Canllawiau

Gorffen creu eich cyfrif gwasanaethau asiant os ydych dramor

Os yw eich busnes asiant wedi'i leoli y tu allan i’r DU a bod CThEM wedi cymeradwyo’ch cais, dylech orffen y broses o greu eich cyfrif gwasanaethau asiant.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i orffen y broses o greu eich cyfrif gwasanaethau asiant, pan fydd CThEM wedi cymeradwyo’ch cais.

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch y gwnaethoch eu defnyddio wrth wneud cais am gymeradwyaeth gan CThEM ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant.

Cyhoeddwyd ar 12 February 2019