Gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Gwiriwch a ydych yn gymwys i wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) a gwnewch gais amdano naill ai ar-lein neu drwy’r post (ffurflen CF411).
Gwiriwch a ydych yn gymwys i wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi wirio os oes gennych unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn Saesneg).
Os oes gennych unrhyw fylchau, defnyddiwch yr offeryn ar-lein i wirio a ydych yn gymwys i wneud cais.
Bydd angen i chi ddarparu’r dystiolaeth ganlynol
Os ydych yn ofalwr maeth neu’n ofalwr sy’n berthynas
Bydd yn rhaid i chi anfon copi o lythyr o gadarnhad cyfredol oddi wrth yr awdurdod lleol neu’r asiantaeth faethu gyda’ch cais.
Os ydych yn gofalu am berson sy’n sâl neu’n anabl
Bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth gyda’ch cais, sy’n dangos y lwfansau neu’r budd-daliadau a dalwyd i’r unigolyn yr oeddech yn gofalu amdano yn ystod y cyfnod yr oeddech yn gofalu amdano.
Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ddangos bod y lwfans neu’r budd-dal wedi’i dalu er mwyn cwmpasu o leiaf 48 wythnos ymhob blwyddyn rydych yn hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar ei chyfer.
Ffyrdd o wneud cais
Gwneud cais ar-lein
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.
Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.
Llenwch y ffurflen ar-lein.
Os ydych yn cyflwyno llythyr o gadarnhad neu dystiolaeth ategol, dylai fod ar ffurf PDF neu JPEG, ac ni ddylai fod yn fwy na 5MB.
Gwneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen bost
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
- y blynyddoedd treth rydych yn gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
- y dyddiadau y gwnaethoch hawlio Budd-dal Plant
- unrhyw ddyddiadau yr oeddech yn byw y tu allan i’r DU yn ystod y cyfnod yr ydych yn hawlio ar ei gyfer
-
Mae angen i chi agor a llenwi’r ffurflen hon ar-lein. Gan na allwch gadw’ch cynnydd, dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.
-
Llenwch ffurflen CF411.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post ynghyd ag unrhyw dystiolaeth, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Cael help i gyflwyno’ch cais
Gallwch ddefnyddio’r nodiadau hyn i’ch helpu i lenwi’ch cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref gan ddefnyddio ffurflen CF411.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 August 2023 + show all updates
-
The link to the eligibility checker tool has been moved and made more prominent.
-
'Before you apply' has been updated to include that you must first check if you have any gaps in your National Insurance record and if you are eligible to apply for Home Responsibilities Protection. The instruction for parents or carers to check if they can apply for National Insurance credits using form CF411A has been removed. The 'You will need' section has been updated for clarification and to include only the things that you need.
-
The apply by post form has been updated.
-
A Welsh version of the form has been added.
-
First published.