Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £593.

Fel arfer mae’n cymryd tua 6 mis.

Gofynnir ichi am gyfeiriad cyfredol eich partner sifil fel gall y llys anfon copi o’r cais atynt. Darllenwch fwy yma am beth i’w wneud os nad ydych yn gwybod beth yw cyfeiriad eich partner.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben ar-lein.

Gwneud cais nawr neu barhau â chais

Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd i wneud cais.

Gwneud cais drwy’r post

Llenwch ffurflen cais am ddiddymiad.

Gallwch gael cymorth i lenwi’r ffurflen mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth.

Anfonwch gopi o’r ffurflen i:

Gwasanaeth Ysgariadau a Diddymiadau GLlTEM
Blwch Post 13226
Harlow
CM20 9UG

Cadwch gopi o’r ffurflen i chi eich hun.

Sut i dalu

Gallwch dalu un ai gyda:

  • cherdyn debyd neu gredyd - Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) yn eich ffonio neu’n anfon e-bost atoch gyda’r manylion talu
  • siec - yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’