Canllawiau

Gwiriwch os oes angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd

Dysgwch pwy ddylai cofrestru, sut i gofrestru a beth yw’r bandiau a ffioedd ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.

Mae’r Ardoll Troseddau Economaidd yn ardoll newydd. Mae’n berthnasol i fusnesau sydd eisoes wedi’u rheoleiddio at ddibenion gwrth-wyngalchu arian.

Pwy ddylai gofrestru

Mae gan yr adran hon rym cyfreithiol, o dan reoliad 53 Deddf Cyllid 2022.

Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw’ch refeniw yn y DU yn £10.2 miliwn neu fwy yn ystod blwyddyn ariannol, a bod un o’r canlynol yn wir:

  • mae’ch busnes eisoes wedi’i reoleiddio gan CThEF at ddibenion gwrth-wyngalchu arian
  • mae’ch busnes wedi’i reoleiddi gan gorff proffesiynol at ddibenion gwrth-wyngalchu arian

Mae’r flwyddyn ariannol yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Unwaith yn unig sydd angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, ond bydd rhaid i chi gyflwyno datganiad a thalu’r ardoll ar sail flynyddol.

Os ydych yn cael eich goruchwylio at ddibenion rheoliadau gwyngalchu arian gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) neu’r Comisiwn Hapchwarae, mae angen i chi ddilyn eu prosesau Ardoll Troseddau Economaidd nhw. Peidiwch â chofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd gyda CThEF, cyflwyno Datganiadau Ardoll Troseddau Economaidd i CThEF na thalu’r Ardoll Troseddau Economaidd i CThEF.

Os ydych yn rhan o grŵp busnes

Mae’n rhaid i chi gofrestru, cyflwyno datganiadau blynyddol a thalu’r Ardoll Troseddau Economaidd ar lefel endid.

Bydd yr ardoll ond yn berthnasol i endidau yn eich grŵp sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer cofrestru.

Os ydych yn rhan o bartneriaeth

Mae’n rhaid i chi gofrestru, cyflwyno datganiadau blynyddol a thalu’r Ardoll Troseddau Economaidd ar lefel partneriaeth.

Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer yr ardoll os yw’ch refeniw yn y DU yn llai na £10.2 miliwn yn ystod blwyddyn ariannol.

Os yw CThEF a chorff proffesiynol arall yn goruchwylio eich gweithgareddau gwrth-wyngalchu arian

Mae’n rhaid i chi gofrestru, cyflwyno datganiadau blynyddol a thalu’r ardoll i’r corff proffesiynol hwnnw. Does dim angen i chi gofrestru gyda CThEF.

Er enghraifft, os yw CThEF a’r FCA yn rheoleiddio eich gweithgareddau gwrth-wyngalchu arian, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’r FCA.

Sectorau busnes

Disgwylir i’r sectorau busnes canlynol gofrestru:

  • sefydliadau credyd
  • sefydliadau ariannol
  • archwilwyr, ymarferwyr ansolfedd, cyfrifwyr allanol ac ymgynghorwyr treth
  • gweithwyr cyfreithiol annibynnol proffesiynol
  • darparwyr gwasanaeth cwmni neu ymddiriedolaeth
  • asiantau eiddo ac asiantau gosod eiddo
  • delwyr gwerthoedd uchel, casinos, platfformau ocsiwn neu gyfranogwyr yn y farchnad gelf
  • darparwyr cyfnewidfeydd cryptoasedion a darparwyr waledi gwarchodol

Sut i gofrestru (ni fydd gan y testun hwn rym y gyfraith)

Dysgwch pryd bydd angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, a sut i wneud hynny.

Maint bandiau a ffioedd

Bydd y swm sydd angen i chi ei dalu yn ddibynnol ar eich refeniw yn y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Mae yna bedwar maint band:

  • endidau bychan (refeniw yn y DU sy’n llai na £10.2 miliwn)
  • endidau canolig (refeniw yn y DU sydd rhwng £10.2 miliwn a £36 miliwn)
  • endidau mawr (refeniw yn y DU sydd rhwng £36 miliwn a £1 biliwn)
  • endidau mawr iawn (refeniw yn y DU sydd dros £1 biliwn)

Small entities do not need to pay the levy, however:

  • mae’n rhaid i endidau canolig talu £10,000
  • mae’n rhaid i endidau mawr talu £36,000
  • mae’n rhaid i endidau mawr iawn talu £250,000

Mae’n bosibl y bydd y swm sydd angen i chi ei dalu yn gostwng os ydych yn cynnal gweithgareddau a reoleiddir am ran o’r flwyddyn ariannol yn unig.

Cyhoeddwyd ar 25 May 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 April 2024 + show all updates
  1. A translation has been added.

  2. First published.