Ffurflen

Taflen gywiro Rhestr Gwerthiannau yn y GE

Defnyddiwch ffurflen VAT101B i roi gwybod i CThEF os ydych wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau neu hepgoriadau ar y ffurflen Rhestr Gwerthiannau yn y GE (VAT101) yr ydych eisoes wedi ei chyflwyno i CThEF.

Dogfennau

Taflen gywiro Rhestr Gwerthiannau yn y GE (VAT101B)

Find out how accessible our forms are

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i CThEF os ydych wedi gwneud camgymeriad neu hepgoriad yn ffigurau gwerthiannau’r UE yr ydych eisoes wedi’u cyflwyno ar Restr Gwerthiannau yn y GE ar gyfer:

  • nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir gennych o’r Deyrnas Unedig ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020

  • nwyddau a gyflenwir gennych o Ogledd Iwerddon i fusnesau yn yr UE, sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW, o 1 Ionawr 2021

Ni allwch gofnodi cywiriadau i wybodaeth am stoc ‘call-off’ ar y ffurflen hon. Yn hytrach, dylech anfon e-bost i: eslhelpdesk@hmrc.gov.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • y cyfnod adrodd sydd dan sylw

  • cod gwlad 2 lythyren eich cwsmer

  • rhif cofrestru TAW eich cwsmer

  • manylion y camgymeriad

Bydd gennych tan ar neu cyn 31 Rhagfyr 2024 i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y rhestrau rydych wedi’u cyflwyno ar gyfer cyflenwadau i fusnesau’r UE a wnaed cyn 1 Ionawr 2021.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Cyhoeddwyd ar 1 May 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 December 2020 + show all updates
  1. A new version of the VAT101B form is available and Information about when to use it has been updated.

  2. Updated with details on how to record corrections to call-off stock information. Welsh Translation added.

  3. First published.