Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal.


Fel cyflogwr, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i uchelgais y Gwasanaeth Sifil i ddod yn gyflogwr mwyaf cynhwysol y DU a byddwn yn parhau i:

  • gynyddu cynrychiolaeth grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd i wneud DWP yn fwy amrywiol
  • adeiladu amgylchedd cynhwysol, lle gall cydweithwyr fod eu hunain yn eu gwaith a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu grymuso, eu gwerthfawrogi, eu parchu, eu trin yn deg a’u bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn

Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn, wedi’u hatgyfnerthu gan ein gwerthoedd, wedi’u hymgorffori yn ein harferion gwaith o ddydd i ddydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Fel cyflogwr cynhwysol, ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu. Mae ein polisïau Adnoddau Dynol yn gwbl gynhwysol o’r holl staff gwaeth beth yw eu:

  • oedran
  • patrwm gweithio
  • anabledd neu gyflyrau iechyd hirdymor
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • ethnigrwydd
  • cenedligrwydd
  • crefydd neu gred
  • mynegiant hunaniaeth rhywedd neu ailbennu rhywedd
  • statws perthynas
  • statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal/priod o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil
  • cyfrifoldebau gofalu
  • gweithgaredd undeb lafur neu gredoau gwleidyddol
  • unrhyw sail arall.

Byddwn yn dangos ein hymrwymiad drwy:

  • hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth o fewn y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a’n holl bartneriaid a’n gweithlu
  • trin ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n partneriaid yn deg a chyda pharch
  • sicrhau bod gan ein cwsmeriaid fynediad at addasiadau rhesymol neu gymorth ychwanegol i’w galluogi i gael budd-daliadau, defnyddio ein gwasanaethau a bodloni eu cyfrifoldebau unigol
  • anelu at adeiladu gweithlu sy’n adlewyrchu ein sylfaen cwsmeriaid, o fewn y cymunedau amrywiol yr ydym yn gweithio ynddynt, gyda’r nod o gael cynrychiolaeth gyfartal ar draws y gweithlu
  • ymgorffori dadansoddiad cydraddoldeb yn ein holl brosesau darparu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau
  • hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o wahaniaethu, bwlio ac aflonyddu, a chymryd camau lle mae ymddygiad annerbyniol o’r fath yn bodoli
  • defnyddio data cydraddoldeb i fonitro effaith ein polisïau a’n gweithdrefnau a llywio newidiadau yn y dyfodol
  • cynnwys gofynion deddfwriaethol ac arfer gorau i bob un o’n polisïau a gweithdrefnau gweithwyr a darpariaeth gwasanaeth, a chefnogi’r rhain gyda hyfforddiant ac arweiniad priodol
  • pennu amcanion cydraddoldeb adrannol i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu a meithrin amgylchedd cynhwysol lle mae gwahanol safbwyntiau a phrofiadau cydweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi

Mae gan bob person sy’n gweithio i’r adran gyfrifoldeb personol dros weithredu a hyrwyddo’r ymrwymiadau hyn o ddydd i ddydd â phawb - gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, cydweithwyr eraill a chyflogwyr a phartneriaid. Nid yw ymddygiad amhriodol yn dderbyniol.

Byddwn yn mesur ac yn hysbysu ar effeithiolrwydd ein polisïau a phrosesau gweithwyr a darpariaeth gwasanaeth, mewn perthynas â’r ymrwymiadau hyn trwy fonitro gwybodaeth rheoli a pherfformiad. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio polisi yn y dyfodol ac i wella prosesau busnes.

Dysgu a datblygu ar gyfer cydweithwyr

Rydym yn credu ei bod yn bwysig bod ein holl gydweithwyr yn deall pwysigrwydd amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ac yn gallu cyfrannu at gyflawni amcanion yr adran. Mae gan bob cydweithiwr fynediad at ystod o gynhyrchion dysgu a datblygu i helpu i adeiladu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth.

Mae yna nifer o rwydweithiau amrywiaeth a chynhwysiant staff a arweinir gan weithwyr sy’n cynnwys ffocws ar oedran, gofalwyr, anabledd, ffydd a chred, rhyw, hunaniaeth rhyw, hil, trawsrywedd, cyfeiriadedd rhywiol a symudedd cymdeithasol. Mae’r rhwydweithiau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at flaenoriaethau amrywiaeth a chynhwysiant adrannol trwy weithredu fel fforwm ymgynghori, a thrwy ddarparu lleoedd diogel i gydweithwyr rannu eu profiadau a hyrwyddo arfer gorau.

Hyderus o ran Anabledd a Gofalwyr

Cydnabyddir bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd a hefyd yn (Gennad) Carer Confident. Mae’r ddau asesiad hyn yn dangos ymrwymiad yr adran i ddenu, recriwtio a chadw pobl anabl a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, a’u cefnogi yn y gweithle i gyflawni eu potensial llawn.

Ffynnu yn y gwaith

Mae’r fframwaith sy’n cael ei amlinellu yn yr adolygiad ffynnu yn y Gwaith yn cynorthwyo cyflogwyr i roi gwybod yn wirfoddol ar anabledd, iechyd meddwl, a llesiant yn y gweithle. Mae Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi adroddiad gwirfoddol ar anabledd, iechyd meddwl, a llesiant, sy’n cael ei ddiweddaru yn flynyddol, ac hefyd wedi llofnodi’r Ymrwymiad Iechyd Meddwl yn y Gwaith.

Busnes yn y Gymuned

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i gymryd camau ymarferol i fynd i’r afael â rhwystrau recriwtio a dilyniant a chynyddu amrywiaeth ein gweithlu. Roedd DWP yn llofnodwr cynnar Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned.

Age Friendly Employer

DWP yw Adran gyntaf y Llywodraeth i lofnodi’r Addewid Centre for Ageing Better Age-friendly Employer. Mae’r DWP wedi ymrwymo i arfer rhagorol wrth recriwtio, cadw a chefnogi gweithwyr i sicrhau bod gan bob grŵp oedran fynediad teg at gyfleoedd o fewn ein sefydliad.

Symudedd Cymdeithasol

Rydym yn mesur ein cynnydd ar wella ein hamrywiaeth economaidd-gymdeithasol trwy gymryd rhan yn y Social Mobility Employer Index i sicrhau bod gan bob cydweithiwr, waeth beth fo’u cefndir, y gefnogaeth sydd ei hangen i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Cymhwysodd y Deddf Cydraddoldeb 2010 Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) i gyrff cyhoeddus. Mae’r Ddyletswydd Cydraddoldeb yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus roi sylw i’r angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da. Yn ogystal, mae gan lawer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys DWP, ddyletswyddau penodol o dan y ddeddf.

Mae’r dyletswyddau penodol yn gofyn i ni gyhoeddi:

  • gwybodaeth am gydraddoldeb
  • amcanion cydraddoldeb

Gwybodaeth am gydraddoldeb

Fel awdurdod lleol, mae’n rhaid i ni gyhoeddi, gwybodaeth berthnasol, cymesuredd yn dangos ein cydymffurfedd â’r Ddyletswydd Cydraddoldeb, o leiaf yn flynyddol.:Mae hyn yn disodli’r gofyn blaenorol i gyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar wahân am ddata gweithwyr a chwsmeriaid ers 2014.

Amcanion cydraddoldeb 2023 to 2025

Fel rhan o’n hymrwymiad i ymwreiddio a bodloni ein dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus, rydym wedi gosod yr amcanion canlynol:

  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau bwlch cyflogaeth i geiswyr gwaith lleiafrifoedd ethnig mewn ardaloedd lle mae poblogaeth lleiafrifoedd ethnig uchel a bwlch cyflogaeth uchel. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithgarwch allgymorth gyda’r sector gwirfoddol a sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig i greu cyfleoedd swyddi a sgiliau, cylchoedd mentora a chydweithio â chyflogwyr i gynyddu amrywiaeth eu gweithluoedd.

  • Gwella canlyniadau cyflogaeth i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol fel menywod a’r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a chefnogi’r rhai sydd ar incwm isel yn ôl i’r gwaith, ac i symud ymlaen mewn gwaith.

  • Gweithio drwy’r Ganolfan Byd Gwaith ochr yn ochr ag ardaloedd lleol, a’r llywodraeth ehangach i leihau rhwystrau ychwanegol y gallai pobl anabl eu hwynebu pan fyddant i mewn ac allan o waith, gan ganolbwyntio ar alinio’r systemau gwaith ac iechyd yn well.

  • Gweithio i sicrhau bod cyflogwyr yn cael y cymorth, yr arweiniad a’r hyder er mwyn iddynt allu hyrwyddo gweithleoedd iach a chynhwysol ac er mwyn lleihau’r bwlch cyflogaeth anabledd yn barhaus.

  • Cynorthwyo’r rhai sy’n hanner cant oed a hŷn drwy gyflogaeth gynnar a dargedir, sgiliau a chymorth a arweinir gan gyflogwyr, i aros i mewn gwaith, symud ymlaen neu ddychwelyd i’r gwaith ac adeiladu eu gwytnwch ariannol yn y dyfodol

  • Sicrhau’r cymorth a’r cyfleoedd mwyaf posibl i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu a’r rhai sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd baratoi’n weithredol am waith, dechrau a llwyddo mewn gwaith, gan sicrhau cystal â phosibl bod ymrwymiadau a chymorth hawlwyr yn cael eu teilwra i amgylchiadau unigol pobl.

  • Cryfhau gweithrediad yr asesiad Prawf Teulu ym mhob un o’n meysydd polisi domestig. Cynnwys canlyniadau Prawf Teulu yn yr holl gyngor polisi perthnasol a gyflwynwyd i’n gweinidogion a hyrwyddo gweithredu trawslywodraethol.

  • Ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus i gyrff hyd braich yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), rydym yn parhau i annog ceisiadau gan unigolion talentog o bob cefndir ac ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, gyda’r nod o gynyddu nifer y penodidau i’r rhai sydd wedi’u lleoli y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr