwysau’r car a ganiateir, a’r ôl-gerbyd a’r llwyth.
Bydd DVLA yn diweddaru cofnod eich trwydded yrru i ddangos eich bod yn gallu tynnu ôl-gerbydau. Nid oes angen ichi gysylltu â DVLA er mwyn i hwn ddigwydd. Caiff ei wneud yn awtomatig. Bydd categori BE yn cael ei ychwanegu i’ch trwydded yrru pan fyddwch yn cael trwydded yrru cerdyn-llun newydd.
Os pasioch eich prawf gyrru car cyn 1 Ionawr 1997, ni fydd y newid yn effeithio arnoch.
Gyrru car ac ôl-gerbyd am y tro cyntaf
Y peth gorau i’w wneud yw cymryd hyfforddiant gan hyfforddwr gyrru os ydych chi am ddechrau gyrru car ac ôl-gerbyd.
Mae’r ‘Safon genedlaethol ar gyfer gyrru ceir a faniau ysgafn’ yn dweud wrthych am y sgiliau, y wybodaeth a’r dealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i dynnu ôl-gerbyd neu garafán.
Gallwch hefyd ddarllen am:
Os oeddech wedi archebu prawf gyrru car ac ôl-gerbyd
Mae profion gyrru car ac ôl-gerbyd nawr wedi dod i ben. Ni allwch archebu un bellach.
Os gwnaethoch chi archebu’r prawf eich hun, bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau yn ei ganslo ac ei ad-dalu’n awtomatig ichi.
Os archebodd eich hyfforddwr eich prawf ar eich rhan, siaradwch â nhw am yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Ni allwch gael ad-daliad nac iawndal am unrhyw hyfforddiant rydych wedi’i gymryd i’ch helpu i baratoi i gymryd y prawf.
Os oeddech wedi pasio’ch prawf gyrru car ac ôl-gerbyd o’r blaen
Ni allwch gael ad-daliad nac iawndal am unrhyw hyfforddiant rydych wedi’i gymryd i’ch helpu i baratoi i gymryd prawf gyrru car ac ôl-gerbyd.
Ni allwch chwaith gael ad-daliad am unrhyw brofion a gymerwyd.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 December 2021 + show all updates
-
Made clearer that The BE category will show the next time the customer transacts and applies for a new photocard.
-
Updated to confirm that the rules changed on 16 December 2021.
-
Updated to confirm that the rules about what you can tow will not change on 15 November 2021. The change will be introduced at a later date, and as soon as possible.
-
Updated to confirm that the rules will change on 15 November 2021, subject to Parliamentary approval.
-
First published.