Ffurflen

Sut i newid eich enw trwy weithred newid enw

Diweddarwyd 1 May 2024

1. Cyn i chi ddechrau

Defnyddiwch y cyfarwyddyd hwn i’ch helpu i lenwi’r ffurflenni sydd eu hangen arnoch i gofrestru eich enw newydd yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Gelwir hyn yn ‘newid eich enw trwy weithred newid enw.

Cyn i chi ddarllen y cyfarwyddyd hwn, dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid eich enw trwy weithred newid enw.

Os ydych chi am gofrestru newid i enw plentyn, rhaid i chi ddefnyddio’r cyfarwyddyd a’r ffurflenni ar gyfer newid enw eich plentyn trwy weithred newid enw. Ni allwch gofrestru i newid enw eich hun os ydych o dan 18 oed.

Os cawsoch eich geni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau a’r cyfarwyddyd ar gyfer newid eich enw yn yr Alban.

2. Beth fydd ei angen arnoch i newid eich enw trwy weithred newid enw

Mae’n rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflenni canlynol atom:

Rhaid i chi gynnwys gyda’r ffurflenni tystiolaeth eich bod yn ddinesydd Prydeinig neu’r Gymanwlad. Gallai hwn fod yn ffotocopi o’ch:

  • tystysgrif geni
  • pasbort dilys a chyfredol
  • tystysgrif frodori

Newid eich enw os ydych wedi cael eich mabwysiadu

Os ydych wedi cael eich mabwysiadu ac eisiau newid eich enw olaf, rhaid i chi hefyd anfon copïau o’ch dogfennau mabwysiadu atom.

Mae’n rhaid i chi wneud hyn os ydych am newid eich enw i naill ai enw rhiant mabwysiadol neu enw rhiant genedigol.

Newid eich enw os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Nid oes angen i chi newid eich enw trwy weithred newid enw pan fyddwch yn priodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil. Fodd bynnag, os ydych eisoes yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn dymuno newid enw eich teulu, bydd angen i chi hefyd gynnwys caniatâd ysgrifenedig eich gŵr, gwraig neu bartner.

Gallant gydsynio drwy ysgrifennu llythyr - dylent ddweud nad oes ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiadau i chi newid o’ch enw presennol i’ch enw newydd.

Os na allwch gael eu caniatâd, dylech ddarparu affidafid (datganiad o wirionedd ysgrifenedig) sy’n esbonio pam.

Newid eich enw os ydych wedi ysgaru

Nid oes angen i chi gofrestru gweithred newid enw os ydych wedi ysgaru ac eisiau dychwelyd i ddefnyddio eich enw blaenorol (fel enw cyn priodi).

Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch ysgariad, fel copi o’r gorchymyn ysgariad, i newid eich enw gyda’ch banc, cyflogwr neu ar eich pasbort.

3. Y ffi i newid eich enw trwy weithred newid enw

Y ffi ar gyfer newid eich enw trwy weithred newid enw yw £49.32.

Mae hyn yn cynnwys:

  • ffi cofrestru’r Llys – £11
  • tâl hysbysebu – £29.52
  • copi o The Gazette gyda’ch enw newydd – £8.80

Gallwch dalu’r ffi drwy:

  • siec
  • archeb bost
  • drafft banc
  • cerdyn credyd neu ddebyd

Dylech wneud eich siec, archeb bost neu ddrafft banc yn daladwy i ‘GLlTEF’. Dylech ei gynnwys pan fyddwch yn anfon y ffurflenni neu’n eu cyflwyno’n bersonol yn y Llysoedd Barn Brenhinol.

Dim ond yn bersonol neu drwy ffonio 020 3936 8957 (opsiwn 1) y gallwch dalu’r ffi gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

4. Ffurflen gweithred newid enw ar gyfer oedolion (LOC020)

Mae’n rhaid i chi roi holl fanylion eich enw newydd a’ch hen enw ar y ffurflen gweithred newid enw.

Mae’n rhaid i chi ddatgan eich statws perthynas. Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd angen caniatâd ysgrifenedig eich gŵr, gwraig neu bartner arnoch.

Cenedligrwydd ac adrannau Deddf Cenedligrwydd Prydeinig

I newid eich enw trwy weithred newid enw, rhaid i chi fod yn:

  • Ddinesydd Prydeinig
  • Dinesydd tiriogaethau dibynnol Prydain
  • Dinesydd y Gymanwlad

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu o dan adran berthnasol Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 eich bod y math o ddinesydd rydych chi’n ei ddewis.

Adran 1 (1)

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 1983.

Adran 11 (1)

Os cawsoch eich geni yn y DU ar neu cyn 31 Rhagfyr 1982 ac rydych yn:

  • ddinesydd Prydeinig
  • dinesydd tiriogaeth ddibynnol Brydeinig neu’r Gymanwlad a anwyd gyda’r hawl i aros yn y DU o dan y Ddeddf Mewnfudo

Adran 37 (1)

Os cawsoch eich geni mewn tiriogaeth ddibynnol Brydeinig neu wlad o’r Gymanwlad.

Tystion

Mae’n rhaid i chi gael 2 dyst yn bresennol pan fyddwch chi’n llofnodi eich ffurflen gweithred newid enw. Rhaid iddyn nhw hefyd lofnodi’r ffurflen.

Gall eich datganydd, cyfreithiwr neu gomisiynydd llw hefyd fod yn dyst.

5. Datganiad statudol gweithred newid enw ar gyfer oedolion (LOC021)

Mae datganiad statudol yn ddogfen y mae’n rhaid i unigolyn sy’n eich adnabod ei llenwi. Rhaid iddynt lofnodi i gadarnhau a datgan mai chi yw’r sawl a enwir yn y cais. Cyfeirir atynt yn y datganiad fel y ‘datganydd’.

Mae’n rhaid i’r datganydd:

Os nad yw eich datganydd yn ddeiliad tŷ, rhaid i chi ddweud wrthym. Yna bydd y barnwr yn penderfynu a ellir derbyn eu datganiad.

Ni all y datganydd fod yn:

  • ŵr neu’n wraig
  • partner sifil
  • unrhyw berthynas arall (trwy enedigaeth neu briodas) i chi

Os nad ydych wedi adnabod unrhyw un ers 10 mlynedd neu fwy, rhaid i chi gynnwys datganiad ysgrifenedig sy’n esbonio’r rhesymau dros hynny. Bydd hyn yn cael ei gyfeirio at uwch farnwr yn y Llysoedd Barn Brenhinol, a fydd yn penderfynu a ellir cofrestru eich gweithred newid enw.

Tyngu i wirionedd y datganiad statudol

Unwaith y bydd y datganydd wedi llenwi a llofnodi’r datganiad statudol, rhaid iddynt dyngu ei fod yn wir ym mhresenoldeb unigolyn sydd wedi’i awdurdodi i fod yn dyst i ddogfennau cyfreithiol pwysig yn cael eu llofnodi. Gallai hyn fod yn:

  • gyfreithiwr
  • comisiynydd llwon
  • swyddog o’r uwch lysoedd

Pan fydd y datganydd yn tyngu bod y datganiad yn wir, rhaid iddynt wneud hynny naill ai trwy dyngu llw ar lyfr sanctaidd neu drwy roi cadarnhad, a dyna lle darllenir y datganiad o wirionedd.

Rhaid i’r tyst awdurdodedig lofnodi’r datganiad statudol hefyd.

Codir ffi arnoch pan fydd y datganydd yn tyngu llw neu’n cadarnhau. Os gwneir y llw neu’r cadarnhad yn y llys, y ffi yw £14. Gall y ffi fod yn wahanol os yw’r llw neu’r cadarnhad yn cael ei wneud ym mhresenoldeb cyfreithiwr neu gomisiynydd llwon.

Arddangosion i’r datganiad statudol

Mae ‘arddangosiad’ yn ddogfen a ddefnyddir yn y llys fel tystiolaeth. Mae’r llys angen arddangosion fel prawf o bwy mae’ch cais yn dweud yr ydych chi.

Yn y datganiad statudol, cyfeirir at yr arddangosion ar ffurf llythrennau:

  • Arddangosyn A – eich ffurflen gweithred newid enw (LOC020)
  • Arddangosyn B – tystiolaeth eich bod yn ddinesydd Prydeinig neu’r Gymanwlad

Os ydych yn briod, efallai y bydd angen i chi ddarparu copi o’ch tystysgrif priodas hefyd. Dylech ei hatodi i’r datganiad statudol a’i nodi fel ‘Arddangosyn C’.

Bydd angen i’r arddangosion gynnwys dalenni blaen wedi’u llofnodi gyda’r llythyren arddangosyn perthnasol a rhaid i’r arddangosion gael eu llofnodi gan yr un tyst awdurdodedig a welodd y datganydd yn tyngu llw neu’n cadarnhau.

Bydd y sawl sy’n gweinyddu’r datganiad statudol yn darparu dalennii’r arddangosion.

Mae’n ofynnol i’r taflenni arddangos gynnwys y geiriad canlynol:

“Dyma’r arddangosyn a farciwyd ‘A’/B’/’C’ y cyfeirir ato yn natganiad [nodwch enw’r datganydd statudol (yr unigolyn sydd wedi eich adnabod am 10 mlynedd neu fwy)] a ddatganwyd gerbron [rhowch enw’r tyst awdurdodedig] ar [diwrnod] o [mis] yn y flwyddyn [blwyddyn].”

6. Hysbysiad The Gazette ar gyfer oedolion (LOC025)

The Gazette yw cyhoeddwr swyddogol newidiadau enw yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Rhaid i chi gwblhau hysbysiad ar gyfer The Gazette eich hun wrth gofrestru gweithred newid enw.

Os ydych yn credu y bydd cyhoeddi eich manylion yn The Gazette yn eich rhoi mewn perygl, dylech ysgrifennu a llofnodi datganiad gydag unrhyw dystiolaeth ategol a’i gynnwys gyda’ch ffurflenni. Mae’n rhaid i chi dal dalu’r ffi am yr hysbyseb a’r copi o’r Gazette.

Yna bydd y llys yn penderfynu a fydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi yn The Gazette ai peidio. Os byddant yn cytuno, byddwch yn cael ad-daliad o’r ffi am yr hysbyseb a’r copi.

Os oes gennych ymholiad ynghylch sut a phryd y bydd eich hysbysiad yn cael ei gyhoeddi, gallwch gysylltu â The Gazette yn uniongyrchol.

7. Ble i anfon eich ffurflenni gweithred newid enw

Anfonwch neu ewch â’ch ffurflenni a’ch dogfennau i Adran Mainc y Brenin.

Adran Mainc y Brenin
Adran Gorfodi
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

8. Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn gwirio’ch ffurflenni ac unrhyw ddogfennau ategol i sicrhau eich bod wedi eu llenwi a’u cyflwyno’n gywir. Bydd yn rhaid i ni ddychwelyd eich ffurflenni os oes unrhyw beth yn anghywir.

Byddwn wedyn yn selio’r weithred newid enw wreiddiol ac yn dyrannu rhif iddo. Bydd hyn yn cael ei arddangos mewn sêl gron ar y weithred.

Byddwn yn anfon yr hysbysiad drafft ymlaen i’r Gazette, a fydd wedyn yn ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Byddwch yn cael copi o’r hysbysiad cyhoeddedig.

Byddwn yn anfon y weithred wreiddiol wedi’i selio atoch fel tystiolaeth eich bod wedi newid enw.

Yna efallai y bydd angen i chi ddweud wrth eich banc, cyflogwr neu unrhyw sefydliad arall eich bod wedi newid eich enw a darparu’r dystiolaeth y maent yn gofyn amdani.

9. Cael help gyda gweithred newid enw

Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid eich enw, cysylltwch â’r Tîm Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin.

Tîm Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Rhif ffôn: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Ar gau ar wyliau banc
Rhagor o wybodaeth am gost galwadau

E-bost: kbdeedspoll@justice.gov.uk
Rydym yn anelu at ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Mae’r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech gyflwyno’r ffurflenni trwy e-bost.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Tîm Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred bresennol sy’n 5 oed neu lai.

Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw sy’n hŷn na 5 mlynedd, cysylltwch â’r Archifau Cenedlaethol.