Gwneud cais am orchymyn terfynol

Y gorchymyn terfynol yw’r ddogfen gyfreithiol sy’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Rhaid i chi aros am 6 wythnos ar ôl dyddiad y gorchymyn amodol i wneud cais am orchymyn terfynol.

Os mai eich partner sifil wnaeth gais am orchymyn amodol, bydd rhaid i chi aros am 3 mis a 6 wythnos ar ôl dyddiad y gorchymyn amodol.

Gwnewch gais o fewn 12 mis o gael y gorchymyn amodol - fel arall bydd rhaid i chi esbonio’r oedi i’r llys.

Os ydych eisiau trefniant rwymol gyfreithiol ar gyfer rhannu arian ac eiddo rhaid ichi wneud cais am hwn cyn ichi wneud cais am orchymyn terfynol.

Sut i wneud cais

Bydd sut byddwch yn gwneud cais am orchymyn terfynol yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais cyn 6 Ebrill 2022

Llenwch y ffurflen gais i wneud gorchymyn amodol yn derfynol.

Dychwelwch y ffurflen wedi’i llenwi i’r llys. Fel arfer, dyma’r llys a ddeliodd gyda’ch gorchymyn amodol.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

Os wnaethoch gais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben ar-lein, fe gewch eich hysbysu am sut i wneud cais am y gorchymyn terfynol ar-lein.

I wneud cais drwy’r post, llenwch y ffurflen gais am orchymyn terfynol.

Gallwch wneud cais am orchymyn terfynol fel ceisydd unigol, hyd yn oed os wnaethoch gychwyn y broses i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben ar y cyd gyda’ch partner sifil.

Cael y gorchymyn terfynol

Bydd y llys yn gwirio nad oes unrhyw reswm pam na ellir dod â’r bartneriaeth sifil i ben. Rhaid ichi ddarparu’r holl fanylion y mae’r llys yn gofyn amdanynt o fewn y terfynau amser.

Os yw’r llys yn hapus gyda’r holl wybodaeth, bydd yn anfon y gorchymyn terfynol atoch chi a’ch partner sifil.

Unwaith y cewch eich gorchymyn terfynol, bydd eich partneriaeth sifil wedi dod i ben a gallwch briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil arall.

Rhaid i chi gadw eich gorchymyn terfynol yn ddiogel - bydd arnoch angen ei ddangos os byddwch yn ymrwymo i bartneriaeth sifil arall neu i brofi eich statws priodasol.