Gwneud cais am basbort gwartheg newydd
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am basbort gwartheg newydd oddi wrth Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain.
Applies to England and Wales
Dogfennau
Manylion
Os oes pasbort gwartheg yn cael ei golli neu ei ddwyn, rhaid ichi wneud cais am un arall o fewn 14 diwrnod ar ôl sylweddoli ei fod yn eisiau. Pris un newydd yw £20.
Chewch chi ddim symud yr anifail oddi ar eich daliad nes bod pasbort newydd gennych chi.
Llenwch y ffurflen ac anfonwch daliad naill ai drwy drosglwyddiad BACS (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr) neu drwy siec. Mae’r cyfarwyddiadau talu ar y ffurflen.
Anfonwch y ffurflen yn ôl i:
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Os na allwch chi lawrlwytho neu argraffu’r ffurflen, gallwch gael copi papur drwy gysylltu â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) drwy eich cyfrif SOG Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg), neu dros y ffôn.
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau
Beth sy’n digwydd nesaf
Fel arfer, byddwch yn cael y pasbort o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud cais.
Os na all GSGP olrhain hanes llawn symudiadau’r anifail, fyddan nhw ddim yn rhoi pasbort newydd a fyddwch chi ddim yn cael ad-daliad.
Yn hytrach, fe gewch chi hysbysiad cofrestru (CPP35). Mae hyn yn golygu na chaiff yr anifail adael y daliad oni bai bod gennych chi drwydded symud. Rhagor o wybodaeth am y rheolau ar gyfer gwartheg heb basportau.
Darllenwch ragor am sut i gael, cywiro neu adnewyddu pasbort gwartheg.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 January 2023 + show all updates
-
Replaced CPP9a form in Welsh with updated version.
-
Added additional section to the form 'How to complete the form'
-
Added translation