Canllawiau

Defnyddio neuaddau eglwysi ar gyfer neuadd bentref a dibenion elusennol eraill (CC18)

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut y gellir defnyddio neuadd eglwys ar gyfer dibenion elusennol eraill os nad oes ei hangen mwyach at ddibenion eglwys yn unig.

Applies to England and Wales

Am beth mae’r canllawiau hyn?

Mae’r canllawiau hyn yn egluro beth i’w wneud pan na fydd angen neuadd eglwys bellach, neu ei fod angen yn achlysurol ar gyfer dibenion eglwysig. Mae’n cynnwys sefyllfaoedd gan gynnwys pan:

  • nad oes unrhyw ddefnydd gwirioneddol eglwysig yn cael ei wneud o’r eiddo mwyach ac ni allwch ei ddefnyddio yn y modd a ddisgrifir yn y ddogfen lywodraethol
  • eich bod yn parhau i ddefnyddio’r eiddo fel neuadd eglwys, ond ar bob adeg arall does dim angen y neuadd yn y modd y caiff ei ddisgrifio yn y ddogfen lywodraethol
  • eich bod angen awdurdod y Comisiwn Elusennau o bosib

Termau technegol a ddefnyddir yn y canllawiau hyn

Ystyr Deddf Elusennau 2011 yw Deddf Elusennau 2011 fel y’i diwygiwyd.

Neuadd Eglwys: unrhyw adeilad sydd, yn unol â’i ddogfen lywodraethu, i’w ddefnyddio at ddibenion yr eglwys.

Defnydd at ddibenion eglwysig: yn golygu defnydd at unrhyw ddiben er mwyn hyrwyddo crefydd, gan gynnwys defnydd gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r eglwys. Er enghraifft, defnyddio’r safle ar gyfer:

  • dathlu Gwasanaeth Dwyfol
  • gweithgareddau efengylaidd
  • dosbarthiadau bedydd
  • gwyliau crefyddol
  • Ysgolion Sul
  • cyfarfodydd y clerigwyr
  • gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau crefyddol (er enghraifft, derbyniadau priodas)

Gall hefyd gynnwys cyfarfodydd o’r:

  • brownis, y cybiau, y geidiau a’r sgowtiaid
  • clybiau a chymdeithasau eglwysig (er enghraifft, Undeb y Mamau)

Tir dynodedig: tir y mae’n rhaid ei ddefnyddio at ddibenion penodol fel nodir yn y ddogfen lywodraethu.

Dogfen lywodraethu: yw unrhyw ddogfen sy’n nodi dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y mae i’w gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, trawsgludiad, ewyllys neu gynllun y Comisiwn Elusennau.

Mae ymddiriedolwyr yn golygu ymddiriedolwyr elusen: ymddiriedolwyr elusennau yw’r bobl sydd, o dan ddogfen lywodraethol yr elusen, yn gyfrifol am reoli a chyfarwyddo gweinyddiaeth yr elusen yn gyffredinol. Mae gan rai elusennau geidwad ymddiriedolwr (neu, yn achos Eglwys Loegr, awdurdod esgobaethol) y mae ei swyddogaeth o dan y ddogfen lywodraethol wedi’i chyfyngu i ddal ei heiddo. Nid oes gan y ceidwad ymddiriedolwr unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau rheoli a rhaid iddo weithredu ar gyfarwyddiadau cyfreithlon ymddiriedolwyr yr elusen. Yn Eglwys Loegr y Cyngor Plwyf Eglwysig yn aml fydd ymddiriedolwyr elusen neuadd eglwys a Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth fydd awdurdod yr Esgobaeth.

Mae ymddiriedolaethau elusen yn golygu’r darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen lywodraethol. Pan fydd tir yn gysylltiedig, ac nad oes dogfen lywodraethol ffurfiol, gellir dod i gasgliad ynglŷn â’r ymddiriedolaethau o’r modd y cafodd ei defnyddio.

Rhan I: Neuaddau eglwys sydd eu hangen at ddibenion eglwysig ac at ddibenion elusennol eraill

Pryd y gellir defnyddio neuadd eglwys at ddibenion elusennol eraill?

Weithiau gall ymddiriedolwyr neuadd eglwys ganfod:

  • nad oes angen y neuadd drwy’r amser at ddibenion eglwysig, er bod ei hangen yn achlysurol ac yn rheolaidd
  • nad oes ganddynt ddigon o arian i gynnal y neuadd na’i gwella i safonau derbyniol
  • mae angen y neuadd ar gyfer defnydd ‘elusenol’ ychwanegol, nad yw’n gymwys fel diben eglwys, megis neuadd bentref neu ganolfan ieuenctid

Os mai dyma’r achos, oni bai bod dogfen lywodraethol yr elusen yn caniatáu defnyddio’r eiddo at ddibenion nad ydynt yn rhai sy’n ymwnued â’r eglwys, ni all yr ymddiriedolwyr ganiatáu i’r neuadd gael ei defnyddio at ddiben elusennol arall. Y rheswm am hyn yw mai dim ond at ddibenion yr eglwys elusennol a nodir yn y ddogfen lywodraethu y cânt ddefnyddio neuadd yr eglwys.

Fodd bynnag, os yw’r ymddiriedolwyr yn canfod nad oes unrhyw ddefnydd eglwysig dilys bellach ar gyfer yr eiddo, rhaid iddynt gymryd camau i sicrhau y gellir defnyddio eiddo’r neuadd eglwys yn effeithiol at ddibenion elusennol.

Bydd yr hyn y mae ymddiriedolwyr yn ei benderfynu er budd elusen neuadd yr eglwys yn dibynnu ar eiriad penodol y dibenion yn nogfen lywodraethol neuadd yr eglwys a’r amgylchiadau ymarferol sy’n effeithio ar yr elusen. Bydd hyn yn golygu diwygio’r dibenion elusennol yn y ddogfen lywodraethol trwy ddefnyddio naill ai pŵer gwella yn y ddogfen lywodraethol neu’r pŵer statudol i ddiwygio, a chael awdurdod y Comisiwn lle bo angen. Mae enghreifftiau o newidiadau yn cynnwys:

  • diwygio dibenion neuadd yr eglwys i alluogi gwaredu’r eiddo
  • ehangu’r dibenion fel y gellir parhau i ddefnyddio neuadd yr eglwys fel neuadd eglwys ond ar gyfer grŵp ehangach o bobl fel cynulleidfa eglwys mewn plwyf cyfagos

Darllenwch ein canllawiau ar newid dibenion (CC36) a’r gwaredu tir elusennol (CC28) i ddeall y gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol.

Fel rhan o gymryd unrhyw gamau i newid defnydd neuadd eglwys, bydd angen i ymddiriedolwyr ystyried a yw’r eiddo yn amodol ar unrhyw gyfamod sy’n cyfyngu ar ei ddefnydd. Mae’r rhain fel arfer i’w cael yng ngweithredoedd yr eiddo. Os ydyw, efallai bydd angen iddynt geisio amrywio’r cyfamod. Dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor cyfreithiol os ydynt yn aneglur, a chyngor cyfreithiol ar unrhyw newid yn eu gweithredoedd teitl.

Yn ogystal ag unrhyw awdurdod gan y Comisiwn Elusennau y gallai fod ei angen, efallai bydd angen i’r ymddiriedolwyr gael caniatâd ffurfiol awdurdod yr esgobaeth. Er enghraifft, pan ddelir yr eiddo gan y Cyngor Plwyf Eglwysig o dan adran 6(3) o Fesur Cyngor Plwyf Eglwysig (Pwerau) 1956, neu (yn fwy prin) o dan Ddeddf Periglor a Wardeniaid yr Eglwysi (Ymddiriedolaethau) 1964.

Sut y gellir cyflawni newid defnydd?

Eiddo neuadd eglwys a ddelir dan brydles

Os yw prydles y neuadd sydd ond yn caniatáu defnyddio’r safle fel neuadd eglwys yn cael ei chadw gan ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys, bydd angen iddynt ystyried:

  • negodi amrywiad yn y brydles gyda’r landlord i ganiatáu newid defnydd. Bydd angen i ymddiriedolwyr sicrhau bod ganddynt y pŵer i aildrafod y les yn eu dogfen lywodraethol neu bŵer yn y gyfraith. Os nad oes ganddynt y pŵer i wneud hyn, efallai y bydd yn ofynnol i awdurdod y Comisiwn wneud hynny
  • ildio’r les bresennol a thrafod un newydd. Mae ildio les yn gwaredu tir felly dylai ymddiriedolwyr ystyried y gofynion cyfreithiol ar gwaredu tir a nodir yn ein canllawiau

Dylai ymddiriedolwyr ofyn am gyngor cyfreithiol os nad ydynt yn glir.

Eiddo mae’r elusen yn berchen arno (heb ei ddal ar brydles)

Dylai ymddiriedolwyr ystyried a yw’r llwybr priodol yn golygu:

  • defnyddio pŵer i ddiwygio yn y ddogfen lywodraethol, os oes un, i newid sut y gellir defnyddio neuadd yr eglwys. Yn ei hanfod rydych yn newid pwrpas neuadd yr eglwys. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau neu gyfarwyddiadau yn y pŵer diwygio hwnnw
  • defnyddio pŵer statudol y gwella i newid sut y gellir defnyddio neuadd yr eglwys, a fydd yn gofyn am gael awdurdod y Comisiwn oherwydd eich bod yn newid dibenion neuadd yr eglwys. Darllenwch ein canllawiau ynghylch newid dibenion (CC36) i ddeall y gofynion a sut i wneud cais am awdurdod
  • gwneud cais am gynllun gan y Comisiwn Elusennau i awdurdodi prydles i elusen arall, fel elusen neuadd bentref (a elwir weithiau’n gynllun Albemarle)

Lle dewisir llwybr cynllun Albemarle, mae’n bwysig nodi na ellir rhoi les tan ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.

Beth fydd cynllun Albemarle yn ei wneud?

Bydd cynllun Albemarle yn rhoi awdurdod i’r ymddiriedolwyr gynnig prydles o’r eiddo i alluogi ei ddefnydd gan elusen arall, fel elusen neuadd bentref (y lesddeiliad). Fel arfer, bydd Albemarle hefyd yn nodi:

  • y dibenion elusennol y gellir defnyddio neuadd yr eglwys ar eu cyfer
  • y defnydd ychwanegol
  • cyfnod y brydles
  • y rhent i’w dalu
  • y diwrnodau a/neu’r achlysuron pan gedwir y defnydd o’r safle ar gyfer ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys heb daliad
  • sut fydd y rhent neu’r taliad arall sydd i’w dderbyn gan ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys yn cael ei gymhwyso ganddynt at ddibenion elusennol eraill

Bydd y cynllun yn rhan o ddogfen lywodraethol elusen neuadd yr eglwys, ond dylid nodi ymddiriedolaethau elusen Prydles mewn dogfen lywodraethol ar wahân.

Sut mae elusen neuadd yr eglwys yn elwa o roi prydles i elusen nad yw’n eglwys?

Mantais cynllun Albemarle yw cadw’r defnydd o’r eiddo at ddibenion yr eglwys ar adegau penodol.

Mae prydles o’r math hwn hefyd yn cadw’r adeilad (boed drwy gyfamodau cynnal a chadw neu godi rhent priodol) ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, pe bai ei angen unwaith eto at ystod ehangach o ddibenion eglwysig. Yn y cyfamser, mae’n dod ag eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn, na ellir ei gynnal a’i wella’n briodol i safonau modern efallai, gan ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys.

Pa ddarpariaethau dylai prydles eu cynnwys?

Fel arfer, dylai prydles:

  • cynnwys darpariaethau addas ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw’r eiddo ac ar gyfer talu rhent gan y lesddeiliad
  • galluogi ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys i godi’r rhent gorau y gellir ei gael yn rhesymol gan ystyried y defnydd a gadwyd yn ôl at ddibenion elusennol a’r rhwymedigaethau prydlesu o dan y les
  • neilltuo’r hawl i ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys gael ddefnyddio’r eiddo, yn rhad ac am ddim, ar ddiwrnodau penodedig a/neu ar nifer penodol o achlysuron
  • cynnwys cyfamod yn erbyn aseinio’r brydles neu danosod gan y deiliad prydles
  • darparu bod gan y prydlesydd gyfrifoldeb ariannol dros atgyweirio a chynnal a chadw’r neuadd

Dylai ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys sicrhau eu bod yn derbyn cyngor proffesiynol annibynnol gan gyfreithwyr a syrfewyr er enghraifft wrth ystyried telerau unrhyw brydles y gallent ei rhoi.

Pa mor hir y dylai prydles fod ar ei gyfer?

Fel arfer dylai prydles fod am gyfnod o ddim mwy na 35 mlynedd, heb unrhyw opsiwn i adnewyddu. Bydd hyn yn galluogi’r lesddeiliad i wneud cais am gymorth grant awdurdodau lleol i wella neu atgyweirio’r eiddo os oes angen.

Mae’r Comisiwn yn cydnabod, os yw’r lesddeiliad yn bwriadu gwario symiau mawr iawn (yn ormodol am brydles 35 mlynedd) ar yr eiddo, mae’n rhesymol y dylent fwynhau diogelwch deiliadaeth am gyfnod hirach. Mewn amgylchiadau o’r fath dylai ymddiriedolwyr elusen neuadd yr eglwys:

  • cymryd cyngor proffesiynol ynghylch hyd y tymor sydd i’w roi mewn unrhyw achos penodol
  • ystyried yr angen i adolygu’r trefniadau o bryd i’w gilydd
  • hysbysu’r Comisiwn

A oes unrhyw amodau arbennig lle bydd y lesddeiliad yn ymgymryd â gwaith adeiladu?

Os yw’r lesddeiliad yn gwneud gwaith adeiladu, efallai y bydd ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys yn cael eu hatal rhag defnyddio’r neuadd. Er enghraifft, lle mae’r safle’n cael ei ddymchwel a’i ailadeiladu, ei adnewyddu neu ei wella. Ymhellach, gall y neuadd gael ei phrydlesu ar rent isel yn rhannol oherwydd bod gwaith o’r fath i’w wneud.

O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n rhesymol i ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys gael eu diogelu rhag oedi gormodol wrth gwblhau’r gwaith (yn enwedig gan fod y cynnig yn debygol o fod wedi dod o’r lesddeiliad). Lle gwyddys ymlaen llaw y bydd gwaith adeiladu’n cael ei wneud, bydd y cynllun sy’n awdurdodi’r brydles fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael eu cwblhau o fewn tair blynedd.

Lle bydd y neuadd bresennol yn cael ei dymchwel ac un newydd yn cael ei adeiladu gan y lesddeiliad, bydd angen i’r brydles gynnwys darpariaethau arbennig am y neuadd newydd. Er mwyn diogelu eu buddiannau eu hunain, dylai ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys gymryd cyngor cyfreithiol cyn ymrwymo i brydles o’r fath. Rhaid iddynt hefyd fodloni eu hunain bod gan y lesddeiliad yr adnoddau ariannol i gwblhau’r prosiect.

Mewn rhai achosion, gellir cynnig gwaith adeiladu sylweddol ar ôl i’r brydles gael ei rhoi. Gall y Comisiwn, os yw ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys yn gofyn amdano, gynnwys darpariaeth yn y cynllun sy’n caniatáu amrywio telerau’r brydles os bydd gwariant sylweddol ar ailadeiladu, atgyweirio neu foderneiddio yn cael ei wneud gan y lesddeiliad ar ôl i’r brydles gael ei rhoi.

Beth sy’n digwydd ar ddiwedd y cytundeb?

Ychydig cyn diwedd y brydles bydd angen i ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys ystyried y defnydd o’r eiddo yn y dyfodol. Fel arfer, dyma’r opsiynau:

  • os oes angen neuadd yr eglwys eto i’w defnyddio at ddibenion yr eglwys yn unig, dylai ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys gymryd rheolaeth dros yr eiddo ar ddiwedd y brydles
  • os oes angen defnydd achlysurol ond rheolaidd at ddibenion eglwysig, gall ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys wneud cais am gynllun Albemarle newydd fel yr eglurir yn yr adran uchod. Neu, gallant ystyried ehangu dibenion neuadd yr eglwys fel yr eglurir yn yr adran uchod
  • os nad oes angen y neuadd mwyach o gwbl at ddibenion eglwysig, rhaid i ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys gymryd camau i sicrhau defnydd effeithiol o eiddo neuadd yr eglwys. I ganiatáu hyn, rhaid i’r ymddiriedolwyr ddiwygio dibenion elusen neuadd yr eglwys. Dilynwch y canllawiau a eglurir yn yr adran uchod

Beth yw’r berthynas rhwng ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys a’r lesddeiliad?

Yn gyfreithiol, bydd y berthynas rhwng ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys a’r lesdeiliad yn un rhwng landlord a thenant, a dylai fod ar sail busnes.

Lle mae’r lesdeiliad yn elusen anghofrestredig, bydd angen iddi gofrestru gyda’r Comisiwn.

Mewn llawer o achosion lle mae’r lesddeiliad yn neuadd bentref neu’n ganolfan ieuenctid, bydd pwyllgor rheoli eisoes mewn bodolaeth ac efallai ei fod wedi bod yn defnyddio safleoedd eraill ers peth amser. Gall fod yn briodol i ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys gael eu cynrychioli ar bwyllgor rheoli elusen y lesddeiliad.

Rhan II: Neuaddau eglwys nad oes eu hangen mwyach at ddibenion yr eglwys

A ddylai’r ymddiriedolwyr werthu neu osod yr eiddo?

Rhaid i ymddiriedolwyr gymryd camau i sicrhau bod eiddo neuadd yr eglwys yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.

Mae’r hyn sy’n effeithiol yn dibynnu ar eiriad penodol y dibenion elusennol yn nogfen lywodraethol elusen neuadd yr eglwys a’r amgylchiadau ymarferol y mae’n ei wynebu.

Gall yr ymddiriedolwyr benderfynu mai’r defnydd mwyaf effeithiol fyddai gwerthu neu osod yr eiddo a defnyddio’r elw at ddibenion elusennol pellach. Os yw neuadd yr eglwys yn dir dynodedig, rhaid diwygio pwrpas elusennol elusen neuadd yr eglwys i ddarparu’r pŵer gwerthu oni bai bod y ddogfen lywodraethol eisoes yn darparu’r pŵer hwn.

Darllenwch ein canllawiau ar newid dibenion a’r disposing of charity land er mwyn deall y gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol.

Bydd angen i ymddiriedolwyr neuadd yr eglwys hefyd ystyried a oes unrhyw gyfyngiadau statudol ar werthu neu osod yr eiddo (er enghraifft eiddo a ddelir o dan adran 6 o Fesur (Pwerau) Cyngor Plwyf Eglwysig 1956).

Beth yw’r gofynion cyfreithiol o ran gwerthu neu rentu’r neuadd eglwys?

Mae’r rhain wedi’u nodi yn ein canllawiau ynghylch gwaredu tir elusennol.

Cyhoeddwyd ar 1 July 2001
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 March 2024 + show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. Added translation